|
|
|
|
(1, 0) 4 |
|Habeo ad Dominum|. Nid fy nghalon sy'n drom, |
(1, 0) 5 |
Ond er pan lusgodd Adda ei ddeudroed oediog drwy borth Eden, |
(1, 0) 6 |
Ni bu gan bechadur draed trymach. |
|
|
(1, 0) 9 |
I Dduw y bo'r diolch; |
(1, 0) 10 |
Mae'r cyrn yn gori ar fy nhraed. |
|
|
(1, 0) 15 |
Nid oes neb ar yr heol, a gweigion yw'r gwinllannoedd. |
(1, 0) 16 |
Ai cysgu mae ciwdod Auxerre dan haul canol dydd? |
(1, 0) 17 |
Neu a oes heddiw ŵyl, neu angladd tywysog, |
(1, 0) 18 |
Neu wledd, a dynnodd y trefwyr i neuadd neu eglwys? |
|
|
(1, 0) 20 |
A drws y fynachlog. |
(1, 0) 21 |
Penliniwn. Cusanwn y trothwy a droedia'r saint. |
|
|
(1, 0) 27 |
Enaid, dyma derfyn y daith: |
(1, 0) 28 |
Pan glywom y barrau'n symud ar y drws draw, |
(1, 0) 29 |
Bydd tynged gwlad y Brythoniaid yn ein haros ni yma. |
|
|
(1, 0) 32 |
Gwrando. |
|
|
(1, 0) 34 |
Fy mrawd, ar frys: dyro sbonc ar y drws. |
|
|
(1, 0) 36 |
A adweini di'r llais? |
|
|
(1, 0) 40 |
A'r funud hon rhoir iddo gusan tangnefedd |
(1, 0) 41 |
A'i arwain â halelwia o'r gangell i'r clas. |
(1, 0) 42 |
Bydd yno esgobion Gâl a llond ffair o offeiriaid; |
(1, 0) 43 |
Trefnwyd awr dda inni ddyfod. |
|
|
(1, 0) 52 |
Dinasyddion Rhufain a chaethion ein Harglwydd Crist. |
|
|
(1, 0) 55 |
Tros fôr a thiroedd o eithaf yr ymerodraeth, |
(1, 0) 56 |
Cenhadon o wlad y Brythoniaid. |
|
|
(1, 0) 97 |
Fy arglwydd a'm tad, taled Duw iti'r pwyth; |
(1, 0) 98 |
Iawn yw i ninnau roi iti hynaws ufudd-dod, |
(1, 0) 99 |
Ond yn y peth hwn a erchaist, erfyniaf faddeuant. |
|
|
(1, 0) 101 |
Llw a dyngasom ar sgrin yng Nghaerlleon ar Ŵysg, |
(1, 0) 102 |
Ar feddrod Alban ferthyr, ein seren fore. |
|
|
(1, 0) 105 |
Llw na phrofem saig na thorri ympryd |
(1, 0) 106 |
Ond unwaith y dydd, ar fara a dŵr, cyn noswylio, |
(1, 0) 107 |
Oni thraddodem i esgobion Gâl |
(1, 0) 108 |
Druenus gri ffyddloniaid Crist yng Nghymru. |
|
|
(1, 0) 122 |
Fy arglwydd a'm tadau, |
(1, 0) 123 |
Yr wyf i, Paulinus, yn hen, yn hanner cant oed, |
(1, 0) 124 |
 phan edrychaf o'm blaen, nid i'r byd hwn yr edrychaf, |
(1, 0) 125 |
Byr fydd fy nyddiau yma, |
(1, 0) 126 |
Digon im' yma mwy yw ufuddhau ac aros. |
(1, 0) 127 |
A phan edrychaf yn ôl, yn ofer y llafuriais, |
(1, 0) 128 |
Blin fu fy nyddiau yma, |
(1, 0) 129 |
Ac nid oes a garaf oddieithr atgofion mebyd: |
(1, 0) 130 |
