Ciw-restr

Y Gŵr Drwg

Llinellau gan DORA (Cyfanswm: 87)

 
(1, 1) 5 Tomos, be' ydych chi'n 'i wneud?
 
(1, 1) 7 Mi ydw' i'n gweld hynny'n iawn.
(1, 1) 8 Dim rhaid i chi bwysleisio peth sy'n hollol amlwg.
 
(1, 1) 11 Nid beth dd'wedsoch chi, ond y ffordd y dywedsoch chi o sy'n amheus.
 
(1, 1) 14 Peidiwch â thrio edrych yn ddiniwed, Tomos.
(1, 1) 15 'Rydych chi'n gollwng y gath o'r cwd bob tro.
(1, 1) 16 Mae yna rywbeth yn euog o'ch cwmpas chi'n ddiweddar yma.
 
(1, 1) 18 Mae hi'n braf iawn arnoch chi'n medru llaesu dwylo a hitha' mor brysur arno' ni yma!
 
(1, 1) 20 Faint o seibiant 'rydw' i'n ei gael?
(1, 1) 21 Dim munud awr o fore tan nos.
(1, 1) 22 Gweithio fy mysedd i'r esgyrn, ac ar alwad pawb yn ddibaid.
(1, 1) 23 Ia, a hynny heb rwgnach hefyd, fel 'rydw' i wiriona'—
 
(1, 1) 25 Peidiwch â dadla', Tomos.
(1, 1) 26 Rydych chi'n gwybod yn iawn 'mod i'n dweud y gwir.
(1, 1) 27 Os ydych chi am gadw gwesty heddiw, mae'n rhaid i chi fodloni ar fod yn gaethwas.
 
(1, 1) 29 Wel edrychwch arnoch eich hun, yn llybindian a chlertian o gwmpas fel hyn.
(1, 1) 30 Ac yn smocio fel corn simdde'.
(1, 1) 31 Ydych chi'n fy ngweld i'n gwneud?
 
(1, 1) 33 Peidiwch â chellwair.
(1, 1) 34 'Rydych chi'n gwybod be' 'rydw i'n ei feddwl yn iawn.
(1, 1) 35 Bob faint fyddwch chi'n fy ngweld i'n segura?
 
(1, 1) 37 Rhag eich c'wilydd chi, Tomos!
(1, 1) 38 Hi ydy' un o'n cwsmeriaid gora' ni.
(1, 1) 39 Ac yn aelod blaenllaw o Gyngor y Dre.
(1, 1) 40 Ydach chi'n gwarafun munud o sgwrs dros banned o de?
 
(1, 1) 43 Straeona, ddwedsoch chi?
(1, 1) 44 Straeona?
(1, 1) 45 Heblaw ei fod o'n gyhuddiad creulon, mae o'n gelwydd noeth.
 
(1, 1) 48 'Does gennych chi ddim amser i ddarllen.
(1, 1) 49 Mi wyddoch y bydd yma lond y lle i ginio.
(1, 1) 50 Mae yna ddwy bwcedaid o datws yn y gegin eisio cael eu plicio.
(1, 1) 51 Mi fydda' i'n disgwyl y byddan' nhw'n barod pan ddo' i'n ôl.
(1, 1) 52 Fydda' i ddim yn hir.
 
(1, 1) 54 Rasal?
(1, 1) 55 I be 'rydach chi eisio honno?
 
(1, 1) 57 Edrychwch yma, Tomos, 'dydw i ddim mewn tymer i'ch ffraethineb chi heddiw o bob diwrnod.
(1, 1) 58 Da chi, triwch gysidro.
 
(1, 1) 60 Ydach chi ddim wedi sylwi 'mod i mewn du?
 
(1, 1) 63 Cynhebrwng?
(1, 1) 64 Prin y medrech chi ddweud dim creulonach, 'taech chi'n sylweddoli hynny.
 
