Ciw-restr

Y Dyn Drws Nesaf

Llinellau gan Meurig (Cyfanswm: 208)

 
(1, 0) 21 Bob tro y do' i adre, dim ond yr un sŵn o hyd!
(1, 0) 22 A thithau wedi dianc i fyd breuddwyd!
 
(1, 0) 25 'Rwy' wedi blino.
 
(1, 0) 27 Yn y labordy.
(1, 0) 28 Ble arall!
 
(1, 0) 32 'Rwyf heb fwyta ers hanner dydd.
(1, 0) 33 Pam nad ei di i'r gegin fach i baratoi rhywbeth, yn lle segura fan hyn!
 
(1, 0) 37 Ie... pam lai!
 
(1, 0) 39 Yn yr un man y byddwn i.
 
(1, 0) 44 Ond mae'r arbrofion yn galw!
 
(1, 0) 46 Yn aruthrol bwysig.
 
(1, 0) 50 Ydyw pethau cynddrwg â hyn'na?
 
(1, 0) 53 Rwy'n gorfod talu'n ddrud am y camgymeriad a wnes i bedair blynedd yn ôl.
 
(1, 0) 57 Tybed?
(1, 0) 58 I feddwl 'u bod nhw wedi fy nghadw i i weithio ar bethau dibwys ers dros dair blynedd, a hynny, dim ond am i mi agor fy ngheg mewn parti.
(1, 0) 59 'Ddywedais i ddim byd nad oedd yn hysbys i bawb.
(1, 0) 60 Dim ond bod un o'r mân swyddogion wedi fy nghlywed i.
(1, 0) 61 Mae'r peth yn ynfyd.
 
(1, 0) 67 Mae gen ti dy ddiddordebau.
 
(1, 0) 71 Yn well.
(1, 0) 72 Efallai mai ti sy'n iawn wedi'r cyfan.
(1, 0) 73 Efallai nad yw fy ngwaith i'n cyfri' o gwbl.
(1, 0) 74 Does dim yn aros heddi'.
(1, 0) 75 Mae dyn yn dod ar draws rhywbeth newydd, yn cael rhyw weledigaeth, ac mae hyn yn ei wefreiddio.
(1, 0) 76 Ond 'dyw'r cyffro ddim yn aros.
(1, 0) 77 Mae problemau newydd yn codi, ac mae'n rhaid mynd ar ôl y rheiny.
 
(1, 0) 83 Diolch.
 
(1, 0) 85 'Rwy'n teimlo weithiau nad oes angen mwy...
(1, 0) 86 Ond mae rhyw ysfa yn fy ngorfodi i i weithio ymlaen, a churo'r lleill.
 
(1, 0) 88 Yr hen glod.
 
(1, 0) 90 A thi!
(1, 0) 91 Mi fyddi dithau ar dy ennill pan fydda' i ar fy nhraed unwaith eto.
 
(1, 0) 95 Fe ddaw hynny eto... ar ôl y llwyddiant.
 
(1, 0) 99 'Does dim chwant bwyd arna' i erbyn hyn.
 
(1, 0) 104 'Ddaw e' ddim draw heno?
 
(1, 0) 107 Mae e'n ddigon o farn!
 
(1, 0) 111 Mae dyn yn blino ar drafod yr un hen bethau o hyd.
 
(1, 0) 114 Fe ddylai fod cywilydd arnat ti dy fod ti'n barod i gyfaddef hynny!
 
(1, 0) 116 Mae dynion yn siarad.
(1, 0) 117 Tref fach yw hon.
 
(1, 0) 121 Ni hoffais i mo'th ffrindiau di erioed.
 
(1, 0) 124 Am dy fod ti'n dymuno hynny.
 
(1, 0) 132 Efa!
(1, 0) 133 Maddau i mi!
(1, 0) 134 Anghofiais yn llwyr!
(1, 0) 135 Dyna ffŵl!
(1, 0) 136 Y labordy 'na.
 
(1, 0) 140 Beth?
 
