Ciw-restr

Golff

Llinellau gan Arwyn (Cyfanswm: 119)

 
(1, 0) 363 'Dw i ddim yn codi bwganod.
 
(1, 0) 536 Chytunan nhw byth, Morris.
 
(1, 0) 538 Ro'n nhw byth dragwyddol sêl bendith ar y fath beth.
 
(1, 0) 541 Wnân nhw ddim.
(1, 0) 542 Coelia di fi.
 
(1, 0) 548 Cwrs golff drws nesa i fynwant?
 
(1, 0) 554 Paid â rhygyfu.
 
(1, 0) 562 Mi dynni di nyth cacwn yn dy ben.
 
(1, 0) 574 A hogia'r iaith 'ma.
(1, 0) 575 Be am rheini?
 
(1, 0) 577 Traddodiad.
(1, 0) 578 Treftadaeth a ballu.
 
(1, 0) 580 A'r boi 'na sy'n sgwennu yn Y Tŵr.
(1, 0) 581 Mi fydd yn fêl ar fysadd hwnnw bydd?
 
(1, 0) 583 Mwy nag wyt ti'n feddwl.
(1, 0) 584 Cofio'r helynt gaethon ni efo'r parc 'na bum mlynadd yn ôl?
 
(1, 0) 586 Fo wthiodd y cwch i'r dŵr.
(1, 0) 587 Llythyru, deisebu, protestio a hynny am fisoedd dallta.
 
(1, 0) 589 Ia, e'lla.
 
(1, 0) 598 Pam wyt ti wedi marcio fan'ma?
(1, 0) 599 Pa dwll fydd hwn?
 
(1, 0) 606 Pam?
(1, 0) 607 Be sy?
 
(1, 0) 609 Fedri di ddim statu honno?
 
(1, 0) 611 Ydi hynny o dragwyddol bwys?
 
(1, 0) 626 'Dw i'n gaddo dim.
 
(1, 0) 629 O, ia, wrth gwrs.
(1, 0) 630 Mi fyddi di'n fanno, byddi?
 
(1, 0) 632 Ia, wel, rhyw feddwl o'n i ma'r peth calla' fydda iti...
 
(1, 0) 634 Rhaid bod yn ddoeth, rhaid?
 
(1, 0) 659 Rhyw bicio draw.
(1, 0) 660 Dyna'r cwbwl.
 
(1, 0) 665 Be?
 
(1, 0) 667 Dim o gwbwl.
 
(1, 0) 672 Rhy falch o ga'l gneud rwbath.
 
(1, 0) 676 Be?
 
(1, 0) 679 O, ia.
(1, 0) 680 Mi ddylwn i fod wedi deud wrth Morris 'ma.
 
(1, 0) 682 Na fydd hi yma.
 
(1, 0) 684 Wedi gorfod rhuthro i Warrington.
 
(1, 0) 686 Ia.
(1, 0) 687 Yr hogan 'cw.
 
(1, 0) 691 Ia.
(1, 0) 692 Y babi.
 
(1, 0) 694 Ydi.
 
(1, 0) 711 Dim, hyd y gwn i.
 
(1, 0) 713 'Dw i ddim yn meddwl.
 
(1, 0) 715 Na fydd.
(1, 0) 716 Wir rŵan.
 
(1, 0) 725 Lle ddeudodd Joyce o'dd y bwrdd 'na?
(1, 0) 726 Y rhiwal ia?
 
(1, 0) 728 Drws nesa i'r hen feudy ma' hwnnw, os 'dw i'n cofio'n iawn.
 
(1, 0) 917 Y gist 'na.
(1, 0) 918 Ma' hi'n llawn o ryw hen gelfi.
 
(1, 0) 922 Fi?
 
