Ciw-restr

Ar Ddu a Gwyn

Llinellau gan Botha (Cyfanswm: 468)

 
(1, 0) 11 P'nawn da, Amos.
 
(1, 0) 15 Beth?
(1, 0) 16 O, ydw'... ydw'...
(1, 0) 17 Diolch iti am ofyn.
(1, 0) 18 'Wyt ti wedi gorffen y 'stafell yma?
 
(1, 0) 20 Mi gei fynd, felly.
(1, 0) 21 Mae arna'i eisiau llonydd rŵan.
 
(1, 0) 24 Amos!
 
(1, 0) 27 Tyrd yma am funud.
 
(1, 0) 30 Dy ferch,—sut y mae hi y dyddia' 'ma?
 
(1, 0) 33 Hm!
(1, 0) 34 'Faint ydy' ei hoed hi rŵan?
 
(1, 0) 37 Felly'n wir...
(1, 0) 38 Beth mae'r meddyg yn 'i ddweud?
 
(1, 0) 44 Ydy', 'rwy'n deall...
(1, 0) 45 Mae'n ddrwg iawn gen' i glywed, Amos.
(1, 0) 46 Gad imi wybod sut y bydd o dro i dro.
 
(1, 0) 49 Aros di...
 
(1, 0) 51 Hwda, dos i brynu tipyn o ffrwythau iddi.
 
(1, 0) 53 Paid â thrio.
(1, 0) 54 Gwneud dy waith yn ddistaw, — dyna'r diolch gora'.
(1, 0) 55 Paid â dweud am hyn wrth neb, 'wyt ti'n deall?
 
(1, 0) 57 Dim hyd yn oed wrth Miss Helga...
(1, 0) 58 B'le mae hi, gyda llaw?
 
(1, 0) 63 Na, na: mi ddaw yma mewn munud...
(1, 0) 64 Mae yma un peth arall, Amos.
 
(1, 0) 66 'Dwy'i ddim am iti ddweud gair wrthi am y wasgfa fach honno ge's i y bore yma.
 
(1, 0) 68 'Dydy' o ddim ond tipyn o wendid.
(1, 0) 69 Ond mae hi mor bryderus.
(1, 0) 70 'Fynnwn i mo'i phoeni heb eisiau.
 
(1, 0) 72 'Dwyt ti'n gwybod dim.
(1, 0) 73 Celwydd gola', Amos,— dyw hwnnw ddim yn bechod!
 
(1, 0) 75 'Oes yna rywbeth ar dy feddwl di?
 
(1, 0) 77 'Rwy' i wedi sylwi arnat ti yn ddiweddar yma.
(1, 0) 78 'Rwyt ti'n edrych yn anesmwyth.
(1, 0) 79 Fel petai ofn arnat ti.
 
(1, 0) 81 O, 'rwy'n gweld.
(1, 0) 82 Wel, paid â phoeni.
(1, 0) 83 Fe ddaw dy ferch yn ei blaen yn siŵr iti.
(1, 0) 84 A 'dwy' innau ddim yn barod i farw eto!
(1, 0) 85 Rhaid iti fod yn fwy ffyddiog, wyddost ti.
 
(1, 0) 87 'Rwyt ti'n was da a ffyddlon, Amos.
(1, 0) 88 Mi ofala' i na chei di ddim cam.
 
(1, 0) 92 Ia, Amos?
 
(1, 0) 97 O'r gora'.
(1, 0) 98 Cymer d'amser.
(1, 0) 99 Mae llefrith mor ddiflas â ffisig imi erbyn hyn...
(1, 0) 100 Cofia ddweud sut y bydd dy ferch fach o bryd i bryd.
 
(1, 0) 104 Paid â sôn.
(1, 0) 105 'Ffwrdd â thi, rŵan.
(1, 0) 106 Mae gen' i waith i'w wneud.
 
(1, 0) 113 Paid â dweud dim, Helga.
(1, 0) 114 Paid â symud am funud!
 
(1, 0) 117 Na, na.
(1, 0) 118 Gad imi edrych arnat ti, dyna'r cyfan.
 
(1, 0) 120 'Rwy' i'n mynd yn hen, 'merch i.
(1, 0) 121 Ond 'dwy' i ddim yn rhy hen i werthfawrogi prydferthwch.
 
(1, 0) 123 Dim o gwbl.
 
(1, 0) 125 'Rwy'n dweud y gwir.
(1, 0) 126 'Welais i 'rioed monot ti'n edrych yn debycach i'th fam.
 
(1, 0) 128 Sawl gwaith y gwelais i hi'n dod i mewn o'r ardd, fel hyn, â thusw o flodau ar ei braich!...
(1, 0) 129 Yr ardd oedd ei bywyd, Helga.
(1, 0) 130 Edrych allan yna,—y lawnt felfed, y rhosynnau a'r winwydden.
(1, 0) 131 'Elli di feddwl amdani'n ddiffeithwch?
 
