Ciw-restr

Y Gŵr Drwg

Llinellau gan BENJA (Cyfanswm: 89)

 
(1, 1) 137 Helo, Tomos Morgan.
(1, 1) 138 Fi sydd 'ma.
(1, 1) 139 Ydy' hi'n glir?
 
(1, 1) 145 Ydach chi'n siwr?
(1, 1) 146 Beth am y misus?
 
(1, 1) 152 Wedi ei gwisgo mewn du oedd hi, dwedwch?
 
(1, 1) 154 Be—ydy' hi wedi colli rhywun?
 
(1, 1) 159 Ydach chi'n teimlo'n iawn, Tomos Morgan?
 
(1, 1) 162 Wel hwyrach mai fi wnaeth eich cam-ddeall chi.
 
(1, 1) 164 Wel yr hyn dd'wedsoch chi rwan—bod y misus wedi colli ei gŵr.
(1, 1) 165 Ond wrth gwrs, fi'n sy'n gwneud camgymeriad.
 
(1, 1) 168 Maddeuwch i mi, Tomos Morgan, ond 'dydach chi ddim yn edrach fel 'taech chi wedi marw.
 
(1, 1) 171 O, 'rydw' i'n gweld rwan....
(1, 1) 172 Ond sut fedar o fod yn anfarwol os ydy' o wedi marw?
 
(1, 1) 176 Wel ydy', mi greda i.
 
(1, 1) 178 O?
 
(1, 1) 180 Pen-blwydd?
 
(1, 1) 189 Tipyn o fentar ydy' priodi, Tomos Morgan.
(1, 1) 190 Yn enwedig am yr ail dro.
(1, 1) 191 Mae yna lawer i ddweud dros bod yn hen lanc.
 
(1, 1) 198 Sut mae o, y dyddia' yma?
 
(1, 1) 202 Do—a heb ddwad dros hynny mae o reit siwr.
(1, 1) 203 Amser sydd arno fo eisio.
 
(1, 1) 206 Ann?
 
(1, 1) 209 O ia.
(1, 1) 210 Be—ydy' hi a Lewis yn canlyn?
 
(1, 1) 214 O, cyn i mi ddechra', Tomos Morgan.
(1, 1) 215 Mi ydw i wedi gwneud rhyw ddau ne' dri o fân betha i chi gael eu gwerthu.
(1, 1) 216 Mae nhw yn y parsel yma gen i.
 
(1, 1) 227 Go dda!
(1, 1) 228 Beth oedd o go iawn?
 
(1, 1) 230 A mi lyncodd y stori?
 
(1, 1) 235 Wel rhoswch chi—na 'does gen i ddim syniad.
 
(1, 1) 238 Be!
 
(1, 1) 241 Arswyd y byd!
 
(1, 1) 247 Hidiwch chi befo.
(1, 1) 248 Mi lwyddwn er ei gwaetha' hi a'i siort.
(1, 1) 249 Sut mae ganddyn nhw galon i edrach ar hen begnos yn cicio'u sodlau ar gongla'r strydoedd yma dwedwch?
 
(1, 1) 253 Wel, mi dria' i o'n fan'ma, Tomos Morgan.
 
(1, 1) 255 O, peidiwch â bod yn rhy siwr rwan, peidiwch â bod yn rhy siwr!
(1, 1) 256 Rhoswch am funud.
 
(1, 1) 262 O mi ydw' i'n reit chwannog i ddiferyn dros y galon rwan ac yn y man.
(1, 1) 263 Yn enwedig y tywydd oer yma. {Yfed o'r botel.}
 
(1, 1) 267 Ond i gyn'esu'ch gwaed chi mae o'n dda, Tomos Morgan...
(1, 1) 268 Ydach chi wedi symud, dwedwch?
 
(1, 1) 271 Reit.
(1, 1) 272 'Rhoswch chi, 'rhoswch chi, 'rhoswch chi. {Astudio'r bwrdd drafft.}.
(1, 1) 273 Mi dria'i hwn yn fan'ma, 'rydw i'n meddwl. {Mynd i symud ond tynnu'n ol.}
(1, 1) 274 Na, hanner munud, hanner munud, hanner munud.
 
(1, 1) 277 Dyna fo rwan.
 
(1, 1) 280 Duwcs annwyl, Tomos Morgan, be' sy'n bod?
 
(1, 1) 282 Wyddoch chi be, mae o'n swnio'n ddigon drwg.
(1, 1) 283 Rhaid i chi gymryd gofal ohonno fo.
 
(1, 1) 286 Ond 'does yna ddim allan o'i le ynddo fo mewn gwaeledd meddech chi.
 
(1, 1) 296 "Caban yr Hynafgwyr"!
 
(1, 1) 305 Ar fengoch i, welais i mo hwnna...
(1, 1) 306 Ond hidiwch befo—mi gymera inna hwn.
(1, 1) 307 A gwnewch o'n geiliog i mi, Tomos Morgan!
 
(1, 1) 312 D'wedwch wrtha' i, Tomos Morgan—
(1, 1) 313 TOMOS
(1, 1) 314 Wel?
(1, 1) 315 Fyddwch chi ddim blys rhoi swlltyn ar geffyl weithia?
 
(1, 1) 319 Ond dim ond meddwl 'roeddwn i.
(1, 1) 320 Hynny ydy'—wel wyddoch chi, cael chwanneg o arian at y Caban a—
 
(1, 1) 325 O wel, dyna fo.
(1, 1) 326 Lles yr hen begnos oedd gen' i mewn golwg, ynte.
(1, 1) 327 Dim bai ar y cynnig—
 
(1, 1) 331 Wyddoch chi be', Tomos Morgan—wrth i chi sôn am wragedd blin?
 
(1, 1) 333 Wel dyna roeddech chi'n 'i awgrymu dan eich gwynt, ynte!
(1, 1) 334 Hyn oedd gen' i i' ddweud: mae yna ddynion mawr iawn wedi cael 'run helbul â chi o dro i dro.
 
(1, 1) 336 Dyna i chi Socrates, er enghraifft.
(1, 1) 337 Hen feudan stormus oedd Santhipa, ei wraig o, medda' nhw.
 
(1, 1) 339 Ia—a dyna pam 'raeth o ati i sgwennu llyfra', i anghofio'i boen a'i helbul.
 
(1, 1) 342 Mewn hen lyfr sydd gen' i yn y tŷ acw.
(1, 1) 343 Wyddoch chi be' arall sydd ynddo fo?
 
(1, 1) 345 Hanes yr hen Ddoctor Ffawstws.
(1, 1) 346 Glywsoch chi am Doctor Ffawstws?
 
(1, 1) 348 Twt, twt, choelia' i fawr!
(1, 1) 349 Ydach chi ddim yn gwybod?
(1, 1) 350 Y dyn hwnnw werthodd ei enaid i'r diafol ers talwm.
 
(1, 1) 354 Wn i ddim, ond synnwn i flewyn.
 
(1, 1) 357 Ydy'—y manylion i gyd.
(1, 1) 358 Leiciech chi gael golwg arno fo?
 
(1, 1) 362 O mi wna' i, peidiwch â phryderu.
(1, 1) 363 Mi ro'i o mewn papur llwyd—wêl hi mo'i deitl o wedyn.
 
(1, 1) 378 Sut 'rydach chi, Miss Thomas?
 
(1, 1) 444 Ia, siwr o fod.
 
(1, 1) 446 Ond 'doeddwn i ddim ond pethma, Lewis.
 
(1, 1) 473 Be' sy'n bod, Tomos Morgan?