Pedair oed oeddwn i ar fraich fy nhad yng Nghaerlleon |
(1, 0) 131 |
Yn gwylio byddinoedd Macsen Wledig ac Elen, ymerodres Arfon, |
(1, 0) 132 |
Yn rhodio allan o'm dinas, |
(1, 0) 133 |
Allan dan lygaid y ddinas, |
(1, 0) 134 |
Allan ar gerrig Sarn Elen o glyw y ddinas, |
(1, 0) 135 |
A dywedodd fy nhad, dyma'r byd a wyddom yn darfod, |
(1, 0) 136 |
Darfod hir hwyl yr haul, |
(1, 0) 137 |
Darfod sefydlogrwydd, |
(1, 0) 138 |
Darfod y naddu meini i'r tai parhaol, |
(1, 0) 139 |
Darfod di-ddarfod ganrifoedd Rhufain a'i heddwch; |
(1, 0) 140 |
Ac wylodd fy nhad. |
(1, 0) 141 |
Ond atebodd fy mam: |
(1, 0) 142 |
Pan ddarffo heddwch Rhufain fe saif tangnefedd ein Harglwydd; |
(1, 0) 143 |
Offrwm beunyddiol offeiriaid Crist yw meini saernïaeth ein dinas, |
(1, 0) 144 |
A chredo ddisyflyd yr Eglwys balmanta undod gwareiddiad. |
(1, 0) 145 |
Gwir fu ei gair. Canys wedyn, |
(1, 0) 146 |
Wedi cilio o'r canwriaid a'r llengoedd a baneri'r eryr, |
(1, 0) 147 |
A'n gado'n weiniaid i gadw'r ffin, |
(1, 0) 148 |
A'r barbariaid yn tynnu'n nes dros y tir, |
(1, 0) 149 |
A'r Sgotiaid yn hyach o hyd dros y môr, |
(1, 0) 150 |
Wele, er hynny, y pryd y blagurodd dysg a dwyfoldeb |
(1, 0) 151 |
Fel gwanwyn hwyr yn ein gwlad. |
(1, 0) 152 |
Atom yn gyson, i Ddyfed a Gwent a Morgannwg, |
(1, 0) 153 |
Y ffoes ac y ffy athrawon gramadeg a dysgodron y gyfraith |
(1, 0) 154 |
O barthau'r goresgynwyr ac o'r dinasoedd llosg, |
(1, 0) 155 |
Ac megis blodau'r pren ceirios yw'n llannau a'n hysgolion, |
(1, 0) 156 |
A brwd y croesewir gan Emrys, Gwledig Caerlleon a'r Deau, |
(1, 0) 157 |
Etifeddion huodledd Quintilianus a Fferyll |
(1, 0) 158 |
A duwiol ddilynwyr Sierôm o Fethlehem. |
|
|
(1, 0) 163 |
Wylwch, fy nhadau, wylwch. |
(1, 0) 164 |
Troes ein golau yn dwyll. |
(1, 0) 165 |
Un ohonom ni, mynach o'r clas ym Mangor, |
(1, 0) 166 |
Thuser dysgeidiaeth, |
(1, 0) 167 |
Y tafod aur, |
(1, 0) 168 |
Treisiwr y nefoedd |
(1, 0) 169 |
A'i ympryd a'i einioes yn un, |
(1, 0) 170 |
Hwnnw, Pelagius y Brython, a beryglodd undod cred. |
|
|
(1, 0) 177 |
Gweddiwch hefyd, fy arglwydd, dros gyfyngder fy ngwlad. |
(1, 0) 178 |
Tra na bo ond rhuthr y barbariaid o barthau'r rhew a'r dwyrain |
(1, 0) 179 |
Yn cau arnom ni a chwithau a'r Rhufeiniaid oll, |
(1, 0) 180 |
Gallwn, â chalon ddur, amddiffyn ein hetifeddiaeth; |