(1, 0) 929 Yli, fel hen ffrind, 'dw i am roid gair o gyngor iti.
(1, 0) 930 Taswn i'n dy le di mi faswn i'n anghofio am hyn.
(1, 0) 931 'Dan ni'n dau'n rhy hen i dynnu rhyw hen helynt i'n penna.
(1, 0) 932 Ro'dd Nans a finna'n ca'l rhyw sgwrs bach noson o'r blaen.
(1, 0) 933 'Dan ni'n dau wedi bod bum mlynadd ar hugain ar ryw gyngor ne'i gilydd.
(1, 0) 934 Nans druan wedi cyfri'r blynyddo'dd.
(1, 0) 935 E'lla y dylan ni'n dau ga'l rhyw hoe bach.
(1, 0) 936 Rhoid lle i rywun fengach...
(1, 0) 937 Ca'l tawelwch yn y tŷ.
(1, 0) 938 Dim ffôn yn canu o fora gwyn tan nos.
(1, 0) 939 'Dw i 'di gofyn am ymddeoliad cynnar o'r ysgol 'na.
(1, 0) 940 Ma'n nhw'n rhoi tua deng mlynadd dyddia yma.
(1, 0) 941 Ydyn, rhyw ddeng mlynadd.
(1, 0) 942 Yr hen gwricwlwm cenedlaethol 'ma.
(1, 0) 943 Poen enaid a dim byd arall.
(1, 0) 944 Melltith.
(1, 0) 945 Symud yn nes at Karen e'lla.
(1, 0) 946 Mi fydd hi angen help efo'r babi 'ma.
(1, 0) 947 Am gario mlaen i nyrsio medda hi...
(1, 0) 948 Helpu efo'r mortgage a ballu, wy'st ti?...
(1, 0) 949 na, 'dw isio i'r peth bach ddwad i 'nabod i...
(1, 0) 950 Ma' rhywun yn haeddu tawelwch, tydi?
(1, 0) 951 Tawelwch yn rhwbath...
(1, 0) 952 Be fydda'r gair hwnnw y bydda Wilias sgŵl yn 'i ddysgu inni stalwm.
(1, 0) 953 Amheuthun?
(1, 0) 954 Ia.
(1, 0) 955 Amheuthun.
(1, 0) 956 Tawelwch yn rhwbath amheuthun.
 
(1, 0) 958 Mm?
 
(1, 0) 961 O...
(1, 0) 962 Ydi...
(1, 0) 963 Siŵr o fod.
 
(1, 0) 966 Ydi... meddan nhw.
 
(1, 0) 968 Be ddeuda i wrthi?
 
(1, 0) 970 Gwyneth.
 
(1, 0) 972 Y boncan.
 
(1, 0) 974 Does dim rhaid ca'l gwarad ohoni, nac oes?
 
(1, 0) 981 Mi cornelith fi.
(1, 0) 982 Ti'n 'i nabod hi'n ddigon da.
(1, 0) 983 Be ddeuda i?
 
(1, 0) 996 Ro'dd hwn yn yr hen gist 'na...
(1, 0) 997 I be mae o'n da?
 
(1, 0) 1000 O, ia.
(1, 0) 1001 Cofio rŵan.
(1, 0) 1002 Be haru mi?
 
(1, 0) 1005 Na, na chwara teg.
 
(1, 0) 1008 Yma ma'u lle nhw.
(1, 0) 1009 Creiria'r hen gyff.
 
(1, 0) 1016 Ma'n ddrwg gin i Joyce.
 
(1, 0) 1087 Iawn.
(1, 0) 1088 Iawn.
 
(1, 0) 1090 Tydw i'n gneud.
 
(1, 0) 1092 Be arall ti'n feddwl 'dw i'n drio'i 'neud?
 
(1, 0) 1094 Lle ma' hi isio fo?
 
(1, 0) 1097 Yn lle?
 
(1, 0) 1106 Pwy?
 
(1, 0) 1110 O.
(1, 0) 1111 Hwnna.
 
(1, 0) 1114 Rhywun wedi colli'i ffordd e'lla.
 
(1, 0) 1124 Ddo' i heibio tua'r saith 'ma, ia?
 
(1, 0) 1126 Rhaid imi ffonio Nans gynta.
(1, 0) 1127 Holi sut ma' pawb a ballu.
 
(1, 0) 1130 Siŵr o 'neud.
 
(1, 0) 1155 Falch o dy weld di 'mechan i.