Ciw-restr

Y Tu Hwnt i'r Llenni

Llinellau gan James (Cyfanswm: 187)

 
(1, 0) 20 Beth gynllwyn wyt ti'n geisio'i wneud?
(1, 0) 21 Pwy all actio yn y fath dwrw?
 
(1, 0) 26 'Dyw'r bachgen yna ddim cwarter call ambell waith... sarnu'r cyfan... a golygfa garu o bopeth!
 
(1, 0) 29 Pam na allai ofalu cael un ddigon byr?
 
(1, 0) 31 Sh!
(1, 0) 32 Ah!
(1, 0) 33 Da iawn, da iawn eich dau.
 
(1, 0) 35 Roeddwn i'n gwybod y byddai'r cusan yna'n mynd i lawr yn dda.
(1, 0) 36 'Does dim fel cusan ar lwyfan i dwymo'r gwaed ifanc.
 
(1, 0) 41 Rhyw ddwy dudalen a hanner.
(1, 0) 42 'Rwy' wedi dweud wrtho am gadw llygad ar Neli.
 
(1, 0) 44 Ddim yna!
(1, 0) 45 Ydy' hi ddim yn promto?
 
(1, 0) 47 Wel, pwy sy'n promto yn yr ochor nawr' te'?
 
(1, 0) 49 Nag yw, neno dyn... sarnu popeth mae hwnnw.
(1, 0) 50 Fe'i taflodd i hunan â bwced i ganol y llwyfan yma gynneu fach gan wneud y mwstwr rhyfedda'.
(1, 0) 51 'Roedd y lle'n debycach o lawer i ben gwaith na chefn llwyfan.
 
(1, 0) 53 Nawr, nawr... 'dŷch chi damed gwell o glebran.
(1, 0) 54 Mae'r Fyddin wedi cymryd y lle, a rhaid gwneud y gorau o'r gwaetha'.
(1, 0) 55 Gwen, cer di i gymryd lle Neli.
 
(1, 0) 58 Wel, dyma beth ofnadwy!
(1, 0) 59 Ble all y sgennes na fod wedi mynd?
(1, 0) 60 Mae'n gwybod yn eitha' da fod John yn colli'i "gues " yn yr ail act o hyd.
 
(1, 0) 62 Ond fe ddylai bod digon o synnwyr yn y ferch i beidio gadael 'i lle heb roi gwybod, beth bynnag oedd yn galw.
(1, 0) 63 Rhaid i fi fynd eto, spo.
 
(1, 0) 66 Ble mae'ch un chi?
 
(1, 0) 68 'Does dim copi wedi bod gennych chi oddi ar hynny?
 
(1, 0) 70 Sam?
(1, 0) 71 A beth wnaeth hwnnw?
(1, 0) 72 'Ddysgodd e' mo'i ran erioed.
 
(1, 0) 77 O paid â'm boddran i am hynny nawr.
 
(1, 0) 80 Beth ar wyneb daear sy'n bod nawr eto?
 
(1, 0) 83 Dyna fe... fe wyddwn i... ble mae Neli?
 
(1, 0) 87 Wn i ddim ble maen' hw!
 
(1, 0) 92 Peidiwch â chlebran... beth sy' wedi digwydd?... oes na neb yn promto?
 
(1, 0) 97 'Dŷch chi ddim wedi cwpla?
 
(1, 0) 99 Ond 'dyw'r ail act ddim ar ben?
 
(1, 0) 107 Ond y bachgen ofnadwy... 'dŷch chi ddim wedi cwpla'r act!
(1, 0) 108 Mae Gwen heb fod i mewn eto, a'r gân heb i chanu!
 
(1, 0) 110 Ar ganol yr Act!
 
(1, 0) 114 Ble'r oeddet ti?
 
(1, 0) 117 Na, nid hynny 'rwy'n feddwl... faint o'r ddrama adawsoch chi allan?
(1, 0) 118 Beth oeddet ti'n wneud pan anghofiest ti?
 
