Ciw-restr

Golff

Llinellau gan Gwyneth (Cyfanswm: 193)

 
(1, 0) 24 Joyce! Joyce! Joyce!
 
(1, 0) 29 Rhein syrthiodd.
(1, 0) 30 Mi 'nes i drio'u pigo nhw.
 
(1, 0) 32 Wn i. Wn i.
 
(1, 0) 36 Am wn i.
 
(1, 0) 38 Cod nhw.
 
(1, 0) 41 Cod nhw.
 
(1, 0) 44 Dim ots.
(1, 0) 45 Rhein 'dw i isio.
(1, 0) 46 Rhein o Bonc yr Onnan.
 
(1, 0) 48 Do, daria unwaith!
(1, 0) 49 'Drycha be ti 'di 'neud!
 
(1, 0) 51 Sathru'r bloda llefrith 'na.
 
(1, 0) 53 Fanna!
(1, 0) 54 Drycha!
(1, 0) 55 Ma'n nhw'n un slwts.
 
(1, 0) 60 Yli llipa ydyn nhw.
 
(1, 0) 64 Be ydi hwnna sy gin ti?
 
(1, 0) 70 Gwyddfid.
 
(1, 0) 73 Tafla fo.
 
(1, 0) 75 Anlwcus.
 
(1, 0) 77 Yr hen bobol.
 
(1, 0) 80 Gwna be 'dw i'n 'i ddeud.
(1, 0) 81 'Dw i ddim isio fo ar gyfyl y lle 'ma.
(1, 0) 82 Tafla fo!
(1, 0) 83 Tafla fo!
 
(1, 0) 87 Ma'n ddrwg gin i, Joyce.
 
(1, 0) 89 Naci.
(1, 0) 90 Parti Ceinwen.
(1, 0) 91 Pan fydda hi'n hogan bach, mi fyddwn i'n mynd â hi am bicnic ar Bonc yr Onnan 'cw.
(1, 0) 92 Ro'dd yna borfa yna ers talwm.
(1, 0) 93 Un fras, felys.
(1, 0) 94 Ro'dd gofyn ca'l nerth march i fustachu trwyddi.
(1, 0) 95 Ac, o, mi fydda hi'n cwyno.
(1, 0) 96 Strancio weithia.
(1, 0) 97 Ond munud y gwela' hi'r bonc, gwên fawr a'i gneud hi am a welat ti at y bonc a sefyll fel sowldiwr ar yr hen graig lwyd 'na.
(1, 0) 98 Rhuthro'n ôl ata'i wedyn.
(1, 0) 99 Cythru yn y fasgiad o'n llaw i.
(1, 0) 100 Tynnu'r lliain allan a'i osod o'n dwt ar y bonc.
(1, 0) 101 Rhedag at Pwll Gasag, hel tusw bach o rhein, blodau llefrith, a'u gosod nhw'n gylch ar y lliain...
(1, 0) 102 Dyna lle byddan ni, yn ista am oria yno.
(1, 0) 103 Dim ond y ddwy ohonan ni.
 
(1, 0) 105 Yn syth bin ar ôl 'i harholiad dwytha medda hi.
(1, 0) 106 Deuda'i bod hi'n cychwyn am un...
(1, 0) 107 Faint 'neith hi rŵan?
 
(1, 0) 110 Tân dani felly, te?
 
(1, 0) 112 Tair blynedd, felly.
 
(1, 0) 114 Ma' hi'n dair blynedd ers iti ddwad yma.
 
(1, 0) 116 Yr ha' cyn i Ceinwen fynd i Aberystwyth.
 
(1, 0) 118 Cythral bach dan din.
 
