Ciw-restr

Ffrois

Llinellau gan Martha (Cyfanswm: 159)

 
(1, 0) 14 Ellen.
 
(1, 0) 16 Na, ma nhw lan llofft, yn partoi.
 
(1, 0) 18 Ma William yn mynd i'r seiat.
 
(1, 0) 20 A ma Miriam yn mynd i'r "pictures."
 
(1, 0) 22 Wn-i ddim yn gwmws ble ma John yn mynd.
 
(1, 0) 26 Dim ond roi tro i'n gweld ni, 'llwn feddwl.
 
(1, 0) 29 Gwn; y wechad ar ucian o Fai.
 
(1, 0) 31 Cofio, wel am otw, dyna ddydd priotas William a finna.
 
(1, 0) 34 Otw, bid siwr.
 
(1, 0) 36 'Rwy wedi gneud nhw.
 
(1, 0) 38 Wel di?
 
(1, 0) 42 Wel, ma silver wedding rwpath yn depyg i ben blwydd, nag-yw-a?
 
(1, 0) 45 Ellen fach, on-ni'n meddwl dim drwg.
(1, 0) 46 Fe wyddast o'r gora nag wy-i byth am ryw lawar o |fuss|, a 'dos dim isha i fi wed fod croeso calon i ti ddod 'ma heno.
 
(1, 0) 48 'Dyw-a ddim wedi son dim hyd yn hyn; fe wyddast shwt ma William─
 
(1, 0) 50 Nawr Ellen, 'dwy-i ddim yn mynd i wrando arnot ti'n gwed dim yn erbyn William.
 
(1, 0) 53 Do, fe gesoch-chi |silver wedding| hyfryd.
 
(1, 0) 55 Nagyn: ond dyna, plant yw plant, wel-di, a 'dwy-i ddim yn cretu y gwyddan nhw'r dwarnod.
 
(1, 0) 58 Bydd wrth gwrs 'ny, ond 'rwy'n bwriatu câl ticyn o ddifyrrwch gita nhw cyn gwed.
 
(1, 0) 64 Mwy na thepyg y gall hi ngweld i.
 
(1, 0) 68 Pam lai!
(1, 0) 69 Ond 'dwy-i ddim yn cofio i mam ariod gâl silver wedding.
 
(1, 0) 72 Ag 'rwyt ti'n cretu mod i'n depyg i mam?
 
(1, 0) 76 Fydda-i byth yn depyg i mam.
(1, 0) 77 Menyw dda iawn odd mam.
 
(1, 0) 81 Pam?
 
(1, 0) 87 'Rwy'n falch iawn mod i'n fam i blant, a 'rwy wedi gofitio lawar na fysat titha─
 
(1, 0) 91 Rwyt ti'n wilia'n ryfadd iawn heno, Ellen.
 
(1, 0) 96 Ia, cystlad ag ariod.
 
(1, 0) 99 Ia.
 
(1, 0) 101 Y fi─ond 'dodd fawr gwaith altro arni.
 
(1, 0) 103 Wel, am wyt, a falla y daw Robert hefyd?
 
(1, 0) 106 Yn barod i beth?
 
(1, 0) 108 'Don-i ddim wedi meddwl mynd i'r rwm genol.
 
(1, 0) 110 Wel, man hyn 'rwy wedi bod yn ymdroi, yn mynd a dod, ar hyd y blynydda, dyma lle macson-ni'r plant, a phan daw William 'nol o'r gwaith yn y dwetydd, yn y cornal man'na y bydd a'n byta'i fwyd.
 
(1, 0) 113 'Dwy-i ddim yn disgwl presant, Ellen.
 
(1, 0) 117 Ma gen-ti rai petha adews mam i ti, fe fysa'n dda gen-i gâl un o rheiny.
 
(1, 0) 120 Dyna'r hen set lestri tê glas a gwyn─
 
(1, 0) 123 A dyna'r ddou gi |china| sy gen-ti ar y mamplis.
 
(1, 0) 125 Chai di ddim gwario deg punt ar yn ran i.
 
(1, 0) 144 Beth wyt ti'n mynd i neud nawr?
(1, 0) 145 Cofia, 'dwy-i ddim am unrhyw |fuss|.
 
(1, 0) 150 Fe allsa dyn neud llawar i wath peth.
 
(1, 0) 155 Nawr Ellen, 'dwy-i ddim am i ti wed gair wrth William; gad-ti hynna i fi.
 
(1, 0) 163 Oti.
 
(1, 0) 166 Pam ych-chi wastod yn gwed petha cas am Ellen?
 
(1, 0) 169 Ma Robert yn gwishgo |dressing-gown|, 'rwy'n cyfadda─ond ma fa ar y |Council|, ag yn |J.P.|, a os na all |J.P.| wishgo |dressing-gown|, ma hi wedi mynd!
 
