Ciw-restr

Y Tu Hwnt i'r Llenni

Llinellau gan Price (Cyfanswm: 108)

 
(1, 0) 334 Sut ydych chi, Mr. James?
(1, 0) 335 Mae'n dda gen'i gwrdd â chwi.
(1, 0) 336 Maddeuwch imi am roi fy nhraed ar dir sanctaidd fel petai, ond y mae'r dorf yn dechrau mynd ychydig yn anesmwyth ac yn disgwyl am y third act, yn disgwyl am awchus hefyd.
(1, 0) 337 Mae'n dda, yn dda odiaeth, er nad wyf i wedi cael cyfle i weld fawr o ddim ar wahân i ddiwedd y second act.
(1, 0) 338 Angladd wedi 'nghadw i... hen aelod o'r eglwys yn cael ei gladdu heddiw yn Rhydymwyn, ag yr oedd yn rhaid i mi fod yno o barch i'r hen gyfaill.
(1, 0) 339 Trueni i'r ddau beth daro ar draws ei gilydd ynte?
(1, 0) 340 Fe aeth un o'r brodyr yn hirwyntog a minnau'n colli'r bws yn y fargen.
 
(1, 0) 342 'Dedd yr un arall yn dod wedyn am ddwy awr.
(1, 0) 343 Fe gerddais i Bontyrhyd ac yn ffodus iawn fe ddaeth cyfaill heibio yn ei gar pan oeddwn i ar fynd i chwilio amserau'r trên.
(1, 0) 344 Roeddwn i wedi meddwl y byddai'n rhaid i mi ffonio neu anfon teligram i ddweud nad allwn i ddod o gwbwl, ond fe arbedais y draul honno a chael lifft yn y fargen.
(1, 0) 345 A phan glywodd e' mai myfì oedd y gŵr gwâdd yma heno fe aeth allan o'i ffordd a dod â mi bob cam at ddrws y Neuadd.
(1, 0) 346 Ag fel y dywedais i, Mr. James, 'dwy-i ddim wedi cael ond darn o'r Second Act, ag yr oedd hwnnw'n flasus, yn flasus dros ben.
(1, 0) 347 Mae dwy act ar ôl, onid oes?
 
(1, 0) 349 Dim esgusodion, dim o gwbwl.
(1, 0) 350 Mae'r darn bach a welais i eisioes wedi profi eich gallu chwi.
(1, 0) 351 Ag y mae gennych chwi gwmni, Mr. James, cwmni o actorion sy'n gwybod eu gwaith.
(1, 0) 352 Mae yma adnoddau gwerth eu meithrin a'u disgyblu, ag yn cael eu disgyblu hefyd.
(1, 0) 353 Mae graen ar y gwaith.
(1, 0) 354 Digon hawdd canfod bod gweledigaeth, awdurdod, ag ufudd-dod yn cyd-dynnu yn y cwmni hwn.
(1, 0) 355 Ac mae'n rhaid eu cael... cymerwch ddiwedd y Second Act 'ma, yr actio tawel... munud llawn ohono fel y gwelais i droeon ar y London stage—yr anesmwythyd oedd yn dilyn yr olygfa garu ddwys, a'r llen wedyn yn disgyn fel ergyd o wn i gloi'r cyfan.
(1, 0) 356 Dyna beth oedd darlun!... hawdd gweld bod cynnwrf yng ngwaed y bachgen ifanc—dyma fe ynte?
 
(1, 0) 359 Mae'n dda gen'i gwrdd â chwi, 'machgen i.
(1, 0) 360 Daliwch ati... mae gennych chwi dalent, gwnewch fawr ohoni, peidiwch â'i chladdu.
(1, 0) 361 Pwy ŵyr na chawn eich gweld chwi rywdro yn rhoi Cymru ar y map... ar y Sgrîn.
(1, 0) 362 A chwithau?
 
(1, 0) 366 Siân... Siân Ifans... enw Cymraeg tlws yn gweddu ei berchennog i'r dim.
(1, 0) 367 Fe garwn i fod yn fachgen ifanc un waith eto i gael y fraint o chware gyferbyn â chwi yn y Gomedi brydferth hon.
(1, 0) 368 A gyda llaw, Mr. James, gadewch i mi eich llongyfarch ar iaith y ddrama—Cymraeg glân heb ddim maswedd yn unlle.
 
(1, 0) 370 Ust!
(1, 0) 371 Pwy sy'n canu?
 