(1, 0) 120 Morris.
(1, 0) 121 Ro'n i wedi bod am y profion 'ma y dydd Gwenar.
(1, 0) 122 Adag Royal Welsh o'dd hi, cofio'n iawn.
(1, 0) 123 Morris, fel arfar, yn torri'i fol i fynd efo'i giwad ddydd Sadwrn.
(1, 0) 124 Ac mi a'th.
(1, 0) 125 Ddydd Llun mi ddoth 'na lythyr yn deud wrtha'i 'u bod nhw isio 'ngweld i fora dydd Merchar.
(1, 0) 126 Fedrwn i ddim gofyn i Ceinwen ddwad efo fi.
(1, 0) 127 Ro'dd hi yng nghanol 'i harholiada.
(1, 0) 128 Ffonio pob tŷ tafarn yn ochra Llanelwedd 'na.
(1, 0) 129 Prin y medrwn i glywad 'i lais o.
(1, 0) 130 Ffarmwrs chwil yn morio canu yn y cefndir.
(1, 0) 131 Ond mi lwyddis i i egluro y bydda'n rhaid iddo fo ddwad adra i fynd â fi.
(1, 0) 132 Yn lle dwad adra'n syth ma'n rhaid i fod o wedi picio i Sbyty Gwynedd.
(1, 0) 133 Gwadu 'nath o.
(1, 0) 134 Ond ro'dd 'i wynab o'n wyn fel y galchan.
(1, 0) 135 Deud dim na bw na be am oria.
(1, 0) 136 Cerdded y caea.
(1, 0) 137 Dim golwg ohono fo.
(1, 0) 138 Ar ôl magu plwc, dyma fo'n rhuthro i'r parlwr 'na fath â dyn gwyllt.
(1, 0) 139 "Nyrs," medda fo.
(1, 0) 140 "Rhaid ca'l nyrs."
(1, 0) 141 Do'n i ddim isio nyrs.
(1, 0) 142 O'n i'n ddigon 'tebol ar y pryd.
(1, 0) 143 Ond mi fynnodd ga'l 'i faen i'r wal, fel arfar.
(1, 0) 144 Ro'dd Arwyn wedi sôn am ryw asiantaeth nyrsio...
(1, 0) 145 Ac mi ddoist ti o rwla, do?
 
(1, 0) 148 Bydd, m'wn.
(1, 0) 149 Eith hi i le'n byd y dyddia yma heb hwnnw.
 
(1, 0) 151 Rhyw hen darth ar y morfa 'na.
(1, 0) 152 Hidio dim ar 'i olwg o.
 
(1, 0) 155 Gest ti afa'l arnyn nhw.
(1, 0) 156 Bob dim yn lluch i dafl hyd y lle 'ma ers i Morris ddechra stwnsian.
 
(1, 0) 159 Rown ni un yn fan'cw a'r llall yn fan'ma.
 
(1, 0) 161 Ia.
(1, 0) 162 Rown ni'r buffet yn fan'ma, iawn?
 
(1, 0) 168 Naci.
(1, 0) 169 Mi rown ni'r bwyd yn fan'cw.
(1, 0) 170 Y diodydd a ballu yn fan'ma.
(1, 0) 171 Haws rywsut, bydd?
(1, 0) 172 Bydd... Bydd.
(1, 0) 173 Y bloda 'ma.
(1, 0) 174 Mi fydd raid 'u taro nhw mewn dŵr.
 
(1, 0) 176 Rho di drefn ar y byrdda 'ma.
 
(1, 0) 178 'Dw i'n iawn.
(1, 0) 179 'Dw i ddim wedi teimlo cystal ers wsnosa dallta...
(1, 0) 180 A ffrog.
 
(1, 0) 182 Gwisga ffrog.
(1, 0) 183 'Dw i 'di laru dy weld di yn yr hen drowsus hyll 'na.
(1, 0) 184 Gwisga honna brynist ti pan o'ddat ti'n aros hefo dy chwaer...
 
(1, 0) 186 ... ac mi gei di hel mwy o floda ysgo imi...
(1, 0) 187 Rhaid inni roid digon o liw i'r lle 'ma.
(1, 0) 188 Drycha oes 'na bunting ar ôl y carnifal dwytha yn rhwla.
 
(1, 0) 190 Mi ddyla fod mewn bocs yn y twll dan grisia... yn y pen pella... mi ddangosa'i iti...
 
(1, 0) 322 Ia.
(1, 0) 323 Hwnnw.
 
(1, 0) 655 Ydi Gruff wedi dwad nôl?...
 
(1, 0) 657 O, Arwyn.
(1, 0) 658 Be ti'n da 'ma rŵan?
 
(1, 0) 675 Edrach ymlaen at weld Nans...
 
(1, 0) 677 Nans.
(1, 0) 678 Ma' hi'n dwad heno gobeithio?
 
(1, 0) 683 Pam?
 
(1, 0) 685 At Karen?
 
(1, 0) 688 Ma'n ddrwg gin i Arwyn.
(1, 0) 689 Yng nghanol y prysurdeb 'ma o'n i wedi anghofio'n lân.
(1, 0) 690 Y babi.
 
(1, 0) 693 Dydi o ddim i fod i gyrra'dd unrhyw funud?
 
(1, 0) 695 O.
(1, 0) 696 Mi fydd Nans a chditha wedi mopio'ch penna.
(1, 0) 697 Cofia di ddeud wrthi am ddwad â fo yma, yntê Morris?
 
(1, 0) 699 Wel y babi, te?
 
(1, 0) 706 Lle ti'n mynd?
 
(1, 0) 709 Y cais cynllunio 'ma.
(1, 0) 710 Be sy'n digwydd?
 
(1, 0) 712 Mi fydd 'na firi eto ma' siŵr, bydd?
 
(1, 0) 714 Arwyn?
 
