Ciw-restr

Y Gŵr Drwg

Llinellau gan LEWIS (Cyfanswm: 45)

 
(1, 1) 107 Mi ydw i'n iawn ond i mi gael llonydd. {Mynd allan.}
 
(1, 1) 383 Be' sy'n bod, Nhad?
 
(1, 1) 389 Dydy' o ddim yn edrych yn debyg, nag ydy'?
(1, 1) 390 Ne fuaswn i ddim yma rwan.
 
(1, 1) 392 Naddo.
(1, 1) 393 'Doeddwn i ddim yn teimlo fel gweithio heddiw, dyna'r cyfan.
 
(1, 1) 395 Pa un ai doeth neu annoeth, 'dydy' o 'run gronyn o wahaniaeth gen' i, Ann.
(1, 1) 396 Mi ge's i lond fy mol ar stiwardio yn y fyddin: o dan draed pob siort am bum mlynedd; yn is na chaethwas.
 
(1, 1) 398 Ydy', rwy'n gwybod.
(1, 1) 399 Dyna pan 'rydw' i'n llacio'r tresi a mwynhau tipyn o ryddid am dro.
 
(1, 1) 403 Byw o ddiwrnod i ddiwrnod—dyna fy nghred i o hyn ymlaen.
 
(1, 1) 405 Mae'n ddrwg gen' i am hynny.
 
(1, 1) 409 Wyddost ti beth, Ann—rwyt ti wedi gweithio' rhy hir yn offis Jones.
(1, 1) 410 'Rwyt ti wedi mynd i siarad yn union 'run fath â thwrna'.
 
(1, 1) 416 Dyna 'rydach chi i gyd yn 'i wneud.
(1, 1) 417 Busnesu felldith 'rydw' i'n ei alw fo.
(1, 1) 418 Pam aflwydd na cha' i lonydd i fyw fy mywyd fel 'rydw i'n dewis?
(1, 1) 419 Mae gan bob dyn hawl i hynny, gobeithio!
(1, 1) 420 'Dydw' i'n gwneud drwg i affliw o neb.
 
(1, 1) 422 Mater i mi ydy' hynny, Ann.
 
(1, 1) 427 Edrychwch yma, Nhad, peidiwch â meddwl 'mod i'n anniolchgar.
(1, 1) 428 'Dydw'i ddim.
(1, 1) 429 'Rwy'n gwybod eich bod yn trio fy narbwyllo i mai chi sy'n iawn.
(1, 1) 430 Tithau hefyd, Ann.
(1, 1) 431 Ond da chi ceisiwch sylweddoli bod yr ymyrryd parhaus yma'n mynd yn fwrn arna'i!
(1, 1) 432 Triwch gofio mai 'rwan 'rydw i'n profi gwir ryddid am y tro cynta'.
(1, 1) 433 Dwy flynedd ge's i ar ôl yr ysgol cyn i'r fyddin fy nghipio i ffwrdd.
(1, 1) 434 Pum mlynedd wedyn o grwydro dros hanner y byd efo gwn yn fy llaw.
(1, 1) 435 A mi ydach chi'n disgwyl i mi setlo i lawr yn syth i fywyd cul y dre' fach hunan-gyfiawn yma!
(1, 1) 436 Ydach chi ddim yn gweld 'mod i eisio amser i gael fy ngwynt ataf?
 
(1, 1) 438 Twt, beth ydy' blwyddyn?
 
(1, 1) 442 Beth wyt ti'n ei feddwl?
 
(1, 1) 445 Wnes i ddim gofyn am eich barn chi, Benja.
 
(1, 1) 447 Wel peidiwch â phethma, da chi!
(1, 1) 448 Mae yna ddigon yn fy mhen i fel y mae hi, heb i chi roi eich pig i mewn.
 
(1, 1) 451 Sut felly?
 
(1, 1) 455 Oes yna rywbeth o'i le yn hynny?
 
(1, 1) 457 Os medra' i wneud digon o arian heb orfod slafio am dano fo, mi fydda' i'n berffaith fodlon.
 
(1, 1) 460 Beth wyt ti'n drio'i awgrymu?
 
(1, 1) 462 Dic Lloyd?
(1, 1) 463 Beth amdano fo?
 
(1, 1) 467 Twt lol—cenfigen, a dim arall!
(1, 1) 468 Fedar pobol y dre yma ddim diodde' gweld neb yn mynd yn ei flaen.
(1, 1) 469 Mae llwyddiant dynion ifanc fel draenen yn eu cnawd nhw.
(1, 1) 470 A mi wnan' hynny fedran' nhw i wneud lobscows o bopeth.