Ciw-restr

Y Lefiathan

Llinellau gan Jonah (Cyfanswm: 183)

 
(0, 1) 9 Ac i chitha.
 
(0, 1) 12 Y gora yn y cyffinia, w'chi.
 
(0, 1) 16 E?
 
(0, 1) 18 Sôn am wybed, roeddyn nhw fel pla i lawr ar y traeth gynna.
 
(0, 1) 21 Dal genwair, nid pysgota fel y cyfryw.
 
(0, 1) 23 E?...
(0, 1) 24 la am wn i...
(0, 1) 25 Mi fedar unrhyw ffŵl enweirio ar y cei, w'chi.
 
(0, 1) 27 Peth arall ydi pysgota afon.
(0, 1) 28 Rhaid ichi fod yn fwy sgilgar o beth mwdral.
 
(0, 1) 30 Dim amheuaeth.
(0, 1) 31 Mae brithilliaid yn greaduriaid call, w'chi.
(0, 1) 32 Nid petha hanner-pen run fath â lledod a chathod-môr ac ati.
(0, 1) 33 Mae gofyn ichi ddefnyddio dipyn o hwn...
 
(0, 1) 35 Deudwch i mi, ydw i wedi'ch gweld chi o'r blaen ryw dro?
 
(0, 1) 37 Ŵn i ar y ddaear.
(0, 1) 38 Ond mi awn i ar fy llw.
(0, 1) 39 Fel tawn i'n eich nabod chi erioed, rywsut.
 
(0, 1) 41 Ia efalla...
(0, 1) 42 Fel ro'n i'n deud, mae pysgota'r afon yn fwy nag eistedd ar eich pen-ôl yn dal genwair.
(0, 1) 43 Yn un peth rhaid ichi wybod eich plu.
(0, 1) 44 A medru eu gwneud nhw os bydd angen.
 
(0, 1) 46 Mae'r hen frithyll yn gwybod y gwahaniaeth rhwng petrisen-corff-lliw-gwin a phetrisen-corff-blewyn-sgwarnog, w'chi.
(0, 1) 47 Dro arall, wneith dim y tro ond pluen ceiliog-chwaden-corff-melyn-budur.
 
(0, 1) 49 Wrthi ers pan ro'n i'n hogyn efo fy nwylo o dan y cerrig.
(0, 1) 50 Cosi bol yr hen frithyll nes y bydda fo'n swrth!
 
(0, 1) 52 E?
(0, 1) 53 Ia, am wn i.
 
(0, 1) 55 Wel, gan ichi ddeud hynna, mi ydw wedi teimlo erioed nad ydw i ddim yn hollol run fath â phobol eraill rhywsut.
 
(0, 1) 57 Peidiwch â cham-ddeall.
(0, 1) 58 Dwy i ddim yn honni am funud mod i'n well nag yn waeth na'r rhelyw.
(0, 1) 59 Ond mod i'n wahanol...
(0, 1) 60 Ydach chi'n siwr nad ydw i ddim wedi'ch gweld chi o'r blaen?
(0, 1) 61 Puw ydi f'enw i, Jonah Puw.
 
(0, 1) 65 Rhyfedd ichi grybwyll y peth.
(0, 1) 66 Ond ers pan o'n i'n grwtyn, mi ydw i wedi teimlo rhyw berthynas od rhyngof i a'r hen Broffwyd bach hwnnw.
(0, 1) 67 Effaith yr enw ar y dychymyg mae'n debyg.
(0, 1) 68 Yn enwedig pan fydda i'n gorwedd ar y clogwyn yma, fin nos yn yr haf.
 
(0, 1) 72 E?
 
(0, 1) 76 Diawch, wyddoch chi be, rydach chi'n berffaith iawn.
(0, 1) 77 Amser i freuddwydio ydi o.
(0, 1) 78 A mynd yn ôl i ddyddia mebyd.
(0, 1) 79 A gweld, drwy lygaid y dychymyg fel tae, helyntion yr hen Broffwyd Bach o Gath Heffer yn fy mywyd i fy hun.
(0, 1) 80 Yn union fel petaen ni'n ymdoddi i'n gilydd...
 
(0, 1) 89 Ac yn fy mreuddwyd roedd hyd yn oed rhai o'r pentrefwyr yn chwarae rhan yn yr hen chwedl... heb anghofio'r hen wraig fy nain.
 
(0, 1) 325 Fi?
(0, 1) 326 Hel cregyn ar y traeth.
(0, 1) 327 Siarad efo'r gwylanod.
(0, 1) 328 A gwrando ar y gwynt.
 
(0, 1) 330 Addo tywydd drwg yfory.
 
(0, 1) 333 Fi?
(0, 1) 334 Naddo.
 
(0, 1) 337 Wel... mi fûm i yno neithiwr.
 
