|
|
|
|
(0, 1) 17 |
Dyn. |
(0, 1) 18 |
Siwt, tei ac ati. |
(0, 1) 19 |
Ugeiniau hwyr. |
|
|
(0, 1) 23 |
Hwn yw ALUN. |
(0, 1) 24 |
Mae'n sefyll mewn tawelwch. |
(0, 1) 25 |
Wrth ei draed, tun gwag. |
(0, 1) 26 |
~ |
(0, 1) 27 |
Saib. |
|
|
(0, 1) 29 |
Mae ALUN yn edrych at y drws. |
|
|
(0, 3) 65 |
Rydw i am dy roi di ar y bwrdd coffi fan hyn. |
(0, 3) 66 |
Ikea. |
(0, 3) 67 |
Y bwrdd coffi. |
(0, 3) 68 |
Nid bod angen i ti wybod hynny ond mae pobol yn gofyn weithiau. |
(0, 3) 69 |
'Is that a Nornäs?' |
(0, 3) 70 |
Why yes, it is. I assembled it myself. Now use that coaster or I'll shoot your stupid head off. |
(0, 3) 71 |
Fyddi di ddim yn ymwybodol o Ikea. |
(0, 3) 72 |
Y cysyniad o 'Ikea'. |
(0, 3) 73 |
Rydw i'n hoff iawn. |
(0, 3) 74 |
O'r cysyniad. |
(0, 3) 75 |
Popeth yn ei le a lle i bopeth. Aros y tu mewn i'r llinellau. Dilyn yr arwyddion ar hyd y daith er mwyn gweld a phrofi popeth sydd angen. |
(0, 3) 76 |
Dim surprises. |
(0, 3) 77 |
Pawb yn gwybod yn union beth i ddisgwyl. |
(0, 3) 78 |
Profiad effeithlon tu hwnt. |
(0, 3) 79 |
Polished. |
(0, 3) 80 |
Ac mae'r Swedish meatballs yn dda iawn hefyd. |
(0, 3) 81 |
~ |
(0, 3) 82 |
Rydw i am gadw'r caead ar y tun os yw hynny'n iawn? |
(0, 3) 83 |
Mi fydd hi'n galw cyn bo hir. Dydw i ddim eisiau iddi dy weld di. |
(0, 3) 84 |
Ddim 'to. |
(0, 3) 85 |
Dyw hi ddim yn barod. |
(0, 3) 86 |
Mae'r ddynol ryw yn dueddol o fod yn gaeedig tuag at bethau newydd. |
(0, 3) 87 |
Pethau gwahanol. |
(0, 3) 88 |
Dyna sydd yn egluro llwyddiant Ikea. |
(0, 3) 89 |
Pobol yn hoffi'r cyfarwydd. |
(0, 3) 90 |
Hoffi gwybod beth i ddisgwyl. |
(0, 3) 91 |
Y rheswm dros ein hofn o farwolaeth, am wn i. |
(0, 3) 92 |
The unknown. |
(0, 3) 93 |
Pobol yn hoffi gwybod beth sy'n dod. |
(0, 3) 94 |
Predictability. |
(0, 3) 95 |
Yn hoffi pethau wedi'u gwneud mewn ffordd arbennig. |
(0, 3) 96 |
Roedd hen ffrind i fi yn bwyta'r union un frechdan ar yr union un diwrnod bob wythnos yn ysgol. Dydd Llun, ham. Dydd Mawrth, cheddar. Mercher, twrci Bernard Matthews. Iau, caws soft. Dydd Gwener, fish paste. Bob wythnos. Dim eithriadau. |
(0, 3) 97 |
Dim byd annisgwyl. |
(0, 3) 98 |
Well-oiled machine. |
(0, 3) 99 |
Mae gan ddynoliaeth bosibiliadau helaeth, ond mae'r rhan fwyaf ohonom yn cadw ein byd yn fach er mwyn gwneud pethau'n haws. |
(0, 3) 100 |
Dim sialens. |
|
|
(0, 3) 106 |
Ti ddim yn meddwl bod e'n gweithio? |
|
|
(0, 3) 110 |
Ma' pawb yn hoffi meatballs Ikea. |
|
|
(0, 3) 116 |
Dyna'r pwrpas. |
(0, 3) 117 |
Routine. |
(0, 3) 118 |
Dangos diflastod bywyd. |
|
|
(0, 3) 121 |
Ie, Owen rhywbeth. |
(0, 3) 122 |
Yr un hen frechdanau trwy ysgol gynradd i gyd. |
|
|
(0, 3) 130 |
Gwranda, fi'n gorfod mynd. |
|
|
(0, 3) 133 |
Siarada i gyda ti cyn bo hir. |
|
|
(0, 3) 137 |
Joiwch. |
|
|
(0, 3) 141 |
Ges di'r croissants? |
|
|
(0, 3) 144 |
Sori. |
|
|
(0, 3) 147 |
Iawn. Ti? |
|
|
(0, 3) 149 |
Diolch, Han. |
|
|
(0, 3) 151 |
Pa un? |
|
|
(0, 3) 153 |
Yw e? |
|
|
(0, 3) 155 |
Ble ges di'r croissants, 'te? |
|
|
(0, 3) 157 |
Y bakery 'di cau? |
|
|
(0, 3) 160 |
Pam gaeodd e? |
|
|
(0, 3) 163 |
Ddim yn cynnig Clubcard points. |
|
|
(0, 3) 165 |
O ie... |
(0, 3) 166 |
Ie, wrth gwrs. |
(0, 3) 167 |
Sori. |
(0, 3) 168 |
Eistedda. |
|
|
(0, 3) 171 |
Beth? |
|
|
(0, 3) 173 |
Na. |
(0, 3) 174 |
Hen dun, 'na'i gyd. |
|
|
(0, 3) 177 |
Wedi'i adael yna am funud. |
|
|
(0, 3) 179 |
Dim. |
|
|
(0, 3) 181 |
Dim byd o bwys. |
|
|
(0, 3) 183 |
Mae e yn y genes. |
|
|
(0, 3) 192 |
Good save. |
|
|
(0, 3) 194 |
Maen nhw'n dal i gyrraedd? |
|
|
(0, 3) 196 |
Card factory. |
|
|
(0, 3) 199 |
Coasters. |
|
|
(0, 3) 201 |
Y coasters. |
|
|
(0, 3) 204 |
Hang on... |
|
|
(0, 3) 206 |
Briwsion. |
(0, 3) 207 |