(1, 0) 123 "Amateurs!"
(1, 0) 124 'Dych chi ddim ond "amateurs!"
(1, 0) 125 Pam na fuaset ti'n 'i guddio fe fel hyn ag esgus bod tân ynddo?
 
(1, 0) 127 'Ddim o gwbwl... awgrymu yw dy waith di ar y llwyfan.
 
(1, 0) 129 Cer ymlaen─beth ddigwyddodd wedyn?
 
(1, 0) 135 'Alla'i ddim bod â 'nwylo ym mhopeth.
(1, 0) 136 Ble mae Neli?
(1, 0) 137 Mae Mari fach Huws lawer yn well na hi.
(1, 0) 138 Pwy ofynodd i honna ddod?
 
(1, 0) 140 Pwy ishe dod i le fel hyn oedd arni?
(1, 0) 141 Mae 'na draddodiad drama yma.
(1, 0) 142 Os byddwn ni'n gwneud rhywbeth gartre' 'dyw hi-byth yn rhydd, ond os bydd trip i rywle, mae gyda ni.
 
(1, 0) 146 Matshyn!
(1, 0) 147 Elli di ddim cymharu fflam matshyn â fflam cariad!
(1, 0) 148 Mae fflam cariad i barhau am byth... yn enwedig mewn drama.
 
(1, 0) 150 Mae'r gân yn draddodiadol... yn eiddo i'r genedl, a chystal hawl gen i 'w defnyddio â neb arall.
(1, 0) 151 Ag heblaw hynny, rhaid i Gwen gael esgus i newid.
 
(1, 0) 158 Marged, ewch i edrych amdano.
 
(1, 0) 160 Fe gawn ni setlo'r mater hwn ar unwaith, nawr ag am byth... 'rŷch chi wedi sarnu'r ddrama... mae pob gair yn yr act yna'n bwysig... wedi treulio oriau i feddwl drosti a dyma'r tâl rwy'n gael.
(1, 0) 161 Mae pob baich ar f'ysgwyddau i, ysgrifennu, cyfarwyddo, gofalu am y llwyfan, coluro, promto, popeth... hyd yn oed dysgu rhan rhywun arall os aiff e'n dost.
(1, 0) 162 'Does dim yn cael 'i wneud oni bydda'i wrth law, dim yw dim.
(1, 0) 163 Rhaid y'ch tolach chi o hyd fel rhyw lot o blant bach.
(1, 0) 164 'Dwy ddim yn mo'yn y gwaith, 'does dim siâp wedi bod ar y cwmni oddi ar y dechrau... fe ddylai rhywun fod yma yn gofalu am y llwyfan, rhywun arall wrth y golau, colurwr yn perthyn i'r cwmni, dau neu dri yn promto ac yn helpu, a phob un a'i galon yn 'i waith.
(1, 0) 165 Mae'r theatrau bach Saesneg yn gallu gwneud hynny, ag edrychwch ar y graen sy' ar 'u gwaith nhw.
(1, 0) 166 Mae digon o frwdfrydedd ynddyn' hw i godi cartre' i'r ddrama, a ddaw byth yr un llewyrch ar y ddrama Gymraeg cyn y gwnawn ninnau'r un peth.
(1, 0) 167 Does gennych chi ddim parch at ddrama...
(1, 0) 168 Sam yma gynneu fach yn dod heibio ar ganol golygfa garu dyner a gwneud y twrw rhyfedda... dyw hi ddim yn deg â'r chwaryddion eraill... pwy all garu'n effeithiol a swn bwced yn clindarddan yng nghefn y llwyfan?
 
(1, 0) 171 Dyna fe... dyna'n hollol yr hyn wy'n geisio bwysleisio─trajedi! a'r bobol yn chwerthin!
(1, 0) 172 'Dŷn 'hw ddim yn cael cyfle iddi deall hi.
 
