Ciw-restr

Y Lefiathan

Llinellau gan Côr (Cyfanswm: 52)

 
(0, 1) 524 Wel, wel, wel!
(0, 1) 525 Edrychwch pwy sydd yma ar ei ben ei hun,
(0, 1) 526 Fel meudwy'n dwys-fyfyrio,
(0, 1) 527 A mud-edmygu, heb anadlu bron,
(0, 1) 528 Annisgrifiadwy harddwch bawd ei droed!
(0, 1) 529 A darllen ystyr holl gyfrinach
(0, 1) 530 Bod Yng ngwyrthiol ffurf ei fotwm-bol!
(0, 1) 531 Beth am fynd ato fo i dynnu dipyn ar ei goes
(0, 1) 532 A'i slensio i ddweud pa anturiaethau gwyllt
(0, 1) 533 A gafodd yn ddiweddar!
(0, 1) 534 ~
(0, 1) 535 Wedi'r cyfan
(0, 1) 536 Dydi o ddim run fath â phawb: mae'n rhaid
(0, 1) 537 Rhoi rhywfaint bach o ryddid i ddychymyg byw
(0, 1) 538 Creadur od fel hwn, a fydd rhyw ddiwrnod — pwy a ŵyr ─
(0, 1) 539 Yn wleidydd, yn olygydd papur-newydd,
(0, 1) 540 Neu yn fardd!
(0, 1) 541 ~
(0, 1) 542 Dydd da iti, Jonah,
(0, 1) 543 Sut mae'r hwyl? Mae wythnos, bellach, wedi mynd
(0, 1) 544 A minnau heb dy gwmni. Ble buost ti?
(0, 1) 545 Pa ryfeddodau welaist ti'r tro hwn
(0, 1) 546 Ar lethrau serth y clogwyn? Gad'inni glywed;
(0, 1) 547 Mae yma, fel y gweli, gynulleidfa gref,
(0, 1) 548 Pob un ohonom bron â thorri 'i fol
(0, 1) 549 I rannu dy gyfrinach!
 
(0, 1) 561 Gorchest fawr oedd honno, Jonah; paid â dweud iti gyflawni un a oedd yn fwy!
 
(0, 1) 572 Gwarchod pawb! Wel, glywsoch chi! Mae honna'n ddawn
(0, 1) 573 Tu hwnt i bob dirnadaeth! Gad inni glywed mwy!
 
(0, 1) 584 Faint, Jonah?
(0, 1) 585 Faint?
 
(0, 1) 597 Roedd hynna'n antur hynod! Oedd yn wir!
(0, 1) 598 Paid â bod yn wylaidd. Jonah, gad inni glywed mwy.
 
(0, 1) 603 Faint, Jonah, faint?
 
(0, 1) 631 Wel, wel, mae'n anodd gwybod beth i' ddweud yn iawn,
(0, 1) 632 Ar ôl y fath adroddiad. Fe hoffem ofyn felly ─
(0, 1) 633 Heb awgrymu dim, — a wyt ti, tybed, yn gorliwio?
 
(0, 1) 685 Proffwyd! Proffwyd! Mae Jonah bach yn Broffwyd!
(0, 1) 686 Cryned y mynyddoedd: dychryned y moroedd:
(0, 1) 687 Arswyded holl genhedloedd y ddaear,
(0, 1) 688 Mae Jonah bach yn Broffwyd!
(0, 1) 689 Chwi ehediad y nefoedd: chwi bysgod y môr,
(0, 1) 690 Chwi fwystfilod ac ymlusgiaid oll,
(0, 1) 691 Dowch ac ymgrymwch mewn parchus ofn
(0, 1) 692 I Jonah bach y Proffwyd!
(0, 1) 693 Jonah bach y Proffwyd!
 
(0, 1) 701 Jo-o-Jonah! Jo-o-Jonah!
 
(0, 1) 704 Jo-o-Jonah! Jo-o-Jonah!
 
(0, 1) 707 Jo-o-Jonah! Jo-o-Jonah!
 
(0, 1) 710 Jo-o-Jonah! Jo-o-Jonah!
(0, 1) 711 Jo-o-Jonah! Jo-o-Jonah!
(0, 1) 712 JONAH!