Ciw-restr

Estron

Llinellau gan Han (Cyfanswm: 408)

 
(0, 3) 103 Wyt ti really'n mynd i agor drama yn wafflo am Ikea?
 
(0, 3) 108 Sai'n gwbod...
(0, 3) 109 O'dd y bit am y meatballs yn eitha doniol.
 
(0, 3) 112 Heblaw vegetarians.
(0, 3) 113 A ma'n rhaid i ti gael gwared o'r bit 'da'r sandwiches.
(0, 3) 114 Mae'n mynd 'mlan a 'mlan.
(0, 3) 115 O'n i'n bored yn darllen e.
 
(0, 3) 120 Am Owen o't ti'n siarad, ontefe?
 
(0, 3) 124 A neb ishe eistedd drws nesa iddo fe bob dydd Gwener achos bod y fish paste yn drewi.
 
(0, 3) 127 Alun?
(0, 3) 128 Ti 'ma?
 
(0, 3) 132 Nawr?
 
(0, 3) 135 Iawn.
(0, 3) 136 Ni'n mynd i'r traeth mewn munud.
 
(0, 3) 139 Ta-ra.
 
(0, 3) 142 Wel helo Hanna, sut wyt ti?
(0, 3) 143 Sut o'dd y siwrne?
 
(0, 3) 146 Ti'n ok?
 
(0, 3) 148 Ges i'r croissants.
 
(0, 3) 150 Wedes di ddim bod y bakery 'di cau.
 
(0, 3) 152 Yr un rownd y gornel.
 
(0, 3) 154 Siop wag arall ar y stryd 'na nawr.
 
(0, 3) 156 Tesco Metro.
 
(0, 3) 158 Ciw ridiculous.
(0, 3) 159 O'dd y self checkout out of order.
 
(0, 3) 161 Sai'n gwbod.
(0, 3) 162 Ffaelu cystadlu gyda'r siopau mwy?
 
(0, 3) 164 Yw'r tegell 'mlan 'da ti, neu –
 
(0, 3) 170 Ti brynodd rhain?
 
(0, 3) 172 Y Quality Street.
 
(0, 3) 175 Pam mae e ar y coffee table?
(0, 3) 176 Rhan o'r ffeng shui?
 
(0, 3) 178 Beth sy mewn 'na?
 
(0, 3) 180 Dim byd?
 
(0, 3) 182 Ti'n od.
 
(0, 3) 184 Speak for yourself.
(0, 3) 185 Fi ga'th y rhai da i gyd.
(0, 3) 186 Y plentyn cynta, ti'n gweld.
(0, 3) 187 Good looks.
(0, 3) 188 Hiwmor.
(0, 3) 189 Intelligence.
 
(0, 3) 191 Ok, ges di bach o'r brains hefyd.
 
(0, 3) 193 Fi 'di dod â mwy o gardie i ti gael darllen.
 
(0, 3) 195 Y tŷ'n llawn ohonyn nhw.
 
(0, 3) 197 Meddylia am yr holl goed!
 
(0, 3) 200 Beth?
 
(0, 3) 208 Ti fel un o'r Stepford Wives.
 
(0, 3) 213 Rydw i'n lân hefyd.
 
(0, 3) 215 Ti sy'n anal, 'na'i gyd.
 
(0, 3) 217 Banál.
 
(0, 3) 219 Pwy wedodd hwnna? Shakespeare?
 
(0, 3) 223 Beth?
 
(0, 3) 225 Tesco Metros.
 
(0, 3) 228 Snob.
 
(0, 3) 230 Ma' Ladbrokes yn dod i un ohonyn nhw.
(0, 3) 231 Sign yn y ffenest.
(0, 3) 232 'Coming soon'.
 
(0, 3) 234 What are the odds!
 
(0, 3) 239 So sut wyt ti?
 
(0, 3) 241 Really?
 
(0, 3) 243 Siŵr?
 
(0, 3) 246 Fine.
 
(0, 3) 249 Mae'n teimlo'n od.
(0, 3) 250 Fi'n dal i deimlo'n... od.
 
(0, 3) 252 Wir?
 
(0, 3) 254 Fi'n gwbod.
 
