Ciw-restr

Y Gŵr Drwg

Llinellau gan TOMOS (Cyfanswm: 190)

 
(1, 1) 6 Eistedd i lawr, Dora.
 
(1, 1) 9 Wnes i ddim ond ateb eich cwestiwn chi, Dora.
(1, 1) 10 Beth arall fedrwn i 'i ddweud?
 
(1, 1) 12 Amheus?
(1, 1) 13 Dydw' i ddim yn deall.
 
(1, 1) 17 Ond Dora fach, oes yna rywbeth allan o'i le mewn munud o seibiant, a bwrw golwg dros y papur newydd yma?
 
(1, 1) 19 Wel ia, ond 'does yna ddim diben—
 
(1, 1) 24 Ond Dora—
 
(1, 1) 28 Diaist i, os 'rydych chi'n gaethwas, be' ydw' i?
 
(1, 1) 32 Be—smocio fel corn simdde?
 
(1, 1) 36 Dim ond pob pnawn, Dora, pan ddaw Mrs. Vaughan Davies yma.
 
(1, 1) 41 Dim o gwbwl.
(1, 1) 42 Mi gewch straeona am ddwy awr o'm rhan i!
 
(1, 1) 47 Chi oedd yn siarad tra 'roeddwn i'n darllen, Dora.
 
(1, 1) 53 Welsoch chi fy rasal i, Dora?
 
(1, 1) 56 Dim ond meddwl y buaswn i'n shafio dipyn o gwsberis tra y bydda' i wrthi—!
 
(1, 1) 59 Cysidro be'?
 
(1, 1) 61 Wel ia, erbyn i chi ddweud.
(1, 1) 62 Be sy'n bod—ydach chi'n mynd i gyn'ebrwng rhywun?
 
(1, 1) 65 Mae'n ddrwg gen' i os gwnes i gamgymeriad.
(1, 1) 66 Ond yn naturiol dyna'r syniad cynta' ddaeth i 'meddwl i.
(1, 1) 67 Fedra' i feddwl am ddim arall—os nad dillad du ydy'r ffasiwn newydd.
 
(1, 1) 74 Ia—mae hi'n reit braf arno fo!
 
(1, 1) 76 Wel, wyddoch chi, allan o stormydd bywyd.
(1, 1) 77 Tu hwnt i boen a helbulon y byd.
(1, 1) 78 Cyrraedd hafan ar ôl y ddrycin, mewn ffordd o siarad.
 
(1, 1) 86 Oes yma ddigon o nionod at ginio heddiw, Dora?
 
(1, 1) 90 Fedra i feddwl am 'run creadur mwy rhamantus na honno!
(1, 1) 91 Ond peidiwch â 'nghamddeall i, Dora.
(1, 1) 92 Trio'ch helpu chi 'roeddwn i wrth son am ginio.
(1, 1) 93 Hynny ydy—'does gennych chi fawr o awydd gweithio heddiw, mae'n debyg, yng nghanol eich hiraeth—
 
(1, 1) 98 Dim trafferth o gwbwl, Dora.
(1, 1) 99 Pleser o'r mwya'.
 
(1, 1) 106 Sut dempar heddiw, machgan i?
 
(1, 1) 108 Mi ydw i'n ddigon pryderus ynghylch yr hogyn yma.
(1, 1) 109 Mae o'n cael anhawster mawr i setlo i lawr ar ôl dwad o'r fyddin.
 
(1, 1) 113 O mi fedra' i'ch sicrhau chi o hynny, Dora.
(1, 1) 114 'Rydach chi wedi gwneud cartre' da iddo fo, chwara' teg i chi.
(1, 1) 115 A dweud y gwir, 'does yna ddim ond un peth sydd wedi amharu ar ein hapusrwydd ni.
 
(1, 1) 117 William.
 
(1, 1) 122 Dora.
 
(1, 1) 124 Wyddoch chi be fydda'i i'n feddwl weithia?
 
(1, 1) 126 Peidiwch â chwerthin am fy mhen i, ond 'tae ni'n dau wedi cael plentyn, mi fuase' ni agosach o lawer at ein gilydd heddiw.
 
(1, 1) 140 Ydy', Benja.
(1, 1) 141 Tyrd i mewn.
 