Dydw i ddim eisiau croissant dros y llawr. |
|
|
(0, 3) 209 |
Na. |
(0, 3) 210 |
Trefnus. |
(0, 3) 211 |
Taclus. |
(0, 3) 212 |
Glân. |
|
|
(0, 3) 214 |
Ha! |
|
|
(0, 3) 216 |
Gwell anal na banal. |
|
|
(0, 3) 218 |
Fi'n gwbod, ond – |
|
|
(0, 3) 222 |
O le ga i fara nawr? |
|
|
(0, 3) 224 |
Nawr bod y bakery wedi cau? |
|
|
(0, 3) 226 |
Na. |
(0, 3) 227 |
Mass-produced. |
|
|
(0, 3) 229 |
Fi'n siŵr bod tua chwe siop wag ar y stryd 'na nawr. |
|
|
(0, 3) 233 |
Siop fetio? |
|
|
(0, 3) 240 |
Iawn. |
|
|
(0, 3) 242 |
Ie. |
|
|
(0, 3) 244 |
Ydw. |
(0, 3) 245 |
Ti? |
|
|
(0, 3) 247 |
Good. |
|
|
(0, 3) 251 |
A fi. |
|
|
(0, 3) 253 |
Dyw e ddim yn teimlo'n real. |
|
|
(0, 3) 255 |
Dal i ddisgwyl i bethau... |
|
|
(0, 3) 257 |
... |
|
|
(0, 3) 259 |
Na. |
|
|
(0, 3) 261 |
Disgwyl i bopeth fynd nôl i fel roedden nhw. |
|
|
(0, 3) 263 |
Disgwyl... dydw i ddim yn hollol siŵr. |
(0, 3) 264 |
Mae'n teimlo fel ffantasi. |
(0, 3) 265 |
Fel nad yw hyn mewn gwirionedd wedi digwydd. |
(0, 3) 266 |
Methu credu. |
(0, 3) 267 |
Methu derbyn. |
|
|
(0, 3) 272 |
Felly pryd mae'r cyfarfod? |
|
|
(0, 3) 274 |
Cyfarfod gwaith. |
|
|
(0, 3) 276 |
Ma' 'na wastad gyfarfod. |
(0, 3) 277 |
Pam arall dod yr holl ffordd lawr? |
|
|
(0, 3) 279 |
Cau dy ben. |
|
|
(0, 4) 285 |
MONOLOG – rwy'n gobeithio dy fod ti'n ei hoffi? |
(0, 4) 286 |
~ |
(0, 4) 287 |
ALUN: Rydw i'n boddi. Rydw i'n teimlo fel bod |
|
|
(0, 4) 289 |
Rydw i'n teimlo fel bod... |
|
|
(0, 4) 291 |
Fel bod... |
|
|
(0, 4) 294 |
Rydw i'n dychmygu fy hun mewn ffilm. |
(0, 4) 295 |
Rydw i'n dychmygu fy hun yn eistedd mewn sinema ac yn gwylio fy hun ar y sgrin fawr. Rydw i'n eistedd mewn sinema yn y ffilm yn gwylio ffilm arall ohona i ar y sgrin. Ffilm o fewn y ffilm. |
(0, 4) 296 |
Ac ar y sgrin, rydw i'n sefyll yn stond. Yn hollol lonydd. Ac mae'r byd yn parhau i symud o 'nghwmpas. Yn gyflym. Yr effaith o bopeth yn symud yn gyflym iawn a fi yn y canol yn llonydd ac yn syllu'n syth at y camera. |
(0, 4) 297 |
Fel petai popeth yn ormod i mi. |
(0, 4) 298 |
Overwhelming. |
(0, 4) 299 |
Fel petai'r fi ar y sgrin yn boddi ym mhrysurdeb y byd. |
(0, 4) 300 |
Yn diflannu. |
(0, 4) 301 |
Yn anweledig. |
(0, 4) 302 |
A'r byd yn parhau i droi. |
(0, 4) 303 |
A'r bobol yn parhau i fyw. |
(0, 4) 304 |
A fi yn methu deall hynny. |
(0, 4) 305 |
Yn methu deall sut mae'r byd yn parhau i droi a'r bobol yn parhau i fyw pan mae popeth i fi wedi newid. |
(0, 4) 306 |
Pan mae popeth wedi dod i ben a dim ffordd bosib o weld y byd eto yn yr un ffordd. |
|
|
(0, 5) 319 |
Pryd? |
|
|
(0, 5) 323 |
Yh... |
|
|
(0, 5) 326 |
Na. |
|
|
(0, 5) 329 |
Nag oeddwn. |
|
|
(0, 5) 332 |
Paid. |
|
|
(0, 5) 335 |
Mae hi'n iawn. |
|
|
(0, 5) 338 |
Ydy. |
|
|
(0, 5) 342 |
Rydw i yn cael help. |
|
|
(0, 5) 345 |
Mae'n cymryd amser. |
|
|
(0, 5) 348 |
Dwyt ti ddim yn deall. |
|
|
(0, 5) 351 |
Mae'r ysgrifennu'n helpu. |
|
|
(0, 5) 354 |
Mae'n breifat. |
|
|
(0, 5) 357 |
Pam? |
|
|
(0, 5) 360 |
Wir? |
|
|
(0, 5) 363 |
Ok... mi ddanfona i rywbeth i ti. |
(0, 5) 364 |
Monolog. |
|
|
(0, 5) 367 |
Pryd? |
|
|
(0, 5) 374 |
Pryd wyt ti'n mynd? |
|
|
(0, 5) 379 |
Nes ymlaen. Mi ddanfona i'r monolog draw prynhawn 'ma. |
|
|
(0, 5) 384 |
Pam nawr? |
|
|
(0, 5) 387 |
Nid nawr yw'r amser i fynd i ochr arall y byd. |
|
|
(0, 5) 389 |
A hwn yw'r tro cyntaf i fi glywed am y peth? |
|
|
(0, 5) 393 |
Ni? |
|
|
(0, 5) 397 |
Ti'n mynd gyda Luke? |
|
|
(0, 5) 399 |
Dwyt ti a Luke ddim yn mynd i bara'. |
|
|
(0, 5) 404 |
Fydden i'n dwlu dod i'ch gweld chi. |
(0, 5) 405 |
Rydw i eisiau dod. |
|
|
(0, 5) 410 |
Na, dydw i ddim yn serious. |
(0, 5) 411 |
Na, ond – |
|
|
(0, 5) 415 |
Na... |
(0, 5) 416 |
~ |
|
|
(0, 5) 418 |