(0, 3) 256 Beth?
 
(0, 3) 258 Beth?
 
(0, 3) 260 Gwêd, Alun.
 
(0, 3) 262 Fi'n deall.
 
(0, 3) 268 Ie...
 
(0, 3) 273 Pa gyfarfod?
 
(0, 3) 275 Wedes i ddim bod cyfarfod gwaith.
 
(0, 3) 278 I dy weld di.
 
(0, 3) 280 Ma' 'da fi newyddion.
 
(0, 5) 318 Ble o't ti?
 
(0, 5) 321 Nawr.
(0, 5) 322 Pam cymryd mor hir i ateb?
 
(0, 5) 325 O't ti yn y toilet?
 
(0, 5) 328 O't ti ar y toilet, guaranteed.
 
(0, 5) 331 Shit of the century.
 
(0, 5) 334 Sut ma' Leia?
 
(0, 5) 337 Ma' hi'n dal i fod 'na, 'te?
 
(0, 5) 340 O'n i'n meddwl 'i bod hi ar y ffordd mas?
(0, 5) 341 O'n i'n meddwl bod ti'n cael help.
 
(0, 5) 344 Pam ma' hi dal 'na, 'te?
 
(0, 5) 347 Ti 'di cael amser.
 
(0, 5) 350 Wrth gwrs 'y mod i'n deall.
 
(0, 5) 353 Ti heb ddanfon unrhyw beth i fi am sbel.
 
(0, 5) 356 Fi ishe darllen dy stwff di, Alun.
 
(0, 5) 359 Mae e'n helpu fi i ddeall sut ti'n teimlo.
 
(0, 5) 362 Ie.
 
(0, 5) 366 Pryd?
 
(0, 5) 369 Pryd?
 
(0, 5) 375 Ma' cwpwl o fisoedd eto.
 
(0, 5) 377 Pryd, Alun?
 
(0, 5) 380 Fyddwn ni ddim yn mynd yn syth.
 
(0, 5) 382 Diolch.
 
(0, 5) 386 Gwna'n siŵr dy fod ti.
 
(0, 5) 388 Fi 'di bod yn meddwl am fynd ers amser.
 
(0, 5) 391 Ma' Luke wedi bod yn gofyn amdanat ti.
(0, 5) 392 Ni'n meddwl 'i fod e'n amser da i fynd.
 
(0, 5) 394 Fi a Luke.
 
(0, 5) 396 Mae e'n gofyn pryd ti'n dod i'n gweld ni.
 
(0, 5) 398 Wrth gwrs.
 
(0, 5) 401 A fi ishe i ti gwrdd â dy nith.
(0, 5) 402 Ddim yn mynd i bara'?
 
(0, 5) 406 Ti'n serious?
 
(0, 5) 408 Dere, 'te.
 
(0, 5) 413 Dere.
 
(0, 5) 423 Sut wyt ti'n gwybod pa fath o berthynas sy 'da Luke a fi?
 
(0, 5) 425 Fe dalwn ni.
 
(0, 5) 428 Fi'n gwbod bod e'n mynd i fod yn anodd, ond –
 
(0, 5) 431 Alun?
 
(0, 5) 433 Fi'n gorfod mynd rhywbryd.
 
(0, 5) 436 Ti'n clywed?
 
(0, 5) 439 Rydw i'n hapus i dalu i ti ddod.
(0, 5) 440 Sai'n rhedeg i ffwrdd.
 
(0, 5) 446 Delio â phethe ydw i.
 
(0, 5) 449 Trio helpu ydw i, Alun.
(0, 5) 450 Troi fy nghefn ar beth?
 
(0, 5) 452 Ti ffaelu troi dy gefn ar dy deulu.
(0, 5) 453 Beth sydd ar ôl i fi fan hyn?
 
(0, 5) 455 Ni yw'r unig deulu sydd gen ti.
(0, 5) 456 Ma' Mam wedi mynd, Alun. Ma' hi 'di mynd.
 
(0, 5) 458 Fydda i ond galwad Skype i ffwrdd.
 
(0, 5) 462 Alun, gwranda...
(0, 5) 463 Gwranda, Alun...
 