(1, 0) 133 Wel, dyna oedd hi pan ddaethom yma gyntaf, dy fam a minnau.
(1, 0) 134 Diffeithwch o chwyn ac ysgall.
(1, 0) 135 Mae'n anodd coelio hynny rŵan...
(1, 0) 136 Mae deugain mlynedd ers hynny.
(1, 0) 137 'Roedd hi'n frwydr galed, Helga.
(1, 0) 138 Ar brydiau bu bron inni a digalonni ac ildio.
(1, 0) 139 Ond diolch i Dduw, fe gawsom nerth a dyfal-barhad.
 
(1, 0) 141 Symbol ydy'r ardd yna, Helga.
(1, 0) 142 Symbol o wareiddiad a diwylliant.
(1, 0) 143 Trefn o anhrefn.
(1, 0) 144 'Roedd yn werth y chwys a'r llafur a'r siomiant...
(1, 0) 145 Ond mae hynny i gyd y tu ôl inni, rŵan.
(1, 0) 146 Mae'r seiliau wedi eu gosod.
(1, 0) 147 Mae'r wlad yn dangos cynnydd.
(1, 0) 148 Mae'r dyfodol yn ddiogel.
(1, 0) 149 Ond rhaid wrth wyliadwriaeth barhaus, Helga, neu fe ddaw'r chwyn yn ôl.
(1, 0) 150 Fe ddônt yn ôl i hagru a difetha popeth.
 
(1, 0) 152 Edrych Helga arno am ennyd, yna daw ymlaen.}
 
(1, 0) 154 Beth?...
(1, 0) 155 O, ia, — syniad reit dda.
(1, 0) 156 Mae arna' i angen tipyn o ffresni.
 
(1, 0) 161 Gwych, gwych.
(1, 0) 162 Rhaid iti ddod â rhai yma bod dydd o hyn ymlaen.
 
(1, 0) 165 Ydw', am 'wn i, ydw'.
 
(1, 0) 167 Ia, rwy'n cyfadde'.
 
(1, 0) 169 'Rwy' i'n gohirio'r pleser hwnnw o fwriad.
 
(1, 0) 171 Fe ddaw'r amser pan fydda' i'n berffaith rydd i'w mwynhau hi.
 
(1, 0) 176 Nac ydw', Helga: 'dyw fy ngwaith i ddim wedi ei orffen eto.
 
(1, 0) 178 Dyletswydd yn gyntaf.
(1, 0) 179 Anghenion y wlad o flaen f'anghenion i.
 
(1, 0) 182 Beth?
 
(1, 0) 185 Ia, Helga, 'rwy'n gwybod.
(1, 0) 186 Ond ─
 
(1, 0) 189 Gwn yn iawn.
(1, 0) 190 Pennyd o segurdod bara a dŵr.
(1, 0) 191 Fe fyddai hynny'n fy lladd yn gynt na dim.
 
(1, 0) 193 Fel mater o ffaith, 'does ganddo fo fawr o syniad be' sy'n bod arna' i.
(1, 0) 194 Bai mawr Hoffman erioed ydy' ei fod o mor boenus o ffwdanus.
(1, 0) 195 Pe bawn i'n greadur o weithiwr, fe fyddai potelaid o ffisig a cherydd yn gwneud y tro imi.
(1, 0) 196 Yn lle hynny 'rwy'n Seneddwr ac yn berchen mwynglawdd aur.
(1, 0) 197 Rhaid gorliwio'r clefyd i siwtio fy safle!
 
(1, 0) 200 Ychydig o annwyd, dyna'r cyfan.
 
(1, 0) 204 Na ddylwn, Helga.
(1, 0) 205 Rhaid i mi fynd ymlaen tra medra' i.
 
(1, 0) 207 Does dim rhaid cywilyddio oherwydd hynny.
 
(1, 0) 210 Er mewn delfryd, Helga.
(1, 0) 211 Ydw', 'rwy'n barod i wneud hynny...
(1, 0) 212 Ond 'does dim achos iti bryderu.
(1, 0) 213 'Rwy' i bron wedi gorffen.
(1, 0) 214 Yr wythnos nesa' mi fyddaf yn traddodi'r araith yma o flaen y Senedd ─
 
(1, 0) 216 Nid er mwyn un araith.
(1, 0) 217 Er mwyn dyfodol a hapusrwydd y genedl, Helga.
(1, 0) 218 Beth yw fy iechyd i o'i gymharu â hynny?
(1, 0) 219 'Rwy' i'n barod i farw drosti os bydd rhaid.
 
(1, 0) 222 Botha... Pwy?... O, Malán... Be'sy'nbod?...
(1, 0) 223 Beth?
(1, 0) 224 Dŵr?
 
(1, 0) 227 Ond mae hyn yn ddifrifol!
(1, 0) 228 Pa siafft dd'wedsoch chi?
(1, 0) 229 O, 'dyw hynny ddim mor ddrwg...
(1, 0) 230 Wrth gwrs, fe wnaethoch yn iawn...
(1, 0) 231 'Oes yna lawer o ddifrod?...
(1, 0) 232 O, rwy'n gweld...
(1, 0) 233 Ond y gweithwyr, Malán, beth am y gweithwyr?...
(1, 0) 234 Dau?
(1, 0) 235 Rhaid eu cael allan, doed a ddelo...
(1, 0) 236 Costied a gostio, Malán, 'rydych chi'n deall?...
(1, 0) 237 Pwy?
(1, 0) 238 Hendricks?
 
