Ciw-restr

Deryn Dierth

Llinellau gan Rees (Cyfanswm: 20)

 
(1, 0) 376 Wel, wel, dyma'r teulu bach yn gryno.
(1, 0) 377 Rwyf wedi bod am dro ar hyd llwybrau ieuenctid.
 
(1, 0) 379 Na, na, ond yr ydw i wedi cerdded llawer â hwn yn fy llaw─hwn ddaeth â ffortiwn i mi.
 
(1, 0) 382 Wel, efallai, pwy a ŵyr?
 
(1, 0) 387 Falch iawn i gwrdd â chi.
(1, 0) 388 Mae llawer o fobl nad ydw i'n eu hadnabod yn y lle nawr.
(1, 0) 389 Mae'n rhyfedd faint o wahaniaeth a wna pum mlynedd ar hugain.
 
(1, 0) 394 Wel, nawr, dyna beth rhyfedd.
(1, 0) 395 Roeddwn i'n meddwl am yr Eisteddfod y pnawn yma.
(1, 0) 396 A oes yna ddim gorsedd neu ryw "syndicate" neu'i gilydd yn perthyn i'r Eisteddfod?
 
(1, 0) 400 Dyma fy mhrynhawn lwcus i!
(1, 0) 401 Chi yw'r dyn yr wyf am siarad ag ef.
(1, 0) 402 Beth yw'r "procedure" i ddod yn aelod?
(1, 0) 403 Faint mae'n gostio?
 
(1, 0) 405 Fe fu dyn o Chicago draw yma rai blynydde nôl ac fe'i gwnawd e'n aelod ac yr wyf yn siŵr na phasiodd e "exam" o unrhyw fath ond mewn gwybodaeth am sut i werthu "shares" di-werth.
(1, 0) 406 Roedd wedi tynnu ei lun mewn rhyw wisg laes fawr ynghanol lot o fobl eraill wedi'u gwisgo run fath a bu'r llun hwnnw ym mhob papur yn Chicago.
(1, 0) 407 Chredwch chi ddim faint o help a fu'r llun hwnnw iddo wrth werthu "shares" wedyn.
(1, 0) 408 Na, na, mae'n rhaid bod yna ryw ffordd heblaw pasio "exam."
 
(1, 0) 410 Dyna rywbeth nawr.
(1, 0) 411 Wel, faint mae hynny'n gostio?