(1, 0) 375 Un o ferched y ddrama?
 
(1, 0) 377 Mae Act Three wedi dechrau felly?
 
(1, 0) 381 Rhyw bwt bach... dim llawer.
(1, 0) 382 Byddai'n chwith iddynt droi adre' heb air oddi wrth Gadeirydd.
 
(1, 0) 384 Rhwng y ddwy act rwy'n meddwl.
(1, 0) 385 Bydd pobl yn codi o'u seddau ac yn rhuthro i ddal eu cerbydau ar y diwedd.
(1, 0) 386 Fe garwn-i gael gwrandawiad lled dda, achos mae dau neu dri phwynt arbennig gennyf i'w pwysleisio.
(1, 0) 387 Ag yn naturiol fe fyddant yn disgwyl gair oddi wrth yn awdur wedi'r ddrama.
(1, 0) 388 Dowch rownd i'r llwyfan i wrando ar yr eneth yma—mae yn canu'n brydferth.
 
(1, 0) 416 Campus, fy ngeneth i, campus!
(1, 0) 417 Dowch, mae'r dorf yn gweiddi am ragor.
(1, 0) 418 Rhowch un gân fach arall iddynt.
 
(1, 0) 421 Meddyliwch am rywbeth, rhaid plesio'r dorf.
 
(1, 0) 463 Gwnaf i ar unwaith.
 
(1, 0) 465 Nawr, oes rhywbeth arbennig y carech i mi ei gynnwys?
(1, 0) 466 Rŷch chi'n dod yma er mwyn yr Institute, wrth gwrs, heb ddim tâl?
 
(1, 0) 468 Dyna fe, dim ond eich treuliau.
(1, 0) 469 Arhoswch chi... chi yw'r awdur a chi hefyd fu'n prodiwsio.
(1, 0) 470 Pwy yw'r Stage Manager?
(1, 0) 471 Rhaid enwi'r rhain i gyd achos y mae eu hanner heb brynnu rhaglen.
(1, 0) 472 Efallai mai dyna pam; y mae'n rhaid i ni'r Cymry gael Cadeirydd.
(1, 0) 473 Welwch chi byth Gadeirydd yn y dramâu Saesneg yma.
 
(1, 0) 475 Oes.
(1, 0) 476 Rhaid cael y cyfan.
(1, 0) 477 A phwy fu wrth y "make-up?"
 
(1, 0) 479 Y beth?
 
(1, 0) 482 Colurwr!
(1, 0) 483 Gair da... rhaid egluro hwnna iddynt.
(1, 0) 484 Ie, gair da dros ben yw e'.
(1, 0) 485 Fe glywais alw'r peth yn "weddnewid" rywdro, ond y mae hynny braidd yn rhy Feiblaidd, er mai fi sy'n dweud hynny.
(1, 0) 486 Wel nawr, pwy oedd y make-up man yma?
 
(1, 0) 491 Diolch, diolch yn fawr.
 
(1, 0) 493 Na, na, rhaid eich henwi chwi.
(1, 0) 494 Chwi fu wrthi, a chwi sy'n haeddu'r clod.
(1, 0) 495 Ond y mae gormod o waith ar eich hysgwyddau chwi, Mr. James.
(1, 0) 496 Trueni na buasech chwi wedi ceisio help gan y Social Service nawr.
(1, 0) 497 Roedd rhyw gwmni Saesneg o'r cwm arall yma yr wythnos ddiwethaf am dair noson yn olynol, a dyn yn dyfod bob nos i ofalu am y "make-up" 'ma ac yn cael ei dalu hefyd gan y Council.
(1, 0) 498 'Roedd gwaith da ganddo hefyd...
(1, 0) 499 Ond arhoswch chwi, 'wela i mo'ch henw chwi yn y Rhaglen ymhlith yr actors, Mr. James.
(1, 0) 500 Beth yw ystyr y make-up—y blew yma sydd ar eich hwyneb chwi?
 
(1, 0) 503 'Does gyda chwi ddim understudies?
(1, 0) 504 Beth yw'r gair Cymraeg am understudy—dewch nawr, chwi bobol glyfar y colegau?
 