(1, 0) 175 Rŷch chi'n iawn, Gwen, ond rhaid cadw'r chwerthin i'r mannau priodol.
(1, 0) 176 Maen' hw yma yn y ddrama'n barod.
(1, 0) 177 'Does dim amgen 'u creu nhw.
 
(1, 0) 182 Diolch bod rhywun yn gofalu.
 
(1, 0) 184 'Doedd dim bai ar y dyn erbyn meddwl.
(1, 0) 185 Fe âf i rownd i ddiolch iddo nawr, ag i weld bod y llwyfan yn iawn.
(1, 0) 186 Paratowch chwithau bob un ohonoch.
(1, 0) 187 'Rwyt ti, Gwen, heb newid dy wisg.
 
(1, 0) 189 Elli di ddim gwneud gwaith tŷ mewn gwisg smart fel 'na!
 
(1, 0) 193 Welais i ddim creadur mwy direswm na merch!
(1, 0) 194 Nid ar yr hewl wyt ti nawr ond mewn drama!
 
(1, 0) 196 O dwed wrthi am 'u cadw nhw hyd ddiwedd y ddrama─mae genny' ormod ar fy meddwl nawr.
(1, 0) 197 A Gwen, paid anghofio newid.
 
(1, 0) 290 Rhagor o drwbwl nawr eto—mae rhaff y cyrten wedi torri.
 
(1, 0) 292 Mae'n amhosibl gweithio rhaff a chwlwm arni.
(1, 0) 293 Fe aeth un o'r bechgyn i edrych am raff newydd.
(1, 0) 294 Gobeithio na bydd e ddim yn hir—mae'r dorf yn dechrau mynd yn anhywaith.
 
(1, 0) 297 Rhyw Ficer o'r cylch—ond 'rwy'n deall nad yw'e wedi cyrraedd.
(1, 0) 298 Petai rhywun yma i ganu, neu i adrodd neu rywbeth.
 
(1, 0) 300 Fyddai hynny ddim yn syniad drwg o gwbwl!
(1, 0) 301 Rhaid inni gael rhywun i dy gyflwyno di, ag i egluro pam y mae'r drydedd act mor hir cyn dechrau.
 
(1, 0) 311 Nawr!
(1, 0) 312 Nawr!
(1, 0) 313 Nid dyma'r amser i gweryla.
 
(1, 0) 316 Beth yw dy feddwl di, John?
 
(1, 0) 321 Wel nag yw wrth gwrs.
(1, 0) 322 Ewch iddi newid hi ar unwaith.
 
(1, 0) 348 Oes, ond y mae...
 
(1, 0) 357 John... Mr. John Roberts.
(1, 0) 358 Ychydig bach cyn i chi...
 
(1, 0) 364 Fel roeddwn i'n...
 
(1, 0) 374 Un o'r merched sy'n canu, Mr. Price.
 
(1, 0) 376 Ie.
 
(1, 0) 378 Na—dyna oeddwn i am egluro i chi gynneu.
(1, 0) 379 Mae rhaff y cyrten wedi torri a fe awgrymodd rhywun fod Gwen yn canu i lanw'r bwlch.
(1, 0) 380 'Roeddwn i'n deall y'ch bod chi heb gyrraedd neu fe fuaswn wedi gofyn i chi siarad─mae gennych chi araith?
 
(1, 0) 383 Pa bryd y carech chi siarad—ar y diwedd neu rhwng y drydedd a'r bedwaredd act?
 
(1, 0) 424 Y blwch coluro, wyt ti'n feddwl?
 
(1, 0) 426 Pam?
 
(1, 0) 429 Rho weld.
(1, 0) 430 Gallet, fe allet wneud â thamaid bach hefyd.
(1, 0) 431 Dere â'r blwch i fi o'r rŵm fach—'does him posib troi yno.
 
(1, 0) 436 Fe ddof i Marged.
(1, 0) 437 Aros i fi ddod 'nôl Sam cyn gwneud dim i dy wyneb.
 
