Ciw-restr

Buchedd Garmon

Llinellau gan Illtud (Cyfanswm: 21)

 
(1, 0) 3 |Sursum corda|, fy mrawd Paulinus.
 
(1, 0) 7 Dyma ninnau drwy borth Auxerre,
(1, 0) 8 A'r teithio blinderus dros fôr a thros diroedd ar ben.
 
(1, 0) 11 Ai gardd yw pob dinas yng Ngâl?
(1, 0) 12 Edrych y llannau hyn, a'r gwinwydd yn dringo'r llethrau
(1, 0) 13 O'r afon hyd at fur y fynachlog,
(1, 0) 14 Dirion gyfannedd Duw.
 
(1, 0) 19 Arhoswn. Wele lidiart y clas.
 
(1, 0) 30 Ond pam y mae'r llwch yn llonydd a'r heolydd yn ddistaw?
(1, 0) 31 'Rwy'n ofni'r distawrwydd.
 
(1, 0) 37 Clywais gân esgob, sy newydd ei dywys i'w orsedd,
(1, 0) 38 Dair gwaith ar ei ddeulin ger uchel allor Crist
(1, 0) 39 Yn cyfarch y gwŷr a'i cysegrodd.
 
(1, 0) 44 Mihangel, y santaidd archangel, sy â'i gleddyf tros Gymru.
(1, 0) 45 Dacw sŵn traed yn dyfod at y drws;
(1, 0) 46 Mae'r bar mawr yn symud o'i fodrwy;
(1, 0) 47 Mae'r ddôr yn agor.
 
(1, 0) 62 Gynnau, pan safem yma yn heol amddifad y ddinas,
(1, 0) 63 Clywsom o allor yr eglwys gân un newydd eneiniog
(1, 0) 64 Yn deisyf am hir flynyddoedd i abadau Crist.
 
(1, 0) 225 I Dduw y bo'r diolch.