(1, 0) 142 Fe roddodd Josef anrheg i ti, i ddathlu dydd dy briodas!
 
(1, 0) 144 Fe ŵyr yn burion nad wyf i'n hoffi miwsig!
 
(1, 0) 146 Pwy ddywedodd wrtho mai heddi' oedd y dydd?
 
(1, 0) 150 Nid y fi.
 
(1, 0) 152 Yr wyt ti'n dweud popeth wrth Josef.
(1, 0) 153 Pob cyfrinach fach.
(1, 0) 154 Yn cyfathrachu â rhyw grachach o estron sebonllyd.
 
(1, 0) 156 Wyt ti'n gwadu mai estron yw e'?
 
(1, 0) 163 Nage!
 
(1, 0) 168 Yr wyt ti fel plentyn o hyd, yn byw ym myd breuddwydion.
 
(1, 0) 178 Mae Josef yn ddiweddar.
 
(1, 0) 181 Ydwyf.
(1, 0) 182 Mi fydd ei bresenoldeb yn help i'th dawelu.
(1, 0) 183 'Rwyf wedi sylwi, mai dim ond dy gynhyrfu di mae fy mhresenoldeb i.
(1, 0) 184 A hynny ers misoedd bellach.
 
(1, 0) 187 Ond heb lwyddo i greu dim.
(1, 0) 188 Pe bai gennyt blentyn efallai na chawn glywed y siarad hwn.
 
(1, 0) 190 Wel?
(1, 0) 191 Wyt ti'n ofni cael dy ddadansoddi, a chael gwybod mor ddiffrwyth dy fywyd?
(1, 0) 192 Yr wyt ti wedi sôn am dy ffrindiau.
(1, 0) 193 Wfft i'r fath ffrindiau!
(1, 0) 194 Pob un ohonynt yn freuddwydiwr a pharaseit.
(1, 0) 195 Ac yr oedd yn rhaid i Josef Lobbock ddianc o'i wlad ei hun, a dod yma i freuddwydio.
 
(1, 0) 197 Stori ramantus... i ferch anwadal.
(1, 0) 198 Mi ddylai Josef fod wedi dal ei dir.
 
(1, 0) 201 Efallai nad efe yw'r unig un sydd am ddianc.
(1, 0) 202 Beth amdanat ti?
 
(1, 0) 204 Beth yw hwn'na ond offeryn dianc!
(1, 0) 205 Ond mae'n amheus gen i a yw e'n ddigon iti.
(1, 0) 206 Eto, paid â phryderu.
(1, 0) 207 Mae'r cyfle wedi dod i ti gael dianc yn gyfangwbl.
 
(1, 0) 210 Bûm yn gweithio'n hwyrach nag arfer heno.
(1, 0) 211 A wyddost ti pam?
(1, 0) 212 Am fod fy ngwaith yn y labordy wedi gorffen.
 
(1, 0) 214 Pam wyt ti'n dweud hyn'na?
 
(1, 0) 216 Ateb!
 
(1, 0) 219 Ac mae hynny'n wir.
 
(1, 0) 221 'Rwyf wedi ymddeol.
 
(1, 0) 223 'Rwyf heb benderfynu'n iawn.
 
(1, 0) 227 Yn chwarae gyda'th deganau!
 
(1, 0) 229 Na.
(1, 0) 230 'Choelia i fawr!
(1, 0) 231 'Dŷm ni'n dau ddim yn symud yn yr un byd.
 
(1, 0) 233 Rwy'n dy ryddhau di, Efa fach.
(1, 0) 234 Fe gei di aros 'ma gyda'th ffrindiau... gyda Josef, ramantus, sebonllyd.
 
(1, 0) 236 Beth sy'n bod arnat ti?
(1, 0) 237 Paid ag edrych mor ddigalon.
(1, 0) 238 Beth am y record?
(1, 0) 239 Gad i ni 'i chlywed hi gyda'n gilydd... am y tro cyntaf... a'r tro olaf.
(1, 0) 240 Mi fydda' i'n mynd odd'ma.
 