Na. |
(0, 5) 419 |
~ |
|
|
(0, 5) 421 |
Na, mae'n ddrud. |
(0, 5) 422 |
Alla i ddim fforddio flights i Australia. |
|
|
(0, 5) 427 |
Sai'n gallu delio 'da hwn ar hyn o bryd. |
|
|
(0, 5) 429 |
Paid. Paid mynd. |
|
|
(0, 5) 432 |
Plîs. |
|
|
(0, 5) 434 |
Beth ma' hwnna i fod i feddwl? |
|
|
(0, 5) 437 |
Paid rhedeg i ffwrdd nawr. |
|
|
(0, 5) 442 |
Dydw i ddim yn charity case. |
(0, 5) 443 |
~ |
|
|
(0, 5) 445 |
Wyt. |
|
|
(0, 5) 447 |
Wrth droi dy gefn ar bopeth sydd gen ti fan hyn? |
|
|
(0, 5) 457 |
Fi'n gwybod, ond – |
|
|
(0, 5) 459 |
Ti yw'r unig un sydd yn yr un sefyllfa â fi. |
(0, 5) 460 |
Pa linc sydd gen i â Mam os wyt ti'n mynd i ochr arall y blincin blaned? |
|
|
(0, 5) 500 |
Iawn. |
|
|
(0, 5) 506 |
Dim. |
|
|
(0, 5) 509 |
Paid. |
|
|
(0, 5) 512 |
Paid. |
|
|
(0, 5) 515 |
Paid. |
|
|
(0, 6) 529 |
Stop! |
|
|
(0, 6) 531 |
Stop. |
|
|
(0, 6) 533 |
Achos. |
|
|
(0, 6) 535 |
Achos. |
|
|
(0, 6) 537 |
'Drych. |
|
|
(0, 6) 539 |
'Drych. |
|
|
(0, 6) 543 |
Helooooo! |
|
|
(0, 6) 545 |
Ti'n galw fi'n g... good looking? |
|
|
(0, 6) 549 |
Strangely attractive, falle... |
|
|
(0, 6) 552 |
Nhw? |
|
|
(0, 6) 556 |
Helooooo! |
|
|
(0, 6) 558 |
Nhw? |
|
|
(0, 6) 561 |
Shots! |
|
|
(0, 6) 574 |
Ok. |
(0, 6) 575 |
Ma' hwn yn cool. |
|
|
(0, 6) 581 |
Un, dau – |
|
|
(0, 6) 583 |
Na. |
|
|
(0, 6) 585 |
Ok. |
|
|
(0, 6) 587 |
Exactly. |
|
|
(0, 6) 592 |
Barod. |
|
|
(0, 6) 599 |
Hang on! |
|
|
(0, 6) 601 |
Hang on. |
|
|
(0, 6) 604 |
Rydw i... |
|
|
(0, 6) 606 |
Rydw... |
|
|
(0, 6) 608 |
Fi'n mynd i fod yn sick. |
|
|
(0, 6) 612 |
Paid. |
(0, 6) 613 |
Paid chwerthin. |
|
|
(0, 6) 615 |
Cau dy ben. |
(0, 6) 616 |
Fi'n sâl. |
(0, 6) 617 |
Fi'n – |
|
|
(0, 6) 620 |
Coaster! |
(0, 6) 621 |
Rho fe ar y fucking coaster! |
|
|
(0, 6) 623 |
Beth sy'n anodd am roi drink ar coaster? |
(0, 6) 624 |
Seriously. |
(0, 6) 625 |
Na. Na. Seriously. |
(0, 6) 626 |
Beth sy'n anodd amdano fe? |
|
|
(0, 6) 628 |
Fi aleidalodd hwnna. |
(0, 6) 629 |
Fi al... alei... buildodd y bwrdd 'na. |
(0, 6) 630 |
Nornäs. |
(0, 6) 631 |
Ti'n deall? |
(0, 6) 632 |
Swedish. |
(0, 6) 633 |
Nornäs. |
(0, 6) 634 |
Mae'n meddwl 'beautiful'. |
|
|
(0, 6) 636 |
Na. |
(0, 6) 637 |
Ond y point yw mai fi greodd y Nornäs 'na. |
(0, 6) 638 |
My own sweat and blood. |
(0, 6) 639 |
Ti'n gweld? |
(0, 6) 640 |
Felly mae angen parch. |
(0, 6) 641 |
"Respect the Nornäs. |
(0, 6) 642 |
Appreciate the Nornäs. |
(0, 6) 643 |
Use a coaster." |
(0, 6) 644 |
Ti'n deall? |
|
|
(0, 6) 646 |
Shut up. |
(0, 6) 647 |
Nawr gwed e. |
|
|
(0, 6) 649 |
Dwi'n caru'r Nornäs. |
|
|
(0, 6) 651 |
Eto. |
|
|
(0, 6) 653 |
Yn uwch. |
|
|
(0, 6) 656 |
Gwedwch e! |
|
|
(0, 6) 658 |
Yn uwch! |
|
|
(0, 6) 660 |
Uwch! |
|
|
(0, 6) 662 |
Good! |
(0, 6) 663 |
So beth 'yn ni wedi dysgu? |
(0, 6) 664 |
Han? |
|
|
(0, 6) 666 |
Ac os wyt ti'n caru'r Nornäs, beth wyt ti'n ddefnyddio? |
|
|
(0, 6) 668 |
Eto. |
|
|
(0, 6) 670 |
Good. |
|
|
(0, 6) 675 |
Fel dylet ti. |
|
|
(0, 6) 677 |
O. |
|
|
(0, 6) 679 |
Mam? |
|
|
(0, 6) 681 |
Yn euog? |
|
|
(0, 6) 683 |
Mae'n teimlo'n annaturiol. |
(0, 6) 684 |
Od. |
|
|
(0, 6) 686 |
Fel nad oes gan bobol sy'n galaru hawl i fwynhau. |
|
|
(0, 6) 688 |
Gwir. |
|
|
(0, 6) 690 |
Ie. |
(0, 6) 691 |
Fi'n credu. |
|
|
(0, 6) 694 |
Capel. |
|
|
(0, 6) 696 |
Capel sydd wedi gwneud i ni deimlo fel 'na. |
(0, 6) 697 |
Magwraeth capel. |
|
|
(0, 6) 699 |
Ma' ysgol Sul yn magu euogrwydd. |
|
|
(0, 6) 701 |
Euogrwydd yw sail crefydd. |
|
|
(0, 6) 703 |
Mae'n bwydo ar euogrwydd. |
|
|
(0, 6) 705 |
Nac ydw. |
|
|
(0, 6) 707 |
Falle. |
|
|
(0, 6) 709 |
Ti'n meddwl? |
|
|
(0, 6) 711 |
Galaru? |
|
|
(0, 6) 713 |
Yr alcohol sy'n diffodd rheswm. |
|
|
(0, 6) 716 |
