Ciw-restr

Ffrois

Llinellau gan Ellen (Cyfanswm: 88)

 
(1, 0) 15 Martha─wrth dy hunan?
 
(1, 0) 17 Partoi ar gyfar beth?
 
(1, 0) 19 Oti, fe-ginta.
 
(1, 0) 21 Hm─a John?
 
(1, 0) 24 A nawr, 'rwyt ti'n dyfalu beth wy'n moyn 'ma heno?
 
(1, 0) 27 Rwy'n gneud 'ny yn ddicon amal.
(1, 0) 28 Wyddast-ti pwy ddydd o'r mish yw hi heddy?
 
(1, 0) 30 Falla nag wyt ti ddim yn cofio beth ddigwyddws bum mlynadd ar ucian yn ol ar y wechad ar ucian o Fai?
 
(1, 0) 32 'Rwyt ti'n dawal iawn yn i gylch-a; dyma ddydd dy |silver wedding| di.
(1, 0) 33 'Dwyt ti ddim yn meddwl gneud rwpath?
 
(1, 0) 40 Ffrois!
(1, 0) 41 Ar gyfar pen blwydd y byddwn-ni'n gneud ffrois.
 
(1, 0) 43 Falla 'i fod-a, ond fe ddylsat gâl parti a gw'a'dd rai o'r cymdocion.
(1, 0) 44 Tapun, fe alla rh'wun feddwl y bysat-ti yn gofyn i dy unig whar.
 
(1, 0) 47 Beth am William, 'dyw e ddim yn moyn parti?
 
(1, 0) 49 Gwn, a tsa fa'n hannar dyn─
 
(1, 0) 51 O'r gora, ond fe weta gymant a hyn.
(1, 0) 52 Allsa Robert feddwl am ddim am wthnosa cyn i'r dwarnod ddod, a fe wyddast shwt |silver wedding| geson ni.
 
(1, 0) 54 Beth am y plant; otyn-|nhw| ddim wedi meddwl dim am dano?
 
(1, 0) 56 Wel, rhyw deulu ryfadd ych-chi 'ma.
(1, 0) 57 A fe fydd raid i ti wed wrthyn nhw i gyd 'ma heno mai dyma dy |silver wedding| di.
 
(1, 0) 60 Ia, teulu ryfadd ych-chi, a chreatur ryfadd wyt titha, Martha.
(1, 0) 61 Ond dyna, 'rodd mam wastod yn gwed mai ti odd yr hynota o'r plant.
(1, 0) 62 Wn-i beth wetsa hi tsa hi'n gallu dy weld di heno, acha noswaith fel hon.
 
(1, 0) 66 Wyt-ti'n cretu y gall hi'n gweld ni ar y ddaear 'ma heno, tia fi?
 
(1, 0) 70 Naddo; 'rodd hi rhy depyg i ti, neu wyt ti'n rhy depyg iddi hi.
 
(1, 0) 73 Yn fwy tebyg iddi bob dydd, 'nenwetig nawr, a dy wallt yn gwynnu, a'r rhygna 'na ar dy ruddia di.
(1, 0) 74 Pan y byddi di'n edrych arno-i amball waith, 'dwy'n gweld dim ond mam.
(1, 0) 75 Rwyt ti'n symud 'run fath a hi, yn gneud petha yn gwmws fel odd hi'n arfadd gneud.
 
(1, 0) 78 Yr ora fu ar y ddaear 'ma ariod.
(1, 0) 79 Os yw hi'n gallu'n gweld ni heno, wn-i yn y byd beth ma hi'n feddwl.
(1, 0) 80 All hi ddim bod yn folon iawn.
 
(1, 0) 82 Wel fi sydd wedi câl y lwc i gyd.
(1, 0) 83 Y fi gas y bywyd esmwyth, prioti'n dda, a morwn wastod wrth law.
(1, 0) 84 Edrych ar yn nwylo gwynon i, na nethon-nhw ddwarnod o waith calad ariod, a edrych ar dy rai ditha, sy byth yn secur ond pan y byddi di'n cysgu.
(1, 0) 85 'Rwyt ti wedi gwitho dy fêr a d'esgyrn, ddydd ar ol dydd, a thrwy'r dydd, ar hyd y blynydda; fe ddest a phlant i'r byd, a fuast ti ddim heb weld gofid.
(1, 0) 86 Dwyt-ti ddim ond pump a deugan, 'rwy inna'n hannar cant, a nid o ran y mod i yn 'i wed-a, ond chretsa neb wrth yn golwg ni, mai ti yw'r ienga.
 
