Ciw-restr

Y Dyn Drws Nesaf

Llinellau gan Josef (Cyfanswm: 150)

 
(1, 0) 257 Godidog.
 
(1, 0) 259 Ie... godidog.
 
(1, 0) 262 Mae Efa yn deall.
(1, 0) 263 Mae hi'n gallu gwerthfawrogi miwsig symbolig.
(1, 0) 264 A beth amdanoch chi?
(1, 0) 265 Yr o'ch chithau'n gwrando.
 
(1, 0) 267 Mae e'n dod yr un ffordd â ni.
 
(1, 0) 270 Trueni.
 
(1, 0) 272 Mae'n anodd dirnad pam nad yw pawb yn ymateb i fiwsig tebyg i hwn.
(1, 0) 273 Mae'r miwsig hwn yn wir o bob oes.
 
(1, 0) 275 Ydy'.
(1, 0) 276 Gan mai |dianc| yw'r thema.
(1, 0) 277 Os oes yna un gair yn arbennig yn nodweddu Ewrop heddiw, y gair dianc yw hwnnw.
 
(1, 0) 281 Fe wn beth yw ffoi.
(1, 0) 282 Dianc?
(1, 0) 283 Na.
(1, 0) 284 Mae hwnnw'n fwy anodd.
(1, 0) 285 Fe all dyn ffoi i bellteroedd y ddaear, ond eto, heb ddianc.
(1, 0) 286 Mae rhywbeth yn aros o'r hen fywyd ac yn gafael ynddo o hyd.
 
(1, 0) 292 Dim, diolch yn fawr.
(1, 0) 293 Ond nes ymlaen... cwpanaid o goffi... E?
 
(1, 0) 296 Does neb arall yng Nghymru cystal â'ch gwraig chi am wneud coffi.
 
(1, 0) 303 Yr ych chi'n mynd i ffwrdd?
 
(1, 0) 305 Dyna'r gwaetha' o ddal swydd o dan y Weinyddiaeth.
 
(1, 0) 312 I ni'n tri.
 
(1, 0) 314 Onid yw'r gwyddonydd hefyd â'i fryd ar ddianc y dyddiau hyn?
(1, 0) 315 Mae si yn y pentref fod y sateleit nesaf yn mynd i gario dynion.
 
(1, 0) 317 Felly 'dyw'r stori ddim yn wir?
 
(1, 0) 319 Chwarae teg i chi.
(1, 0) 320 Ni allai'r un swyddog diogelwch gael unrhyw fai ynoch chi.
(1, 0) 321 Eto... yn hwyr neu'n hwyrach, fe welwn ddynion yn mentro i'r gwagle... i ddianc.
 
(1, 0) 323 A thrwy hynny... yn dianc oddiwrth y presennol sydd yn gwasgu.
 
(1, 0) 325 Fe ddeallodd y cyfansoddwr hynny'n glir iawn, ac mae e' wedi cerfio 'i ddarlun fan hyn.
 
(1, 0) 327 Ond 'rwyf heb eich llongyfarch chi eto.
 
(1, 0) 329 Dydd eich priodas.
(1, 0) 330 Wyth mlynedd i heddiw, ontefe?
 
(1, 0) 332 Peidiwch â dweud fy mod i wedi gwneud camsyniad?
 
(1, 0) 336 Yr ych chi'n ddyn lwcus iawn.
 
(1, 0) 338 Sut hynny?
 
(1, 0) 342 Dyma chi wedi cyflawni'r pechod anfaddeuol... yn anghofio dydd eich priodas.
(1, 0) 343 Beth ych chi'n ddweud, Efa?
 
(1, 0) 347 Dyw hi ddim am 'ch condemnio chi'n gyfangwbl chwaith.
 
(1, 0) 360 Beth sy'n bod?
 
(1, 0) 363 Ond 'd oeddech chi ddim yn gwrando.
 
(1, 0) 366 Fe fu yna adeg pan oeddech chi'n arfer gwrando â'ch holl feddwl.
 
(1, 0) 368 Ydyw e'n ddrwg?
 
(1, 0) 370 Effaith y siom?
 
(1, 0) 372 Mae gwragedd yn disgwyl cael blodau i ddathlu dydd priodas.
 
(1, 0) 374 'Falle y carech chi i mi fynd.
(1, 0) 375 Mi ddof draw nos yfory.
 