Rationality. |
|
|
(0, 6) 719 |
Ma' Tequila'n dod ag emosiynau rhyfedd allan mewn pobol hefyd. |
|
|
(0, 6) 722 |
Fi yn gwrando. |
|
|
(0, 6) 725 |
Psych... ti fel psycho... whatever. |
|
|
(0, 6) 728 |
Fi ishe watcho Jeremy Kyle. |
|
|
(0, 6) 730 |
Hang on... |
|
|
(0, 6) 733 |
Repeats. |
(0, 6) 734 |
Ma' nhw'n dangos repeats yn y nos. |
|
|
(0, 6) 736 |
Achos... |
|
|
(0, 6) 738 |
Achos... |
|
|
(0, 6) 740 |
Dim syniad. |
(0, 6) 741 |
Fi'n casáu Jeremy Kyle. |
|
|
(0, 6) 748 |
Ffuglen. |
(0, 6) 749 |
Dyw e ddim yn real. |
|
|
(0, 6) 751 |
Jeremy Kyle. |
|
|
(0, 6) 754 |
Fi'n siŵr bod y Jeremy Kyle Show yn scripted. Drama wedi'i seilio ar ryw fath o realiti. |
|
|
(0, 6) 757 |
Mae'r gwir yna yn rhywle, ond mae'n anodd gweld lle mae'r ffuglen a'r ffaith yn cwrdd. |
|
|
(0, 6) 768 |
Pam mae hi dal yma? |
|
|
(0, 6) 773 |
Pam? |
|
|
(0, 6) 779 |
Pam mae hi'n dal i fod 'ma? |
|
|
(0, 6) 792 |
Leia. |
|
|
(0, 6) 805 |
Y ddau. |
|
|
(0, 6) 807 |
Rwy'n siarad â Leia. |
(0, 6) 808 |
Leia sydd yn y tun. |
|
|
(0, 6) 812 |
Mae angen i mi egluro. |
|
|
(0, 6) 816 |
Mae'n gymhleth. |
|
|
(0, 6) 819 |
Gad i fi – |
|
|
(0, 6) 823 |
Fine! Fine... ok... |
|
|
(0, 7) 844 |
Ni ddylai bywyd fodoli. |
|
|
(0, 8) 849 |
Mae'r posibilrwydd o fywyd yn eithafol o fach. |
(0, 8) 850 |
Mewn termau ystadegol. |
(0, 8) 851 |
Dylai bywyd ddim bodoli. |
(0, 8) 852 |
Ond mae bywyd yn bodoli. |
(0, 8) 853 |
Paradox. |
(0, 8) 854 |
~ |
(0, 8) 855 |
Paradox? – Han, ai dyna'r gair? |
(0, 8) 856 |
~ |
(0, 8) 857 |
Pam, felly, cymryd bywyd yn ganiataol? |
(0, 8) 858 |
Os mai gwyrth yw bywyd? |
(0, 8) 859 |
Pam ydyn ni'n parhau i fyw bywydau trefnus, rheolaidd, caniataol? |
(0, 8) 860 |
Does dim byd routine am fywyd. |
(0, 8) 861 |
Mae bywyd yn anniben. |
(0, 8) 862 |
Dim... beth yw'r gair... predictability. |
|
|
(0, 8) 864 |
Beth yw 'predictability' yn Gymraeg? |
(0, 8) 865 |
Rhywun? |
(0, 8) 866 |
Ta beth. |
(0, 8) 867 |
~ |
(0, 8) 868 |
Mae gan fywyd nifer o ochrau. |
(0, 8) 869 |
Onglau. |
(0, 8) 870 |
Nifer o rannau. |
(0, 8) 871 |
Dim rheolau. |
(0, 8) 872 |
Dim ffurf daclus. |
(0, 8) 873 |
Nid trip i Ikea. |
(0, 8) 874 |
Nid dyna yw bywyd. |
(0, 8) 875 |
Popeth ar unwaith ac yna dim byd o gwbl. |
(0, 8) 876 |
Fel daeargryn. |
(0, 8) 877 |
Dyna gyflwr byw. |
(0, 8) 878 |
~ |
(0, 8) 879 |
Ac eto. |
(0, 8) 880 |
Er i ni gymryd bywyd yn ganiataol. |
(0, 8) 881 |
Rydym yn coroni marwolaeth. |
(0, 8) 882 |
Yn parchu. |
(0, 8) 883 |
Yn ofni. |
(0, 8) 884 |
Addoli. |
(0, 8) 885 |
Er mai marwolaeth yw'r un peth y gallwn ei ragweld. |
(0, 8) 886 |
Yr un peth sydd yn hollol ganiataol. |
(0, 8) 887 |
~ |
(0, 8) 888 |
Datganiad... |
(0, 8) 889 |
~ |
(0, 8) 890 |
Mae'r tebygolrwydd o farwolaeth ar y blaned hon yn gant y cant. |
(0, 8) 891 |
100% |
(0, 8) 892 |
I bawb. |
(0, 8) 893 |
Bob tro. |
(0, 8) 894 |
~ |
(0, 8) 895 |
Rhaid agor ein llygaid. |
(0, 8) 896 |
Rhaid cofio byw. |
|
|
(0, 9) 907 |
Ie. |
|
|
(0, 9) 910 |
O fath. |
|
|
(0, 9) 912 |
Ddim fel E.T. |
|
|
(0, 9) 914 |
Deall beth? |
|
|
(0, 9) 916 |
Ie. |
|
|
(0, 9) 918 |
Alien. |
|
|
(0, 9) 920 |
Sawl gwaith wyt ti eisiau dweud 'alien'? |
|
|
(0, 9) 922 |
Ond? |
|
|
(0, 9) 924 |
Nage. |
|
|
(0, 9) 926 |
Dyw iege ddim yn air. |
|
|
(0, 9) 928 |
Ydyn. |
|
|
(0, 9) 930 |
Unwaith eto, does dim shwd air â nadyn. |
|
|
(0, 9) 932 |
Beth, 'te? |
|
|
(0, 9) 934 |
Pa fath o bêl? |
(0, 9) 935 |
Wyt ti wedi gweld pêl fel hyn o'r blaen? |
|
|
(0, 9) 937 |
Wel dyna ni. |
|
|
(0, 9) 939 |
Hi. |
|
|
(0, 9) 941 |
Hi. |
(0, 9) 942 |
'Hi' yw'r bêl. |
|
|
(0, 9) 944 |
Na. |
(0, 9) 945 |
Na, Alien. |
(0, 9) 946 |
'Hi' yw'r alien. |
|
|
(0, 9) 949 |
Oh my god. |
|
|
(0, 9) 951 |