(1, 1) 147 Newydd fynd allan ar negas.
(1, 1) 148 Ddaw hi ddim yn ei hôl am dipyn, paid â phoeni.
(1, 1) 149 Tyrd, eistedd i lawr.
 
(1, 1) 151 Ia, reit siwr.
 
(1, 1) 153 Ia, du fel y frân.
 
(1, 1) 155 Ydy'.
(1, 1) 156 Ei gŵr.
 
(1, 1) 160 Ydw', cystal â'r disgwyliad.
(1, 1) 161 Pam?
 
(1, 1) 163 Cam-ddeall be?
 
(1, 1) 166 Wnest ti ddim camgymeriad o gwbwl.
(1, 1) 167 Dyna'n hollol a dd'wedais i.
 
(1, 1) 169 Nid am danaf fy hun 'roeddwn i'n son, y twpyn.
(1, 1) 170 Am ei gŵr cynta' hi—yr anfarwol William!
 
(1, 1) 173 Mi ddeallit ti hynny, Benja, 'taet ti'n byw yn y tŷ yma.
(1, 1) 174 'Dydw i'n clywed dim ond William peth yma, a William peth arall, o un pen i'r flwyddyn i'r llall.
(1, 1) 175 Mae o wedi mynd yn stwmp ar fy stumog i.
 
(1, 1) 177 A mae hi'n waeth nag arfer heddiw, wrth gwrs.
 
(1, 1) 179 Diwrnod pen-blwydd, wyt ti'n gweld.
 
(1, 1) 181 Ia—pen-blwydd ei farwolaeth o, ddeng mlynedd yn ôl.
(1, 1) 182 Ond mae o mor fyw ag erioed yn y tŷ yma os wyt ti'n gofyn i mi.
(1, 1) 183 Mi fydda' i'n teimlo weithia nad ydw' i'n ddim ond lojwr yma.
(1, 1) 184 Son am y marw'n lladd y byw—dyna sy'n digwydd i mi.
(1, 1) 185 Mae William fel wal rhwng Dora a minna' ers dydd ein priodas, Benja.
(1, 1) 186 A'r canlyniad ydy' ei bod hi'n flin fel cacwn, a finna'n prysur fynd o dan ei bawd hi.
(1, 1) 187 Aros am funud, mae yna amser am gêm bach os byddwn ni'n handi.
 
(1, 1) 192 Oes, reit siwr.
(1, 1) 193 Mi fydda i'n teimlo'n reit eiddigus i ti weithia'.
(1, 1) 194 Er, cofia di, mae Dora'n ddynas dda mewn llawer ystyr.
(1, 1) 195 Rhaid bod yn deg.
(1, 1) 196 Yn un peth, mae hi wedi bod yn od o ffeind efo Lewis, yr hogyn yma.
 
(1, 1) 199 Digon ansefydlog, fachgan.
(1, 1) 200 'Dydy' o ddim 'run un rhywsut, ar ôl dwad allan o'r fyddin.
(1, 1) 201 Mi gafodd o amser go ddrwg allan yn Affrica, wyddost ti.
 
(1, 1) 204 O mi ddaw o—dim cwestiwn o hynny.
(1, 1) 205 A hwyrach y medar Ann helpu i sadio dipyn arno fo.
 
(1, 1) 207 Ia, ia—wyddost ti, y ferch ifanc sy'n aros yma.
(1, 1) 208 Mae hi'n gweithio efo Jones y Twrna'.
 
(1, 1) 211 Wel ydy', rhyw gybodlian fel y byddwn ni'n dweud...
(1, 1) 212 Reit, pwy sy'n mynd i symud gynta?
(1, 1) 213 Mi ydw'i am roi andros o gweir i ti heddiw, Benja.
 
(1, 1) 221 Mi fydda' i wedi gwerthu rhain i gyd cyn diwedd yr wythnos.
(1, 1) 222 Dyna fantais fawr cadw gwesty, wyddost ti.
(1, 1) 223 Digon o gwsmeriaid yn mynd a dwad o hyd.
(1, 1) 224 A rheiny'n barod i goelio pob stori bron.
(1, 1) 225 Dyna i ti ddoe, er engrhaifft, roedd yma glamp o Sais o Lerpwl—trafaeliwr am wn i.
(1, 1) 226 "Look here," medda' fi wrtho fo, "Wooden spoon belonging to the grandmother of Owen Glyndwr."
 
