Ciw-restr

Ar Ddu a Gwyn

Llinellau gan Hoffman (Cyfanswm: 93)

 
(1, 0) 262 Botha, 'glywaist ti am y pwll?
 
(1, 0) 265 Oes yna rywun wedi —?
 
(1, 0) 267 Mae yna stori yn y dre' fod deg o weithwyr ar goll.
 
(1, 0) 270 O, mae'n dda gen' i glywed.
 
(1, 0) 273 O, p'nawn da, Helga.
(1, 0) 274 'Wnes i ddim bwriadu bod yn anghwrtais.
 
(1, 0) 278 Diolch...
(1, 0) 279 Fe fydd hyn yn golled fawr i'r Cwmni, Botha?
 
(1, 0) 284 Wel, mae hynna'n ollyngdod.
(1, 0) 285 Cofia fod gen' i siâr ynddo fo!
 
(1, 0) 289 Eich gwin chi, Helga?
 
(1, 0) 291 'Does yna mo'i hafal yn y wlad, felly!
(1, 0) 292 Diolch yn fawr,
 
(1, 0) 297 'Roeddwn i ar y ffordd yma pan glywais i, Botha.
 
(1, 0) 300 'Dwy' i ddim yn deall.
(1, 0) 301 Beth arall?
 
(1, 0) 304 Dim o gwbl!
(1, 0) 305 'Dyw'r ychydig a fuddsoddais i ddim gwerth colli munud o gwsg yn 'i gylch.
(1, 0) 306 Hwyrach na choeli di ddim, ond fel cyffur y bydda' i'n edrych ar aur, nid fel cyfoeth.
 
(1, 0) 308 Mae'n berffaith wir iti.
 
(1, 0) 310 Fe wyddost yn eitha' da pam 'rydw' i yma, Botha.
 
(1, 0) 313 Fy nyletswydd fel meddyg ydy' iachâu.
(1, 0) 314 Ond 'alla' i wneud dim heb dy gydweithrediad di.
(1, 0) 315 Pam wyt ti'n mynnu bod mor styfnig?
 
(1, 0) 318 Petait wedi gwrando arna' i ynghynt, fyddit ti ddim yn y cyflwr yma heddiw.
 
(1, 0) 321 Mi wn i, Helga.
(1, 0) 322 'Rwy'n cydymdeimlo'n fawr â chi...
(1, 0) 323 Hawdd y gelli di chwerthin, Botha!
 
(1, 0) 327 Hanner munud rŵan —!
 
(1, 0) 329 Mae eich tad yn cellwair fel arfer, Helga.
 
(1, 0) 335 'Roedd yr arwyddion yn ddigon tebyg.
 
(1, 0) 340 Mae'n dda 'mod i wedi gwneud, ne fyddit ti ddim yma heddiw!
 
(1, 0) 343 Felly'n wir!
(1, 0) 344 Wel, paid â dibynnu ar lwc eto.
 
(1, 0) 346 'Rwy'n cymryd dy wydnwch i ystyriaeth.
(1, 0) 347 Ond cofia fod i'r gadwyn gryfa' ei dolen wanna'.
(1, 0) 348 'Dwy'i i ddim yn gwneud camgymeriad, 'wyddost ti.
 
(1, 0) 350 Mi ydw' i'n trio 'ngora glas dy gadw di'n fyw.
 
(1, 0) 354 Mae'n rhaid iti wrando arna' i, Botha.
(1, 0) 355 Mae'r hen gorff gwydn yma'n erfyn am orffwys.
 
(1, 0) 358 Fel hen gyfaill, 'wnei di goelio am funud 'mod i o ddifri'?
(1, 0) 359 'Mod i'n wir bryderus yn dy gylch?
 
(1, 0) 365 Fe fydd yn rhaid iddo wrando, 'fory.
 
(1, 0) 367 'Wyt ti'n cofio i mi gymryd sampl o'th waed di ddoe?
 
(1, 0) 369 'Rwy' i wedi ei anfon i Hertz.
 