(1, 0) 240 Mae'n dda gen' i glywed...
(1, 0) 241 Ia, 'rwy'n dibynnu arnoch chi...
(1, 0) 242 O'r gora', Malán, gadewch imi wybod sut y bydd petha.
 
(1, 0) 245 Dŵr wedi torri i mewn i un o'r siafftau yn y pwll.
 
(1, 0) 247 Paid â phryderu.
(1, 0) 248 Mae Karl yn ddiogel.
 
(1, 0) 251 Dau negro ar goll.
(1, 0) 252 Ond mae Karl yn ceisio'u hachub.
(1, 0) 253 'Roedd Malán yn swnio'n eitha' ffyddiog.
 
(1, 0) 255 Paid â phoeni, 'merch i.
(1, 0) 256 'Ddaw dim niwed iddo fo.
(1, 0) 257 Mae'r gwaetha' drosodd erbyn hyn.
(1, 0) 258 Fe ddaw yma cyn bo hir, mae'n debyg.
 
(1, 0) 263 Do, Hoffman.
(1, 0) 264 Mae Malán newydd fod ar y teliffôn.
 
(1, 0) 266 Na, 'does neb wedi ei anafu, mae'n dda gen' i ddweud.
 
(1, 0) 268 Dau, Hoffman, dau negro.
(1, 0) 269 A'r rheini ar fin cael eu hachub erbyn hyn, mae'n debyg.
 
(1, 0) 271 Rhyfedd mor hoff yw pobl o orliwio newydd drwg!
 
(1, 0) 281 Dim i boeni yn ei gylch, Hoffman.
(1, 0) 282 'Does yna fawr o aur ar ôl yn y rhan yna o'r pwll.
(1, 0) 283 Buom yn sôn am ei gau fwy nag unwaith, ac agor siafft newydd.
 
(1, 0) 296 Rwy'n deall, rŵan, pam y daethost yma ar gymaint o frys, Hoffman.
 
(1, 0) 298 Ia, — ond y brys anarferol!
(1, 0) 299 Nid meddwl am fy nghyflwr i barodd iti ddod â'th wynt yn dy ddwrn.
 
(1, 0) 302 Ariangarwch: poeni ynghylch dy siâr!
 
(1, 0) 307 'Alla' i ddim llyncu hynna, Hoffman!
 
(1, 0) 311 Da ti, paid â throi i'r llais angladdol yna!
(1, 0) 312 Dy ddyletswydd fel cyfaill ydy' sirioli, nid codi bwganod.
 
(1, 0) 316 Styfnigrwydd wyt ti'n galw peidio â ffwdanu?
(1, 0) 317 Wyddost ti be', petawn i wedi gwrando arnat ti, mi fyddwn i fel hen ferch yn yfed te yn fy ngwely!
 
(1, 0) 324 'Wyddost ti pam?
(1, 0) 325 Mae'r ddrama fach yma wedi digwydd inni'n dau o'r blaen.
(1, 0) 326 Ugain mlynedd yn ôl, 'wyt ti ddim yn cofio?
 
(1, 0) 330 Dim o gwbl.
 
(1, 0) 332 Rhyw chwech oed oeddit ti ar y pryd.
(1, 0) 333 Fe ddaeth rhyw haint i'r dre yma, a channoedd yn cael eu taro'n bur wael.
(1, 0) 334 'Roeddit ti'n meddwl ar y dechrau mai'r Pla Du oedd o, Hoffman.
 
(1, 0) 336 Wel, mewn un ystyr 'roeddit ti'n iawn.
(1, 0) 337 Pla'r negrod oedd o, yn codi o fudreddi'r Dre-Sianti.
(1, 0) 338 P'run bynnag, mi ge's i'r salwch.
(1, 0) 339 A dyma titha' Hoffman, yn fy siarsio i fynd i'r gwely'n syth.
 
(1, 0) 341 Ond y jôc ydy' na fum i ddim yn fy ngwely am fwy na dwyawr ar hyd yr amser!
(1, 0) 342 A thithau wedi bygwth marwolaeth arswydus imi petawn i'n beiddio codi o fewn pythefnos!
 
(1, 0) 345 Nid lwc, Hoffman, — gwydnwch: ac y mae hwnnw gen' i o hyd.
 
(1, 0) 349 Mae meddygon yn claddu eu camgymeriadau, meddan' nhw!
 
(1, 0) 352 Ac yr wy'n dal i fod yma er dy waetha'!
 
(1, 0) 356 'Dwyt ti ddim yn deall, 'rhen gyfaill.
(1, 0) 357 Mae gen' i waith i'w wneud.
 
(1, 0) 360 Heb achos, yn siŵr iti.
 
