Ciw-restr

Buchedd Garmon

Llinellau gan Porthor (Cyfanswm: 20)

 
(1, 0) 49 |Dominus vobiscum|.
 
(1, 0) 51 Croeso i chwi, eneidiau. Pwy ydych chwi?
 
(1, 0) 53 Bendigedig yw'r neb sy'n dyfod yn enw'r Arglwydd.
(1, 0) 54 O ba wlad y daethoch, wŷr da?
 
(1, 0) 57 Undod yw gwledydd cred.
(1, 0) 58 Cyd-ddinasyddion yw gwerin Crist.
(1, 0) 59 Derbyniwch gusan tangnefedd.
 
(1, 0) 65 I Dduw y bo'r clod: heddiw'r bore
(1, 0) 66 Cysegrwyd Lupus offeiriad yn esgob Troyes.
(1, 0) 67 Garmon ein tad a'i cysegrodd.
(1, 0) 68 Daeth yma breladiaid Gâl yn gôr gorseddog,
(1, 0) 69 A'r awron eisteddant i ginio ar lawnt y clas.
(1, 0) 70 Chwithau, westeion, a roddaf i yno i eistedd
(1, 0) 71 Ar ddeheulaw Esgob Auxerre,
(1, 0) 72 Deuwch i'r byrddau. Mae'r cwmni ar hir gythlwng.
(1, 0) 73 Nid oes ond croesi'r hiniog i ymuno â hwy ar y lawnt.
 
(1, 0) 79 Gosteg.
 
(1, 0) 81 Fy arglwydd esgob, f'arglwyddi a'm tadau oll,
(1, 0) 82 Dygaf i chwi westeion o gyrrau pella'r Gristnogaeth,
(1, 0) 83 Myneich o wlad y Brythoniaid a gurodd yn awr ar ein porth.