Ciw-restr

Lladron a Llanc

Llinellau gan Shujun (Cyfanswm: 241)

 
(0, 2) 240 Pam 'da chi yma felly?
 
(0, 2) 243 Iawn.
 
(0, 2) 247 Fy nho i ydi hwn.
(0, 2) 248 Allai eistedd yma os dwisio.
 
(0, 2) 251 Yndw.
 
(0, 2) 255 Pam?
(0, 2) 256 Tisio fi arwyddo rywbeth?
 
(0, 2) 258 Dwi'm yn leidr, os dyna 'dachi'n feddwl.
 
(0, 2) 262 Wel diolch am eich consyrn, ond dwi'n fine.
 
(0, 2) 264 Cariwch ymlaen.
(0, 2) 265 Plis.
(0, 2) 266 Dwi'm yn stopio chi.
 
(0, 2) 271 Tisio peth?
 
(0, 2) 277 Ydi hynna'n ffaith?
 
(0, 2) 279 Diddorol iawn.
 
(0, 2) 281 A be 'di hynna?
 
(0, 2) 287 Di'r pethau yna'n golygu dim.
 
(0, 2) 290 'Sgyn ti'm clem.
 
(0, 2) 301 Dwi heb gael ffeit efo nghariad.
(0, 2) 302 Sgynnai'm cariad.
 
(0, 2) 305 Naci.
(0, 2) 306 Dwi'm isio siarad am y peth.
(0, 2) 307 Ffwcia o'ma.
 
(0, 2) 317 Oes rywun erioed 'di dy siomi?
 
(0, 2) 321 Dim fel'na.
(0, 2) 322 Oes na rywun ti'n rili edmygu, a wedyn ti'n darganfod bod nhw da i ddim?
 
(0, 2) 328 Be wnaeth hi?
 
(0, 2) 338 Be oedd y gosb?
 
(0, 2) 341 Be wnes di iddi, yr hogan?
 
(0, 2) 343 I dalu hi'n nôl.
 
(0, 2) 349 Rywun ddylsa wybod yn well.
 
(0, 2) 351 Agos iawn.
(0, 2) 352 Neu, mi odda ni.
 
(0, 2) 354 Dim efo fi.
(0, 2) 355 Efo bobl eraill.
 
(0, 2) 359 Dio'm mor syml a hynny.
 
(0, 2) 368 Rywun cyfoethog?
 
(0, 2) 372 Felly adawodd hi ti am arian?
 
(0, 2) 375 Dim popeth.
 
(0, 2) 378 Wel...bariaeth, celwyddau, gwagedd...'mond rhan o'r broblem ydi arian.
 
(0, 2) 381 Felly dim arian ar ben ei hun ydi'r problem.
(0, 2) 382 Y broblem ydi'r ffaith bod ni isio arian.
(0, 2) 383 Mae pob problem yn deillio o awydd, chwant - 'dwi isio'.
 
(0, 2) 386 Mae'r broblem yma, dymuno pethe, wedi bodoli ers byth bythoedd.
(0, 2) 387 Pam mae'r mynachod Bwdhaidd yn datgysylltu eu hunain o bleserau daearol?
(0, 2) 388 Pam mae Cristnogion yn sôn am y saith pechod marwol?
(0, 2) 389 R'un peth 'dio.
(0, 2) 390 Yr unig wahaniaeth ydi bod y mynachod Bwdhaidd yn trio gwneud i bobl weld gwacter eu dymuniadau.
(0, 2) 391 Mae'r Cristnogion yn trio rhoi braw i ni efo'u straeon o ddamnedigaeth ag uffern ffyrnig.
(0, 2) 392 Mae gan Confucius syniad gwahanol.
(0, 2) 393 Gan dderbyn y bydden ni o hyd yn dymuno pethe, roedd o jyst isio ni anelu amdanyn nhw
(0, 2) 394 mewn ffyrdd cyfiawn.
 