(1, 0) 507 Go dda!
(1, 0) 508 Go dda!—ond fe ddylech gael understudy i bob part, Mr. James.
(1, 0) 509 Nawr un gair bach am yr olygfa eto.
(1, 0) 510 Pan ddeuthum-i i mewn 'roeddwn i'n methu'n lân â deall beth oedd wedi digwydd.
(1, 0) 511 'Roedd y llwyfan yn edrych fel cegin ond bod dim celfi yno, dim ond bocs yma a thraw a'r muriau'n sobr o noeth.
(1, 0) 512 Dim sôn am yr hen luniau teuluol.
(1, 0) 513 'Wyddoch chi, Mr. James, mae'n hawdd gweld pwy sydd ynglŷn â'n dramâu ni oddi wrth y lluniau a'r celfi fydd ar y llwyfan.
(1, 0) 514 Mae llun hen Domos Ifans y Gôf wedi bod mewn pob math o ddrama yma.
(1, 0) 515 Mae'n dal i chwarae yn ei lun er ei fod ef wedi ei gladdu ers blynyddoedd A phan ddeuthum i mewn heno 'roeddwn i'n teimlo fel petawn i mewn rhyw le dieithr.
(1, 0) 516 Fe gefais dipyn o sioc ac ofni'r gwaethaf hyd nes i ryw wraig ddweud wrthyf mai golygfa tŷ ar ganol "Spring cleaning" oedd hi.
 
(1, 0) 520 O, mi welaf, 'roeddech chwi am gael tipyn bach o newid o'r hen olygfeydd.
 
(1, 0) 528 Go dda!
(1, 0) 529 Go dda!
(1, 0) 530 Angen yw mam pob dyfais, wyddoch chi.
 
(1, 0) 532 Dan gof, Mr. James, beth am hawlfraint y ddrama?
 
(1, 0) 534 Ie, dwy gini fydd drama Gymraeg wreiddiol fel rheol ynte?
(1, 0) 535 Mae dramâu o'r Saesneg wrth gwrs yn werth mwy, ag y mae eitha' gwerth dwy gini yn hon—mae'n bedair act, onid yw?
(1, 0) 536 Ond hyn oeddwn i am ofyn i chwi... nawr 'rwy'n gwybod i chwi fod yn garedig dros ben─dod yma bob cam o Gaerdydd am ddim, a rhoi'r elw i'r Institute, ond fe fyddai'n beth da pe gallwn i ddweud wrthynt nawr eich bod yn rhoi'r hawlfraint am y ddrama, neu gyfran ohono, yn ôl at yr Institute.
(1, 0) 537 Fe fyddai'n help i enw da y cwmni ac yn symbyliad inni allu eich gwahodd chwi yma rywdro eto.
 
(1, 0) 539 Mae'r neuadd am ddim wrth gwrs—ati hi y mae'r elw.
(1, 0) 540 'Dwy' ddim yn meddwl bod neb ond yr Electrician yn cael ei dalu—Sais yw hwnnw ag y mae'n un o'r swyddogion.
 
(1, 0) 542 Jones y Printer tu wrth hwnnw—|fe| s'yn gwneud y gwaith bob tro.
 
(1, 0) 544 O'dyw e' ddim yn gwneud y gwaith yn rhad—allech chi ddim disgwyl iddo roi ei lafur yn rhad.
(1, 0) 545 Fe fyddai'n anodd gofyn iddo ostwng hefyd—'roedd hi braidd yn lletchwith welwch chi ag yntau'n perthyn i Bwyllgor y Neuadd.
(1, 0) 546 Hwy fu'n gyfrifol am eich gwahodd chwi yma.
 
(1, 0) 548 Mae Aelwyd gan yr Urdd, 'rwy'n meddwl, rhyw gwtsh newydd 'i agor mewn rhyw hen siop.
(1, 0) 549 Wn i ddim am y Welsh Nationalists.
 
(1, 0) 552 Rhyngddynt?
 
(1, 0) 555 'Rwy'n gweld nad ydych chwi'n gwybod am y cylch yma'n ddigon da, Mr. James.
(1, 0) 556 Os cymerwch chi gyngor gen' i fe rowch y cyfan i'r Urdd, neu gwell fyth, i'r Institute.
(1, 0) 557 Rhaid i chwi gofio am eich henw da, Mr. James, a'r dramâu sydd heb eu sgrifennu gennych.
 
(1, 0) 562 Efallai y byddai'n well i mi ohirio fy araith fach i tan ddiwedd yr act felly?
 
(1, 0) 564 Wel, mi af i y tu hwnt i'r llen.
(1, 0) 565 Pob hwyl a phob lwc i chwi.
 
(1, 0) 567 Chi piau hi wrth gwrs!
(1, 0) 568 Mae 'nghof i'n chware triciau dwl.