(1, 0) 366 Pam yfory?
 
(1, 0) 368 Ydw.
 
(1, 0) 370 Hertz?
(1, 0) 371 Pwy ydy' Hertz?
 
(1, 0) 373 A'i fil yn gymesur â'i fri, mwya' tebyg.
(1, 0) 374 Peth costus yw tipyn o salwch i ddyn cyfoethog!
 
(1, 0) 377 O?
(1, 0) 378 Wel, allan â fo.
(1, 0) 379 Paid â chelu dim.
 
(1, 0) 382 'Wyt ti'n siŵr o'th ffeithiau?
 
(1, 0) 384 A!
 
(1, 0) 389 Pam?
 
(1, 0) 392 'Rwy' i'n rhoi fy hun yn dy ddwylo, Hoffman.
(1, 0) 393 Ond rho imi'r pleser o dynnu tipyn ar dy goes weithiau!
 
(1, 0) 396 Newydd drwg?
 
(1, 0) 399 Beth ydy' o?
 
(1, 0) 402 Mi wyddwn, wrth gwrs, 'mod i'n ddyn anghyffredin!
 
(1, 0) 405 Pwy ydy'r dyn anrhydeddus?
 
(1, 0) 407 A'm gwaredo i, yn nwylo'r fath feddyg anghofus!
 
(1, 0) 409 Wel?
 
(1, 0) 411 Druan o ddynol-ryw!
 
(1, 0) 417 Yfory?
 
(1, 0) 421 Wel ─
 
(1, 0) 426 Na, ma' hi'n dwad yn weddol hawdd imi rŵan, Hoffman.
(1, 0) 427 Rywfodd neu'i gilydd 'rwy'n gweld pethau'n gliriach yn ddiweddar yma.
(1, 0) 428 Mae f'argyhoeddiad yn gryfach nag erioed.
(1, 0) 429 'Rwy'n hollol sicr fod cyfiawnder o'm plaid.
(1, 0) 430 O'm rhan i, mae'r Ddeddf Addysg newydd eisoes ar y Llyfr Statud.
(1, 0) 431 Mae'r araith i'w chyflwyno i'r Senedd yn barod gen' i yma.
(1, 0) 432 Ac os ca'i ddweud, 'rwy'n meddwl cryn dipyn ohoni.
(1, 0) 433 'Hoffit ti ei chlywed?
 
(1, 0) 436 Wel, hwyrach y goddefi imi ddarllen y diweddglo, ynte".
(1, 0) 437 Aros di...
 
(1, 0) 439 Ia, dyma ni.
 
(1, 0) 441 ~
(1, 0) 442 "Foneddigion:
(1, 0) 443 ~
(1, 0) 444 Braint ac anrhydedd i mi, yw rhoi'r Ddeddf Addysg newydd ger eich bron.
(1, 0) 445 Yn ddiamau fe fydd yn garreg filltir nodedig yn hanes ein cenedl.
(1, 0) 446 Fe'i cyflwynaf i chwi yn llawn hyder gwladgarwch diffuant.
(1, 0) 447 Dichon y gwelwch yn ddoeth i newid rhai o'r manylion: ni fydd y Llywodraeth yn gwrthwynebu hynny.
(1, 0) 448 Ond ni oddefir unrhyw ymyrryd â'r egwyddor fawr sy'n sylfaen iddi: egwyddor sy'n hanfodol i ddiogelwch ein gwlad a ffyniant ein cenedl."
 
(1, 0) 452 "Foneddigion:
(1, 0) 453 ~
(1, 0) 454 Cyfnod o argyfwng yw hwn: cyfnod o brawf.
(1, 0) 455 Rhaid wrth weledigaeth glir ac argyhoeddiad pendant.
(1, 0) 456 Mae gennym ddyletswydd a chyfrifoldeb i'n plant ac i blant ein plant.
(1, 0) 457 Na ato Duw inni eu bradychu!
(1, 0) 458 Pwy sydd yma nad yw enw De Affrig yn gysegredig iddo?
(1, 0) 459 Pwy sydd yma na wêl reidrwydd aberth a ffydd ddigyfaddawd?
(1, 0) 460 Cas gŵr na charo'r wlad a'i maco!
(1, 0) 461 Gwladgarwch, Foneddigion, gwladgarwch angerddol yw Apartheid, — a'i unig gyfiawnhad.
(1, 0) 462 Apartheid, — fe welodd ddyddiau tywyll: cafodd ei feirniadu'n llym.
(1, 0) 463 Onid dyna dynged pob egwyddor chwyldroadol ymhob oes?
(1, 0) 464 Ond aros y mae er gwaethaf dichell a chenfigen.
(1, 0) 465 Ac nid oes raid ymddiheuro drosti: mae Deddf Duw o'n plaid, — dau liw a dwy gymdeithas.
(1, 0) 466 Awn ymlaen yn hyderus, felly, a golau fflam newydd yn ein hysgolion a'n colegau.
(1, 0) 467 Fe rydd y Ddeddf Addysg hon holl fanteision Apartheid i ieuenctid ein gwlad, — y du a'r gwyn fel ei gilydd.
(1, 0) 468 Y du a'r gwyn, yn rhydd i ddilyn ffydd a thraddodiad eu tadau: yn rhydd i feithrin eu talentau fel y gallont.
(1, 0) 469 O anhrefn daeth trefn: o'r diffeithwch daeth gardd flodau.
(1, 0) 470 Apartheid yw'r unig iechydwriaeth i'n gwlad: onibai fy mod yn credu hynny o waelod fy enaid ni fyddwn yn rhoi'r Ddeddf yma ger eich bron.
(1, 0) 471 Mae llygaid y byd arnom, Foneddigion: fe fyddwn yn esiampl iddo o genedl ranedig, gytûn."
 