Rydw i wedi dweud – |
|
|
(0, 9) 954 |
Jyst gwranda – |
|
|
(0, 9) 956 |
Pod. |
|
|
(0, 9) 958 |
O'n i'n cerdded trwy'r parc pan ddes i o hyd iddi. |
|
|
(0, 9) 960 |
Ie. |
|
|
(0, 9) 962 |
Curiosity. |
|
|
(0, 9) 964 |
Hi. |
(0, 9) 965 |
Dyw hi ddim yn beryglus. |
|
|
(0, 9) 967 |
Rydw i'n gwybod. |
|
|
(0, 9) 969 |
Hi. |
(0, 9) 970 |
Wyt ti wedi gweld bomb fel hyn o'r blaen? |
|
|
(0, 9) 972 |
Nid bomb yw hi. |
|
|
(0, 9) 976 |
Na, mae hi'n fyw. |
|
|
(0, 9) 978 |
Rydw i'n gwybod. |
|
|
(0, 9) 981 |
Hi ddywedodd. |
|
|
(0, 9) 984 |
Ie. |
|
|
(0, 9) 986 |
Eglurodd Leia bopeth. |
|
|
(0, 9) 989 |
Fi roddodd yr enw iddi. |
(0, 9) 990 |
Doedd ganddi ddim enw dynol – |
|
|
(0, 9) 992 |
Wilson beth? |
|
|
(0, 9) 996 |
Sai 'di gweld Castaway. |
|
|
(0, 9) 998 |
Unig? |
(0, 9) 999 |
Sut wyt ti'n gwybod os ydw i'n unig? |
|
|
(0, 9) 1001 |
Na. |
|
|
(0, 9) 1003 |
Pam wyt ti'n dal i fod 'ma, 'te? |
|
|
(0, 9) 1005 |
Cer nôl at Luke. |
|
|
(0, 9) 1007 |
Beth? |
|
|
(0, 9) 1009 |
Sai'n deall. |
|
|
(0, 9) 1012 |
Na, ma' Leia'n real. |
(0, 9) 1013 |
Mae hyn i gyd yn real. |
|
|
(0, 9) 1015 |
Profi beth? |
|
|
(0, 9) 1020 |
Pod. |
(0, 9) 1021 |
Pod gyfathrebu. |
|
|
(0, 9) 1023 |
Ochr arall y bydysawd. |
|
|
(0, 9) 1025 |
Solar system arall ar ochr draw'r bydysawd. |
|
|
(0, 9) 1027 |
Fydd hi ddim yn siarad â ti. |
|
|
(0, 9) 1029 |
Achos bod ti'n grac. |
|
|
(0, 9) 1031 |
Ti'n aggresive iawn ar hyn o bryd. |
|
|
(0, 9) 1033 |
Wyt. |
|
|
(0, 9) 1035 |
Wyt. |
|
|
(0, 9) 1040 |
Rydw i'n ceisio egluro. |
|
|
(0, 9) 1043 |
O'n i'n gwybod na fyddet ti'n credu... |
|
|
(0, 9) 1046 |
Doeddet ti ddim yn barod. |
|
|
(0, 9) 1048 |
Am y gwir. |
(0, 9) 1049 |
Mae'r dynol ryw yn dueddol o fod yn gaeedig – |
|
|
(0, 9) 1052 |
Fi ond yn dweud y gwir. |
|
|
(0, 9) 1054 |
Mae ein byd ni'n fach. |
(0, 9) 1055 |
Mae yna gymaint sydd eto i'w ddarganfod... |
|
|
(0, 9) 1057 |
Gymaint allan yn y bydysawd. |
|
|
(0, 9) 1060 |
Does dim angen. |
|
|
(0, 9) 1062 |
Beth? |
|
|
(0, 9) 1064 |
Am beth? |
|
|
(0, 9) 1067 |
Does gan hyn ddim i wneud â Mam. |
|
|
(0, 9) 1069 |
Paid dod â Mam mewn i hyn. |
|
|
(0, 9) 1071 |
Ti fel pawb arall. |
(0, 9) 1072 |
Neb yn deall. |
(0, 9) 1073 |
Neb yn stopio i ddeall a gwrando. |
(0, 9) 1074 |
Jyst barnu. |
(0, 9) 1075 |
Beirniadu. |
(0, 9) 1076 |
Mae'n hawdd i feirniadu, on'd yw e, Hanna? |
(0, 9) 1077 |
Yn haws na gorfod gwrando a trio deall a trio helpu. |
(0, 9) 1078 |
Rwyt ti'n union fel pawb arall. |
(0, 9) 1079 |
Yn union fel yr idiots eraill sy'n nodio a gwenu a beirniadu a ddim yn becso damn amdana i. |
|
|
(0, 9) 1081 |
Ble wyt ti'n mynd? |
|
|
(0, 9) 1083 |
I le? |
|
|
(0, 9) 1085 |
Ble? |
|
|
(0, 9) 1088 |
Beth am Leia? |
|
|
(0, 9) 1090 |
Na, nid dyna – |
|
|
(0, 9) 1095 |
Mi ddywedais i. |
(0, 9) 1096 |
Doedd hi ddim yn barod. |
|
|
(0, 9) 1098 |
Wyt ti'n clywed? |
|
|
(0, 9) 1100 |
Gormod o wybodaeth newydd ar unwaith. |
(0, 9) 1101 |
Dyna'n union beth ddychmygais i fyddai'n digwydd. |
(0, 9) 1102 |
Does dim angen llaeth. |
(0, 9) 1103 |
Esgus i fynd allan. |
(0, 9) 1104 |
'Na'i gyd. |
(0, 9) 1105 |
Mae semi skimmed milk yn fwy o atyniad na bywyd o blaned arall. |
(0, 9) 1106 |
Familiarity. |
(0, 9) 1107 |
Dyna'n union ddywedais i, ontefe? |
(0, 9) 1108 |
~ |
(0, 9) 1109 |
Wyt ti yna? |
|
|
(0, 9) 1111 |
Mae hi wedi mynd nawr. |
(0, 9) 1112 |
Mae hi wedi ffoi. |
|
|
(0, 9) 1114 |
Wyt ti'n grac? |
(0, 9) 1115 |
Wyt ti'n grac gyda fi am dy ddangos di i Han? |
(0, 9) 1116 |
Dwed. |
(0, 9) 1117 |
Dwed wrtha i os wyt ti. |
|
|
(0, 9) 1119 |
Gwranda... |
(0, 9) 1120 |
~ |
(0, 9) 1121 |
Wyt ti yna? |
|
|
(0, 9) 1123 |
Wyt ti yna, Leia? |
|
|
(0, 10) 1131 |
Mae gen ti farc arnot ti. |
(0, 10) 1132 |