(1, 0) 717 Wy'st ti be?
(1, 0) 718 Fawr o ots gin i bellach.
(1, 0) 719 Geith o 'neud be lecith o i'r lle 'ma.
(1, 0) 720 Heblaw un peth.
(1, 0) 721 Cheith o ddim rhoid i hen facha ar y bonc 'na yn fan'cw.
(1, 0) 722 'Dw i wedi deud wrthat ti droeon cymaint ma' hi'n i olygu imi.
(1, 0) 723 Ceinwen a finna pia honna a neb arall...
(1, 0) 724 Mae o'n mynd i ada'l llonydd iddi tydi, Arwyn?
 
(1, 0) 727 Yn tydi, Arwyn?
 
(1, 0) 734 Y champagne?
(1, 0) 735 Gest ti o?
 
(1, 0) 738 Mi fydd rhaid 'i oeri o.
 
(1, 0) 743 Cadw olwg arno fo, ta.
 
(1, 0) 746 Cofia di rŵan.
 
(1, 0) 749 Mi fydda i'n dy atgoffa di.
 
(1, 0) 751 Pryd roi di o i mewn?
 
(1, 0) 753 A'i estyn o allan, te?
 
(1, 0) 756 'Dw i ddim isio stomp.
 
(1, 0) 758 Gwydyr ym mhob man.
 
(1, 0) 761 Fedra' i mo'i glirio fo.
 
(1, 0) 763 'Dw i ddim isio i ddim byd ddrysu petha heno, dyna'r cwbwl.
 
(1, 0) 768 Be sy'n hwnna?
 
(1, 0) 770 Y bag 'na?
 
(1, 0) 772 Rhyw hen wisgi eto m'wn.
 
(1, 0) 774 Arwyn yn medru cadw'i ben tydi?
 
(1, 0) 776 Hy!
 
(1, 0) 778 'Dw i ddim isio iti ddechra rhochian tua'r deg 'ma.
 
(1, 0) 780 A rhyw hen ganu a ballu.
 
(1, 0) 782 Hollol.
 
(1, 0) 785 Yr hogan Joyce 'ma.
 
(1, 0) 787 'Dw i wedi erfyn arni i wisgo ffrog heno.
(1, 0) 788 Rhyw ffrog bach ysgafn.
(1, 0) 789 Ma' gynni hi un ddigon o ryfeddod.
(1, 0) 790 'Dw i 'di 'i gweld hi.
 
(1, 0) 794 Be?
 
(1, 0) 805 Pam ma' Arwyn yma rŵan?
 
(1, 0) 810 Arwyn.
(1, 0) 811 Pam mae o yma rŵan?
 
(1, 0) 815 Atab rhywun, 'nei di?
 
(1, 0) 817 Be sy ar y gweill rŵan?
 
(1, 0) 822 Mi gei 'neud be leci di hefo'r caea 'na ond ma'r bonc 'na yn mynd i ga'l llonydd dallta.
 
(1, 0) 824 'Nest ti addo imi, Morris.
 
(1, 0) 826 'Nest ti addo imi.
 
(1, 0) 831 Lliain gwyn.
 
(1, 0) 833 Cylch o floda llefrith arno fo.
 
(1, 0) 840 Rhedag at Pwll Gaseg.
 
(1, 0) 877 O'n i'n ama ma' fel hyn basa hi.
(1, 0) 878 Lle ma'r bwrdd 'na Joyce?
 
(1, 0) 886 Y llieinia gwynion?
(1, 0) 887 Lle ar wynab y ddaear ma'n nhw?
 
(1, 0) 907 Lle ma'r llieinia gwynion?
 
(1, 0) 909 Nac ydyn.
 
(1, 0) 911 'Dw i newydd edrach.
 
(1, 0) 913 Gas gin i bobol yn potsian efo 'mhetha i.
 
(1, 0) 915 Ma' rhywun wedi bod wrthi.
 
(1, 0) 921 Ma' arna' i isio sgwrs iawn efo chdi.
 
(1, 0) 923 Paid ag edrach mor ddiniwad 'nei di.
 
(1, 0) 925 Dangos imi lle ma'n nhw.
 
(1, 0) 1146 'I thiwtor hi wedi 'i blesio'n arw.
 
(1, 0) 1151 Mi fydd gynnon ni dwrna bach yn y teulu gyda hyn.
 
(1, 0) 1163 Dydi o ddim 'di oeri.
 
(1, 0) 1165 Gad o tan heno.
 
(1, 0) 1170 Newydd gyrra'dd ma' hi.
 
(1, 0) 1174 Gad inni roid trefn iawn ar y byrdda 'ma gynta.
 
(1, 0) 1185 Ara' deg.
(1, 0) 1186 Ma' gwaith yn'o fo.
 
(1, 0) 1190 Dim.