(0, 2) 396 Wrth gwrs bod gyn ti.
(0, 2) 397 Wnaeth ei ddyweddi adael o am ddyn mwy cyfoethog reit?
 
(0, 2) 399 Achos roedd hi'n dymuno bywoliaeth mwy cyfforddus.
 
(0, 2) 401 Ddaru dy ffrind yn 'rysgol reportio ti i'r athrawes achos oedd hi isio—be?
 
(0, 2) 403 Isio'r athrawes licio hi.
(0, 2) 404 Roedd hi'n dymuno ei sylw.
 
(0, 2) 406 Dydi pawb ddim isio pres.
(0, 2) 407 Mae rhai yn gaeth i sylw.
(0, 2) 408 Eraill, llawer, isio concro'r byd.
(0, 2) 409 Dim am gyfoeth y byd ond am gydnabyddiaeth y byd.
(0, 2) 410 Efallai dio ddim i wneud â pres, yn hytrach mae i'w wneud â chanmoliaeth, sylw, cariad ac edmygedd - dymuniadau pobl.
(0, 2) 411 Dyna pam mae nhw'n gwneud camgymeriadau.
 
(0, 2) 413 Trydydd flwyddyn.
(0, 2) 414 Athroniaeth.
 
(0, 2) 417 Ocê.
(0, 2) 418 Ocê.
(0, 2) 419 Dyma gyfyng gyngor moesol i ti.
 
(0, 2) 422 Cogia bod gyn ti gariad sy'n artist, iawn?
 
(0, 2) 424 Cogia bod gyn ti gariad sy'n artist.
 
(0, 2) 426 Cogio, ddudis i.
(0, 2) 427 Cwestiwn damcaniaethol ydi hwn, iawn?
 
(0, 2) 434 Cau dy lygaid.
(0, 2) 435 Dychymga bod gyn ti gariad.
 
(0, 2) 437 A dychmyga bod hi'n actores.
 
(0, 2) 440 A dychmyga bod hi'n hynod dalentog a bod hi'n gweithio'n galetach na neb.
 
(0, 2) 442 Ond dydi hi ddim isio enwogrwydd neu unrhyw fath o ffortiwn.
 
(0, 2) 444 Na.
(0, 2) 445 Cwbwl ma'i isio ydi bobl i werthfawrogi ei gwaith.
 
(0, 2) 447 Ond 'di ddim yn medru ffindio gwaith.
(0, 2) 448 Mae hi'n trepsio i'r holl glyweliadau 'ma.
(0, 2) 449 Ond does neb yn ei chastio hi achos does neb yn sylweddoli faint mor dalentog ydi hi.
 
(0, 2) 451 Cwbwl ma'i angen ydi un brêc.
(0, 2) 452 Un siawms i ddod ymlaen yn y byd.
(0, 2) 453 Be ddylsa hi wneud?
 
(0, 2) 462 Be os mai hi ydi dy gariad di?
 
(0, 2) 464 Ie.
(0, 2) 465 A ti'n ffindio allan.
(0, 2) 466 Be faset ti'n gwneud?
 
(0, 2) 468 Ond os ti'n rili caru hi?
 
(0, 2) 471 Ond os fase ti'n caru hi go iawn, faset ti'm isio marw?
 
(0, 2) 475 Os wyt ti 'di dotio efo hi.
(0, 2) 476 Roeddet ti dan yr argraff bod hi mor bur fase hi 'rioed yn gwneud y fath beth.
 
(0, 2) 478 Ond fysa ti'm yn teimlo bod dy fywyd yn disgyn i ddarnau?
(0, 2) 479 Fysa ti'm iso'r cyfan ddod i ben?
 
(0, 2) 484 Dwi'n meddwl os mae rhywun yn gadael chi lawr fel'na, does 'na'm point byw.
 
(0, 2) 490 Be os mae'r sarhad yn ormod?
 
