Ciw-restr

Dyrchafiad Arall i Gymro

Llinellau gan Desc (Cyfanswm: 69)

(1, 0) 1 Cegin Pen y Rhos, tyddyn bychan dwy acer ar ymyl y Rhos Fawr yn Sir Gaernarfon.
(1, 0) 2 Yn y pared gyferbyn, y mae ffenestr fechan bedair cwarel, yn dangos trwch mawr y mur, ac ar yr ochr chwith iddi, dresel dderw hen ffasiwn iawn, yn dal pethau hen a newydd, llestri gan mwyaf.
(1, 0) 3 Rhwng y dresel a'r ffenestr, y mae cloc wyth niwrnod yn perthyn i genhedlaeth neu ddwy ar ol y dresel; a ffyn ac umbrela neu ddau yn y gongl wrth ei ochr.
(1, 0) 4 Ar yr ochr dde i'r ffenestr, cwpwrdd gwydr, yn llawn o lyfrau.
(1, 0) 5 Ar y pared de, y mae'r tân o dan simdde fawr, a mainc yn cyrraedd oddiwrtho i'r llawr, o dan y simdde.
(1, 0) 6 Y mae drws y siambr yn y pared chwith, ac yn nes i gefn yr ystafell, y mae llen laes yn cuddio gwaelod y grisiau sy'n arwain i'r llofft.
(1, 0) 7 Nid oes lofft o gwbl uwchben y gegin ei hunan, ac y mae'r nenbrennau i'w gweled yn amlwg.
(1, 0) 8 Y mae'r drws cefn yn y gongl dde y tu ol i'r simdde.
(1, 0) 9 ~
(1, 0) 10 Ar ganol y llawr, y mae bwrdd bychan ac oilcloth arno, a Beibl mawr a llyfr arall wedi eu gadael yno er y noson cynt.
(1, 0) 11 Ar y mur, llun Williams Pant-y-celyn, a Gladstone, a darlun lliwiedig o frwydr Tel-el-Kebir.
(1, 0) 12 Y mae popeth yn boenus o lân.
(1, 0) 13 Ar gadair rhwng y ddau ddrws y mae dillad plentyn, ac esgidiau o dani, a dwy hosan ar gefn y gadair.
(1, 0) 14 ~
(1, 0) 15 Pump o'r gloch y bore ydyw, yn y gaeaf, felly y mae y popeth yn hollol dywyll.
 
(1, 0) 28 John yn myned at y drws ac yn sefyll fel o'r blaen ac yn ochneidio.
 
(1, 0) 41 Y ddau yn eistedd i lawr wrth y bwrdd ac yn bwyta.
 
(1, 0) 125 Catrin yn tacluso'r bwrdd.
(1, 0) 126 Curo ar y drws, a dyn mewn dillad chwarelwr yn dyfod i fewn.
 
(1, 0) 149 Ifan yn pesychu o'r siambar.
 
(1, 0) 188 Tomos yn troi tua'r drws.
 
(1, 0) 202 Ifan yn pesychu o'r siambar.
 
(1, 0) 205 Ifan yn pesychu eto.
(1, 0) 206 Distawrwydd.
(1, 0) 207 John yn dal i ddatod ei esgidiau, ac wedi datod un esgid, yn rhoi ei law ar yr hosanau ar gefn y gadair, ac yna yn edrych ar ei law.
 
(1, 0) 220 Sŵn traed dynion ar y ffordd yn rhedeg am y trên.
(1, 0) 221 John yn edrych ar y cloc.
(1, 0) 222 Ifan yn pesychu eto.
 
