Ciw-restr

Deryn Dierth

Llinellau gan Walter (Cyfanswm: 142)

 
(1, 0) 23 O'r andras!
(1, 0) 24 A oedd yn rhaid i ti ddod i mewn i'r ystafell hon a minnau wedi cael tipyn o lonyddwch am dro?
 
(1, 0) 26 Nawr y cysgais i a dyna tithau...
 
(1, 0) 28 E!
(1, 0) 29 Beth ddwedaist ti?
 
(1, 0) 31 Dwn i ddim am beth yr wyt ti'n siarad.
 
(1, 0) 35 Geinor, Geinor, rwy'n dymuno arnat...
 
(1, 0) 37 Celwydd yw'r cwbl, dim ond celwydd.
(1, 0) 38 Pobl y lle yma'n llunio stori fy mod yn yfed oherwydd fy mod yn mynd i Dre-cyll ambell waith.
 
(1, 0) 43 Geinor, aros, aros ferch.
 
(1, 0) 46 Ond dwyt ti ddim yn credu'r storïau yma am dy Nwncwl, wyt ti?
 
(1, 0) 48 Fy ngweld i!
(1, 0) 49 Doeddwn i ddim yn agos i'r lle neithiwr.
 
(1, 0) 55 Pa amser oedd hyn?
 
(1, 0) 59 Ond, doeddwn i ddim yno, rwy'n ei ddweud wrthyt.
 
(1, 0) 61 Wyt ti ddim yn fy nghredu?
 
(1, 0) 66 Oedd crwt Mari'r Siop gyda thi?
 
(1, 0) 68 Dyna ddiwedd arni, nawr.
(1, 0) 69 Mae Mari yn sicr o ddweud wrth dy fodryb.
 
(1, 0) 74 Paid, paid a dychmygu'r fath beth.
 
(1, 0) 77 Cadw di'r peth yn ddistaw, ac fe gofia i amdanat ti, Geinor.
 
(1, 0) 82 Mae hi a dy fodryb Jane wedi mynd i weld Ann, Tŷ-gwyn─fe aethant â thipyn o gawl a rhyw lintach o gig iddi.
(1, 0) 83 Fe fyddai'n well gan Ann druan beidio â gweld eu hwynebau, ond y mae'n rhaid iddynt gael meddwl eu bod yn fenywod mawr yn y lle.
 
(1, 0) 85 Ust.
(1, 0) 86 Ddylet ti ddim galw hynna arno.
(1, 0) 87 Dydy e ddim yn leicio'r enw Ianci.
 
(1, 0) 90 Mae rhyw fusnes ymlaen ganddo yntau hefyd.
(1, 0) 91 Ddwedodd e'r un gair amdano, ond mae rhyw haearn ganddo yn y tân y pnawn yma.
 
(1, 0) 94 Ble mae Demetrius?
(1, 0) 95 Ydy e ddim yn y golwg yn rhywle?
(1, 0) 96 Fe dreuliai fe brynhawn yn dy gwmni gyda phleser.
 
(1, 0) 98 Fe wnait wraig dda i bregethwr, Geinor─Mrs. Demetrius Jones!
 
(1, 0) 100 Nawr, rwy'n begian arnat, Geinor.
(1, 0) 101 |Rhaid| i ti beidio â |meddwl| amdano.
(1, 0) 102 Mae clustiau gan y muriau.
 
(1, 0) 105 Dydw i ddim am dy wneud yn wraig pregethwr os nad wyt ti am fod.
 
(1, 0) 109 Diolch am hynny.
 
(1, 0) 114 Hei!
 
(1, 0) 116 Hei!
(1, 0) 117 Fy nrôr i ydy hwnna.
(1, 0) 118 Aros.
 
(1, 0) 120 Mae'n hercian i dynnu'r allweddau o'i dwylo gan gloi'r drôr ac yna yn codi'r droed sydd heb esgid gan dynnu tintac allan ohoni.}
(1, 0) 121 Pwy ddiawl adawodd hon...
 
(1, 0) 129 Iaith!
(1, 0) 130 Fe fyddai unrhyw angel yn defnyddio'r un iaith petai e'n rhoi ei droed ar ben tintac.
 
(1, 0) 132 Beth ydych chi'n peidio ag edrych ar ôl y tŷ yma'n iawn yn lle cario cawl ar hyd y pentre?
(1, 0) 133 Colli tintacs ar hyd yr holl le gynnau!
 