(1, 0) 378 Yr ych chi'n sâl!
 
(1, 0) 383 Oes rhywbeth y galla" i ei wneud?
 
(1, 0) 387 Blwyddyn... na, deng mis.
(1, 0) 388 Rwy' wedi colli cyfri'.
 
(1, 0) 392 Am ein bod ni'n dau yn credu yn yr un pethau, y pethau tragwyddol.
 
(1, 0) 395 'Dyw fy ngorffennol yn cyfri' dim.
 
(1, 0) 405 Mae hawl gyda chi i'm holi i.
 
(1, 0) 410 Fe ddes i'r pentre' 'ma gan obeithio dod o hyd i noddfa.
(1, 0) 411 Cyn dod yma fe dreuliais ddwy flynedd yn Llundain gyda chyfeillion.
(1, 0) 412 Roedd hynny'n nefoedd ar y dechrau ar ôl dioddef yr erledigaeth yn fy ngwlad fy hun.
(1, 0) 413 Ond yn raddol dyma'r bywyd yn Llundain yn dechrau suro.
(1, 0) 414 Dinas y trwst a'r gweiddi mawr, a phob pwyslais ar gynnwrf y byd.
(1, 0) 415 Gwaethygodd fy iechyd, ac yr oedd yn rhaid i mi ddianc.
(1, 0) 416 Mae pethau'n wahanol yma.
 
(1, 0) 419 Sylwais i ddim.
(1, 0) 420 Rwyf wedi treulio yr holl oriau diddan yn yr ystafell hon.
 
(1, 0) 422 Pan ddes i 'ma flwyddyn yn ôl, dyna pryd yr oeddwn yn ddyn unig.
(1, 0) 423 Fy nghyfeillion yn Llundain wedi methu a'm cysuro ar ôl i mi golli fy ngwlad.
 
(1, 0) 426 Fe lwyddoch chi.
(1, 0) 427 Efallai ryw ddiwrnod y caf y fraint o dalu peth o'r ddyled yn ôl.
 
(1, 0) 433 Yr oedd y gallu i ddeall ynoch chi'n barod.
(1, 0) 434 Dim ond 'ch annog chi.
(1, 0) 435 Dyna i gyd a wnes i.
 
(1, 0) 441 Beth!
(1, 0) 442 'Chlywais i ddim mohonoch chi'n sôn am hyn o'r blaen.
 
(1, 0) 444 'D... 'does dim o'i le?
 
(1, 0) 446 Mae rhywbeth arall?
 
(1, 0) 450 Ni'n dau?
 
(1, 0) 452 Ai dyna'r rheswm mae e'n mynd odd'ma?
 
(1, 0) 454 Mae hyn yn sydyn iawn.
(1, 0) 455 Anodd gen i gredu mai heno yw'r tro cyntaf i Meurig gyfeirio at ein... cyfeillgarwch.
(1, 0) 456 Mae'n rhaid fod y peth ar i feddwl e' ers llawer dydd.
 
(1, 0) 461 I ble'r ych chi'ch dau yn meddwl symud?
 
(1, 0) 467 O'm hachos i?
 
(1, 0) 472 Pam wy' i wedi cael croeso gyda chi i ddod i'r tŷ 'ma 'n ystod y misoedd diwetha'?
 
(1, 0) 474 Beth amdanoch chi'n ceisio deall diddordebau Meurig?
 
(1, 0) 476 Felly, yr ych chi'n falch fod heno wedi dod?
 
(1, 0) 482 Rwyf mewn cariad o hyd.
 
(1, 0) 485 Mae clo wedi bod ar fy nhafod i tan heno.
 
(1, 0) 488 Mae Meurig yn dianc.
 
(1, 0) 490 Efa!
(1, 0) 491 Rwy'n 'ch caru chi.
(1, 0) 492 Nid rhywbeth sydyn yw hyn.
(1, 0) 493 Rwyf wedi bod yn ymladd yn i erbyn e' ers misoedd, ond heno mae'n rhaid i mi siarad.
 
(1, 0) 495 Ni fwriedais ddweud fy nghyfrinach wrth neb fyth.
(1, 0) 496 Roedd gen i ormod o barch tuag atoch chi a Meurig.
(1, 0) 497 Ond mae Meurig yn mynd i ffwrdd, ac mae'r ffaith hynny'n newid popeth.
(1, 0) 498 Rwyf am i chithau ddod i ffwrdd gyda fi.
 