(1, 0) 458 Wel, dyw'r cyrten ddim yn barod eto, a 'roedd Mr. Price a minnau yn ceisio penderfynnu a fyddai'n well iddo roi 'i araith nawr yn lle aros i ddiwedd y drydedd act.
(1, 0) 459 John, cer i roi help llaw iddyn' hw.
 
(1, 0) 462 Os na bydd y llwyfan...
 
(1, 0) 467 Dim ond y treuliau.
 
(1, 0) 474 Wel, fi yw'r llwyfenydd hefyd, ond 'does dim angen ichi son am hynny.
 
(1, 0) 488 Enw MrGerallt Rhys sydd ar y rhaglen, ond fel y dywedodd Siân, fe fethodd â dod ar y funud ola'.
(1, 0) 489 Gorfu i mi wneud y gwaith er nad wy'n rhyw lawer o law arni.
 
(1, 0) 492 Er mwyn enw da, Mr. Price, efallai na byddai ond yn deg i chi ddweud taw rhywun arall fu wrth y gwaith, heb enwi neb.
 
(1, 0) 501 Fe drawyd un o'r chwaryddion yn sal yn sydyn iawn echnos, a bu'n rhaid i mi ddysgu'r rhan.
(1, 0) 502 Rhan fach yw hi, a 'rwy'n gwybod y ddrama bron i gyd ar gof—wedi darllen rhan pob un yn 'i dro pan na ddigwyddai ddod i bractis.
 
(1, 0) 518 Mae llawer wedi bod yn holi ynglŷn â'r olygfa, Mr. Price.
(1, 0) 519 Does dim byd arbennig yn y ddrama yn galw am hynnw.
 
(1, 0) 521 Na... dyma'r rheswm yn syml chi, Mr. Price.
(1, 0) 522 'Does dim gwahaniaeth pa mor dda y bo eich drama chi, 'chewch chi neb iddi chware hi os bydd galw am olygfa grand neu newid golygfeydd yn ystod y ddrama.
(1, 0) 523 Mae rhai o'r drâmau gorau a sgrifennwyd yn Gymraeg heb 'u gweld na'u cyhoeddi am y rheswm syml hwn.
(1, 0) 524 Mae'n ddigon naturiol... festri capel fydd y neuadd gan amlaf a 'does dim cyfleusterau yno.
(1, 0) 525 'Dyw sêl y cyhoeddwyr dros y ddrama ddim yn mynd mor ddwfn â'r boced chwaith.
(1, 0) 526 Fe euthum i gam ymhellach yn hon gan y gwyddwn i y byddai'n rhaid i mi fod yn Geidwad y Celfi hefyd pe ddigwyddai i'n cwmni ni 'i gwneud hi o gwbwl a minnau'n cyfarwyddo.
(1, 0) 527 Gan nad oes angen celfi ar ystafell sydd ar hanner 'i spring cleano' fe fyddai'n arbed llawer iawn o drafferth i mi... 'does him angen cludo hen soffa neu gadair esmwyth neu ford, na gofalu bod tân yn y grat, dim ond benthyca dau neu dri bocs sebon heb eisiau i chi fynd ar y'ch gliniau ar ofyn neb.
 
(1, 0) 533 Dwy gini yw honno, Mr. Price.
 
(1, 0) 547 Oes aelwyd o'r Urdd yma, Mr. Price, neu gangen o'r Blaid Genedlaethol?
 
(1, 0) 551 Rhannwch y ddwy gini rhyngddyn' 'hw, Mr. Price.
 
(1, 0) 553 Ie, rhowch gini i'r Blaid, a gini i'r Urdd.
(1, 0) 554 Efallai y byddech chi mor garedig â gwneud hynny'n bersonol?
 
(1, 0) 558 'Does gen'i fawr o awydd gwneud ffortiwn o'r drama, Mr. Price, ag hyd y gwela' i fawr o obaith chwaith.
(1, 0) 559 Rhannwch chi nhw fel 'rown i'n dweud a pheidiwch â sôn gair wrth neb.
 
