Ciw-restr

Geraint Llywelyn

Llinellau gan Ymwelydd (Cyfanswm: 110)

 
(1, 2) 565 Mae hi'n hardd.
 
(1, 2) 568 Chweched ganrif?
 
(1, 2) 570 Yr eglwys.
(1, 2) 571 Chweched ganrif ydi hi?
 
(1, 2) 573 Ond 'dydach chi ddim mor siwr.
 
(1, 2) 580 Huw Williams?
 
(1, 2) 582 Dyna'ch enw chi, on'd e?
(1, 2) 583 Huw Williams?
 
(1, 2) 586 Rheithor, Y Parchedig Huw Williams, M.A. (Cantab.)
 
(1, 2) 590 Caergrawnt.
 
(1, 2) 592 Pa goleg?
 
(1, 2) 594 Yr un coleg a fi.
 
(1, 2) 597 Blynyddoedd?
 
(1, 2) 600 Gorffen ddwy flynedd yn ôl.
 
(1, 2) 602 Cystal ag erioed.
(1, 2) 603 Ydi.
 
(1, 2) 605 Dyddiau difyr.
 
(1, 2) 607 Coleg Edmwnd Prys.
 
(1, 2) 609 Glywsoch chi'r côr yn ddiweddar?
 
(1, 2) 615 "Dy babell di mor hyfryd yw
(1, 2) 616 O Arglwydd byw y lluoedd."
 
(1, 2) 620 Ydoedd?
 
(1, 2) 622 Sinicaidd iawn ar fore Sul.
 
(1, 2) 624 Yr haul 'ma fel fynno fo bore 'ma.
(1, 2) 625 Rŵan, 'ta.
 
(1, 2) 628 Bwrw'r Sul...
(1, 2) 629 Dyna ni.
 
(1, 2) 631 Ym Mangor.
(1, 2) 632 Y ddarpar wraig yn y coleg.
(1, 2) 633 Gorffen 'leni hefyd...
(1, 2) 634 Daria!
 
(1, 2) 636 Be?
 
(1, 2) 638 Do.
 
(1, 2) 640 Yn y Rhondda.
(1, 2) 641 Athrawes.
 
(1, 2) 643 Dibynnu.
 
(1, 2) 645 Dibynnu ar yr ysgol.
(1, 2) 646 Ches i 'rioed le i gwyno.
 
(1, 2) 648 Dyna ni.
(1, 2) 649 Sefwch yn llonydd.
 
(1, 2) 651 Sefwch yn llonydd...
(1, 2) 652 Dyna ni.
(1, 2) 653 Llun lliw o'r Parchedig Huw Williams, M.A. (Cantab) yn sefyll tu allan i borth ei eglwys Geltaidd ar fore Sul yn nhymor y Grawys.
 
(1, 2) 656 Diolch yn fawr,
 
(1, 2) 658 Coeliwch neu beidio, 'roeddwn inna' ar fin mynd i'r barchus arswydus swydd.
 
(1, 2) 660 Wel...
 
(1, 2) 662 Weithia'.
(1, 2) 663 Gan amlaf ar fore Llun.
(1, 2) 664 Mae plant yn swnllyd iawn ar fore Llun.
 
(1, 2) 666 Ia.
 
(1, 2) 669 Ysgrythur.
 
(1, 2) 671 Dim llei gwyno.
(1, 2) 672 Mae'r cyflog yn iawn a'r gwyliau'n hir.
(1, 2) 673 Diddordeb?
 
(1, 2) 675 Efo gradd o Gaergrawnt chaech chi ddim trafferth i gael swydd.
 
(1, 2) 677 Damia.
(1, 2) 678 Ffilm wedi darfod.
(1, 2) 679 Mi ddylwn i fod wedi prynu ffilm arall.
(1, 2) 680 'Ryda ni ar ganol project ar eglwysi Celtaidd.
(1, 2) 681 A dyma fi, yma o bob man, heb ffilm.
(1, 2) 682 Hurt 'te?
 
(1, 2) 684 Dibynnu be 'dach chi'n feddwl wrth Ysgrythur.
 
(1, 2) 689 Ydi.
(1, 2) 690 Ond nid dyna'r gwaith pwysica' i athro 'Sgrythur.
 
(1, 2) 692 Mae'n rhaid imi fod yn fugail yn ogystal ag athro.
 
(1, 2) 694 Mae'r eglwys wedi methu.
 
(1, 2) 696 Sut mae hi, yma?
 
(1, 2) 698 Mor ddrwg â hynny.
 
(1, 2) 702 Yng nghanol y Cymry Cymraeg?
(1, 2) 703 Wel wir.
 
(1, 2) 712 Ac mi fyddwch chitha' yma i gau'r drws?
 
(1, 2) 717 Ac mi gan nhw ei llyncu gan seciwlariaeth.
 
(1, 2) 719 Pam gwastraffu'ch amser a'ch talent yma, felly?
 
(1, 2) 721 Gwrand'wch.
(1, 2) 722 I achub cymdeithas, i achub y byd seciwlar mae'n rhaid i'r bobl orau dreiddio i'w ganol o.
(1, 2) 723 Bod wrth law yn y mannau tyngedfennol.
(1, 2) 724 Lle mae'r penderfyniadau mawr yn cael eu gwneud.
(1, 2) 725 Mewn gwleidyddiaeth, mewn llywodraeth leol, yn y byd addysg.
(1, 2) 726 Yn y byd.
(1, 2) 727 Yn y byd.
(1, 2) 728 Yno mae'n lle ni.
(1, 2) 729 Yn arwain pethau ac yn creu cymdeithas Gristnogol.
(1, 2) 730 Cymdeithas wâr.
(1, 2) 731 Cymdeithas dda.
 
(1, 2) 735 Yn ddyn deallus.
(1, 2) 736 Yn ddyn efo rhywbeth mawr i'w gynnig.
 
(1, 2) 738 Ia.
(1, 2) 739 Rhywbeth mawr.
(1, 2) 740 Mawr.
 
(1, 2) 743 Dim o angenrheidrwydd.
 
(1, 2) 745 Mae'r dewis yn glir.
(1, 2) 746 Cael byw yn y byd neu farw, yma.
(1, 2) 747 Gogoniant neu ebargofiant.
(1, 2) 748 Rydach chi'n haeddu gogoniant.
 
(1, 2) 751 Anfarwoldeb.
 
(1, 2) 753 Mi fedra' i 'nabod mawredd.
 
(1, 2) 757 Mm?
 
(1, 2) 759 Rhyw dro eto.
(1, 2) 760 Hynny ydi, os byddwch chi yma.
 
(1, 2) 763 Cariad?
 
(1, 2) 765 O.
(1, 2) 766 Ia.
(1, 2) 767 Wrth gwrs.
 
(1, 2) 769 Huw.
 
(1, 2) 771 Enw gwael.
(1, 2) 772 Rhy gyffredin o lawer.
 
(1, 2) 774 Mae hogia' Ioan Sant yn haeddu gwell?
 
(1, 2) 776 Ydyn!
(1, 2) 777 Maen nhw.
(1, 2) 778 Llawer gwell.