Ciw-restr

Y Gŵr o Gath Heffer

Llinellau gan Nathan (Cyfanswm: 31)

 
(1, 0) 87 Hwyrach yr hoffit ti fynd yn fugail, Jonah?
(1, 0) 88 Dyma ni ar ochr y bryn, a'r dyffryn yn graith ddu oddi tanom.
 
(1, 0) 91 Gwelaf—diolch i'r cymorth amdano!
 
(1, 0) 93 Tyrd 'r hen leuad, paid ag oedi.
(1, 0) 94 Pwysa d'ên ar figyrnau'r clogwyn, gwna dy hun yn gysurus.
(1, 0) 95 Mi gei aros yma tan y wawr os mynni!
 
(1, 0) 99 Pelydrau'r lleuad ar rimyn o fôr, machgen i.
(1, 0) 100 'Wyt ti wedi penderfynu nad ei di ddim yn llongwr?
 
(1, 0) 103 Wel'd oes dim amdani felly ond bugail neu ffermwr.
 
(1, 0) 106 O?
(1, 0) 107 Canmoladwy iawn.
(1, 0) 108 Ond mi hoffwn i awgrymu'n garedig iti, Jonah, mai prin y gall dyn ddewis bod yn Broffwyd.
(1, 0) 109 Mae hynny yn nwylo'r Bod Mawr, wyddost ti.
 
(1, 0) 111 Felly?
(1, 0) 112 'Wn i ddim yn iawn sut i ateb hynna!
 
(1, 0) 115 'Wyt ti'n meddwl y bydd Yr Hollalluog vn barod i dderbyn yr amod yna?
 
(1, 0) 117 O?
(1, 0) 118 Wel, mae popeth yn iawn felly!
(1, 0) 119 Ond amser a ddengys 'machgen i, amser a ddengys!
 
(1, 0) 121 Aros!
(1, 0) 122 'Weli di rywbeth yn symud i fyny acw?
 
(1, 0) 124 Draw wrth ymyl y twmpath drain.
 
(1, 0) 126 Ia—cadw dy lygaid yn agored.
(1, 0) 127 Gafr Eliasar wedi crwydro eto, mi ddalia' i am siecel.
(1, 0) 128 Ia—dyna hi'n dwad i'r golwg ar y gair!
 
(1, 0) 132 Y cnaf mileinig, wedi cripian i lawr o'r ochor arall!
 
(1, 0) 134 Fe fydd wedi'i llarpio cyn i mi fynd ganllath.
(1, 0) 135 B'le mae fy ffon i?...
(1, 0) 136 'Rwan, aros di wrth y gorlan yma rhag bod ei gymar o gwmpas.
 
(1, 0) 138 Cofia paid â symud ar fôn dy fywyd.
(1, 0) 139 Mi dria' inna 'i ddychryn o i fwrdd,