Dent bach. |
|
|
(0, 10) 1134 |
Fan hyn. |
|
|
(0, 10) 1136 |
Ie? |
|
|
(0, 10) 1138 |
Wyt ti'n ei deimlo? |
|
|
(0, 10) 1140 |
Rwy'n gweld. |
|
|
(0, 10) 1143 |
Beth am deimladau emosiynol? |
|
|
(0, 10) 1145 |
O ran trosglwyddo teimladau. |
(0, 10) 1146 |
Ydy'r pod yn gallu trosglwyddo teimladau emosiynol? |
(0, 10) 1147 |
Wyt ti'n gallu teimlo emosiwn? |
|
|
(0, 10) 1149 |
Pob emosiwn? |
|
|
(0, 10) 1151 |
Chwech? |
|
|
(0, 10) 1154 |
Am ffordd o symleiddio teimladau! |
|
|
(0, 10) 1157 |
Felly sut wyt ti'n gallu teimlo? |
|
|
(0, 10) 1159 |
Mae'n digwydd yn naturiol. |
|
|
(0, 10) 1162 |
Beth am chwerthin? |
(0, 10) 1163 |
Llefen? |
|
|
(0, 10) 1165 |
Cwtsh. |
(0, 10) 1166 |
Allwch chi ddim cwtsho? |
|
|
(0, 10) 1169 |
Mae cwtsh yn fwy na coflaid. |
(0, 10) 1170 |
Mae cwtsh yn... special. |
(0, 10) 1171 |
Mae'n... mae'n anodd egluro. |
|
|
(0, 10) 1173 |
Wyt ti? |
|
|
(0, 10) 1175 |
Iawn... |
|
|
(0, 10) 1180 |
Na? |
|
|
(0, 10) 1182 |
Dim byd? |
|
|
(0, 10) 1184 |
Sori. |
|
|
(0, 10) 1186 |
Roeddwn i eisiau i ti deimlo cwtsh. |
|
|
(0, 10) 1188 |
Roeddwn i eisiau i ti deimlo'r hyn sydd yn digwydd rhwng dau berson. |
(0, 10) 1189 |
Rhwng pobl ar y blaned yma... |
|
|
(0, 10) 1195 |
Wyt ti wedi teimlo cariad? |
|
|
(0, 10) 1197 |
Mae'n unigryw, felly? |
|
|
(0, 10) 1205 |
Ar dy ben dy hun? |
|
|
(0, 10) 1208 |
Dyw'r ddaear ddim yn iach. |
|
|
(0, 10) 1213 |
Ond mae emosiwn yn gyrru pethau negatif hefyd. |
(0, 10) 1214 |
Emosiwn yw'r rheswm dros ein dioddefaint. |
(0, 10) 1215 |
Dros y boen rydym yn ei deimlo mewn colled. |
|
|
(0, 10) 1218 |
Sut, Leia? |
(0, 10) 1219 |
Helpa i fi ddeall. |
|
|
(0, 10) 1221 |
Plîs. |
|
|
(0, 10) 1224 |
Lladin? |
(0, 10) 1225 |
Sut mae rhyw hen eiriau mewn Lladin i fod i helpu? |
|
|
(0, 11) 1233 |
'Daeargryn' |
(0, 11) 1234 |
~ |
(0, 11) 1235 |
ALUN: Mae profiadau eithafol |
|
|
(0, 11) 1237 |
Pan mae pethau eithafol yn digwydd, |
|
|
(0, 11) 1239 |
Yn ystod adegau anodd yn ein bywydau |
|
|
(0, 11) 1241 |
SHIT |
(0, 11) 1242 |
SHITSHITSHITSHITSHITFUCKSHITSHITSHITTINGSHITTINGFUCKINGSHIT |
|
|
(0, 12) 1248 |
Daeargryn. |
|
|
(0, 12) 1250 |
Ar ddiwrnod yr angladd roedd daeargryn. |
(0, 12) 1251 |
Nid yn San Francisco neu Indonesia. |
(0, 12) 1252 |
Na. |
(0, 12) 1253 |
Ar fy stryd i. |
(0, 12) 1254 |
Ar y stryd gyda'r Tesco Metro a'r bakery sydd wedi cau a'r Ladbrokes 'coming soon'. |
(0, 12) 1255 |
Earthquake yng Nghymru. |
(0, 12) 1256 |
Ar ddiwrnod angladd Mam. |
(0, 12) 1257 |
O bob diwrnod posib. |
(0, 12) 1258 |
O bob diwrnod. |
(0, 12) 1259 |
Ond peidiwch â gofidio. |
(0, 12) 1260 |
Cyn i chi, ffrindiau, boeni gormod – |
(0, 12) 1261 |
Rydw i'n gobeithio ein bod ni'n ffrindiau erbyn hyn. |
(0, 12) 1262 |
Ydyn ni? |
(0, 12) 1263 |
Yn ffrindiau? |
(0, 12) 1264 |
Pa beth bynnag, cyn i chi ofidio, doedd hi ddim yn ddaeargryn fawr. |
(0, 12) 1265 |
Dau pwynt tri ar y raddfa Richter. |
(0, 12) 1266 |
Daeargryn gwan. |
(0, 12) 1267 |
"A pensioner's fart" fel dywedodd rhywun ar Twitter. |
(0, 12) 1268 |
Doedd dim anafiadau. |
(0, 12) 1269 |
Cwympodd un shed mewn gardd ar stryd gyfagos. |
(0, 12) 1270 |
A dyna ni. |
(0, 12) 1271 |
Dyna aftermath y ddaeargryn. |
(0, 12) 1272 |
Un shed fach. |
(0, 12) 1273 |
Pathetic. |
(0, 12) 1274 |
Ond mi wnaeth i mi feddwl... |
|
|
(0, 12) 1277 |
Roedd hi'n arwydd. |
(0, 12) 1278 |
Yn symbol. |
(0, 12) 1279 |
Fel bod y byd yn gwybod bod rhywbeth mawr yn digwydd. |
(0, 12) 1280 |
Fel bod yr holl atomau o fewn ein planed a'r holl atomau o fewn ein solar system a'r holl atomau o fewn ein galaxy a'r holl atomau o fewn yr holl blanedau o fewn yr holl solar systems o fewn yr holl galaxies o fewn ein bydysawd – fel eu bod nhw i gyd yn symud mewn ffordd arbennig er mwyn creu'r ddaeargryn hon ar fy stryd i ar ddiwrnod yr angladd. |