(1, 0) 474 Wel, Hoffman?
 
(1, 0) 478 Diolch iti.
(1, 0) 479 Mae gen' i barch i'th farn.
 
(1, 0) 488 Druan ohonot ti, Hoffman.
(1, 0) 489 'Rwyt ti mor ffwdanus â hen ferch, weithia'!...
(1, 0) 490 O'r gora', dim pwt o waith eto heddiw.
(1, 0) 491 'Rwy'n rhoi fy ngair iti.
 
(1, 0) 497 P'nawn da, Hoffman.
(1, 0) 498 A diolch iti.
 
(1, 0) 505 O wel, dyna hynna drosodd.
 
(1, 0) 507 Ia... tan yfory.
 
(1, 0) 510 Ydy'... alla' i mo'i yfed o rŵan: nid ar ôl y gwin yna...
(1, 0) 511 Beth wyt ti'n ei feddwl o'r araith yma?
 
(1, 0) 515 Ond?
 
(1, 0) 518 Wel, gad imi geisio egluro iti.
(1, 0) 519 Beth yn hollol wyt ti ddim yn 'i ddeall?
 
(1, 0) 521 Beth amdanyn' nhw?
 
(1, 0) 523 Wrth gwrs y byddan' nhw.
(1, 0) 524 Fe gânt gyd-ymffurfio neu gau eu drysau.
 
(1, 0) 527 Nac wyt ti?
(1, 0) 528 Buan iawn y gwelan' nhw eu camsyniad.
(1, 0) 529 Fedrwn ni ddim cyfaddawdu yn y mater yma, Helga: 'feiddiwn ni ddim.
(1, 0) 530 A pheth arall, rydym yn gwneud hyn oll yn enw Duw, ac yn unol â'i ddoethineb.
(1, 0) 531 Fe wnaeth yr Eglwys hynna'n berffaith eglur y llynedd.
 
(1, 0) 533 'Rwy'n cydnabod hynny.
(1, 0) 534 Ond un peth ydy' lledaenu'r Efengyl: myfi fyddai'r olaf i wahardd cymwynas o'r fath.
(1, 0) 535 Ond pan ddaw llechgwn o estroniaid i'r wlad yma i greu anghydfod yn enw crefydd, rhaid eu ffrwyno.
 
(1, 0) 537 'Rwy'n gwybod ei fod yn digwydd.
(1, 0) 538 Mae gen' i ddigon o brawf.
(1, 0) 539 'Fydda' i byth yn cyhuddo heb fod yn berffaith siŵr o'r ffeithiau.
 
(1, 0) 541 Fe fydd yn gymwynas i'r mwyafrif.
(1, 0) 542 Rhaid wrth drefn cyn daw cynnydd.
 
(1, 0) 546 Na, 'sylwais i ddim.
(1, 0) 547 Beth oedd yna?
 
(1, 0) 549 'Oes yna rywbeth yn od yn hynny?
 
(1, 0) 552 Mae'r brain, pan gânt gyfle, yn ymlid y gwylanod.
(1, 0) 553 Cofia hynna, 'wnei di?
(1, 0) 554 Mae'n beth hollol naturiol.
 
(1, 0) 560 Mae gen' ti natur deimladol a dychymyg rhamantus, 'merch i.
(1, 0) 561 Ac 'rwy'n dy edmygu am hynny: mae'n beth da.
(1, 0) 562 Ond rhaid iti ddysgu wynebu ffeithia', wyddost ti.
(1, 0) 563 Oni wnei di, 'rwyt ti'n siŵr o gael dy frifo.
(1, 0) 564 'Rwy'n siarad o hir brofiad.
(1, 0) 565 'Dwyt ti ond ifanc eto.
(1, 0) 566 Coelia fi, mi weli di'n wahanol ryw ddiwrnod.
 
(1, 0) 568 'Wyt ti'n sylweddoli beth wyt ti'n ei ddweud?
 
(1, 0) 571 Helga!
 