(1, 1) 68 Da chi, peidiwch â rhwbio halen i'r briw.
(1, 1) 69 Ddeng mlynedd i heddiw y collais i William annwyl. {Eistedd i lawr.}
 
(1, 1) 71 Gofalwch be' rydach chi'n 'i ddweud, Tomos.
(1, 1) 72 Mae'n ddyletswydd anrhydeddus arna'i i barchu co' fy ngŵr cynta'.
(1, 1) 73 Heddwch i'w lwch!
 
(1, 1) 75 Beth ydach chi'n 'i feddwl?
 
(1, 1) 79 Ia, mae hynna'n llythrennol wir.
(1, 1) 80 Yn y storm ofnadwy honno ddeng mlynedd yn ôl, yr aeth ei long o i'r gwaelod. {Codi a mynd at y ffenestr.}
(1, 1) 81 Ac er y dydd hwnnw, mae'r hen fôr milain, creulon acw'n atgas gen' i.
(1, 1) 82 'Dydw i byth yn clywed swn ei donnau heb glywed hefyd chwerthiniad iach fy nghariad cyntaf.
(1, 1) 83 Fedra' i byth edrych ar y tywod heb feddwl am ei esgyrn annwyl yn gymysg â'r gwmon.
(1, 1) 84 Ddaw'r llanw byth i mewn heb lenwi fy nghalon â hiraeth dwys.
(1, 1) 85 Mae cri'r wylan ar adennydd y gwynt yn dennu deigryn o'm llygaid.
 
(1, 1) 87 Sut fedrwch chi fod mor ddideimlad, Tomos?
(1, 1) 88 Ond beth arall sydd 'i ddisgwyl?
(1, 1) 89 'Does gennych chi ddim mwy o ramant na chwningan!
 
(1, 1) 94 Mi fydda' i bob amser yn meistroli fy nheimlada', fe ddylech wybod hynny.
(1, 1) 95 Hyd yn oed mewn trallod, mi fydda' i'n trio meddwl am eraill.
(1, 1) 96 Ac os oes arnoch chi eisio gwybod, nionod-picl fydd yna i ginio heddiw.
(1, 1) 97 Felly mi gewch sbario'ch trafferth.
 
(1, 1) 102 Mae gen' i eisio mynd allan ar negas, Lewis.
(1, 1) 103 Wnei di gadw dy lygaid yn agored rhag ofn i rywun alw?
(1, 1) 104 Mi fydd dy dad yn brysur yn y gegin.
 
(1, 1) 110 Wel, mi ydw' i wedi gwneud fy ngora' iddo fo, Tomos.
(1, 1) 111 'Tawn i'n fam iddo fo, fedrwn i wneud dim mwy.
(1, 1) 112 Ond 'dwn i ddim ydy' f'ymdrechion i'n cael eu gwerthfawrogi.
 
(1, 1) 116 A be ydy' hwnnw?
 
(1, 1) 118 'Does arna' i ddim eisio trafod hynny rwan, Tomos.
(1, 1) 119 Mi fydda' i'n ddiolchgar os gwnewch chi barchu fy nheimladau. {Troi oddiwrtho.}
(1, 1) 120 William annwyl!
(1, 1) 121 Deng mlynedd—!
 
(1, 1) 123 Ia?
 
(1, 1) 125 Wel?
 
(1, 1) 127 'Tae ni wedi cael plentyn?
(1, 1) 128 Tomos, peidiwch â siarad mor anweddus, wnewch chi!
(1, 1) 129 Ewch i'r cefn at y tatws yna, cyn i mi anghofio fy hun.
 
(1, 1) 131 Yn dweud y fath beth heddiw o bob diwrnod!
(1, 1) 132 Mae'r dyn o'i go'n lân.
 
(1, 1) 483 Tomos!
 
(1, 1) 485 Beth ydy'r bocs yma?
 
(1, 1) 489 Beth sydd ynddo fo?
 
(1, 1) 491 Be!
 
(1, 1) 493 Beth ydy'ch meddwl chi d'wedwch?
(1, 1) 494 I be' mae nhw'n dda?
 
(1, 1) 496 Ond fyddwch chi byth yn mynd i bysgota!
 
(1, 1) 499 Felly wir.
(1, 1) 500 Ond mae yna glo arno fo!