Ciw-restr

Gwely a Brecwast

Llinellau gan Wil (Cyfanswm: 43)

 
(1, 0) 39 Hel... Helo.
(1, 0) 40 Beth ti'n neud yn fanna, Twm?
(1, 0) 41 Dala llygod?
 
(1, 0) 48 Nawr, paid gwylltu, bachan.
(1, 0) 49 Dere 'ma i fi gal e bant.
(1, 0) 50 Hei, Twm, dyma'r llygoden fwya ma'r trap 'ma wedi'i ddala eriôd, siŵr o fod.
 
(1, 0) 53 Os dim cath gyda chi, 'te?
 
(1, 0) 62 Jiw, alla i ddim aros yn hir achos 'ma Matilda yn paratoi i ddod â llo.
 
(1, 0) 64 O, hen was da yw John, ond 'ma fe yn panico strêt pan fydd buwch yn dod â llo.
(1, 0) 65 Pan gath 'i wraig e fabi llynedd, gorfod iddo fe gal 'kiss of life' yn yr ysbyty.
(1, 0) 66 Wel, beth yw'r arwydd 'na weles i ar ben y lôn 'na: 'Bed and Brecwast'.
 
(1, 0) 72 Weda i un peth, Marged, fi'n methu gweld Tom yn cario Corn Flakes lan llofft bob bore i'r fisitor.
 
(1, 0) 76 Wel, os rhywun wedi dod yma eto 'te?
 
(1, 0) 78 Cofiwch, fi ddim ishe hela ofan arnoch chi, ond ma' hi'n fusnes risci...
 
(1, 0) 81 Wel, ti ddim yn gwybod pwy yw pwy heddi, wyt ti?
(1, 0) 82 Odd e'n y papurau ddoe, odd 'na wr a gwraig lawr ar bwys San Clêr yn byw mewn fferm fach fynyddig fel hyn ac yn cadw'r Bed a Brecwast yma, ac un nosweth fe ddaeth cnoc ar y drws tua unarddeg y nos, ac fe alwodd dou o'r beth chi'n galw nhw, yr... yr... ym... o... ym... yr Haleliwia Angels yma.
 
(1, 0) 84 Ie, na ti, Hells Angels ar gefen moto beics ac o'n nhw ishe Bed a Brecwast yno, ac felny buodd hi ond yn y bore beth ti'n meddwl ddigwyddodd?
 
(1, 0) 87 O'n nhw wedi mynd... wedi mynd...
 
(1, 0) 90 Twm bach, gad i fi orffen y stori, odd e'n waeth na hynny, o nhw wedi CROGI y ddou a dwgyd y cwbl odd yn y ty.
 
(1, 0) 98 O na, na odd e'n eitha gwir, odd | enw'r ffarm a'r bobl, ac echdo' | ddigwyddodd e a mae nhw heb eu dal o hyd.
(1, 0) 99 A chi ishe gwybod peth arall, faint ych chi'n feddwl o'n nhw wedi'i ddwgyd?
 
(1, 0) 102 Ti a dy ugen mil ─ dim ond pym theg punt.
(1, 0) 103 Ie, o'n nhw wedi crogi y ddou am ddim ond pymtheg punt.
(1, 0) 104 |
 
(1, 0) 111 O, fi ddim yn gweud llai, ond byddwch chi yn fwy gofalus na chodyn.
 
(1, 0) 120 Beth sy'n bod, bachan?
 
(1, 0) 124 O danco, delen i ddim fod wedi aros mor hir.
(1, 0) 125 Dere mlan bachan.
 
(1, 0) 388 Rarswyd mowr, beth ych chi yn neud yma heno, chwarae cwato.
(1, 0) 389 Os llygoden yn y trap te?
 
(1, 0) 392 O, wel, beth odd y car yna oedd yn mynd o 'ma jyst nawr.
 
(1, 0) 397 Bachan, gynigoch chi ddim bed and breakfast iddyn nhw te?
 
(1, 0) 400 O dou lo perta welest ti, un goch fenyw, a un gwryw du penwyn, a sen i wedi bod funud yn hwy fydde hi wedi bod yn rhy ddiweddar, cofia.
 
(1, 0) 412 O, gwerthu nhw, siŵr o fod, mart nesa, achos mae'n bwysicach i fi lawn bola y Bulk Tank na llanw bolie'r ddou 'na.
(1, 0) 413 Cofia, dwi ddim yn meddwl â'n nhw yn ddrud iawn achos mai twins y'n nhw.
 
(1, 0) 415 Bachan, beth sydd yn bod arno ti, dy'n nhw ddim ond wedi agor 'u llyged achan.
 
(1, 0) 417 Wel dwi ddim wedi meddwl am y peth eto.
 
(1, 0) 420 Wel, Twm bach, mae rhaid i fi weld nhw gynta cyn gallwn ni setlo dim.
 
(1, 0) 422 Bachan, newydd i rhoi e lan wyt ti.
 
(1, 0) 433 Ond cofia di un peth, mae buwch sbesial yn fam i'r rhain.
 
(1, 0) 435 Gwell byth yw hynny bachan.
 
(1, 0) 441 Reit, chi'n barod te.
 
(1, 0) 446 Bachan, ble cest ti afael yn yr enw 'na?