(0, 5) 465 Rydw i eisiau helpu.
(0, 5) 466 Dyw'r ffaith fy mod i'n symud i Awstralia ddim yn dileu Mam.
(0, 5) 467 Nid fi yw'r linc rhyngot ti a Mam.
 
(0, 5) 469 Ti'n bwysig i fi, Alun...
(0, 5) 470 Ti...
 
(0, 5) 472 Rydw i eisiau helpu.
(0, 5) 473 Ti yw'r linc rhyngot ti a Mam.
(0, 5) 474 Neb arall.
(0, 5) 475 Mae hi'n byw ynot ti.
 
(0, 5) 477 Yn dy atgofion.
(0, 5) 478 Mae hi'n parhau i fodoli yn dy bersonoliaeth.
(0, 5) 479 Yn y ffordd rwyt ti'n bihafio.
(0, 5) 480 Ti'n sensitif, Alun.
(0, 5) 481 Ti'n garedig.
(0, 5) 482 Jyst fel Mam.
(0, 5) 483 Mae hi 'na yn y ffordd rwyt ti'n siarad.
(0, 5) 484 Yn dy jôcs gwael.
 
(0, 5) 486 Fi'n gallu'i gweld hi yn dy wên.
(0, 5) 487 Gwên Mam yw honna.
 
(0, 5) 489 Ti ddim ar dy ben dy hun.
(0, 5) 490 Fyddi di byth ar dy ben dy hun.
 
(0, 5) 492 Rydw i yma...
(0, 5) 493 Fydda i yna.
 
(0, 5) 495 Wastad.
(0, 5) 496 Bob tro.
 
(0, 5) 505 Beth ma' hwn yn dal i 'neud 'ma?
 
(0, 5) 507 Seriously, beth sy mewn 'na?
 
(0, 5) 510 Fi'n intrigued...
 
(0, 5) 513 Jyst ishe pip bach.
 
(0, 5) 516 Alun... beth sy'n mynd 'mlan?
 
(0, 6) 526 Un, dau, tri...
 
(0, 6) 530 Beth?
 
(0, 6) 532 P... pam?
 
(0, 6) 534 Achos?
 
(0, 6) 536 Achos.
 
(0, 6) 541 'Drycha arnyn nhw.
 
(0, 6) 544 Good looking!
 
(0, 6) 546 Nagw.
(0, 6) 547 Nagw.
(0, 6) 548 Na... nagw.
 
(0, 6) 551 Na, nhw.
 
(0, 6) 553 Nhw.
 
(0, 6) 557 Shots!
 
(0, 6) 559 Ie.
(0, 6) 560 I... ie.
 
(0, 6) 566 Reit.
(0, 6) 567 Reit.
(0, 6) 568 Shhhhh...
 
(0, 6) 571 Ok.
(0, 6) 572 Ok.
(0, 6) 573 Ok.
 
(0, 6) 576 Ok.
(0, 6) 577 Shhh.
(0, 6) 578 Shhh.
(0, 6) 579 Ok?
(0, 6) 580 Ar ôl tri.
 
(0, 6) 582 Na, fi sy'n 'neud.
 
(0, 6) 584 Ie.
 
(0, 6) 586 Exactly.
 
(0, 6) 588 Barod?
(0, 6) 589 Barod?
(0, 6) 590 Shhh.
(0, 6) 591 Barod?
 
(0, 6) 593 Un, dau, tri... go!
 
(0, 6) 597 Lawr y lôn goch!
(0, 6) 598 Lawr y lôn goch!
 
(0, 6) 600 Beth?
 
(0, 6) 602 Ie.
(0, 6) 603 Beth?
 
(0, 6) 605 Ie...?
 
(0, 6) 607 Ie...?
 
(0, 6) 609 Naaaa...
 
(0, 6) 635 Yw e?
 
(0, 6) 645 Ti'n really feddw.
 
(0, 6) 648 Dweud beth?
 
(0, 6) 650 Dwi'n caru'r Nornäs.
 
(0, 6) 652 Dwi'n caru'r Nornäs.
 
(0, 6) 654 Dwi'n caru'r Nornäs.
 
(0, 6) 665 Love the Nornäs.
 
(0, 6) 667 Coaster.
 