(1, 0) 89 Paid a sôn, paid a sôn!
(1, 0) 90 Pan on-i'n ifanc, a'r rhai bach am ddod ato-i, 'dodd gen-i gynnyg meddwl am danyn-nhw, ond nawr,─falla ma rhyw farn sy arno-i─pan fydda-i'n cysgu, ag amball waith pan fydda-i ar ddihun, 'rwy fel t'swn-i'n teimlo dwylo bach ar y 'ngwynab-i, a thro arall, fe 'llwn dystio mod i'n clwad plant yn llefan─y rhai bach wrthotas i pan o'n i'n ifanc.
 
(1, 0) 93 Ond dyna.
 
(1, 0) 95 Beth sy gent-ti yn dy gylch heno─nid hen ffetog mam yw honna, iefa?
 
(1, 0) 98 A beth yw hon─nid dyma dy ddress briotas di!
 
(1, 0) 100 Pwy altrodd hi i ti?
 
(1, 0) 102 A 'rwy'n câl dod 'ma heno?
 
(1, 0) 104 Na, gorfod iddo fa fynd sha Chardydd y p'nawn'ma.
(1, 0) 105 Wyt-ti wedi cynnu tân yn y rwm genol─oti ddi'n barod gen-ti?
 
(1, 0) 107 I'r swpar heno, bid siwr.
 
(1, 0) 109 Wyt-ti ddim yn mynd i gynnal dy |silver wedding| yn y gecin?
 
(1, 0) 111 Y ti wyt ti, a ti fyddi di!
(1, 0) 112 Beth ga-i ddod yn bresant i ti?
 
(1, 0) 114 Raid i ti gâl rwpath.
(1, 0) 115 Beth licsat-ti gâl?
 
(1, 0) 119 Ia.
 
(1, 0) 121 O─chai di ddim o'r llestri.
(1, 0) 122 Chymswn i ddim can punt am rheina.
 
(1, 0) 124 Fysa'n well gen-i wario deg punt ar rwpath arall i ti.
 
(1, 0) 126 O'r gora, fe ddwa-i â'r cŵn gen i heno.
(1, 0) 127 Ble ma Miriam?
 
(1, 0) 129 Miriam!
 
(1, 0) 131 Ar ol i ti gwpla gwishgo, wy-i am i ti ddod i'n tŷ ni.
 
(1, 0) 133 Wath i ti beth.
(1, 0) 134 Wyt ti'n diall?
 
(1, 0) 137 John, dera ditha hefyd.
 
(1, 0) 140 Ma'n rhaid i ti ddod.
(1, 0) 141 Cofia nawr.
 
(1, 0) 147 Fydd 'na ddim |fuss|.
(1, 0) 148 On-i'n meddwl ma fel hyn y bydda petha, a 'rwy wedi partoi ryw 'chydig ar dy gyfar di.
(1, 0) 149 Gofala na chaiff William fynd i'r seiat heno acha noswath fel hon.
 
(1, 0) 151 O, dyna ti eto─
 
(1, 0) 153 Ble ma fa?
 
(1, 0) 156 Fel mynnot-ti.
(1, 0) 157 Dyma fi'n mynd nawr; fe fydda-i 'nol cyn hir.
 
(1, 0) 522 'Rwy i wedi dy weld di lawar i dro yn depyg i mam, ond heno, â'r shôl 'na ar dy war, fuas bron a chretu i bod hi o flan yn llyced i.
 
(1, 0) 539 On i'n meddwl, falla y licsat-ti ifad tê o rhain heno.
 
(1, 0) 545 Dyma fe.
 
(1, 0) 548 Beth wyt-ti'n whilo?
 
(1, 0) 550 O ia, y cŵn oddiar y mamplis.
(1, 0) 551 Fysa'n well gen-ti gâl y cŵn?
 
(1, 0) 554 Ma nhw wedi bod gen i am dros ucian mlynadd; fe 'lli di 'u câl nhw nawr.
(1, 0) 555 Catw nhw i Miriam.
 
(1, 0) 563 Dyna, fe wyddwn na fysa-ti ddim yn folon.
 
(1, 0) 573 Ia, raid i ti ishta lawr heno.
 
(1, 0) 589 Os gen-ti ddim gwell cyllath na hon i dorri bara?
 
(1, 0) 592 Na, rho gyllath arall i fi.
 
(1, 0) 597 Wel, ma popath yn barod nawr.
(1, 0) 598 (Yn nesu at y bwrdd.)
(1, 0) 599 Ble gaf fì ishta, man hyn?
 
(1, 0) 601 Gadewch i fi fod yn fam am unwaith.