Ciw-restr

Dyrchafiad Arall i Gymro

Llinellau gan Catrin (Cyfanswm: 60)

 
(1, 0) 24 Ewch i molchi, John, a gadwch i'r tân yna.
(1, 0) 25 Mi goleua i o.
 
(1, 0) 27 O'r gora, brysiwch wir; mae hi'n oer ofnadwy i sefyllian o gwmpas, a chitha wedi cael annwyd fel rydech chi.
 
(1, 0) 29 Beth sy arnoch chi'r bore ma, John?
(1, 0) 30 Rydech chi'n ddistaw iawn.
(1, 0) 31 Oes rhwbeth ar ych meddwl chi, deudwch?
 
(1, 0) 33 Ych clywed chi'n ochneidio, a'ch gweld chi'n edrych mor syn.
(1, 0) 34 Rhoswch, dowch yma, John; mi wn i bedi'r mater.
 
(1, 0) 36 Poeni rydech chi fod yr hen fargen yna yn y chwarel wedi mynd mor sâl, ac ofn arnoch chi na chewch chi ddim digon o gyflog y mis yma i dalu'r addewid at ddyled y capel.
(1, 0) 37 Wel, wir, wn i ddim i beth rydech chi'n gneud baich o'ch crefydd fel hyn─tasa bawb yn rhoi cystal at yr achos ag yr yden ni 'n roi, fasa raid poeni dim pan ddaw ambell i fis gwan fel hyn heibio.
 
(1, 0) 39 Wel, dowch i gael ych brecwast ynte, mae'r y tê yn barod.
(1, 0) 40 Mi gewch molchi wedyn.
 
(1, 0) 43 John!
(1, 0) 44 Beth ydi'r mater?─
(1, 0) 45 Deudwch wrtha i; fethis i erioed ych cysuro chi o'r blaen, a fethai ddim y tro yma.─
(1, 0) 46 Dowch, deudwch wrth ych gwraig.
 
(1, 0) 48 Chwe blynedd i fis Ebrill dwytha; mi ddylech chi gofio cystal a finna.
 
(1, 0) 50 Gwylia?
(1, 0) 51 Beth ydech chi'n feddwl?
(1, 0) 52 Mynd am dro'n bell ydech chi'n feddwl?
 
(1, 0) 54 Dim ond yr wythnos y bu'ch mam farw, rydw i'n meddwl.
 
(1, 0) 56 Ydech chi'n meddwl mynd am dro i rywle?
 
(1, 0) 61 Peidiwch a chyboli, wir─lle cawn arian i gychwyn, ydech chi'n feddwl?
(1, 0) 62 Dydech chi ddim yn hapus yma hefo mi ag Ifan bach, John?
 
(1, 0) 70 John?
 
(1, 0) 72 Deudwch beth sy wedi'ch styrbio chi'r bora ma... mi wela fod yna rwbeth go fawr o'i le arnoch chi.
 
(1, 0) 75 Hitiwch chi befo Ifan,─troi'r stori ydi peth fel yna...
(1, 0) 76 Deudwch wrtha i, nghariad i.
 
(1, 0) 78 Wna i ddim chwerthin, John, mi wyddoch yn iawn.
 
(1, 0) 84 Wel, mi fydd oddiar ych meddwl chi wedi i chi ddeud o.
(1, 0) 85 Dowch.
 
(1, 0) 87 Wn i ddim sut i ddeud wrthoch chi,─bydda ac na fydda chwaith.
 
(1, 0) 90 Hwnnw fu'n gweithio yn ych ymyl chi ym Mhonc Mosus?
 
(1, 0) 96 Medru gweld beth?
 
(1, 0) 100 Fedrai ddim mynd ar ych hol chi yn y fan yna, John; rydech chi'n ormod o sglaig i mi...
(1, 0) 101 Ond deudwch ych breuddwyd.
 
(1, 0) 109 Na wn i, wir.
 
(1, 0) 113 Twt, peidiwch â styrbio'ch hunan ddim,─does gen i ddim coel o gwbwl ar freuddwydion.
(1, 0) 114 Dydech chi ddim yn cofio amdanoch ych hunan yn breuddwydio ers talwm, newydd i Ifan gael ei eni, fod rhyw bobol fawr wedi dwad heibio, wedi i gipio fo yn i cerbyd, a chitha {yn gwenu} wedi rhedeg ar i hola, ac wedi taro Ifan oddiar sêt y car hefo'ch esgid?
 
(1, 0) 120 Peidiwch a gadael imi'ch perswadio chi beth bynnag, y naill ffordd na'r llall.
(1, 0) 121 Gnewch chi fel rydech chi'n meddwl yn ora, John bach.
 
(1, 0) 129 Hylo, Tomos!
(1, 0) 130 Beth sy wedi d'yrru di yma allan o dy ffordd yr adeg yma o'r dydd, fel hyn?
(1, 0) 131 Eistedd i lawr.
(1, 0) 132 Mae John wrthi hi'n molchi.
 
(1, 0) 134 Aros funud; mae arna i eisio gofyn rhwbeth i ti, a fynnwn i er dim i John glywed.
 
(1, 0) 136 Mae hi'n fain iawn arnon ni'r mis yma, ac mae ar Ifan bach eisio lot o betha newydd.
(1, 0) 137 Oes gen ti ddim rhyw chweigien roet ti'n fenthig ini dan ben y mis?
 
(1, 0) 141 Diolch yn fawr iti.
 
(1, 0) 143 Dim gair, Tomos, cofia.
 
(1, 0) 159 Wel, dwad dy reswm, Twm.
 
(1, 0) 174 Dydi John ddim yn mynd i'r chwarel chwaith, Twm.
 
(1, 0) 183 Rhybudd gan Ragluniaeth oedd o, yn deud fod damwain i fod yn ych bargen chi heddiw.
(1, 0) 184 Dos yn ol i dy wely, Twm, a chitha hefyd, John.
(1, 0) 185 Nid yn amal y byddwch chi'n cael siawns i gysgu heb ddim yn galw arnoch chi.
 
(1, 0) 192 Arhoswch chi adre heddiw ych dau beth bynnag, ac mi gewch weld beth ddigwydd yno heddiw.
 
(1, 0) 209 Sana Ifan bach.
 
(1, 0) 212 Yn lyb?
 
(1, 0) 219 Mae arna i ofn fod y rheiny llawn cyn waethed.
 
(1, 0) 224 Dim ond deuswllt dan ben y mis.