(1, 0) 181 |
Canys Crist yw ein Rhufain mwy, ac Ef biau dysg y Groegiaid, |
(1, 0) 182 |
Ac undod yr Ysbryd Glân yn ei Eglwys fydd sail dinasyddiaeth cred. |
(1, 0) 183 |
Ond pallodd ein dewredd a'n pwyll; |
(1, 0) 184 |
Daeth atom ddysgawdwr, |
(1, 0) 185 |
Glân ei fuchedd a nerthol o air, |
(1, 0) 186 |
Disgybl Pelagius, Agricola, |
(1, 0) 187 |
A denodd, o'n myneich ac o deulu'r Ffydd, dorf ar ei ôl. |
(1, 0) 188 |
Pa gwrs a gymerem, fy mrodyr? |
(1, 0) 189 |
Nid rhydd yw i ni ddadwreiddio'r efrau o'r cae. |
(1, 0) 190 |
A rwygwn ni unwe'r Eglwys yng ngŵydd y paganiaid, |
(1, 0) 191 |
Neu ddatod rhwyd y Pysgotwr cyn cyrraedd glan? |
(1, 0) 192 |
Na ato Duw; |
(1, 0) 193 |
Ymbil mewn amynedd sy'n gweddu'n well. |
(1, 0) 194 |
Ond unpeth, nis medrwn chwaith─ |
(1, 0) 195 |
Gweld nodd y Winwydden, |
(1, 0) 196 |
Y Wir Winwydden sy â'i cheinciau drwy wledydd cred, |
(1, 0) 197 |
A'r nodd sy'n undod ei cheinciau, |
(1, 0) 198 |
Y nodd sy'n sug y grawnsypiau, |
(1, 0) 199 |
Ei weld yn diffygio, a diffrwytho cainc y Brythoniaid, |
(1, 0) 200 |
A gwywo o gainc y Brythoniaid, |
(1, 0) 201 |
A'r gangen yn pydru o'r pren. |
(1, 0) 202 |
~ |
(1, 0) 203 |
Yn fab, fy mrodyr, mi wylais fod Rhufain fy nhadau |
(1, 0) 204 |
Yn bradwyo, a'i braich yn byrhau; |
(1, 0) 205 |
Ond Rhufain newydd, ysbrydol, Dinas ein Duw, |
(1, 0) 206 |
Etifedd ei thegwch a'i dysg, |
(1, 0) 207 |
A welais yn llamu o'i llwch; |
(1, 0) 208 |
Ac iddi gwrogodd fy ngwlad, |
(1, 0) 209 |
Ynddi mae iechyd fy ngwlad, |
(1, 0) 210 |
Yn undod un ffydd, un bedydd, un offrwm, un Arglwydd. |
(1, 0) 211 |
A welaf i yn fy mhenwynni ein deol o hon? |
|
|
(1, 0) 213 |
Am hynny, fy nhadau, |
(1, 0) 214 |
Yn eisteddfod abadau fy ngwlad, |
(1, 0) 215 |
'Nôl ympryd a phenyd ac offeren a chymuno ynghyd |
(1, 0) 216 |
Dewiswyd Illtud a minnau i erchi i grefyddwyr Gâl: |
(1, 0) 217 |
Deuwch drosodd i'n cymorth, |
(1, 0) 218 |
Gyrrwch inni esgob i gyhoeddi i'n gwerin y ffydd a ddaliasom erioed, |
(1, 0) 219 |
Fel na bo na sect nac ymraniad yng ngwlad y Brythoniaid, |
(1, 0) 220 |
Eithr pawb o'r ffordd hon, |
(1, 0) 221 |
Yn cerdded wrth yr un rheol, yn synio'r un peth. |
(1, 0) 222 |
Wele, traddodais i chwi apêl fy mhobl; |
(1, 0) 223 |
A'r awron, Arglwydd, y gollyngi dy was mewn tangnefedd, |
(1, 0) 224 |
Yn ôl dy air. |