(1, 0) 573 'Dwy'i ddim yn dy ddeall.
(1, 0) 574 'Wyt ti ddim yn gweld mai cenedl ifanc ydym ni?
(1, 0) 575 Cenedl ifanc yn ceisio sefyll ar ei thraed ei hun?
(1, 0) 576 Mae'r frwydr yn un fawr: rhaid inni ymdrechu'n barhaus.
(1, 0) 577 Ac nid ar chwarae bach y llwyddwn ni.
(1, 0) 578 Wrth gwrs fod yna anghyfiawnder: wrth gwrs fod yna galedi.
(1, 0) 579 Mae hynny'n anochel.
(1, 0) 580 Ond allwn ni ddim troi'n ôl.
(1, 0) 581 Ffolineb fyddai gwangalonni, rŵan, wedi inni fynd mor bell.
 
(1, 0) 583 'Rwyt ti'n ystumio fy ngeiriau, Helga.
(1, 0) 584 Nid dyna 'roeddwn i'n 'i feddwl.
(1, 0) 585 Ond na hidia: amser a ddengys.
(1, 0) 586 Hyd yma 'dwyt ti erioed wedi gorfod wynebu'r broblem yn dy fywyd dy hun.
(1, 0) 587 Dyna'r prawf wedi'r cyfan.
(1, 0) 588 Rhagfarn a chasineb ddywedaist ti?
(1, 0) 589 Paid â chamsynio, 'merch i!
(1, 0) 590 Wyt ti'n meddwl am foment y bradychwn i fy nghydwybod fy hun?
 
(1, 0) 594 'Rwyt ti'n siarad yn ynfyd.
 
(1, 0) 599 'Chei di ddim dweud hynna, Helga.
 
(1, 0) 602 Yn ymladd yr un frwydr ─
 
(1, 0) 605 Helga fach, 'rwyt ti'n mwydro dy ben pert yn ofer.
(1, 0) 606 Nid â'r galon y mae gwleidydda.
(1, 0) 607 'Dwyt ti ddim yn deall y pethau yma, 'wyddost ti.
 
(1, 0) 609 Rhaid iti gael mwy o ffydd ynof i, 'merch i.
(1, 0) 610 Mae arna' i ei heisiau, Duw a ŵyr: mae ar y wlad ei heisiau.
 
(1, 0) 619 Hendricks!...
(1, 0) 620 Be' sy'n bod?
 
(1, 0) 623 Y dynion, Hendricks?
 
(1, 0) 634 Gwn, 'machgen i, gwn.
 
(1, 0) 637 Paid â dweud hynna, Hendricks, paid â dweud hynna.
(1, 0) 638 Nid dy fai di oedd o.
 
(1, 0) 650 Gwn, 'machgen i.
(1, 0) 651 Mae'n arswydus...
(1, 0) 652 Ond fe aeth y dŵr i lawr?
 
(1, 0) 665 Profiad dychrynllyd, Hendricks.
(1, 0) 666 Ond mae gen' ti un cysur, — fe wnest dy orau.
 
(1, 0) 673 Os wy'n cofio'n iawn 'roeddit ti wedi archwilio'r twnel yna'n ddiweddar.
 
(1, 0) 676 Fel yna mae'n digwydd weithia'.
 
(1, 0) 681 'Rwy'n deall.
 
(1, 0) 694 Mater o farn ydy' hynna, 'wyddost ti.
 
(1, 0) 696 'Dd'wedais i ddim dy fod ti, Hendricks.
(1, 0) 697 Mae gan Malán berffaith hawl i'w ddaliadau, beth bynnag ydyn' nhw.
(1, 0) 698 Ond mae o'n gyfrifol i mi am ddiogelwch pob gweithiwr yn y pwll, y du a'r gwyn fel ei gilydd.
(1, 0) 699 Os gwelaf fod ei ddaliadau'n peryglu bywyd un ohonynt, — fe ŵyr y canlyniadau.
(1, 0) 700 Hyd yma 'dyw hynny ddim wedi digwydd.
(1, 0) 701 'Does gen' i ond y gair gora' i Malán fel gwas ffyddlon a gweithgar i'r Cwmni...
(1, 0) 702 Ond mae Helga'n iawn: 'rwyt ti'n ffôl i deimlo'n euog am ddamwain anochel.
(1, 0) 703 Noson o gwsg sydd arnat ti 'i eisiau.
(1, 0) 704 Mi weli di bethau'n gliriach yfory, â chydwybod tawel.
(1, 0) 705 Peth da yw tosturi, Hendricks, ond cymer gyngor gen' i: paid â'i gario fel pwn ar dy gefn beunydd.
(1, 0) 706 Rhaid i fywyd fynd yn ei flaen, wyddost ti...
(1, 0) 707 Ond mae'n ddigon hawdd siarad: 'rwy'n cofio'r ddamwain gynta' erioed yn yr hen waith yna, pan laddwyd fy ffrind penna'...
(1, 0) 708 Mae hyn yn dod â'r cyfan yn ôl imi.
(1, 0) 709 'Rwy'n cofio, fel petai ddoe, y distawrwydd syfrdan, a dieithrwch angau a fferdod gofid...
(1, 0) 710 Mi wn i'n iawn sut yr wyt ti'n teimlo...
(1, 0) 711 "Chafodd yna neb arall ei anafu?
 