(0, 1) 340 Ia, pan oedd y ser yn dechra dwad allan.
(0, 1) 341 Roeddyn nhw mor agos tawn i wedi estyn fy llaw mi faswn wedi medru gafael mewn dyrnaid ohonyn nhw.
(0, 1) 342 A'u rhoi'n fwclis i Nain.
 
(0, 1) 481 Dydd da, Syr.
 
(0, 1) 483 Fi, Syr?
(0, 1) 484 Naddo...
(0, 1) 485 Hynny ydi, rhyw hanner awr...
(0, 1) 486 Sut y gwyddoch chi, Syr?
 
(0, 1) 488 Ydw... weithia.
 
(0, 1) 491 Dwy' i ddim yn gwybod, Syr.
 
(0, 1) 493 O bydda... ambell dro...
(0, 1) 494 Hynny ydi pan fydda i wedi blino ar fy mhen fy hun.
 
(0, 1) 496 Ydw, Syr.
 
(0, 1) 498 Dim ond gorwedd ar y gwellt, Syr.
(0, 1) 499 Ac edrych i fyny ar yr awyr.
 
(0, 1) 501 Bob math o betha...
(0, 1) 502 Wyddoch chi, — y cymylau'n newid eu siâp ac ati...
(0, 1) 503 Mae arna i ofn yno, weithia, hefyd.
 
(0, 1) 505 Dwy'i ddim yn gwybod...
(0, 1) 506 Dim ond ofn.
 
(0, 1) 513 Mi wna i 'ngora glas, Syr.
 
(0, 1) 551 Reit, gan eich bod chi'n gofyn...
(0, 1) 552 Mae o wedi digwydd eto!
(0, 1) 553 Run fath ag o'r blaen.
(0, 1) 554 Wel, nid yn hollol run fath.
(0, 1) 555 Ond bron yn hollol run fath.
(0, 1) 556 Hynny ydi, y tro yma roedd yna fymryn bach o wahaniaeth.
(0, 1) 557 Y tro o'r blaen be wnes i oedd nadu'r tarw dwlcio'r hen gi dall.
(0, 1) 558 A hynny hyd cae i ffwrdd.
(0, 1) 559 'Rydach chi'n cofio hynna i gyd.
 
(0, 1) 562 Wna i ddim dweud hynny.
(0, 1) 563 Dydw i ddim yn un am frolio.
(0, 1) 564 Mi gewch chi benderfynu.
(0, 1) 565 Y cyfan rwy i'n 'i ddweud ydi, mod i'n medru gwneud petha clyfar.
(0, 1) 566 Wel, nid clyfar, efalla.
(0, 1) 567 Hynod, — ia dyna fo.
(0, 1) 568 Andros o hynod.
(0, 1) 569 Dim ond imi feddwl a meddwl.
(0, 1) 570 A chau fy nyrna nes y bydda i'n chwys diferol.
(0, 1) 571 Wedyn mae o'n digwydd!
 
(0, 1) 575 Wel, ro'n i ar y clogwyn y diwrnod o'r blaen.
(0, 1) 576 Gorwedd ar fy nghefn ro'n i, yn edrach ar eroplên yn yr awyr.
(0, 1) 577 A dyma fi'n clywed bref.
(0, 1) 578 Beth oedd yna meddech chi?
(0, 1) 579 Oen bach, wedi mynd yn sownd yn y graig.
(0, 1) 580 Dyna ichi beth oedd o.
(0, 1) 581 Ac wrth ei ben o, yn disgwyl ei chyfle, andros o gigfran fawr.
(0, 1) 582 Roedd hi gymaint ag eryr bron.
(0, 1) 583 A phig tua saith modfedd o hyd.
 
(0, 1) 586 Wel, andros o big.
(0, 1) 587 A dyna fi'n meddwl.
(0, 1) 588 A chau fy nyrnau nes ro'n i'n chwys.
(0, 1) 589 A deud yn ddistaw, yn fy mhen fel tae:
(0, 1) 590 "Yli, Frân," medda fi,
(0, 1) 591 "dim un fodfedd yn nes," medda fi,
(0, 1) 592 "Rwy'n dy droi di'n garreg y munud yma!" medda fi.
(0, 1) 593 Ac yn sydyn, dyma hi'n fferru yn y fan a'r lle.
(0, 1) 594 Ac yn mynd yn rhan o'r graig...
(0, 1) 595 Mae ei siâp hi yna o hyd...
(0, 1) 596 Ond fedar neb ond yfi ei gweld hi!
 
(0, 1) 599 Wel gan eich bod yn gofyn.
(0, 1) 600 Mi es i nofio ddoe.
(0, 1) 601 Roedd hi'n ddiwrnod braf a'r dŵr yn gynnes.
(0, 1) 602 A dyna fi'n nofio allan rhyw bedair milltir.
 