(1, 0) 135 Peth bach, ddwetsoch chi!
(1, 0) 136 Mae blaen y tintac yna wedi mynd hanner modfedd i mewn i'n nhroed i.
(1, 0) 137 Synnwn i fawr na aeth hi a thipyn o'r hosan i mewn gyda hi a dyna "blood-poisoning."
(1, 0) 138 Ie, peth bach fydd e pan fydd fy nhroed i wedi chwyddo fel casgen.
 
(1, 0) 142 Dydych chi ddim yn mynd i gael rhoi ïodin arno.
(1, 0) 143 Beth gwell fyddwch chi?
(1, 0) 144 Mae'r drwg hanner modfedd i mewn, a faint o les fydd ïodin ar y croen.
 
(1, 0) 146 Na chei.
(1, 0) 147 Does arna i ddim o'i eisiau.
 
(1, 0) 158 Fi!
(1, 0) 159 Fi!
(1, 0) 160 Yn Nhre-cyll!
(1, 0) 161 Ni fuais i'n agos i'r lle.
(1, 0) 162 Mae pwy bynnag a ddwedodd wrthych chi yn dweud celwydd.
(1, 0) 163 Celwydd noeth!
 
(1, 0) 166 O, gofyn aie!
(1, 0) 167 Wel, beth oedd pwynt y gofyn?
 
(1, 0) 169 Na welais i ddim ohoni.
(1, 0) 170 Sut gallwn i?
(1, 0) 171 Doeddwn i ddim yno fy hunan.
 
(1, 0) 173 Oedd.
(1, 0) 174 Yr oedd hi hefyd.
 
(1, 0) 177 E!
(1, 0) 178 O... y... fe'i gwelais yn cerdded ar hyd y ffordd tua Thre-cyll.
 
(1, 0) 181 Diwedd ar beth?
 
(1, 0) 184 Sara, dydw i ddim yn mynd i'ch gadael chi a Jane i wneud i Geinor briodi Demetrius Jones na neb arall os nad yw hi am.
 
(1, 0) 189 A dydy fy marn i yn cyfri dim?
 
(1, 0) 193 O! rwy'n ddigon da i helpu, hefyd.
 
(1, 0) 196 O, oes, y mae ganddi dipyn o olwg ar ei hen Nwncwl.
 
(1, 0) 200 Ond beth gwell fydda i i ddweud hynny.
(1, 0) 201 Mae'n gwybod yn iawn nad oes gen i ddim hawl ar yr arian.
(1, 0) 202 Mae'r holl bentre yn gwybod.
(1, 0) 203 Fi wedi safio a chrafu i grynhoi arian yn Llundain a chithau wedi mynnu'r hawl iddynt bob dimai.
(1, 0) 204 Rwy'n sport y pentre.
(1, 0) 205 Dallaf i ddim seinio siec fy hunan.
 
(1, 0) 207 Digon hawdd i chi siarad.
(1, 0) 208 Fi sy'n gorfod dioddef.
(1, 0) 209 Fi sydd heb arian poced.
(1, 0) 210 A'r cwbwl oherwydd i mi gael un anlwc a cholli deucant ar y "Stock Exchange."
 
(1, 0) 212 Wyddoch chi nad oes gen i'r un geiniog yn fy mhoced nawr.
(1, 0) 213 Dyn yn werth ei filoedd yn gorfod dibynnu ar haelioni ei wraig am arian poced!
 
(1, 0) 215 Beth yw chweugain?
 
(1, 0) 217 Hanner coron yr wythnos!
(1, 0) 218 Dyna i gyd rwy'n ei gael.
(1, 0) 219 Ac y mae Pensiwn Hen Bobol yn chweugain!
 
(1, 0) 221 Pwy safiodd yr arian?
(1, 0) 222 Dwedwch hynny.
(1, 0) 223 Pwy fu'n slafio ac yn meddwl am ddim ond am reteiro am flynydde.
(1, 0) 224 Ac i beth?
(1, 0) 225 I dreio byw ar hanner coron yr wythnos.
 
(1, 0) 229 Ond feddyliais i erioed bod gen i wraig a fyddai mor annynol â rhoi dim ond hanner coron yr wythnos i mi.
 
(1, 0) 231 Wna i ddim ohono dan bunt.
 
