Ciw-restr

Y Lefiathan

Llinellau gan Prothero (Cyfanswm: 54)

 
(0, 1) 107 Llid y coluddyn.
 
(0, 1) 123 Cymhariaeth ddigon tila oedd hi, serch hynny.
(0, 1) 124 Cyffelybiaeth anllenyddol.
 
(0, 1) 137 Wel, mae'n dibynnu.
 
(0, 1) 244 Be sy wedi bod yn her i'r pentre ers cyn co'?
 
(0, 1) 248 Anodd deud y gwahaniaeth erbyn heddiw!
 
(0, 1) 257 Rwy'n tueddu i gytuno efo chi y tro yma, Prydderch, mae'n ddrwg gen i ddeud!
 
(0, 1) 279 Mae pobol wedi anghofio sut i siarad.
 
(0, 1) 284 Mi hoffwn i wneud datganiad.
 
(0, 1) 288 Fe glywsoch Prydderch yn "twt-twtio" rwan.
(0, 1) 289 Peidied neb â meddwl mai ar dir diwylliannol roedd o'n gwneud.
(0, 1) 290 Hynny ydi nid wfftio at ein hiaith sathredig ni roedd o.
 
(0, 1) 293 Fel mater o ffaith, mae o'n twt-twtio bob tro y bydd rhywun yn sôn am y Bod Mawr.
(0, 1) 294 Mi ydw i wedi sylwi hynny.
 
(0, 1) 366 Cytuno mae'n ddrwg gen i gyfadde.
(0, 1) 367 Ond waeth heb na hel dail, — mae'n argyfwng.
 
(0, 1) 370 Nemesis!
 
(0, 1) 372 Ond pam?
(0, 1) 373 Be ydi'r rheswm?
(0, 1) 374 Wel, yng ngeiriau'r Doctor Karl von Dietloff — mi fedra inna ddyfynnu dynion pwysig hefyd, Prydderch, — yng ngeiria'r Doctor Dietloff wedi mynd ar goll rydan ni.
(0, 1) 375 Cenedl ar gyfeiliorn.
(0, 1) 376 Di-asgwrncefn.
(0, 1) 377 Chwit-chwat!
(0, 1) 378 Chwim-chwam!
(0, 1) 379 A does yna ddim ond un ffordd allan inni.
 
(0, 1) 384 Mynd yn ôl i wytnwch y dyddiau gynt, dyna ichi be!
(0, 1) 385 Ymwroli!
(0, 1) 386 Gwregysu ein llwynau!
(0, 1) 387 Ail-gydio yn yr hen werthoedd!
(0, 1) 388 Rhoi'r ysgwydd i'r olwyn.
(0, 1) 389 Ein trwyn ar y maen!
(0, 1) 390 Ein cefn ati!
(0, 1) 391 A does yna ddim ond un waredigaeth inni.
(0, 1) 392 A phetaech yn gofyn imi be ydi honno, mi ddywedwn wrthych chi.
(0, 1) 393 Yn dwt, yn gryno.
(0, 1) 394 Mewn un frawddeg.
(0, 1) 395 Heb falu awyr na hel dail.
 
(0, 1) 399 Sach-lian a lludw.
(0, 1) 400 Bara-sych-a-dŵr.
(0, 1) 401 Ydach chi'n fy neall i?
 
(0, 1) 404 Ydw i'n clywed rhywun yn beiddio twt-twtio eto?
 
(0, 1) 409 Enaid mewn tywyllwch!
 
(0, 1) 411 Heretic!
 
(0, 1) 413 Twpsyn!
 
(0, 1) 417 Does yna ddim ond un peth i wneud i'r fath gablwr.
(0, 1) 418 Rhaid gorffen tynnu ei drowsus!
(0, 1) 419 Rydach chi wedi gofyrr amdani gyfaill!
 
(0, 1) 422 Teimlo fel twt-twtio rwan, Prydderch?
(0, 1) 423 Rhoswch chi...!
 
(0, 1) 426 Mi gawn benderfynu hynny, toc!
 
(0, 1) 435 Goleuni'r Ffydd!
(0, 1) 436 Rwan Prydderch, dwedwch ar f'ôl i "Duw cariad yw".
 
(0, 1) 439 "Duw... cariad... yw!"
 
(0, 1) 466 Wedi'i ollwng o reit siwr, wrth ichi gael eich trechu gan y Gwirionedd!