(0, 12) 1281 |
Roedd y bydysawd yn gwybod. |
(0, 12) 1282 |
Pob darn o fywyd yn ymwybodol o arwyddocâd y diwrnod hwn. |
(0, 12) 1283 |
Y foment hon. |
(0, 12) 1284 |
Yn deall beth oedd yn digwydd. |
(0, 12) 1285 |
Daeargryn ar y stryd yn cymysgu gyda'r ddaeargryn yn fy mhen er mwyn paratoi ar gyfer y foment enfawr, erchyll hon. |
(0, 12) 1286 |
Y foment rydw i wedi bod yn aros amdani gydag arswyd. |
(0, 12) 1287 |
Y foment nad ydw i am iddi ddigwydd. |
(0, 12) 1288 |
Ac eto y bydysawd yn dweud ei fod am ddigwydd. |
(0, 12) 1289 |
Yn gorfod digwydd. |
(0, 12) 1290 |
Funeral Friday. |
(0, 12) 1291 |
Y bydysawd yn fy ngwthio i'r angladd. |
(0, 12) 1292 |
Yn rhoi cic yn fy mhen ôl ac yn dweud "gwranda gw'boi, os yw'r holl atomau o fewn y blaned a'r holl atomau o fewn y solar system a'r holl atomau o fewn y galaxy a'r holl atomau o fewn yr holl blanedau o fewn yr holl solar systems o fewn yr holl galaxies o fewn y bydysawd i gyd yn gallu dod at ei gilydd i greu daeargryn, wel, bloody hell, rwyt ti'n gallu mynd i angladd dy fam." |
(0, 12) 1293 |
Dyna oedd y neges. |
(0, 12) 1294 |
Dyna i fi oedd neges y bydysawd ar y diwrnod enfawr, erchyll hwnnw yn fy hanes. |
(0, 12) 1295 |
Roedd y bydysawd wedi siarad. |
|
|
(0, 14) 1315 |
Mae'n bosib rhannu pobol mewn i ddau grŵp. |
(0, 14) 1316 |
Y rhai sy'n llyfu caead iogwrt a'r rhai sydd ddim. |
(0, 14) 1317 |
Mae yna drydydd grŵp hefyd, sef y rhai sydd yn dewis peidio â bwyta iogwrt o gwbwl. Ond mae hynny'n difetha'r naratif. |
(0, 14) 1318 |
O'r ddau grŵp, felly, llyfwr ydw i. |
(0, 14) 1319 |
Rydyn ni'r llyfwyr yn gwneud y gorau o bethau. |
(0, 14) 1320 |
Yn tynnu popeth posib o'n profiadau. |
(0, 14) 1321 |
Pob diferyn bach o iogwrt. |
(0, 14) 1322 |
Dim gwastraff. |
(0, 14) 1323 |
Profi popeth i'r eithaf. |
(0, 14) 1324 |
Dyna'r llyfwyr. |
(0, 14) 1325 |
Dyna oedd Mam. |
(0, 14) 1326 |
Dyna ydw i. |
(0, 14) 1327 |
Oeddwn i. |
(0, 14) 1328 |
Rydw i'n dechrau meddwl bod pethau wedi newid. |
(0, 14) 1329 |
Ai llyfwr fydda i mewn blynyddoedd i ddod? |
(0, 14) 1330 |
Oes posib colli'r elfen lyfu neu ydy llyfu yn y genynnau? |
(0, 14) 1331 |
~ |
(0, 14) 1332 |
Rydw i'n dal i eistedd yn disgwyl iddi gerdded i mewn. |
(0, 14) 1333 |
Fel petai hi ar ei gwyliau ac ar fin dychwelyd. |
(0, 14) 1334 |
Ar fin cyrraedd adre. |
(0, 14) 1335 |
Rydw i'n meddwl am gael plant. |
(0, 14) 1336 |
Plant na fydd yn cwrdd â'u mamgu. |
(0, 14) 1337 |
Mamgu na fydd yn cwrdd â'i hwyrion. |
(0, 14) 1338 |
Rydw i'n meddwl am yr holl brofiadau oedd ganddi i ddod. |
(0, 14) 1339 |
Yr holl iogwrt ar yr holl gaeadau. |
(0, 14) 1340 |
Fy mhriodas. |
(0, 14) 1341 |
Fy mhriodas heb Mam. |
(0, 14) 1342 |
Yr holl benblwyddi. |
(0, 14) 1343 |
Nadoligau. |
(0, 14) 1344 |
A Mam ddim yno. |
(0, 14) 1345 |
Cadair wag. |
(0, 14) 1346 |
Rydw i'n poeni am anghofio. |
(0, 14) 1347 |
Anghofio Mam. |
(0, 14) 1348 |
Yn teimlo'n euog. |
(0, 14) 1349 |
Am fwynhau. |
(0, 14) 1350 |
Am dreulio diwrnod heb feddwl amdani. |
(0, 14) 1351 |
Am chwerthin. |
(0, 14) 1352 |
Am beidio crio. |
(0, 14) 1353 |
Ym mhob darn o hapusrwydd. |
(0, 14) 1354 |
Ym mhob darn o gyffro. |
(0, 14) 1355 |
Euogrwydd. |
(0, 14) 1356 |
~ |
(0, 14) 1357 |
Ac rydw i ofn. |
(0, 14) 1358 |
Ofn y newid. |
(0, 14) 1359 |
Ofn gweld dieithryn yn y drych. |
(0, 14) 1360 |
Y chwerthin. |
(0, 14) 1361 |
Y positifrwydd. |
(0, 14) 1362 |
Hynny'n dod i ben. |
(0, 14) 1363 |
A minnau'n anghofio llyfu. |
(0, 14) 1364 |
Anghofio llyfu caead bywyd. |
|
|
(0, 14) 1371 |
Beth sy'n bod 'da fe? |
|
|
(0, 14) 1375 |
Pwy wyt ti i feirniadu? |