(0, 2) 495 Ond be os tisio anfon neges?
(0, 2) 496 I wneud nhw deimlo'n ddrwg.
(0, 2) 497 Fel merched y pentre 'cw sy'n lladd ei hunain i ddial ar eu mamau mewn cyfraith.
(0, 2) 498 I orfodi nhw i gydnabod y ffordd roedden nhw'n trin y merched.
 
(0, 2) 516 Pam oedd hi'n trio lladd ei hun?
 
(0, 2) 520 Ti'n teimlo'n euog?
 
(0, 2) 524 Felly dwyt ti ddim yn deall rheiny sy'n cynnau ei hunan ar dân fel protest gwleidyddol?
 
(0, 2) 536 Ocê.
(0, 2) 537 Dyma gwestiwn i ti.
(0, 2) 538 Fysat ti'n marw er mwyn amddiffyn rywun ti'n caru?
 
(0, 2) 540 I helpu dy deulu allan o broblemau ariannol.
(0, 2) 541 Neu i achub ffrind.
 
(0, 2) 543 Wel be os wyt ti'n credu mewn karma.
(0, 2) 544 Felly ti'n cymryd dy fywyd er mwyn atal cosbedigaeth i rywun ti'n garu.
 
(0, 2) 554 Un cwestiwn olaf.
(0, 2) 555 Be os fedri di'm dioddef byw cam ymhellach achos bod y byd yn fucked up.
 
(0, 2) 559 Dwn im.
(0, 2) 560 Pan oni'n blentyn, oni isio bod yn arwr.
(0, 2) 561 Yn cywiro camweddau.
(0, 2) 562 Sefyll fyny i'r system ar ran y llai ffodus.
(0, 2) 563 Fel lleidr penffordd, herwr o hogyn.
 
(0, 2) 565 Ti'n gweld y byd fel lle creulon?
 
(0, 2) 576 Does 'na'm tâl da i gael am waith caled yn y byd yma.
 
(0, 2) 579 Yn y dechrau, dim ond rhai sy'n gwneud pethe cywilyddus.
(0, 2) 580 Ag os dydyn nhw'm yn cael eu cosbi, yn hytrach - os mae nhw'n cael eu gwobreuo, dyna sut mae'n cychwyn.
(0, 2) 581 Mae pawb yn dilyn y system newydd.
(0, 2) 582 Hyd nod yn fy mhrifysgol, adeg etholiad llywydd undeb y myfyrwyr, mae pawb yn defnyddio perthnasoedd a presantau i brynu pleidleisiau.
 
(0, 2) 588 Mae'r byd yn anghyfiawn.
(0, 2) 589 John Lennon!
(0, 2) 590 John Lennon er enghraifft, sut fedrith o gael ei ladd?
 
(0, 2) 593 Pam mae o mor anodd mynnu bod rywbeth yn digwydd?
 
(0, 2) 595 Pan oeddwn i'n fach, oni'n gobeithio dysgu Kung-Fu i helpu'r gwan a'r tlawd, a gwaredu'r byd o anghyfiawnder.
 
(0, 2) 597 Wedyn oeddwn i isio bod yn fardd.
(0, 2) 598 Fel Lu Xun.
(0, 2) 599 "Gyda chalon ffyrnig, dwi'n herio yn dawel mil o fysedd sy'n cyhuddo,
(0, 2) 600 Plygu mhen fel ychen fodlon, dwi'n gwasanaethu'r plant."
 
(0, 2) 602 Roedd fy nhad yn arfer dweud mai'r peth mwya gwirion ydi gwario amser efo boblgyda diddordebau main, a hefyd bod angen bod bob amser yn ddyfal - mae camgymeriadaubach yn gallu difetha bywyd.
 
(0, 2) 604 'Y rheswm na fedr person gyffredin fod yn sant ydi'r dymuniadau angerddol sy'n ein arwain ymhobman.' …
(0, 2) 605 'Roeddwn i'n meddwl dy fod yn arwr, ond mae'n ymddangos mai dyn cyffredin wyt' …
(0, 2) 606 'Os na fedr person waredu syniadau sy'n llenwi'r meddwl a'i feichio'n barhaus, mi fydd o'n rwymedig â grymoedd cyferbyniol.'
 