(1, 0) 228 John yn cau ei esgidiau i fyny ar unwaith, ac yn gafael yn ei het a'i flwch bwyd.}
 
(1, 0) 232 Yn agor y drws ac yn myned allan.
(1, 0) 233 Sŵn ei draed yn rhedeg i'w glywed ar y ffordd.
(1, 0) 234 Catrin a Tomos yn edrych yn syn ar eu gilydd, ac yn dal esgid bob un yn eu llaw...
(1, 0) 235 Trên y gweithwyr yn chwibanu.
(1, 0) 236 ~
(1, 0) 237 LLEN
(2, 0) 238 Y mae deugain mlynedd o amser rhwng Act 1 ag Act 2.
(2, 0) 239 ~
(2, 0) 240 Llyfrgell yn nhy Ifan Morris yng ngorllewin Llundain, tua naw o'r gloch y nos.
(2, 0) 241 Ffenestr Ffrengig yng nghefn yr ystafell, a llenni trymion arni; ar y dde i'r ffenestr, cwpwrdd yn llawn o lyfrau.
(2, 0) 242 Drws ar yr ochr chwith, a rhyngddo a'r ffenestr yr hen gloc a welsom yn nhy John Morris.
(2, 0) 243 Tân ar y llaw dde.
(2, 0) 244 Bwrdd mawr derw yn y canol, a phentwr o lyfrau gleision, papurau, etc., arno.
(2, 0) 245 Ar soffa wrth y tân y mae Mrs. Morris yn eistedd yn darllen.
(2, 0) 246 ~
(2, 0) 247 Ifan Morris yn dyfod i mewn; y mae ef a'i wraig mewn evening dress, gan eu bod newydd orffen eu cinio.
(2, 0) 248 Y mae'n debig iawn i'w dad, ond ei fod ychydig yn dalach ac yn sythach ei gerdded, ond y mae ei wallt yn wynnach nag oedd gwallt ei dad, pan welsom ef.
(2, 0) 249 Y mae ei wyneb yn feinach, ac yn dangos mwy o graffter, er nad oes dim mwy o ôl diwylliant arno.
 
(2, 0) 265 Yn chwilio eto a'i gefn at ei wraig; hithau'n araf yn cymryd papur newydd odditan un o'r llyfrau ar y bwrdd, ac yn ei guddio'n llechwraidd o dan glustog y soffa.
 
(2, 0) 301 Yn ail oleu ei sigar ac yn codi ei goesau ar y soffa.
(2, 0) 302 Distawrwydd mawr.─
(2, 0) 303 Mrs.Morris yn edrych yn bryderus arno.─
(2, 0) 304 Yntau 'n dal i ddarllen.
(2, 0) 305 Yn codi'n sydyn.
 
(2, 0) 351 Cynnwrf wrth y drws.
(2, 0) 352 Llais.
 
(2, 0) 357 Ifan Morris yn neidio i fyny ac yn rhedeg at y drws, ond cyn iddo ei gyrraedd, y mae'r drws yn agoryd, a Tomos yn dyfod i fewn.
(2, 0) 358 Mae ei wisg yn od o wladaidd, a bag mawr ganddo yn un llaw, a het ac umbrela yn y llall.
(2, 0) 359 Mae erbyn hyn yn hen ddyn, a gwaith caled y chwarel wedi ei grymu.
(2, 0) 360 Hawdd gweled er hynny ar ei wyneb nad yn ofer y bu yn ysgol bywyd.
 
(2, 0) 413 Yn symud at y drws.
(2, 0) 414 Drws yn agor a llais y forwyn yn galw enw Sir Henry Fawcett-Edwards.
(2, 0) 415 Y Prif-weinidog yn dyfod i mewn.
(2, 0) 416 Dyn tâl main, a wyneb ganddo na allai'r un dewin yn y byd ei ddarllen.
(2, 0) 417 Ond gallai dyn craff ddyfalu llawer─er engraifft, ei fod wedi gweled gormod, ac wedi deall rhy ychydig─a'i fod wedi blino ar yr unig beth yr oedd yn ei ddeall, sef y byd.
 
(2, 0) 440 Yn troi at y drws.
(2, 0) 441 Llais y forwyn.
(2, 0) 442 Mrs. Morris yn mynd at y drws, ac yn dyfod yn ol a pharsel yn ei llaw.
 
(2, 0) 447 Ifan mewn distawrwydd yn agor y papur ac yn codi i fyny bâr o esgidiau plentyn, ac hosanau─ei esgidiau a'i hosanu ei hunan─a welsom yn Act I.
 
(2, 0) 456 LLEN