(0, 6) 669 Coaster.
 
(0, 6) 674 Fi'n teimlo'n guilty.
 
(0, 6) 676 Na, ddim am y coaster.
 
(0, 6) 678 Am Mam.
 
(0, 6) 680 Achos bod ni'n mwynhau.
 
(0, 6) 682 Am ein bod ni'n joio a Mam wedi mynd.
 
(0, 6) 685 Ie.
 
(0, 6) 687 Er na fydde Mam ishe i ni fod yn ddiflas.
 
(0, 6) 689 Mi fydde Mam ishe i ni gario 'mlan.
 
(0, 6) 692 Dim doubt.
(0, 6) 693 Ond fi'n dal i deimlo'n ofnadw' o euog.
 
(0, 6) 695 Beth?
 
(0, 6) 698 Ti'n meddwl?
 
(0, 6) 700 Beth?
 
(0, 6) 702 Na.
 
(0, 6) 704 Ti'n siarad nonsens.
 
(0, 6) 706 Wyt.
 
(0, 6) 708 Yn bendant.
 
(0, 6) 710 Y galar sy'n gwneud i ni deimlo'n euog.
 
(0, 6) 712 Ma'r galar yn diffodd rheswm.
 
(0, 6) 714 Rationality.
(0, 6) 715 Ti'n gwbod?
 
(0, 6) 717 Does dim byd rational am farwolaeth.
(0, 6) 718 Ma' galaru yn dod ag emosiynau rhyfedd mas mewn pobol.
 
(0, 6) 720 Serious.
(0, 6) 721 Gwranda.
 
(0, 6) 723 Dyna'r rheswm dros yr euogrwydd.
(0, 6) 724 Mae'n anodd egluro achos dyw'r euogrwydd ddim yn rational.
 
(0, 6) 726 Ni'n teimlo pethe' od.
(0, 6) 727 Pethe sy fel arfer yn annaturiol yn y sefyllfa.
 
(0, 6) 729 Gweld... annaturiol!
 
(0, 6) 732 Sai'n credu bod Jeremy Kyle 'mlan nawr.
 
(0, 6) 735 Pam wyt ti ishe gweld Jeremy Kyle, anyway?
 
(0, 6) 737 Ie...?
 
(0, 6) 739 Achos beth?
 
(0, 6) 742 Idiot.
 
(0, 6) 746 Sai byth yn galw ti'n idiot.
(0, 6) 747 Pam rhoi hwnna mewn?
 
(0, 6) 750 Beth? Hwn?
 
(0, 6) 753 Ma'r olygfa meddwi ti 'di danfon draw yn bizarre hefyd...
 
(0, 6) 756 Yr holl beth.
 
(0, 6) 759 Fi ddim yn hoffi'r audience interaction ar ddechrau'r olygfa chwaith.
(0, 6) 760 Mae'n teimlo'n forced.
(0, 6) 761 Alun...
 
(0, 6) 763 Sai ishe bod yn negatif ond...
(0, 6) 764 Pam ydw i dal 'ma?
 
(0, 6) 766 Constructive criticism.
 
(0, 6) 770 Seriously, s'neb yn lico audience interaction.
(0, 6) 771 Yn enwedig cynulleidfaoedd Cymraeg.
(0, 6) 772 Bydd raid i ti gael gwared o'r stwff 'da'r alcohol.
 
(0, 6) 775 Sai'n credu bod neb yn mynd i yfed shots yn y theatr.
(0, 6) 776 Mae'n weird.
(0, 6) 777 Dim ond weirdos fydde'n 'neud e.
 
(0, 6) 781 A'r tun.
(0, 6) 782 'Da pwy wyt ti'n siarad?
 
(0, 6) 784 Mae'n hen bryd i ti agor y tun.
(0, 6) 785 Alun?
 
(0, 6) 787 Ti 'di cadw'r dirgelwch yn ddigon hir.
(0, 6) 788 'Da pwy wyt ti'n siarad, Alun?
(0, 6) 789 Beth sydd yn y tun?
 
(0, 6) 791 Pryd wyt ti'n mynd i ddatgelu cynnwys y tun?
 
(0, 6) 793 Leia?
 