(1, 1) 229 Pric-pwdin Dora.
 
(1, 1) 231 Do—a phrynu'r lwy bren!
(1, 1) 232 Mi gês i bymtheg swllt am dani.
(1, 1) 233 Mae'r cadw-mi-gei yn llenwi, Benja.
(1, 1) 234 Wyddost ti faint sydd ynddo fo rwan?
 
(1, 1) 236 Can punt, 'rhen fach.
(1, 1) 237 Can punt ond chwe' cheiniog.
 
(1, 1) 239 Ffaith iti.
(1, 1) 240 Roeddwn i'n eu cyfri' nhw gynna'.
 
(1, 1) 242 I gyd ar yr achos da, Benja.
(1, 1) 243 Mi gawn ni Gaban i'r Hynafgwyr er gwaetha' Cyngor crintachlyd y dre' yma.
(1, 1) 244 "O fedrwn ni byth fforddio'r gost rwan," medda'r la-di-da Mrs. Vaughan-Davies yna.
(1, 1) 245 "Mae'r trethi'n rhy drwm fel y mae hi."
(1, 1) 246 Yr hen gwdihŵ gebyst!
 
(1, 1) 250 Dim arall i' ddisgwyl—dyna'u hanes nhw erioed wyddost ti...
(1, 1) 251 Ta waeth, tyrd, ti sydd i symud.
 
(1, 1) 258 Be!
(1, 1) 259 Diod feddwol?
(1, 1) 260 Dim o'r fath beth.
(1, 1) 261 Yn hollol groes i f'egwyddorion i.
 
(1, 1) 264 Mae o'n iawn fel ffisig, Benja.
(1, 1) 265 Does gen' i ddim gwrthwynebiad iddo fo mewn gwaeledd.
(1, 1) 266 Ond am lymeitian mewn gwaed oer—na, 'dydy' o ddim yn iawn rhywsut.
 
(1, 1) 269 Na, mi ydw' i'n disgwyl wrthyt ti.
(1, 1) 270 Tyrd yn dy flaen.
 
(1, 1) 275 Gwna dy feddwl i fyny, da ti!
(1, 1) 276 'Rwyt ti 'run fath â hen iâr yn methu dodwy.
 
(1, 1) 285 Na, na, mi fydda' i'n iawn mewn munud.
 
(1, 1) 287 Be?
(1, 1) 288 Wel nag oes.
(1, 1) 289 Ffisig mewn ffordd o siarad.
(1, 1) 290 Reit, Benja, gan dy fod ti'n pwyso arna' i.
(1, 1) 291 Aros am funud. {Cymryd cwpan oddiar y bwrdd.} Mi gymera' i ryw ddiferyn bach, bach, lleia' 'rioed.
 
(1, 1) 294 Reit, Benja—iechyd da.
(1, 1) 295 A phob llwyddiant i Gaban yr Hynafgwyr!
 
(1, 1) 298 Diaist i, 'roeddit ti'n iawn, Benja!
(1, 1) 299 Mae hwn yn llacio'r hen fegin.
(1, 1) 300 Ac iro'r frest fel mêl...
(1, 1) 301 Mi ydw' i'n teimlo'n well yn barod...
(1, 1) 302 Reit, gad i mi weld...
(1, 1) 303 Yli, mi ydw' i am neidio dau i ti.
 
(1, 1) 309 Diaist i, 'rwyt ti'n gwella yn dy chware, fachgan.
(1, 1) 310 Mi ddoi di, gyda gofal a bwyd llwy.
 
(1, 1) 316 Be'ddwedaist ti!
(1, 1) 317 Gamblo?
(1, 1) 318 Paid byth a sôn am y fath beth wrtha' i!
 
(1, 1) 321 Arian anonest, halogedig?
(1, 1) 322 Dim o gwbwl.
(1, 1) 323 Gwell heb Gaban na'i godi ar sylfaeni anfoesol.
(1, 1) 324 Rwy'n synnu atat ti'n awgrymu'r fath beth!
 