(1, 0) 500 Mae'n bryd i ni gyd wynebu'r ffeithiau!
(1, 0) 501 'Does dim dyfodol i chi a Meurig gyda'ch gilydd.
(1, 0) 502 Mae Meurig wedi cydnabod hynny heno.
 
(1, 0) 504 Nid oes 'ch angen chi ar Meurig!
(1, 0) 505 Fawr iawn o barch mae e' wedi ei ddangos i chi erioed.
(1, 0) 506 'Rwy' wedi sylwi ar ei ymddygiad droeon, a'r profiad yn fy nghynhyrfu i'r gwraidd.
(1, 0) 507 Wn i ddim ar y ddaear sut y llwyddais i'm hatal fy hun rhag ymyrryd.
 
(1, 0) 509 'Doedd gen i mo'r hawl.
 
(1, 0) 512 Naddo!
(1, 0) 513 'Roeddech chi a Meurig yn ymbellhau oddiwrth 'ch gilydd ymhell cyn i mi ddod i'r pentref.
 
(1, 0) 515 Beth amdano fe?
 
(1, 0) 517 Chi sy'n siarad fel plentyn 'nawr!
 
(1, 0) 521 I ni gael cyfrannu o'r byd hwnnw gyda'n gilydd.
 
(1, 0) 523 Dyna ei ogoniant.
 
(1, 0) 529 Efa!
(1, 0) 530 Mae bywyd yn fyr.
(1, 0) 531 Nid oes ystyr i fywyd, os nad i chwilio am nefoedd fach yn rhywle.
 
(1, 0) 533 Felly, yr ych chi'n gwrthod?
 
(1, 0) 539 Efa annwyl.
 
(1, 0) 541 Fe ddywedsoch y gwir gynnau fach...
(1, 0) 542 Mae'n hyfory ni wedi mynd.
(1, 0) 543 Fe gawn ffarwelio heno.
 
(1, 0) 545 Cyn daw'r chwerw.
(1, 0) 546 Oni dyna fydd orau i ni?
 
(1, 0) 554 'Roeddwn ar fynd.
 
(1, 0) 568 'Ch aelwyd chi... ac Efa.
 
(1, 0) 572 Nagoes, Meurig.
(1, 0) 573 Mae'r aelwyd 'ma'n barod i'ch croesawu chi bob amser.
 
(1, 0) 579 Rwy'n cydnabod fy mod i'n ymwelwr cyson, ond 'roedd y tŷ hwn yn noddfa.
 
(1, 0) 581 Credais fy mod i'n cael croeso.
 
(1, 0) 584 Gyda'r ddau ohonoch chi.
 
(1, 0) 590 Efallai fe fûm i'n ddall.
 
(1, 0) 596 Fe fu 'ch gwraig yn help mawr i mi, yn gyfrwng i mi anghofio hylltra'r byd.
 
(1, 0) 611 Dim y tro hwn.
 
(1, 0) 613 Mor sydyn â'ch penderfyniad chi.
 
(1, 0) 616 Nage.
 
(1, 0) 632 Mae f'amser i'n rhy brin, Meurig.
 
(1, 0) 635 Misoedd o waith ymchwil manwl, ac yna'r fflach a'r symud mawr.
(1, 0) 636 Fe wyddoch y drefn, Meurig.
(1, 0) 637 A chithau'n wyddonydd?
 
(1, 0) 640 Digon.
(1, 0) 641 Gan i mi dreulio dros ugain mlynedd yn llafurio mewn un ohonynt.
 
(1, 0) 644 Nage, Meurig.
 
(1, 0) 646 Fe fyddwch chi yn gallu deall...
(1, 0) 647 Yn fy ngwlad i, offeryn yw'r gwyddonydd yn nwylo'r Awdurdodau politicaidd.
(1, 0) 648 Offeryn heb enaid.
 
(1, 0) 651 Onid yw gwyddoniaeth yn cael ei phuteinio ymhob gwlad?
 
(1, 0) 654 Adre.
 
(1, 0) 659 Dim ond i'r corff mae carchar, Efa.
 
(1, 0) 664 Diolch.
(1, 0) 665 I'r ddau ohonoch chi.
(1, 0) 666 I chi, Efa, am y breuddwyd... i chithau, Meurig, am y deffro.