(0, 1) 604 Wel, nid pedair efalla.
(0, 1) 605 Ond ymhell dros dri chan llath.
(0, 1) 606 Ac yn sydyn dyma'r gwynt yn chwythu a'r llanw'n codi.
(0, 1) 607 A minnau'n cael fy nghario ar y creigia.
(0, 1) 608 Fel arfer, fasa hynny'n poeni dim arna i.
(0, 1) 609 Ond fedar y nofiwr gora yn y byd wneud affliw o ddim os daw cramp i'w goesa.
(0, 1) 610 Mae o'n union fel lwmp o blwm.
(0, 1) 611 Wel, dyna ddigwyddodd i mi.
(0, 1) 612 Andros o gramp.
(0, 1) 613 Ro'n i'n meddwl i bod hi ar ben arna i.
(0, 1) 614 A'r creigiau du yn sgyrnygu dannedd.
(0, 1) 615 Yna, dyma fi'n gweld rhywbeth.
(0, 1) 616 Be meddech chi?
(0, 1) 617 Llambedyddiol.
(0, 1) 618 Andros o un.
(0, 1) 619 Cymaint â bustach.
(0, 1) 620 Mwy efallai.
(0, 1) 621 Cymaint â morfil!
(0, 1) 622 Wel mi wyddoch am lambedyddiol.
(0, 1) 623 Mae o'n greadur call.
(0, 1) 624 Ac yn dyner.
(0, 1) 625 Ac yn gyfaill i ddyn.
(0, 1) 626 Wel, dyma fi'n cau fy nyrna, a meddwl nes ro'n i'n chwys diferol.
(0, 1) 627 Gofyn iddo fo fy helpu, ─ dyna ro'n i'n 'i wneud.
(0, 1) 628 Ac yn sydyn dyma fo'n troi a nofio ataf fi.
(0, 1) 629 A gadael imi afael yn ei gynffon.
(0, 1) 630 A mynd â fi rhwng y creigia i'r dŵr tawel o dan y clogwyn.
 
(0, 1) 634 Dydw i ddim yn gwybod be rydach chi'n 'i feddwl.
 
(0, 1) 636 Wel nid yn hollol run faint â bustach, efalla.
(0, 1) 637 Ond roedd o gymaint â merlyn.
 
(0, 1) 641 Wel dyna be ddigwyddodd.
 
(0, 1) 644 Wel... hwyrach nad oedd y cramp ddim wedi gafael yno i'n llwyr.
(0, 1) 645 Ia, dyna fo.
(0, 1) 646 Mi ydw i'n cofio rwan, — ro'n i'n medru symud fy llaw dde!
 
(0, 1) 649 Ond mi ydw i'n deud wrthych chi.
(0, 1) 650 Mi fedra i |wneud| i betha ddigwydd.
(0, 1) 651 Petha gwyrthiol.
 
(0, 1) 655 Wel, nid gwyrthiol, hwyrach.
(0, 1) 656 Rhyfeddol, — ia dyna fo, rhyfeddol.
 
(0, 1) 660 Wel, mi dria i fy ngora glas.
(0, 1) 661 Ond cofiwch, dydi o ddim yn gweithio bob tro.
 
(0, 1) 664 Reit... 'rhoswch am funud...!
 
(0, 1) 669 Welwch chi'r ysgubell acw?
(0, 1) 670 Mi ydw i'n ei gorchymyn i ddawnsio!...
(0, 1) 671 Ysgubell — dawnsia!...
(0, 1) 672 Dawnsia!...
(0, 1) 673 Dawnsia!
 
(0, 1) 678 Ia, wel, dydi o ddim yn digwydd bob amser.
 
(0, 1) 681 Mi gewch chi weld rhyw ddiwrnod!
(0, 1) 682 Mi ga i fwy o barch bryd hynny!
 
(0, 1) 684 Ar ôl imi dyfu i fyny, mi ydw i am fod yn Broffwyd!
 
(0, 1) 694 Mi gewch chi weld!
(0, 1) 695 Mi gewch chi weld!
 
(0, 1) 728 O dim byd, Nain.
(0, 1) 729 Tipyn o hwyl ─
 
(0, 1) 760 Ydw...
(0, 1) 761 Doeddyn nhw ddim o ddifri, Nain!
 
(0, 1) 768 Ond Nain...!
 
(0, 1) 770 Ydw, Nain.
 
(0, 1) 774 Reit, Nain.
 
(0, 1) 780 Ydw, Nain...
(0, 1) 781 Ewch chi gynta.
(0, 1) 782 Mi reda i ar eich ôl chi mewn munud.
 
(0, 1) 789 Nain!...
(0, 1) 790 Nain!...
(0, 1) 791 Nain!