(1, 0) 714 Fe ddoi di drosto fo, 'machgen i.
(1, 0) 715 Ond paid â gweld bai arnat dy hun...
(1, 0) 716 'Gymeri di lymaid o rywbeth?
 
(1, 0) 725 Wrth gwrs!
(1, 0) 726 Rho fenthyg un o'm siwtiau i iddo fo.
 
(1, 0) 729 'Fyddi di ddim yn iawn yn y dillad gwlyb yna.
(1, 0) 730 'Allwn ni ddim fforddio dy gael dithau'n wael hefyd, 'wyddost ti.
 
(1, 0) 733 Hendricks, — y ddau ddyn anffodus yna, 'oes ganddyn' nhw deulu?
 
(1, 0) 736 Trueni...
(1, 0) 737 Rhaid imi feddwl am y peth.
 
(1, 0) 740 Ia, Hendricks?
 
(1, 0) 742 Gofyn.
 
(1, 0) 744 Beth wyt ti'n 'i feddwl?
 
(1, 0) 746 Hendricks, rhaid imi ofyn yn garedig iti beidio ag ymyrryd â'r mater yna.
 
(1, 0) 751 Nac ydy', — yn swyddogol.
(1, 0) 752 Ond unwaith eto, 'rwy' i am ofyn iti adael hynna i'm doethineb i.
 
(1, 0) 760 Wrth gwrs, wrth gwrs.
(1, 0) 761 Ond nid dyma'r amser i'w drafod, 'machgen i.
(1, 0) 762 Dos i ymolchi a newid, rŵan.
(1, 0) 763 Gorffwys am ychydig wedyn, os mynni.
 
(1, 0) 765 Ia, ia, paid â dadla'!
(1, 0) 766 Mi gawn ni sgwrs nos yfory.
(1, 0) 767 'Wyt ti'n meddwl y medri di wneud y plania'n barod?
 
(1, 0) 772 'Alla' i ddim peidio â meddwl am y ddau negro yna...
(1, 0) 773 Ddwy awr yn ôl 'roeddyn' nhw'n fyw ac iach.
(1, 0) 774 A rŵan ─
 
(1, 0) 777 Beth dd'wedaist ti?
 
(1, 0) 780 Mae meddwl dy fod yn coleddu syniadau ffôl yn fy mlino'n fwy na dim.
 
(1, 0) 782 'Wyt ti ddim yn gweld y perygl?
(1, 0) 783 'Wyddost ti ddim fod y gelyn yn cynllwynio yn ein herbyn?
(1, 0) 784 A hynny dan rith crefydd?
(1, 0) 785 'Rwy'n siŵr fod yn rhaid rhoi terfyn ar hynny?
 
(1, 0) 787 Mae'r Cymrodyr yn archwilio pob achos yn ofalus.
 
(1, 0) 789 I sicrhau bod egwyddorion Apartheid yn cael eu cadw.
 
(1, 0) 791 Drwy wyliadwriaeth a chyngor ac esiampl.
 
(1, 0) 793 'Gaf i d'atgoffa 'mod i'n un o sefydlwyr y Gymdeithas?
 
(1, 0) 795 Ers rhyw dair blynedd.
(1, 0) 796 Beth am hynny?
 
(1, 0) 801 Am beth wyt ti'n sôn?
 
(1, 0) 808 Helga —!
 
(1, 0) 811 Helga, rhaid iti beidio â siarad fel yna, 'wyt ti'n deall?
(1, 0) 812 'Wyt ti'n mynnu mynd ar dy ben i drybini?
(1, 0) 813 A minnau i'th ganlyn?
(1, 0) 814 Mae'r pamffledi felltith yna wedi troi dy ben, yn amlwg.
(1, 0) 815 Adnodau o'r Ysgrythur ar un ochr, a phropaganda ffiaidd y Comiwnyddion ar yr ochr arall.
 
(1, 0) 817 "Salvadór," ia...
(1, 0) 818 Sut y gwyddit ti yr enw?
 
(1, 0) 820 Fe'i rhoddais iti i'w losgi, nid ei ddysgu.
(1, 0) 821 A'i daflu'n ôl yn fy wyneb wedyn!
 
(1, 0) 823 'Rwyt ti'n rhy ifanc a dibrofiad i ddeall y pethau yma.
(1, 0) 824 Dyna pam 'rwy' mor amyneddgar â thi.
(1, 0) 825 Ar y llaw arall 'rwyt ti'n rhy hen i wneud gwaith y Comiwnyddion iddyn' nhw, yn rhad ac am ddim.
(1, 0) 826 Mae'n ffiaidd, Helga, mae'n ffiaidd ac yn sâl.
 
(1, 0) 828 Wel?
 
(1, 0) 834 Ac fe'i gwelaist â'th lygaid dy hun?
 
(1, 0) 836 Aha —!
 
(1, 0) 843 'Rwy'n gweld, rŵan, be' sy'n dy boeni...
(1, 0) 844 Tyrd, 'merch i, paid â bod mor galon-feddal.
(1, 0) 845 Fe fydd rhywun yn siŵr o ofalu am y bychan.
(1, 0) 846 Mae'n ddrwg gen' i am ei dad.
(1, 0) 847 Ond nid dyna'r negro cyntaf i syrthio mewn ffrwgwd rhwng hwliganiaid.
 