(0, 6) 795 Ma'r gynulleidfa wedi aros digon.
(0, 6) 796 'Da Leia wyt ti'n siarad?
 
(0, 6) 798 Come on...
(0, 6) 799 Neu Leia sydd yn y tun?
 
(0, 6) 801 Put them out of their misery.
(0, 6) 802 Ti'n gwrando?
 
(0, 6) 804 Ti'n clywed?
 
(0, 6) 806 Beth?
 
(0, 6) 810 Jyst agora fe.
(0, 6) 811 Sai'n deall.
 
(0, 6) 814 Agora fe.
(0, 6) 815 Egluro beth?
 
(0, 6) 818 Agora fe.
 
(0, 6) 820 Alun...
 
(0, 6) 822 Agora'r blydi tun!
 
(0, 6) 826 Beth yn y byd...?
 
(0, 9) 906 Alien?
 
(0, 9) 908 Really?
 
(0, 9) 911 Fel E.T.?
 
(0, 9) 913 Sai'n deall.
 
(0, 9) 915 Alien...
 
(0, 9) 917 Alien?
 
(0, 9) 919 Alien yw hwnna?
 
(0, 9) 921 Ond...
 
(0, 9) 923 Pêl. Pêl yw hwnna.
 
(0, 9) 925 Iege.
 
(0, 9) 927 Dyw aliens ddim yn bodoli.
 
(0, 9) 929 Nadyn.
 
(0, 9) 931 Unwaith eto, does dim shwd beth ag aliens.
 
(0, 9) 933 Pêl.
 
(0, 9) 936 Na.
 
(0, 9) 938 O le ges di fe?
 
(0, 9) 940 Beth?
 
(0, 9) 943 Pêl!
 
(0, 9) 947 Sut wyt ti'n gwbod?
(0, 9) 948 Ble ma'r vagina?
 
(0, 9) 950 Beth yw e really, Alun?
 
(0, 9) 952 Come on.
(0, 9) 953 Bydda'n onest.
 
(0, 9) 955 Rhyw weird sex toy?
 
(0, 9) 957 Pod?
 
(0, 9) 959 Na.
 
(0, 9) 961 Felly wnes di godi'r peth 'ma o'r llawr?
 
(0, 9) 963 Beth os yw e'n beryglus?
 
(0, 9) 966 Sut wyt ti'n gwbod?
 
(0, 9) 968 Falle taw bomb yw e.
 
(0, 9) 971 Pwy sy'n gwbod pa fath o shit 'ma Isis yn iwso dyddie 'ma.
 
(0, 9) 973 Nid 'hi' yw hi.
(0, 9) 974 Peth.
(0, 9) 975 Gwrthrych.
 
(0, 9) 977 Sut yn union wyt ti'n gwbod bod y bêl 'ma'n fyw?
 
(0, 9) 979 Ac yn gwbod hefyd mai 'hi' yw'r peth 'ma?
(0, 9) 980 Sut wyt ti'n gwbod hyn i gyd?
 
(0, 9) 983 Hi... ddywedodd?
 
(0, 9) 985 Mae hi'n siarad 'da ti?
 
(0, 9) 987 Leia.
(0, 9) 988 Dyna'i henw hi? Really?
 
(0, 9) 991 Wilson syndrome.
 
(0, 9) 993 Y bêl.
(0, 9) 994 Yn y ffilm Castaway.
(0, 9) 995 Wyt ti 'di tynnu llun gwyneb ar yr ochr arall?
 
(0, 9) 997 Fi'n gwbod bod ti'n unig, Alun, ond –
 
(0, 9) 1000 Ti 'di treulio dyddie'n begio i mi beidio â symud.
 
(0, 9) 1002 Wyt.
 
(0, 9) 1004 Gwed ti.
 
(0, 9) 1006 Danfona fi nôl at Luke.
 
(0, 9) 1008 Ti sy'n ysgrifennu hwn, ontefe?
 
(0, 9) 1010 Ffuglen.
(0, 9) 1011 Cymeriadau yn dy ddrama.
 
(0, 9) 1014 Profa fe.
 
