Ciw-restr

Llwyn Brain

Llinellau gan Dicw (Cyfanswm: 40)

 
(1, 1) 345 Ydach chi'n siwr nad ydw i ddim yn pethma?
 
(1, 1) 347 'Pnawn da, Mrs. Defis.
 
(1, 1) 349 Ma' hi'n dal yn ddigon oer.
 
(1, 1) 352 'Dydw i ddim yn bwriadu aros yn hir, Jonah Defis.
(1, 1) 353 Ar dipyn o frys fel mae'n digwydd bod te.
 
(1, 1) 357 Wel oes─hynny ydi, nac oes, fawr o bwys...
 
(1, 1) 359 Ma' hi'n gyndyn o gynesu tipyn, on' 'dydi?
 
(1, 1) 361 Do deudwch?
(1, 1) 362 Hynny ydi─
 
(1, 1) 376 P'nawn da, Mrs. Defis.
 
(1, 1) 382 Wel does yna ddim ond un ffordd i'w trin nhw, Jonah Defis─siarad fel hen lanc ydw i rwan─mae'n rhaid i chi roi eich traed ar eu gyddfa' nhw o'r cychwyn cynta.
 
(1, 1) 384 Ma'n syn fel mae dyn yn cael ei dwyllo ganddyn nhw.
(1, 1) 385 I fynny i ddeg oed ma'n nhw'n angylion; o ddeg i bymtheg ma'n nhw'n seintia.
(1, 1) 386 Ond ma'n nhw'n ddiawchiaid milan yn ddeugain oed, ac yn hen wrachod gythgam yn bedwar ugain!
 
(1, 1) 389 Wel hyn, Jonah Defis─doedd arna i ddim eisio dweud o flaen rhen wraig─mae Harri Huws wedi ei daro'n wael.
 
(1, 1) 394 Dyna'r trwbwl efo cwmni bach ynte.
(1, 1) 395 Rhywun yn mynd yn sâl, a dyna'r cwbwl yn ffliwt.
 
(1, 1) 398 Pendics.
 
(1, 1) 405 Ma' piwmonia arno fo hefyd, Jonah Defis.
 
(1, 1) 408 Trio torri'r newydd drwg yn ara' deg 'roeddwn i, ydach chi'n gweld ynte.
 
(1, 1) 413 Ydw, yn berffaith siwr.
(1, 1) 414 'Roedd o mewn lathar o chwys neithiwr cyn mynd i'r hospital.
(1, 1) 415 A fedran' nhw ddim operatio arno fo, medda nhw, nes y daw ei wres o i lawr.
 
(1, 1) 438 Sut ydach chi, Mr. Morus.
(1, 1) 439 Mi ydw i'n siwr mod i wedi'ch cyfarfod chi o'r blaen yn rhywle.
 
(1, 1) 442 Ia, ia, dyna fo.
(1, 1) 443 Roeddwn i'n ama' mod i wedi'ch gweld chi o gwmpas...
(1, 1) 444 Ma' hi'n dal yn ddigon oer yn tydi?
 
(1, 1) 447 Biti na fuasa'r barrug yn dwad a gwres Harri Huws i lawr ynte?
 
(1, 1) 449 Ia, wel, mi ydw i am fynd rwan, am wn i.
 
(1, 1) 451 Na, 'roeddwn i ar gychwyn, wyddoch chi.
(1, 1) 452 Ar dipyn o frys.
(1, 1) 453 Oes yna rywbeth arall fedra' i wneud, Jonah Defis?
 
(1, 1) 456 Reit─wel mi ga' i'ch gweld chi ymhellach ymlaen felly.
(1, 1) 457 Mae gen i ddigon i wneud i gael y llwyfan yn barod.
 
(1, 1) 459 P'nawn da i chi'ch dau
 
(1, 1) 514 Esgusodwch fi, Jonah Defis.
(1, 1) 515 Newydd gael gair eto am Harri Huws.
(1, 1) 516 Mae clefyd cry'-cymala arno fo hefyd.
(1, 1) 517 Chaiff o ddim symud am dri mis.