(1, 1) 328 Fynna'i i ddim baeddu fy nwylo efo aur llygredig, Benja.
(1, 1) 329 Wedyn, dyna ddiwedd arni. {TOMOS yn cymryd dracht arall o'i gwpan.}
(1, 1) 330 Rhaid i mi gofio golchi hon cyn i Dora ddwad yn ei hôl, ne mi fydd yma andros o le!
 
(1, 1) 332 Pwy oedd yn sôn am wragedd blin?
 
(1, 1) 335 O?
 
(1, 1) 338 Felly wir?
 
(1, 1) 340 Fe wnaeth beth call iawn!
(1, 1) 341 P'le ddarllenaist ti am hyn, dwed?
 
(1, 1) 344 Na wn i, be?
 
(1, 1) 347 Aros di rwan—Doctor Ffawstws—meddyg esgyrn oedd o dwed?
 
(1, 1) 351 Bobol annwyl!
(1, 1) 352 I beth oedd o eisio gwneud peth felly d'wed?
(1, 1) 353 Gwraig flin oedd ganddo ynta' hefyd?
 
(1, 1) 355 Mae o'n swnio'n llyfr diddorol dros ben, fachgan.
(1, 1) 356 Ydy' o'n dweud yn hollol sut i godi'r Gŵr Drwg?
 
(1, 1) 359 Leiciwn.
(1, 1) 360 Tyrd â fo efo ti pan fydd hi'n gyfleus.
(1, 1) 361 Ond cymer ofal rhag i Dora 'i weld o, wyt ti'n deall?
 
(1, 1) 365 O, helo Ann.
(1, 1) 366 'Rydach chi'n gynnar iawn o'r offis heddiw.
 
(1, 1) 370 Na, mae o yma yn rhywle.
(1, 1) 371 Rhoswch, mi alwa' i arno fo.
 
(1, 1) 374 Dim gwahaniaeth.
(1, 1) 375 Dydy' o'n gwneud dim lles iddo fo bendympian ar ei ben ei hun o hyd.
(1, 1) 376 Wn i ddim ydach chi'n nabod eich gilydd?
(1, 1) 377 Miss Ann Thomas—Benja.
 
(1, 1) 381 Wrthi'n rhoi cweir iddo fo ar y bwrdd drafft yma 'roeddwn i, Ann.
 
(1, 1) 384 O dim ond bod Ann yma, dyna'r cwbwl, Lewis.
 
(1, 1) 412 Ara' deg rwan, Lewis, ara' deg.
(1, 1) 413 'Doedd hynna ddim yn beth caredig iawn i' ddweud wrth Ann.
(1, 1) 414 Wedi'r cwbwl, 'dydy' hi ddim ond yn trio dy helpu di.
 
(1, 1) 423 'Rwyt ti'n gwneud camgymeriad mawr, 'machgen i.
(1, 1) 424 Gobeithio y gweli di hynny cyn iddi fynd yn rhy hwyr.
(1, 1) 425 Ond dyna fo, fedra' i ddim dylanwadu arnat ti'n amlwg.
(1, 1) 426 Mi ydw' i wedi trio 'ngora.
 
(1, 1) 437 Wel, 'rwyt ti wedi cael blwyddyn, wyddost ti.
 
(1, 1) 474 Tatws Dora eisio'u plicio.
(1, 1) 475 Llond dwy bwced ohonyn' nhw!
 
(1, 1) 478 Arswyd y byd! {Rhedeg yn ei ol, gafael yn y bocs a rhuthro allan.}
 
(1, 1) 484 Ia, Dora!
 
(1, 1) 486 Bocs?
(1, 1) 487 O, dim byd neilltuol, Dora.
(1, 1) 488 Wyddoch chi—wel bocs mewn ffordd o siarad—
 
(1, 1) 490 Beth sydd ynddo fo?... y... be' ydach chi'n 'i alw... y... pryfaid genwair.
 
(1, 1) 495 Wel—i ddal pysgod.
 
(1, 1) 497 Na, na—ei cadw nhw i Benja 'rydw' i, Dora.
(1, 1) 498 Mae o wedi addo brithyll i mi am danyn' nhw.
 
(1, 1) 501 Oes siwr.