(1, 0) 853 Gwrando arna' i, Helga.
(1, 0) 854 'Dyw'r wlad yma ddim yn berffaith o lawer, Duw a ŵyr.
(1, 0) 855 A 'dydy' ni, y dynion sy'n ei harwain ddim yn berffaith 'chwaith.
(1, 0) 856 Ond rydym yn gwneud ein gorau glas i wella pethau, yn ôl ein hychydig ddoethineb.
(1, 0) 857 Ond 'does 'run ohonom yn anffaeledig...
(1, 0) 858 'Rydym yn gwneud hyn oll i chwi, ein plant.
(1, 0) 859 'Wyt ti ddim yn credu ein bod yn haeddu eich cefnogaeth?
(1, 0) 860 Yn lle hynny, be' sy'n digwydd?
(1, 0) 861 Amheuaeth, crach-feirniadu a sarhâd.
(1, 0) 862 O, mae'n ddigon hawdd i ti fod yn deimladol a ffroen-uchel ynghylch Apartheid!
(1, 0) 863 Aros nes y doi di wyneb yn wyneb â'r broblem yn dy fywyd dy hun.
(1, 0) 864 Fel y dywedais i, — dyna'r prawf.
(1, 0) 865 Mae'r broblem yn ddigon anodd fel y mae, heb i ti ei chymhlethu'n fwy.
(1, 0) 866 O, 'rwy'n edmygu dy ysbryd a'th frwdfrydedd.
(1, 0) 867 Rhinweddau ieuenctid ydy'r rheini ym mhob oes.
(1, 0) 868 Ond oni ddefnyddi di nhw'n adeiladol fe'u llygri...
(1, 0) 869 'Rŵan, gad lonydd imi.
(1, 0) 870 'Rwy' i wedi blino...
 
(1, 0) 874 Edrych, dyma un arall ohonyn' nhw.
(1, 0) 875 Mi hoffwn i wybod sut y ma' nhw'n dod i'r tŷ yma...
(1, 0) 876 Darllen o.
 
(1, 0) 879 Edrych ar y sorod gwenwynig yr ochr arall.
(1, 0) 880 A'r enw ar y gwaelod, — "Salvadór" — Gwaredwr!
(1, 0) 881 Penboethyn hanner-pan, mae'n debyg.
(1, 0) 882 Llechgi o Gomiwnydd!
(1, 0) 883 Hwn a'i siort sy'n creu anghydfod a chwerwedd rhwng Du a Gwyn.
(1, 0) 884 Mi rown i unrhyw beth i gael gafael ynddo fo!
 
(1, 0) 890 Hidia befo'r llefrith, Amos.
(1, 0) 891 Tyrd yma.
 
(1, 0) 894 Beth a wyddost ti am hwn?
 
(1, 0) 897 O, paid â bod mor hurt!
(1, 0) 898 Mae arna' i eisiau gwybod sut y daeth ar fy nesg.
(1, 0) 899 Edrych arno.
 
(1, 0) 901 Ys gwn i!...
(1, 0) 902 Welaist ti o o'r blaen?
 
(1, 0) 904 Edrych ym myw fy llygaid, Amos.
(1, 0) 905 'Wyt ti'n dweud y gwir?
 
(1, 0) 909 O'r gora'.
(1, 0) 910 'Che's i erioed achos, hyd yma, i amau d'air.
(1, 0) 911 Ond os gweli di sothach maleisus fel hwn eto, dan enw "Salvadór," rho fo yn y tân.
(1, 0) 912 'Wyt ti'n deall?
 
(1, 0) 915 Ia.
(1, 0) 916 'Wyddost ti pwy ydy' o?
 
(1, 0) 918 Ateb fy nghwestiwn, 'wyddost ti pwy ydy' o?
 
(1, 0) 923 'Wyt ti'n siŵr, rŵan?
 
(1, 0) 927 O'r gora', 'rwy'n dy goelio.
(1, 0) 928 Ond deall hyn: os byth y caf allan dy fod yn celu rhywbeth, fe fydd yn edifar gan dy enaid.
(1, 0) 929 'Ydy' hynna'n glir?
 
(1, 0) 932 Na, dyna'r cyfan.
(1, 0) 933 Cei fynd rŵan.
 
(1, 0) 939 Beth?...
(1, 0) 940 Cei, wrth gwrs.
(1, 0) 941 Syniad rhagorol...
(1, 0) 942 Dos i'r ardd ì nôl tusw iddo fo.
 
(1, 0) 953 Yn ddig?
(1, 0) 954 Am beth?
 
(1, 0) 956 Dim o gwbl, Helga...
(1, 0) 957 Os edrychwn ni ar ôl yr ardd, gall fod o fudd i eraill hefyd...
(1, 0) 958 'Wyt ti'n deall beth wy'n ei feddwl?