Ciw-restr

Y Lefiathan

Llinellau gan Dieithryn (Cyfanswm: 43)

 
(0, 1) 8 Dydd da ichi.
 
(0, 1) 11 Llecyn hyfryd ar ben y clogwyn yma.
 
(0, 1) 14 Mae o'n rhoi pendro i ddyn.
(0, 1) 15 Y môr i lawr acw fel darn o sidan crychlyd.
 
(0, 1) 17 A'r gwylanod fel gwybed yn hofran mor ddioglyd-hamddenol.
 
(0, 1) 19 Mi fuoch i lawr ar y traeth felly?
(0, 1) 20 Pysgota?
 
(0, 1) 22 Rhyw wagsymera'n lled-obeithiol, fel tae?
 
(0, 1) 26 O?
 
(0, 1) 29 Tybed?
 
(0, 1) 36 Be sy'n gwneud ichi feddwl?
 
(0, 1) 40 Wedi gweld rhywun tebyg, reit siwr.
 
(0, 1) 45 Felly!
 
(0, 1) 48 Rydych chi'n awdurdod ar y pwnc, mae'n amlwg.
 
(0, 1) 51 Swrth a bodlon mewn swyngyfaredd!
 
(0, 1) 54 Roeddech chi'n fachgen pur anghyffredin, rwy'n gweld.
 
(0, 1) 56 O?
 
(0, 1) 62 Jonah, aie!
 
(0, 1) 64 Oes yna ryw arwyddocâd yn yr enw, tybed?
 
(0, 1) 69 Pan fydd yr haul yn pendwmpian â'i ên ar y gorwel.
(0, 1) 70 A siffrwd y môr yn ei suo i gysgu.
(0, 1) 71 A'r hen fynyddoedd acw'n clustfeinio ar gyfrinach yr Oesoedd.
 
(0, 1) 73 A'r pentre oddi tanoch yn ymlacio'n braf ar ôl gwaith y dydd.
(0, 1) 74 Amser i fyfyrio am y byd a'r betws.
(0, 1) 75 Amser i freuddwydio.
 
(0, 1) 480 Wel, Jonah!
 
(0, 1) 482 Wnest ti aros yn hir ar y clogwyn neithiwr?
 
(0, 1) 487 Rwyt ti'n hapus ar dy ben dy hun?
 
(0, 1) 489 Pam?
 
(0, 1) 492 Fyddi di ddim yn chwarae efo plant y pentre?
 
(0, 1) 495 Rwyt ti'n hoff iawn o fynd i fyny'r clogwyn hefyd?
 
(0, 1) 497 Be fyddi di'n 'i wneud yno?
 
(0, 1) 500 Be fyddi di'n 'i weld?
 
(0, 1) 504 Ofn beth?
 
(0, 1) 507 Rwy'n gweld.
 
(0, 1) 509 Rhaid iti fod yn ddewr, 'machgen i.
(0, 1) 510 Wnei di addo hynna?
(0, 1) 511 Bod yn ddewr bob amser?
(0, 1) 512 Beth bynnag a ddigwydd?
 
(0, 1) 514 Amser a ddengys, Jonah...
(0, 1) 515 Amser a ddengys.
 
(0, 1) 519 Cofia, Jonah, bydd ddewr...
(0, 1) 520 Mi gawn gyfarfod eto... rhywdro.