(1, 0) 233 Pryd y mae'r codiad i ddechrau?
 
(1, 0) 235 A beth os na wnaiff hi addo?
 
(1, 0) 247 E!
(1, 0) 248 Sut gwyddost ti?
 
(1, 0) 250 Ydy pawb yn y pentre yn gwybod, Geinor?
 
(1, 0) 253 Haws dweud na gwneud.
(1, 0) 254 Fi wnaeth y cawl, weld di.
 
(1, 0) 256 Roeddwn ar y pryd yn ofni na wellwn i ddim o'r dwymyn ac ar awr wan fe seiniais y weithred yn rhoi pob hawl ar yr arian i'th fodryb, a dyma fi, hanner coron yr wythnos.
 
(1, 0) 259 Ond fe elli di wella pethau'n rhwydd.
 
(1, 0) 262 Dwed di'r gair ac fe fyddi'n Mrs. Demetrius Jones cyn gynted ag y gellir cyhoeddi'r gostegion.
 
(1, 0) 266 Oni ddwedais i wrthyt ti am beidio â sôn...
 
(1, 0) 268 Dy les di oedd gen i mewn golwg.
 
(1, 0) 270 Wel, nac ydw, efallai ond...
 
(1, 0) 272 Mae yn hen bryd i ti roi heibio'r syniad o fynd i Lundain.
 
(1, 0) 274 Os ei ymlaen fel hyn, ni fydd gennym yr un pwnc i sôn amdano─bydd yn rhaid i ni fod yn fud yng nghwmni'n gilydd.
 
(1, 0) 279 Rwy'n gweld na fydda i damaid gwell o siarad â thi.
 
(1, 0) 281 Rwyt wedi etifeddu penstiffrwydd dy fam ac elfen dy dad am actio.
(1, 0) 282 Ond cofia, welodd e druan erioed mo'i enw mewn llythrennau llachar.
(1, 0) 283 Digon tenau fu eu bywyd hwy a'th un dithau nes i ti ddod i fyw at dy fodryb Jane.
 
(1, 0) 285 Nage, efallai.
(1, 0) 286 Ond y mae arian yn llawer.
(1, 0) 287 Petait yn gorfod byw ar hanner coron yr wythnos o arian poced...
 
(1, 0) 289 Rwyt yr un ffunud â'th fam; rwy'n cofio fel petai ddoe am dy fodryb yn pregethu wrthi cyn iddi briodi─roedd y cwbl fel dŵr ar gefn hwyad.
 
(1, 0) 292 Fe wnâi ond i ti roi hanner cyfle iddo.
 
(1, 0) 300 Ust, gwrando.
(1, 0) 301 Mae rhywun yn siarad â'th fodryb.
(1, 0) 302 Pwy sydd yna?
 
(1, 0) 307 Da thi, paid â'i alw wrth yr enw yna.
 
(1, 0) 311 Roeddent yn dipyn o gyfeillion.
 
(1, 0) 314 Gwylia di dy gamre.
(1, 0) 315 Nid dyn i chwarae ag ef yw Rhys.
(1, 0) 316 Un gwyllt iawn oedd e cyn mynd i America.
 
(1, 0) 318 Ddim cymaint efallai, ond ni ellid ei alw yn grwt distaw, diymhongar o bell ffordd.
 
(1, 0) 320 Wel, roedd e'n eitha cyfeillgar â'i theulu hi pan oedd yn fachgen.
(1, 0) 321 Ac, wrth gwrs, mae dy fodryb yn hoffi cwmni dynion ariannog.
 
(1, 0) 323 Beth wn i?
(1, 0) 324 Dydw i ddim yn gwybod ei chyfrinachau.
(1, 0) 325 Gofyn iddi─dyma hi'n dod.
 
(1, 0) 352 Bedyddiwyd ef yn Rhys Rees─yn America yn rhywle y cafodd e afael ar yr enw Carnolyn.
 
(1, 0) 365 Mae rhyw fusnes neu'i gilydd ymlaen ganddo y pnawn yma.
(1, 0) 366 Fe wrthododd ddweud ble'r oedd yn mynd?
 
(1, 0) 378 Dwed wrthyf i, Rhys, ydy hi yn arfer yn America i gario morthwyl yn lle ffon wrth gerdded?
 
(1, 0) 383 Ond beth yw amcan y morthwyl?