(0, 14) 1376 |
Sut wyt ti'n gallu beirniadu fy ysgrifennu i? |
(0, 14) 1377 |
Ti ofynnodd i gael darllen hwn i gyd. |
|
|
(0, 14) 1380 |
Rydw i wedi rhannu pethau personol. |
(0, 14) 1381 |
Wedi ymddiried ynot ti. |
|
|
(0, 14) 1386 |
Therapi. |
(0, 14) 1387 |
Dyna ddywedaist ti. |
(0, 14) 1388 |
Dyna ddywedon nhw. |
(0, 14) 1389 |
Dyna ddywedodd Leia. |
(0, 14) 1390 |
Ysgrifennu fy nheimladau i lawr. |
(0, 14) 1391 |
'Get it all out.' |
(0, 14) 1392 |
Mae'n helpu. |
|
|
(0, 14) 1395 |
Ydy. |
(0, 14) 1396 |
Rydw i wedi creu byd lle mae fy nheimladau'n gallu anadlu. |
|
|
(0, 14) 1399 |
Mae'n anniben, on'd yw e? |
|
|
(0, 14) 1402 |
Ond mae'r galaru yn anniben. |
(0, 14) 1403 |
A heb ysgrifennu hwn i lawr, fydde' gen i ddim ffordd o'i fynegi. |
|
|
(0, 14) 1407 |
Mae'n anghyson. |
(0, 14) 1408 |
Mae'n gymysglyd. |
|
|
(0, 14) 1414 |
Byd o fewn byd o fewn byd. |
|
|
(0, 14) 1417 |
Ehangu ar realiti. |
|
|
(0, 14) 1421 |
Beth amdani? |
|
|
(0, 14) 1424 |
Fydd hi yma tra 'mod i ei hangen hi. |
|
|
(0, 14) 1429 |
Ti? |
|
|
(0, 14) 1433 |
Rydw i'n barod i ti fynd. |
|
|
(0, 14) 1436 |
Ydw. |
|
|
(0, 14) 1439 |
Fi'n gwybod. |
|
|
(0, 14) 1446 |
Han...? |
|
|
(0, 14) 1449 |
Fi ishe dweud diolch... |
|
|
(0, 14) 1451 |
Ti'n clywed? |
|
|
(0, 14) 1453 |
Fi ishe diolch i ti am – |
|
|
(0, 16) 1495 |
Dweud ffarwél. |
|
|
(0, 16) 1499 |
Un diwrnod. |
|
|
(0, 16) 1503 |
Un diwrnod swyddogol. |
(0, 16) 1504 |
Cyhoeddus. |
(0, 16) 1505 |
I ddweud – |
(0, 16) 1506 |
Parchus. |
(0, 16) 1507 |
I ddweud hwyl fawr. |
(0, 16) 1508 |
~ |
(0, 16) 1509 |
Ac yna mae'r galaru wedi gorffen. |
(0, 16) 1510 |
Popeth anodd wedi mynd. |
(0, 16) 1511 |
Yn ôl rhai. |
(0, 16) 1512 |
Wedi ei lusgo i'r tywyllwch. |
(0, 16) 1513 |
I fannau pella'r bydysawd. |
(0, 16) 1514 |
Pawb yn anghofio. |
(0, 16) 1515 |
Yn mynd yn ôl. |
(0, 16) 1516 |
Yn diflannu. |
(0, 16) 1517 |
Yn gadael y galarwyr i alaru. |
(0, 16) 1518 |
Yn dawel. |
(0, 16) 1519 |
Diolwg. |
(0, 16) 1520 |
Preifat. |
(0, 16) 1521 |
A'r fish paste Fridays yn parhau. |
(0, 16) 1522 |
Fel petai dim wedi newid. |
(0, 16) 1523 |
Fel petai neb wedi mynd. |
(0, 16) 1524 |
~ |
(0, 16) 1525 |
Golchi'r tristwch lawr y sinc. |
(0, 16) 1526 |
Cario 'mlaen cyn sychu'r inc. |
(0, 16) 1527 |
Neb yn deall. |
(0, 16) 1528 |
Neb yn cofio. |
(0, 16) 1529 |
Oriau'n pasio. |
(0, 16) 1530 |
Cloc yn ticio. |
(0, 16) 1531 |
Ysgrifennu lawr fy mhroblem. |
(0, 16) 1532 |
Rhyddhau enaid. |
(0, 16) 1533 |
Creu fy anthem. |
(0, 16) 1534 |
Darllen. |
(0, 16) 1535 |
'Sgwennu. |
(0, 16) 1536 |
Ysgrifennu. |
(0, 16) 1537 |
Therapi i'r creadigol. |
(0, 16) 1538 |
Inbox. Detox emosiynol. |
(0, 16) 1539 |
Creu. Byd. |
(0, 16) 1540 |
Creu. Gair. |
(0, 16) 1541 |
Creu. Drama. |
(0, 16) 1542 |
Creu. Chwaer. |
(0, 16) 1543 |
Dyma gân i'r bobol unig. |
(0, 16) 1544 |
Rhai di-lais a chatatonig. |
(0, 16) 1545 |
Carcharorion yn eu byd, hyd a lled yr haen atomig. |
(0, 16) 1546 |
Creaf hwn i'r rhai sy'n wylo. |
(0, 16) 1547 |
Dwylo clwm a cwlwm glwyfau. |
(0, 16) 1548 |
Rhai sy'n byw mewn holl-dywyllwch. |
(0, 16) 1549 |
Eraill llwm yn nyfnder düwch. |
(0, 16) 1550 |
Pryder. |
(0, 16) 1551 |
Poenus. |
(0, 16) 1552 |
Pwysau'n palu. |
(0, 16) 1553 |
Pili pala'n methu hedfan. |
(0, 16) 1554 |
Methu deall. |
(0, 16) 1555 |
Methu coelio. |
(0, 16) 1556 |
Methu byw ar sail anghofio. |
(0, 16) 1557 |
Dyn yn crio. |
(0, 16) 1558 |
Dyn yn tagu. |
(0, 16) 1559 |
Atgof. |
(0, 16) 1560 |
Adlais. |
(0, 16) 1561 |
Mam yn magu. |
(0, 16) 1562 |
~ |
(0, 16) 1563 |
Dyn yn boddi mewn trafferthion. |
(0, 16) 1564 |
Cyfansoddi 'Ode i'r Estron'. |
|
|
(0, 16) 1574 |
Mae'n amser, Leia. |
(0, 16) 1575 |
~ |
(0, 16) 1576 |
On'd yw e? |