(0, 9) 1016 Profa fod Leia'n real.
(0, 9) 1017 Deffra hi.
(0, 9) 1018 Ife 'na beth ti'n 'neud?
(0, 9) 1019 Deffro'r alien?
 
(0, 9) 1022 O le?
 
(0, 9) 1024 Bangor?
 
(0, 9) 1026 Gad i fi a hi sgwrsio.
 
(0, 9) 1028 Pam?
 
(0, 9) 1030 Fi ddim.
 
(0, 9) 1032 Nadw.
 
(0, 9) 1034 Na.
 
(0, 9) 1036 Fi ddim yn fucking aggresive!
 
(0, 9) 1038 Plîs, Alun.
(0, 9) 1039 Beth sy'n mynd 'mlan?
 
(0, 9) 1041 Na.
(0, 9) 1042 Mewn gwirionedd.
 
(0, 9) 1044 Ti'n creu stwff, Alun.
(0, 9) 1045 Ma' dy ddychymyg di'n mynd yn wyllt.
 
(0, 9) 1047 Barod am beth?
 
(0, 9) 1050 Dynol ryw?
(0, 9) 1051 Shut up, Alun.
 
(0, 9) 1053 Mae angen help...
 
(0, 9) 1056 O'n i ddim yn sylweddoli bod ti fel hyn.
 
(0, 9) 1058 Mi ffonia i'r doctor yn y bore.
(0, 9) 1059 Trefnu therapist neu rywbeth.
 
(0, 9) 1061 Sori...
 
(0, 9) 1063 Fi'n sori.
 
(0, 9) 1065 Ma' marwolaeth Mam wedi bwrw ti'n galetach nag o'n i'n meddwl.
(0, 9) 1066 Dim ond nawr fi'n sylweddoli.
 
(0, 9) 1068 Seriously, Alun...
 
(0, 9) 1070 Alun...
 
(0, 9) 1082 Mas.
 
(0, 9) 1084 I glirio 'mhen.
 
(0, 9) 1086 Tesco Metros.
(0, 9) 1087 Ma' ishe lla'th.
 
(0, 9) 1089 Ffonia i rywun yn y bore.
 