(0, 2) 610 Sut allith o fod yn gymaint o hypocrite?
 
(0, 2) 615 Sut fedra i orfodi fo i weld ei gam?
 
(0, 2) 618 Mae mor anodd cario 'mlaen fel hyn.
(0, 2) 619 Dwisio cerdded llwybr fy hunain.
(0, 2) 620 Dwi'n casau'r … |bullshit| 'ma!
 
(0, 2) 627 Chwilio a chwilio a methu ffindio prawf bywyd
(0, 2) 628 strydoedd y ddinas rhy galed i adael olion traed
(0, 2) 629 Dim ond pan dwi'n gadael y dorf dwi'n medru ffindio'n hun
(0, 2) 630 yn anadlu yn rhydd awyr y môr.
 
(0, 3) 790 Dad?
(0, 3) 791 Ti sy'na?
 
(0, 3) 794 Be sy'n mynd 'mlaen 'ma?
 
(0, 3) 796 Be ffwc dachi'n neud 'ma?
 
(0, 3) 798 |Security guards| newydd.
(0, 3) 799 Dyna jôc y ganrif.
(0, 3) 800 Sleifio gwmpas y to ganol nos, ddylswn i 'di meddwl.
 
(0, 3) 802 O na?
 
(0, 3) 804 Fedrai'm credu hyn.
(0, 3) 805 Dwi newydd ddal chi, sgynnoch chi ddim cywilydd?
(0, 3) 806 |Scum| dachi!
 
(0, 3) 813 Tria egluro hynna i'r heddlu.
 
(0, 3) 819 Rhy hwyr.
(0, 3) 820 Mae'r heddlu ar eu ffordd.
 
(0, 3) 842 |Scum|.
 
(0, 3) 844 |Scum|.
(0, 3) 845 Dyna ydach chi.
 
(0, 3) 868 Dora fo'n nôl i mi.
 
(0, 3) 870 Ty'd a fo yma!
 
(0, 3) 872 Clown yn cogio bod yn frenin, dyna'r cwbwl wyt ti.
 
(0, 3) 878
 
(0, 3) 889 Pa |hard drive|?
 
(0, 3) 898 Roeddwn i isio fo gofio.
 
(0, 3) 920 Ffwcia chdi!
 
(0, 3) 925 Damwain oedd o.
(0, 3) 926 Wnaeth o'm trio.
(0, 3) 927 Odd o 'di cael cwpwl o ddrincs.
(0, 3) 928 Damwain.
(0, 3) 929 Damwain erchyll.
 
(0, 3) 933 Dydi hynna'm yn wir.
(0, 3) 934 Wnaeth o'm bygwth neb.
 
(0, 3) 944 Dwi'm yn credu ti.
(0, 3) 945 Fysa nhad i 'rioed yn gwneud hynny!
 
(0, 3) 948 Ella wnaeth ei ddynion benderfynu ymysg ei hunan, i ddiogelu'n nhad.
 
(0, 3) 956 Dyna 'di dy stori di!
(0, 3) 957 Sgyn ti'm yr holl ffeithiau.
(0, 3) 958 Hyd nos os wnaeth o hynna i gyd … doedd o'm yn bwriadu anafu neb.
(0, 3) 959 Oedd o'n cyfro fyny ei gamgymeriad gwirion.
 
(0, 3) 961 Dymuniadau.
 
(0, 3) 963 Mae pob camgymeriad yn deillio o ddymuniadau.
 
(0, 3) 966 Roedd 'na ddynes yn y car.
(0, 3) 967 Dyna oedd ei gamgymeriad cyntaf.
(0, 3) 968 Dyna be oedd o'n trio cyfro fyny.
(0, 3) 969 Wedyn wnaeth un camgymeriad ddilyn i'r nesaf.
(0, 3) 970 Doedd o'm isio mam ffindio allan.
(0, 3) 971 Doedd o'm isio torri ei chalon hi.
 