(1, 0) 563 Dyna fyddai orau.
 
(1, 0) 571 Dowch ymlaen, pawb ar y llwyfan am y drydedd act...
(1, 0) 572 Siân, Marged, Sam,... ble mae Sam?...
(1, 0) 573 Ewch un ohonoch chi i edrych am Sam.
 
(1, 0) 575 Fe ffonia i at Mrs. James i ddod â'r car i gwrdd â'r bws os byddwn ni'n hwyr iawn.
(1, 0) 576 Mlaen â chi i'r llwyfan.
 
(1, 0) 578 A Gwen, bydd di'n barod ar y chwith.
(1, 0) 579 Wel, 'tawn i byth—dwyt ti ddim wedi newid dy wisg!
 
(1, 0) 581 'Dwy i ddim wedi pregethu wrthych chi ganwaith nad oes neb i ddod ar y llwyfan nes bo'r ddrama drosodd?
 
(1, 0) 585 Wel tawn i'n ateb y Farn!
(1, 0) 586 Beth wyt ti wedi bod yn 'i wneud i dy lygaid?
 
(1, 0) 589 Tipyn bach!
(1, 0) 590 Dere iddi glanhau nhw ar unwaith cyn i neb dy weld di.
 
(1, 0) 608 Fan hyn 'rwyt ti, Siân?
(1, 0) 609 Mae'r cyrten ar godi.
 
(1, 0) 611 Mae Sam ar y llwyfan nawr.
 
(1, 0) 613 John, 'does gennyt ti ddim iddi wneud ar ddechrau'r act yma, cer i wneud gwaith Neli.
 
(1, 0) 615 Ble mae hi i mi gael gafael arni?
 
(1, 0) 619 Bydd yn barod John wrth y chwith.
 
(1, 0) 621 Ffilm star myn asgwrn i!
(1, 0) 622 Bant â thi dy le.
 
(1, 0) 625 A Gwen, 'rwy'n wedi dweud digon wrthych chi am y wisg 'na!
 
(1, 0) 627 Dyma'r tro ola y byddwch chi mewn drama gen i!
 
(1, 0) 699 Siân!
(1, 0) 700 Beth gynllwyn wyt ti'n wneud yma?
(1, 0) 701 Maen' hw'n aros amdanat.
 
(1, 0) 704 Pwy ŷch-chi?
(1, 0) 705 Pa fusnes sydd gennych chi i fod yng nghefn y llwyfan yn ymyrraeth â'r ddrama?
 
(1, 0) 707 Meddyliwch am well esgus y tro nesa'—dyna'r ffordd allan.
 
(1, 0) 710 Paid gwneud cam ag e.
(1, 0) 711 Pam nad wyt ti wrth dy waith?
 
(1, 0) 713 Peth od i ti feddwl am hynny a thithau'n gwybod taw'r ochor draw 'roedd hi i ddod mewn.
 
(1, 0) 715 'Dwy'n awgrymu dim byd.
(1, 0) 716 Fe gawn ni setlo dy driciau di am heno o flaen y Pwyllgor.
 
(1, 0) 722 Trueni hefyd—mae deunydd da ynddi pe gellid 'i ffrwyno.
 
(1, 0) 728 Dyma beth ofnadwy!
(1, 0) 729 Pan af i o'r golwg mae rhywbeth yn sicir o fynd o'i le.
(1, 0) 730 Cer ar unwaith a dwed wrthynt am beidio â gadael y cyrten lawr eto.
 
(1, 0) 732 Dyna beth yw cawl.
(1, 0) 733 Pam na all pobol ofalu am 'u gwaith?
(1, 0) 734 Fe gaiff y lot y sac am hyn...
(1, 0) 735 Sarnu'r ddrama!...
(1, 0) 736 Pwy all fod wedi colli 'i "gue" nawr eto?
(1, 0) 737 Neli!
(1, 0) 738 Neli!... neb wrth law pan fo eisiau...