(0, 13) 1304 Mae'r ystafell newydd ei pheintio, yr arogl yn frith, yn cymysgu gyda'r bleach a'r air freshener, blas ultrahylendid, gwledd y clinigol, tician y cloc o eiliad i eiliad yn canu rhythm bywyd y dyn sydd yn aros, yn gorfwyta ar baent a bleach ac air freshener, frenzy o Febreze, "take a seat," eistedd ac aros a chyfri'r eiliadau, meddyliau yn mynd i bellteroedd diethr fel trip ysgol Sul i gopa mynydd, yr eira yn blancedu, pobol yn rhewi, yn pydru, bacteria'n ymosod yn araf araf, amhosib, maggots, mould, yn araf, a'r bobol yn chwalu'n friwsion mân wrth i'r dyn neidio, dianc, byth yn glanio, yna'n eistedd yn ôl yn yr ystafell sydd newydd ei pheintio yn aros, maggots a mould a diflannu eto i gopa'r mynydd a'r bobol wedi mynd, neb yno ond y dyn yn neidio, a llais yn galw "you can go in now."
(0, 13) 1305 Hi'n aros tu ôl i'w desg, fel mur yn amddiffyn, tu ôl i'r drws mawr, tu ôl i sgrin ei chyfrifiadur, yn ddiogel, yn edrych, aros i'r dyn i fynegi ei salwch: methu cysgu, methu bwyta, teimlo ofn, anobaith, euogrwydd, anfodlonrwydd, meddyliau hunanladdol, prinder o ddagrau, unigrwydd ond methu bod gyda phobol, "how can I help?" you tell me, does neb yn deall a neb eisiau deall, 'cheer up,' 'look on the bright side,' 'we're here for a good time not a long time,' yw hynny i fod i helpu? geiriau difeddwl yn gweiddi i wyneb y dyn, FREAK, yn gwneud iddo deimlo'n wan, WEAK, 'pull yourself together,' 'things will get better,' 'stop moping, it's not gonna help anyone,' nid yw hynny'n helpu chwaith, sut mae gwneud i bobol ddeall pan nad yw doctor yn deall? "you're having a bit of a blip, that's all, you'll be fine," beth yw diffiniad 'fine'? "come back in a fortnight if you still feel the same," a beth am y pythefnos hynny? parhau i fyw mewn cwmwl ar frig y mynydd ac eisiau neidio, eisiau teimlo'r cynnwrf, eisiau teimlo rhywbeth o gwbwl, "we can look at a course of medication," doctor sy'n deall dim ond tabledi, pawb a phopeth yn gemegion mewn tiwb arbrofi dan meicrosgop, tabledi, tabledi, tabledi mawr, tabledi bach, tabledi hir a phinc a glas, tabledi sydd yn mygu pob emosiwn, yn pylu personoliaeth, 'side effects: insomnia, anxiety, dizziness, paranoia, loss of appetite, loss of sex drive,' a neb yn deall, neb yn gweld y dyn yn boddi, yn diflannu, yn troi yn berson gwahanol, ysbryd, gyda phob llynciad o bob tabled diolch i'r dewin ddoctor a'i thric diflannu, dileu dyn a neb yn sylwi, neb yn gweld y trobwll enfawr dwfn yn chwyrlïo'n wyllt wyllt o'u blaenau a neb am achub y dyn, am ddeifio i'r dŵr a helpu, neb eisiau siarad am y peth, neb yn gwybod beth i'w wneud, a'r doctor yn golchi ei dwylo, 'out damned spot,' yn camu o'r car crash, yn pasio'r dyn ar hyd y conveyor belt i'r arbenigwr nesaf, i'r arbenigwr nesaf, i'r arbenigwr nesaf yn ffatri fawr y gwasanaeth iechyd.
(0, 13) 1306 Ac yna golau, golau yn y ffatri fawr, 'mae hi'n wahanol i'r lleill,' "rydw i yma i helpu, i wrando," a'r llaw yn estyn i'r dyfnderoedd, yn tynnu'r dyn o'r dŵr, "rydw i am ddarganfod ffordd o helpu," heb dabledi? "heb dabledi," a'r dyn, araf araf, yn dechrau ymddangos eto, o'r cocoon, yn camu i lawr o'r mynydd allan o'r niwl, a'r pydru'n arafu, yn dod i ben, a'r pen yn clirio, yn dechrau gwella, y pwysau'n codi, y byd yn ailagor a'r side effects yn mynd, yn diflannu, yn gadael i boeni rhyw berson bach, FREAK, WEAK, arall.
 
(0, 14) 1367 Fucking hell, Alun.
(0, 14) 1368 Monolog am bloody yogurt?
(0, 14) 1369 O's shares 'da ti yn Müller neu rywbeth?
 
(0, 14) 1373 Mae'n self indulgent, Alun.
(0, 14) 1374 Ma'r ddrama gyfan yn ofnadw' o self-indulgent.
 
(0, 14) 1379 Sori.
 
(0, 14) 1383 Constructive criticism.
(0, 14) 1384 O'n i'n trio helpu.
(0, 14) 1385 Fi'n falch bod ti 'di rhannu.
 
(0, 14) 1394 Yw e?
 
(0, 14) 1398 Fi'n falch am hynny.
 
(0, 14) 1401 Dros y lle i gyd.
 
(0, 14) 1405 Mae'n dda.
(0, 14) 1406 Mae'n iach.
 
(0, 14) 1410 Mae'n bwrpasol fel 'na.
(0, 14) 1411 Mess dramatig.
(0, 14) 1412 Fydd neb yn hollol siŵr be' sy'n real a beth sydd wedi'i greu.
 
(0, 14) 1416 Bydysawd.
 
(0, 14) 1419 A beth am Leia?
 
(0, 14) 1423 Ble mae hi?
 
(0, 14) 1426 Rwy'n gweld...
(0, 14) 1427 ~
(0, 14) 1428 A fi?
 
(0, 14) 1431 Ie.
 
(0, 14) 1435 Wyt ti?
 
(0, 14) 1438 Ma' hwn yn benderfyniad mawr.
 
(0, 14) 1441 Ok... os 'na be' ti mo'yn.
 
(0, 14) 1444 Grêt.
 
(0, 14) 1448 Ie?