(1, 0) 172 Nagw-i─pam?
 
(1, 0) 177 Ble gadewast ti ddi ddwetha?
 
(1, 0) 180 Fe'i dotas hi yn y dror cenol.
 
(1, 0) 184 Otyn, ma nhw man'na o dan y sciw.
 
(1, 0) 187 Yn y golch; cymar un glan.
 
(1, 0) 190 Falla mod i yn wir.
 
(1, 0) 193 Fe'i gadawsoch hi ar ffenast y sculeri; dyna 'i ar y ford fach.
 
(1, 0) 197 Na, ddim heno, William.
 
(1, 0) 199 Otw, falla; ond yn ddweddar, ar ddiwadd y dydd, 'rwy wedi blino cymant, wn i ddim p'am, ond ma'n well gen i gymeryd spel man hyn ar yr aelwd.
 
(1, 0) 204 Ia.
 
(1, 0) 208 Fe'i gadewast a yn y gecin nithwr gita'r cripa.
(1, 0) 209 Ma nhw lawr 'ma.
 
(1, 0) 213 Fe'i gadawsoch-a ar y ford nos Fawrth.
(1, 0) 214 Ma-fa o dan y canhwyllharn bach nawr.
 
(1, 0) 219 'Dwy-i ddim yn mynd i unman.
 
(1, 0) 225 Fe gysgast lawar i awr ar honna pan ot ti'n fabi.
 
(1, 0) 227 Yn y Beibl mawr ar y ffenast rhwng Matthew a Marc.
 
(1, 0) 230 'Dyw hi ddim yn newydd iawn.
(1, 0) 231 William, otych-chi'n napod hon?
 
(1, 0) 236 O, ma-hi gen-i ers cetyn.
 
(1, 0) 240 Os, cymar un o'r ochor arall.
 
(1, 0) 246 Fe'u helas nhw sha'r crydd.
(1, 0) 247 Ma un o nhw'n gillwng dŵr, nag-os-a?
 
(1, 0) 249 Gwishg dy scitsha Sul.
 
(1, 0) 252 Nagw.
 
(1, 0) 254 Nagw-i.
 
(1, 0) 267 Beth sy'n bod?
 
(1, 0) 274 Falla fod Mrs. Jones drws nesa yn gneud ffrois.
 
(1, 0) 277 O, fe gewch rai, cyn hir.
 
(1, 0) 283 Ryfadd iawn, ontefa?
 
(1, 0) 287 Dim byd.
 
(1, 0) 291 Wel─wel ma'ch dillad dwetydd chi dicyn yn gomon nawr, a'rwy wedi bod yn cisho 'u gwella nhw.
 
(1, 0) 299 Wy-i am i chi wishgo rhain heno.
 
(1, 0) 302 Dim ond─dim ond am y mod i'n gofyn i chi─dyna i gyd.
 
(1, 0) 306 Miriam, 'rwy am i ti fynd â rhain at Mrs. Pwal.
(1, 0) 307 Ma hi'n mynd i Dreforgan yfory, a fe foddlonws fynd a pharsal i Annie dy whar.
 
(1, 0) 309 'Dych-chi ddim yn folon William?
(1, 0) 310 I'ch merch chi'ch hunan ma fa, neu i'r rhai bach, ta-pun.
 
(1, 0) 312 Pitwch a wilia mor ffol.
 
(1, 0) 322 Dos dim isha i ti wherthin ar ben gwlanen goch a sâm gwydd; fe achubson dy fywyd di unwaith, ondofa William?
 
(1, 0) 324 Do fa, do, ama babi bach Annie yn peswch a pheswch a 'dyw'r doctor yn gneud dim lles iddo fa.
 
(1, 0) 328 Wath i ti beth sy yndo fa.
 
(1, 0) 330 Ma 'na flouse glân i ti yn y rwm genol.
 
(1, 0) 332 Wyddast-ti yn y byd pwy gwrddi di yn nhŷ dy fotryb.
(1, 0) 333 Newid-a.
 
(1, 0) 336 Titha, John, wy-i am i ti fynd â rhain i'r post.
 
(1, 0) 339 'Dyw'r landris 'na ddim yn crasu'r dillad fel y dylsan-nhw.
 
(1, 0) 341 Dewch, scrifennwch |address| ar hwnna.
 
(1, 0) 343 Pwy waniath pryd?
(1, 0) 344 Ma nhw'n barod nawr.
 
(1, 0) 346 Wel, odd rhaid 'i gneud nhw, ond odd-a?
 
(1, 0) 353 Da ti gad betha'n llonydd.
 
(1, 0) 355 Nid dyma'r crys gest-ti yn y drôr gwilod.
 
(1, 0) 357 Wyt ti'n siwr?
(1, 0) 358 Dangos y llawas i fi.
 
(1, 0) 360 Ia, dyna fe.
 