(1, 0) 243 Josef.
(1, 0) 244 Paid â'i gadw i aros ar garreg y drws.
(1, 0) 245 Pam wyt ti'n oedi?
(1, 0) 246 Cer!
 
(1, 0) 252 Noswaith dda, Josef.
(1, 0) 253 Yr ŷm ni wedi bod yn 'ch disgwyl chi.
 
(1, 0) 260 A ga'i 'i chwarae hi eto?
(1, 0) 261 Mae Efa yn 'i hoffi hi'n fawr.
 
(1, 0) 268 Dim eto, Josef.
 
(1, 0) 274 Yn wir?
 
(1, 0) 278 Fe ddylech chi fod yn gwybod, Josef.
(1, 0) 279 Yr ych chi'n arbenigwr ar y cwestiwn, hynny yw, os yw ffoi a dianc yn gyfystyr.
 
(1, 0) 287 Cydwybod efallai?
 
(1, 0) 297 'Dwy i byth yn 'i yfed e.
(1, 0) 298 Chi'r estroniaid sy'n hoff o goffi.
 
(1, 0) 300 Paid ti â ffwdanu am fy swper i.
(1, 0) 301 Mae gen i waith arall i'w wneud gynta'.
(1, 0) 302 Gwaith pacio.
 
(1, 0) 304 Mae'r gwaith yn galw am hynny.
 
(1, 0) 308 Paid ti â dod.
(1, 0) 309 Does dim angen.
(1, 0) 310 Aros i drafod y record 'na gyda dy gyfaill.
(1, 0) 311 Mae'r thema yn un mor addas i chi'ch dau.
 
(1, 0) 316 Mae trigolion y pentref hwn yn rhy hoff o glebran.
 
(1, 0) 318 Amser a ddengys.
 
(1, 0) 322 I ddarganfod rhyfeddodau newydd.
 
(1, 0) 328 Ar beth?
 
(1, 0) 337 'Rwyf yn eich dyled.
 
(1, 0) 339 Fe anghofiais i ba ddydd oedd e' heddi'.
(1, 0) 340 Mi fyddai hwn wedi bod yn ddiwrnod siomedig iawn i Efa, onibai i chi gofio amdani.
 
(1, 0) 348 Efallai mai i'r miwsig 'rwy'n ddyledus am hynny.
 
(1, 0) 350 A gaf i chwarae'r record i chi 'to?
(1, 0) 351 Beth wyt ti'n ddweud, Efa?
 
(1, 0) 353 Fe wellith hwn ben tost.
 
(1, 0) 355 Ac yn awr rhaid i chi'ch dau esgusodi i.
(1, 0) 356 'Rwy'n mynd i fod yn brysur.
 
(1, 0) 552 Beth sy' wedi digwydd i'r miwsig?
(1, 0) 553 Ond efallai nad yw'r miwsig mor bwysig wedi'r cyfan!
 
(1, 0) 556 Go dda!
(1, 0) 557 Mynd a dod yn ôl 'ch mympwy.
(1, 0) 558 Byd braf!
 
(1, 0) 560 Amhosibl!
(1, 0) 561 Ni fu arno frys erioed!
(1, 0) 562 Dim ond pan ffodd allan o'i wlad... ac o berygl!
 
(1, 0) 564 Oes gen i ddim hawl i'm barn?
(1, 0) 565 Ac ar fy aelwyd fy hun!
(1, 0) 566 Aelwyd pwy yw hon, Josef?
 
(1, 0) 569 lefe?
(1, 0) 570 'Rwy'n amau!
(1, 0) 571 Bob tro y do i adre mae rhyw ddieithryn wedi cydio yn y lle.
 
(1, 0) 575 Duw Mawr!
(1, 0) 576 Mae gen ti a'r crachach hwn y wyneb i gyfathrachu â'ch gilydd, ac yna fwrw'r bai arna' i.
 
(1, 0) 580 Gadewch y siarad sentimental er mwyn popeth!
 
(1, 0) 582 Ac fe gawsoch.
(1, 0) 583 Gyda hon!
 
