Ciw-restr

Llwyn Brain

Llinellau gan Lisa (Cyfanswm: 105)

 
(1, 1) 21 Wyt ti'n teimlo'n iawn dwad?
 
(1, 1) 24 Na wyddet yn amlwg!
(1, 1) 25 Dyna pam roeddet ti'n mynd drwy dy stumia fel mwnci ar ben pric.
(1, 1) 26 Wyt ti'n dechra colli arnat dy hun?
 
(1, 1) 29 Drama?
(1, 1) 30 Pa ddrama?
 
(1, 1) 33 Nac oeddwn i.
(1, 1) 34 'Dydach chi'n dweud dim wrtha i be sy'n mynd ymlaen yma.
(1, 1) 35 Pawb yn mynd a dwad â'i wynt yn ei ddwrn fel cath i gythraul.
(1, 1) 36 Rhy brysur i ddweud dim wrth neb.
 
(1, 1) 38 Mae o'n wir bob gair, ond ei fod o'n wir hyll i ddeud.
(1, 1) 39 Manteisio arna i am mod i'n ddiniwed bach yn y gongol yma
 
(1, 1) 42 Ond 'dydw i ddim am ei ddiodde fo, wyt ti'n deall?
(1, 1) 43 Mi ydw inna'n rhywun hefyd.
 
(1, 1) 45 Taw am funud.
(1, 1) 46 Gad i rywun arall gael gair i mewn weithia.
(1, 1) 47 Mi ydw i wedi bod yn rhy wirion o lawer.
(1, 1) 48 Tawn i wedi rhoi fy nhroed i lawr dipyn mi fuaswn yn cael mwy o barch.
 
(1, 1) 51 Be ddwedaist ti?
 
(1, 1) 53 Hidia befo.
(1, 1) 54 Dim o bwys reit siwr.
(1, 1) 55 Mi fedra inna fod yn indipendant hefyd yn siwr i ti.
(1, 1) 56 Ac os na fydd yna altrad mawr yn y lle yma mi fydda i'n mynd at Wmffra dy frawd i aros.
 
(1, 1) 58 Dydw i ddim wedi penderfynu eto.
(1, 1) 59 Mi gawn ni weld sut y bydd petha'n siapio.
 
(1, 1) 61 Y ddrama yna sydd gen ti─be' ydi ei henw hi?
 
(1, 1) 63 Y?
 
(1, 1) 65 Chlywais i erioed amdani.
 
(1, 1) 67 Oes yna bregethwr ynddi hi?
 
(1, 1) 70 Dydi hi'n dda i ddim felly.
(1, 1) 71 Does yna ddim llawer o raen ar ddrama heb bregethwr a blaenor neu ddau.
(1, 1) 72 Dyfnder sydd arnat ti eisio mewn drama, machgen i, dyfnder.
(1, 1) 73 A digon o le i grio.
 
(1, 1) 78 Paid â siarad drwy dy het.
 
(1, 1) 88 Dim gwahaniaeth; os nad oes yna bregethwr yn eu canol nhw, rown i ddim ceiniog a dima am ei gweld hi.
 
(1, 1) 93 Ia, rhyw syniada mawr fuo gen ti 'rioed...
(1, 1) 94 Ond dim yn dwad ohonyn nhw, byth!
 
(1, 1) 96 Pam na actiwch chi'r "Ferch o Gefn Brith"?
(1, 1) 97 Dyna i ti ddrama os leci di!
(1, 1) 98 A dau bregethwr, a 'dwn i ddim faint o flaenoriaid.
 
(1, 1) 100 Mi ydw i wedi'i gweld hi'n cael ei hactio ddeg o weithiau.
(1, 1) 101 A chrio lond fy mol yn braf bob tro.
 
(1, 1) 108 Fuasa fo ddim yn clywed holl glychau Aberdyfi pan mae o'n mynd drwy 'i betha.
 
(1, 1) 117 Gwir bob gair!
(1, 1) 118 Byw mewn breuddwyd.
 
(1, 1) 126 'Rwyt ti'n gwneud drama o bob dim, lanc!
 
(1, 1) 141 Crys gwlanan ydi crys gwlanan lle bynnag y mae o.
(1, 1) 142 Hwnnw sy'n dwad â bara menyn i ti, nid Bacmeth, ne beth bynnag wyt ti'n ei alw fo.
 