(1, 0) 372 Un o arbenigwyr mwya'r wlad yma, Botha.
 
(1, 0) 375 Tipyn o salwch?
(1, 0) 376 Gwrando, Botha, mae gen' i newydd pur ddifrifol iti.
 
(1, 0) 380 'Rwyf i o'r farn fod triniaeth law-feddygol yn angenrheidiol iti.
(1, 0) 381 A hynny ar frys.
 
(1, 0) 383 Bron yn siŵr ─
 
(1, 0) 385 'Does 'run meddyg yn anffaeledig.
(1, 0) 386 Dyna pam 'rwy' i mor awyddus i gael barn Hertz.
(1, 0) 387 Ac yr wy' i'n hollol sicr o un peth.
(1, 0) 388 Fe fydd yn rhaid iti gael trawsnewid gwaed cyn hynny.
 
(1, 0) 390 O, paid â gofyn imi fanylu, Botha.
(1, 0) 391 Mae gennyt ddigon o ymddiriedaeth yn fy nhipyn gallu erbyn hyn, gobeithio!
 
(1, 0) 394 Y felltith ydy' na wn i byth pa bryd yr wyt ti o ddifri' a phryd yr wyt ti'n cellwair.
(1, 0) 395 Ond aros funud, mae gen' i newydd arall, iti.
 
(1, 0) 397 Nid ynddo'i hun.
(1, 0) 398 Ond gallai achosi trafferth.
 
(1, 0) 400 'Wyddit ti dy fod yn perthyn i grŵp-gwaed prin?
(1, 0) 401 Mor brin ag un ymhob miliwn?
 
(1, 0) 403 Fel mater o ffaith dim ond un o'r grŵp hwnnw a welais i erioed.
(1, 0) 404 Rhyw bum mlynedd yn ôl.
 
(1, 0) 406 Dyna'r drwg, 'fedra' i yn fy myw gofio.
 
(1, 0) 408 Mi wnes i gofnod o'r achlysur, 'rwy'n sicr o hynny.
 
(1, 0) 410 'Fedra' i ddim dod o hyd i'r cofnod!
 
(1, 0) 412 O, fe ddown o hyd i'r dyn, paid â phryderu.
(1, 0) 413 Mae o yn yr ardal yma yn rhywle.
(1, 0) 414 Peth hawdd fydd rhoi apêl ar y radio.
(1, 0) 415 Yn y cyfamser, ymgynghori â Hertz.
(1, 0) 416 Cawn weld beth fydd ei ddyfarniad yfory.
 
(1, 0) 418 Ia, mae'n dod i'm gweld i'r ysbyty.
(1, 0) 419 Hwyrach y byddi'n barotach i dderbyn cyngor dieithryn!
(1, 0) 420 'Ge'st ti rywfaint o orffwys heddiw?
 
(1, 0) 424 Ffolineb y doeth!
(1, 0) 425 Llafurio a chwysu efo'i araith, mae'n debyg.
 
(1, 0) 434 Mae'n ormod o dreth ar dy nerth, Botha.
(1, 0) 435 Gwell peidio.
 
(1, 0) 475 Mae'n rymus, Botha.
(1, 0) 476 Yn rymus a diffuant.
(1, 0) 477 Rhaid imi dy longyfarch.
 
(1, 0) 481 Ond tyrd rŵan: eistedd i lawr.
(1, 0) 482 'Rwyt ti'n edrych braidd yn flinedig.
 
(1, 0) 484 'Dwyt ti i wneud dim rhagor heddiw, 'wyt ti'n deall?
(1, 0) 485 Cofia gadw llygad arno fo, Helga.
 
(1, 0) 492 Gobeithio y cofi di hynna ar ôl i mi fynd!
(1, 0) 493 Mi ddof yma eto nos yfory.
(1, 0) 494 Fe fydd adroddiad Hertz gen' i pryd hynny.
 
(1, 0) 496 P'nawn da i chwi eich dau,
 
(1, 0) 501 O, diolch am y gwin, hefyd, Helga.
(1, 0) 502 'Roedd o'n ardderchog!