(1, 0) 370 Llythyr oddiwrth y Cwrdd Mishol.
 
(1, 0) 372 Nag-yw, ma-fa yn y got 'na, y bocad frest 'r ochor with.
 
(1, 0) 380 Rych chi'n weddol iawn.
 
(1, 0) 385 Otych, ond falla na cheso-i ddim gafal arnoch chi miwn pryd.
 
(1, 0) 387 Beth sy'n bod, William?
 
(1, 0) 392 Gwell i fi 'i gwisgho hi na gatal i'r pryfad 'i byta hi.
 
(1, 0) 396 la.
 
(1, 0) 400 Beth sy'n bod?
 
(1, 0) 410 Beth sy arnoch chi bobun?
 
(1, 0) 412 Rhowch lonydd i fi.
 
(1, 0) 416 Na, na, wy'n teimlo o'r gora.
(1, 0) 417 Cerwch chi i'r capal.
 
(1, 0) 424 Wetan-nhw ddim byd.
(1, 0) 425 Fe gretan ych bod chi wedi bod mewn ryw anglodd.
 
(1, 0) 434 Der di 'nol ar ol bod yn nhŷ dy fotryb: gai di weld wed'ny.
 
(1, 0) 437 Na, ddim nawr.
 
(1, 0) 449 Allwch-chi ddim meddwl, William?
 
(1, 0) 452 Na─nid John.
 
(1, 0) 454 Nid Annie na Miriam.
 
(1, 0) 456 Ia.
 
(1, 0) 462 Otych, William, 'rych chi ym mish Awst.
 
(1, 0) 466 Penblwydd hon, William.
(1, 0) 467 Bum mlynadd ar ucian i heddy fe ddodsoch y fotrw 'na ar ym mys i.
 
(1, 0) 472 Ma cyfrifon yr Ysgol Sul tu cefan i'r cloc.
 
(1, 0) 476 I fi wed rwpath, William?
 
(1, 0) 480 Dyna, dyna─on-i ddim yn meddwl rhoi teimlad i chi.
(1, 0) 481 Dych chi byth yn meddwl am betha felna, 'rwy'n gwpod.
 
(1, 0) 484 Ma'n ddrwg gen-i, William, mod i heb wed rwpath wrtho-chi.
 
(1, 0) 487 Fuws eriod wraig fwy hapus na fi, William.
 
(1, 0) 490 Fe adewsoch chitha'r blatur a'r arad i drafod mandral a rhaw'r pwll glo.
 
(1, 0) 495 Ia, dyma hi.
 
(1, 0) 497 Dyna, dyna─'dos dim raid i chi ofitio.
 
(1, 0) 500 'Dos gen i ddim un presant i chi, a 'dwy inna ddim yn disgwl presant oddiwrtho chitha.
 
(1, 0) 502 Do, do, ond 'dyn ni ddim 'r un peth.
 
(1, 0) 506 Beth am y creitha glo sy ar ych gwynab chitha, y cymala poenus, a'r peswch aiff â chi i'r bedd yng nghynt na phryd?
(1, 0) 507 Lawr yn y pwll glo y cesoch chi rheina, wrth gisho ennill tamad i ni, i'r plant a fi.
(1, 0) 508 Na William, 'dos dim raid i'n bath ni i brynu presants i'n gilydd.
 
(1, 0) 515 Os, John, paid roi cusan i fi nawr─heno─cyn 'rai di i'r gwely.
 
(1, 0) 531 Beth am gyfrifon yr Ysgol Sul?
 
(1, 0) 540 Wyt ti'n garetig iawn, Ellen.
 
(1, 0) 543 Arhoswch i fi gâl plat arall.
 
(1, 0) 549 On i'n meddwl─fe wetast─fe wetast y delsat-ti a─
 
(1, 0) 553 Wyt-ti ddim yn rhoi rheina i fi!
 
(1, 0) 559 John, gofala ar dy fywyd!
(1, 0) 560 Ma 'na grac yn y ddolan.
 
(1, 0) 562 'Rwyt ti wedi 'i gwiro fa!
 
(1, 0) 565 Ond wrth gwrs, fe fydd yn gryfach.
 
(1, 0) 578 Ma fa ar yr ail |shelf| miwn─
 
(1, 0) 582 ─miwn cwtyn glas.
 
(1, 0) 586 Hwnna yn dy law dde di.
 
(1, 0) 591 Gad i fi dorri fa.
 
(1, 0) 606 Os.
 
(1, 0) 609 All Gomar a Annie ddim bod 'ma, fe wn, ond 'rwy am weld 'u cwpana nhw ar y ford.
 
(1, 0) 613 Ag 'ma 'na un arall.
 
(1, 0) 617 Mwy na thepyg 'i bod hi 'ma.
(1, 0) 618 Synnwn-i fawr na ddath mam â hi.