(1, 1) 144 Paid â rhagrithio mor ryfygus!
(1, 1) 145 Oes gen ti ddim cywilydd o gwbwl, dwad?
(1, 1) 146 Dy ben yn y niwl a'r cwsmeriad yn mynd yn llai bob dydd.
(1, 1) 147 A dy wraig yn gweithio'i bysedd i'r esgyrn.
(1, 1) 148 Dydi hi ddim wedi cael het newydd ers ugain mlynedd bron─heb sôn am wsnos o holide.
(1, 1) 149 Mae gen ti galon o garreg os medri di ddal ati mor ddihitio.
 
(1, 1) 151 Paid â thorri ar fy nhraws i o hyd.
(1, 1) 152 Rho gyfle i rywun arall ddweud gair weithia.
(1, 1) 153 Nid mewn drama 'rwyt ti rwan cofia.
(1, 1) 154 Mae'n hen bryd i ti ddeffro a mynd o gwmpas dy betha, machgen i, cyn iddi fynd yn rhy hwyr.
 
(1, 1) 162 Paid â dechra llempian yn fan'ma rwan.
(1, 1) 163 Fedra i ddim diodda neb yn snwffian o gwmpas y lle.
(1, 1) 164 Be ydi tipyn o frech goch, dwad?
(1, 1) 165 Diolcha nad ydi o ddim gwaeth.
 
(1, 1) 181 Beth am y siop yna, machgen i?
(1, 1) 182 Yn fan'ma mae dy ddyletswydd gynta di.
 
(1, 1) 197 Paid â bod mor goeglyd.
(1, 1) 198 Mae ganddi hi le i gwyno goelia i.
 
(1, 1) 222 Wyt ti'n drysu, dwad?
 
(1, 1) 236 Wyt ti'n mynd i ddechra llempian eto?
(1, 1) 237 'Rwyt ti'n rhy barod dy ddagra o lawer, merch i.
 
(1, 1) 239 O, paid â siarad mor ynfyd, da chdi!
(1, 1) 240 Mi ydw i'n gwybod sut i' drin o'n well na chdi'n amlwg.
 
(1, 1) 242 Oedd yna rywun yn cnocio, dwad?
 
(1, 1) 246 O gad iddo fo am funud.
(1, 1) 247 Wnaiff o ddim drwg iddo fo ddisgwyl dipyn.
(1, 1) 248 Mae o'n mynd yn ormod o fabi-mam o lawer.
 
(1, 1) 253 Hy!
 
(1, 1) 264 Dim cwestiwn o hynny, ma' hi'n byw mewn breuddwyd fel titha!
 
(1, 1) 276 Hei!
 
(1, 1) 278 'Tyrd i lawr o'r sêr am funud, wnei di?
(1, 1) 279 Beth wyt ti'n ei breglach, dwad?
 
(1, 1) 294 Aros am funud.
(1, 1) 295 'Rydach chi'ch dau cyn waethed â'ch gilydd.
 
(1, 1) 297 Tyrd yn ôl at y pwnc, machgan i.
 
(1, 1) 300 'Roeddet ti'n dweud y medret ti dalu hanner can punt i Lloyd ddiwedd y flwyddyn.
 
(1, 1) 302 Ple 'rwyt ti'n mynd i gael yr arian?
 
(1, 1) 312 Ddaw o ddim i 'sgidia Twm o'r Nant!
 
(1, 1) 323 Twt, rhwbia 'i gorn gwddw fo efo dipyn o saim gŵydd.
(1, 1) 324 Mi fydd yn iawn erbyn 'fory.
 
(1, 1) 327 Hy!
 
(1, 1) 331 Jonah!
 
(1, 1) 334 Wyt ti'n fyddar, dwad?
(1, 1) 335 Mae yna rywun yn y siop.
 
(1, 1) 339 Wyt ti'n dechra arni eto?
 
(1, 1) 348 Hy!
 
(1, 1) 350 Dim i'r sawl sy'n gweithio.
 
(1, 1) 360 'Rydach chi wedi deud hynna o'r blaen, ddyn!
 
(1, 1) 364 Ma' hynny'n amlwg i bawb.
 
(1, 1) 366 Dydi o wedi gwneud dim ond bwhwman dan ei wynt ers pan mae o yma...
(1, 1) 367 O'r cry'cmala felldith yma!
(1, 1) 368 Mae o'n fy lladd i'n lân.
 
(1, 1) 370 Cariwch ymlaen efo'ch swgrsio.
(1, 1) 371 Mae o'n siwr o fod yn destun dwfn!
 
(1, 1) 373 Bydd di'n ofalus hefyd, machgan i.
(1, 1) 374 Mi ydw i â fy llygaid arnat ti!
 
(1, 1) 377 Hy!