(0, 3) 976 Dwi mor sori.
 
(0, 3) 992 Dim yn union.
 
(0, 3) 1010 Dwi wedi rhoi arian i'r elusen sy'n gweithio efo'r teulu.
(0, 3) 1011 Yr arian dachi'n chwilio amdano, wnes i roi o i gyd.
 
(0, 3) 1014 Dwisio gwneud y peth iawn.
 
(0, 3) 1016 Wyt tisio anfon fy nhad i'w farwolaeth?
 
(0, 3) 1019 Dan oedd ei enw?
 
(0, 3) 1021 Wnai siarad efo nhad.
(0, 3) 1022 Allai berswadio fo i gyflwyno'i hun i'r heddlu.
 
(0, 3) 1027 Ro'i mwy o arian i'r teulu.
 
(0, 3) 1031 Mi fydda nhw'n ei ladd.
(0, 3) 1032 Y cyhoedd yn mynd am ei waed!
 
(0, 3) 1035 Mae gynno fo gynlluniau mawr i'r dyfodol.
(0, 3) 1036 Mi fydd o'n swyddog dda.
(0, 3) 1037 Mae o wedi gwneud sawl peth ardderchog i'r ardal yma yn barod!
 
(0, 3) 1040 Dio'm o hyd wedi bod fel hyn.
 
(0, 3) 1042 Mae'r byd i gyd yn wyneb i waered.
 
(0, 3) 1044 Does dim gwobr am waith caled.
 
(0, 3) 1046 Ond mae gwobr am gywilydd.
(0, 3) 1047 Os mae'r petha ma'n digwydd o amgylch chi, mae pawb yn neud o, mae'n anodd peidio dod yn ran o'r system.
 
(0, 3) 1071 Awstralia.
 
(0, 3) 1109 'Pan mae anadl ar ôl, mae'n bosib edifarhau y pechodau mawr.'
 
(0, 3) 1115 Oni'n arfer adrodd rhain pan oni'n ifanc, fy nhad yn dysgu nhw i mi.
 
(0, 3) 1118 Pennillion bythgofiadwy.
 
(0, 3) 1120 Be di'r pwynt?
(0, 3) 1121 Dachi'n benderfynol i'm lladd.
 
(0, 3) 1125 Iawn.
 
(0, 3) 1127 Wnai roi'r |hard drive| i chi.
 
(0, 3) 1130 'Edifarhau y pechodau mawr'.
 
(0, 3) 1133 Datglymwch fi.
 
(0, 3) 1142 Diolch.
 
(0, 3) 1144 Mae o yn fy stafell wely.
 
(0, 3) 1154 Sefwch yn ôl!
 
(0, 3) 1157 Pediwch â symud modfedd.
 
(0, 3) 1159 Dachi'm yn ymwybodol o be dachi'n neud.
(0, 3) 1160 Dachi'n trio distrywio bywyd fy nhad.
(0, 3) 1161 Popeth mae o 'di gweithio tuag at.
(0, 3) 1162 Am be?
 
(0, 3) 1164 Dialedd!
(0, 3) 1165 Mae ganddo gynlluniau mawr, uchelgeisiol.
(0, 3) 1166 Fydd o'n arweinydd ardderchog ryw ddydd.
(0, 3) 1167 Gwas ffyddlon i'r bobl gyffredin.
 
(0, 3) 1170 Be |am| eich cynlluniau chi?
(0, 3) 1171 Be fedrwch chi wneud?
(0, 3) 1172 Lladron diegwyddor.
 
(0, 3) 1177 'Os na fedar person ddianc ei ego, fydd o'n gaeth i'r byd dibwys yma'.
(0, 3) 1178 Does dim ond un ffordd i wneud sens o hynna.
 
(0, 3) 1181 Mae angen iddo wybod be mae'n teimlo fel i golli rywun mae'n caru.