(1, 0) 585 Dyna gelwydd!
(1, 0) 586 Ni feddylioch y fath beth.
(1, 0) 587 Fe ddangosais i f'ochor i o'r dechrau.
(1, 0) 588 Ni fu gen i erioed amynedd i ddelio â llwfrgwn.
(1, 0) 589 Ydych chi am ddweud na sylwoch chi ar hynny?
 
(1, 0) 591 Mi ddyweda' i pam!
 
(1, 0) 595 Fe gawsoch 'ch dallu gan Efa!
 
(1, 0) 597 Dyma chi eto.
(1, 0) 598 Yr un hen siarad arwynebol!
(1, 0) 599 Pam na gyfaddefwch chi'r gwir!
(1, 0) 600 Dim ond fel merch y gwelsoch chi Efa'n ddiddorol.
(1, 0) 601 A ellwch chi wadu?
 
(1, 0) 603 Pam nad atebwch chi?
(1, 0) 604 Ond beth wy'n ddisgwyl?
(1, 0) 605 Fel i bob estron seimllyd arall, rhywbeth i'w ddiystyru yw'r gwir i chi.
 
(1, 0) 607 Ac fe roist dithau bob anogaeth iddo.
 
(1, 0) 610 Fe ddaw 'nôl.
 
(1, 0) 612 Dyma newydd sydyn!
 
(1, 0) 614 Ai hwnnw yw'r symbyliad?
 
(1, 0) 618 Diddorol.
(1, 0) 619 Felly, dyma ni wedi cyrraedd y groesffordd.
(1, 0) 620 Un yn mynd ffordd 'na.
 
(1, 0) 622 Y llall, y ffordd acw.
 
(1, 0) 624 A beth amdanat ti, Efa.
 
(1, 0) 626 Llwybr Josef?
 
(1, 0) 628 A pham?
(1, 0) 629 Rho dy resymau.
(1, 0) 630 Carwn 'u clywed.
(1, 0) 631 Beth ych chi'n ddweud, Josef?
 
(1, 0) 634 Beth yw'r brys mawr ar ôl misoedd o oedi?
 
(1, 0) 638 Beth a wyddoch chi am fywyd y labordy?
 
(1, 0) 643 Anwiredd!
 
(1, 0) 649 Pam nad ych chi'n dal swydd yn y wlad hon?
(1, 0) 650 Mae prinder gwyddonwyr.
 
(1, 0) 661 Ei ddyletswydd yw dychwelyd adre.
(1, 0) 662 Gad iddo wneud un tro da yn ei fywyd!
 
(1, 0) 673 Wyt ti'n siŵr nad wyt ti ddim am fynd ar 'i ôl e'?
 
(1, 0) 676 Ond yr wyt ti 'n 'i garu e'.
 
(1, 0) 678 'Rwy' wedi ymddwyn fel ffŵl!
 
(1, 0) 680 Dyw' hi ddim yn rhy ddiweddar.
(1, 0) 681 Mi alla' i fod yn wahanol o hyn allan.
(1, 0) 682 Fe oedd yn fy nghynddeiriogi i.
 
(1, 0) 684 Gwrando, Efa.
(1, 0) 685 Mae'n rhaid i mi fynd i ffwrdd.
(1, 0) 686 'Rwyf wedi ymddeol ar gais yr Awdurdodau!
(1, 0) 687 'Dŷn' nhw erioed wedi ymddiried yno' i.
(1, 0) 688 Digon da fy mod i'n mynd.
(1, 0) 689 Fe ga' i ddigon o swyddi,—yn talu'n well hefyd.
(1, 0) 690 Mewn diwydiant!
 
(1, 0) 692 Dere gyda mi!
(1, 0) 693 Dechrau o'r newydd.
 
(1, 0) 695 Josef!
 
(1, 0) 700 Nid oedd Josef yn haeddu gwell!
 
(1, 0) 705 Mi fydda' i'n symud heno, Efa.
 
(1, 0) 707 Ac mi fydda' innau'n aros.