Ciw-restr

Llwyn Brain

Llinellau gan Margiad (Cyfanswm: 68)

 
(1, 1) 103 Yli, Jonah, does gen i ddim ond dwy law.
(1, 1) 104 A fedra i ddim bod mewn dau le ar unwaith.
 
(1, 1) 106 Wyt ti ddim wedi clywed cloch y siop yna'n canu ers meityn?
 
(1, 1) 109 Mae o'n arw o beth fod yn rhaid i mi redeg i lawr o'r lloft a chditha'n fan'ma yn diogi'n braf.
 
(1, 1) 114 Twt, chdi a dy ddrama!
(1, 1) 115 Dwyt ti'n meddwl am ddim arall.
(1, 1) 116 Dy ben yn y gwynt, a rhywun arall yn gorfod gwneud y gwaith i gyd.
 
(1, 1) 119 A'r busnas yn mynd yn llai bob dydd.
(1, 1) 120 Siop wir!
(1, 1) 121 Mi fydd yr hwch drwyddi gyda hyn.
 
(1, 1) 133 Dim eisio i ti fynd rwan.
(1, 1) 134 Mi ydw i wedi gofalu amdano fo.
 
(1, 1) 137 Tomos Morgan, Ocsiwniar.
(1, 1) 138 Mi wyddost mor groen-dena ydi o.
(1, 1) 139 Mi fuaset yn dy golled o werthu crys gwlanan.
 
(1, 1) 155 Digon gwir.
(1, 1) 156 Mi ydw i wedi dal heb gwyno'n rhy hir, fel roeddwn i wiriona.
(1, 1) 157 Ond mae yna derfyn ar amynedd y gora.
(1, 1) 158 A ma' hi wedi dwad i'r pen.
 
(1, 1) 160 Bob dim ar draws ei gilydd─busnas yn mynd i lawr a John Defi efo'r frech goch.
(1, 1) 161 Sut mae modd i neb ddal?
 
(1, 1) 170 Dydio ddim yn beth naturiol iddo fo golli ei lais yn llwyr.
(1, 1) 171 A dyna'r Steddfod Genedlaethol ymhen pythefnos.
(1, 1) 172 Cam cyntaf ei yrfa fo.
(1, 1) 173 'Roedd o mor saff o'r wobr gynta ar yr unawd soprano â mod in' sefyll yn fan'ma.
(1, 1) 174 Ond dyna fo, be ydi'r iws siarad?
(1, 1) 175 Does gen ti ddim mymryn o ddiddordeb ond yn dy betha dy hun.
 
(1, 1) 183 Digon gwir.
(1, 1) 184 Fydd yna ddim cerpyn ar y silff i werthu gyda hyn.
 
(1, 1) 192 Wel prysured y gaea' ddweda i, ne mi fyddwn wedi llwgu yma!
 
(1, 1) 199 Tawn i wedi swnian dipyn mwy mi fuaswn yn fwy fy mharch.
(1, 1) 200 Dydi o ddim yn sylweddoli bod yn rhaid i wraig siopwr fyw i fyny i'w safle.
(1, 1) 201 Mi ydw i'n teimlo fy hun yn flerach na neb yn y lle yma.
(1, 1) 202 Mae gen i gywilydd mynd allan bron.
 
(1, 1) 207 Pwy sy'n mynd i dalu?
 
(1, 1) 209 Mae o'n mynd i gostio rhyw hanner cant o bunna i ti.
 
(1, 1) 211 Wel 'dydw i ddim am brynu rhyw sothach rhad yn siwr i ti.
 
(1, 1) 214 Wel?
 
(1, 1) 216 Lle mae'r arian?
 
(1, 1) 219 Be!
(1, 1) 220 Dim o gwbwl.
(1, 1) 221 Dydw i ddim am brynu dillad ar lab yn siwr i ti!
 
(1, 1) 226 Wyt ti'n meddwl am funud y buaswn i'n mynd at Lloyd o bawb heb arian parod?
(1, 1) 227 Yr hen siswrn mwya' crintachlyd yn yn y lle yma!
(1, 1) 228 A'i wraig o sy' gymaint o ledi fawr!
(1, 1) 229 Mi fuasa' sôn amdana i drwy'r sir cyn pen wythnos.
 
(1, 1) 232 Mi fuasa'n well gen i fynd o gwmpas mewn barclod brâs a chlocsia na gofyn am hances-boced am ddim ganddyn nhw!
 
(1, 1) 234 Sut y medri di feddwl am y fath beth?
(1, 1) 235 Oes gen ti ddim teimlad o gwbwl, dwad?
 
(1, 1) 238 Does dim rhaid i chi gymryd ei bart o yn f'erbyn i.
 
(1, 1) 243 John Defi reit siwr.
 
(1, 1) 245 Beth sydd arno fo eisio sgwn i?
 
(1, 1) 249 Edrychwch yma, Lusa Defis, mi ydw i'n gwybod sut i fagu fy mhlant heb gyngor neb, diolch yn fawr!
(1, 1) 250 Mi ydw i wedi llwyddo'n o lew hyd yn hyn rydw i'n meddwl.
(1, 1) 251 Mae Dilys wedi cychwyn ar ei gyrfa.
(1, 1) 252 A fydda i ddim yn fodlon nes y bydd John Defi hefyd â'i ddyfodol yn ddiogel.
 
(1, 1) 258 Fuost ti erioed â dy ddau droed ar y ddaear, Jonah.
(1, 1) 259 'Rwyt ti'n llawn o ryw blania mawr niwlog bob amser.
(1, 1) 260 Ond fi sydd wedi edrych ar ffeithia wyneb yn wyneb, a rhoi nod i'r plant y medran' nhw gyrraedd ato fo.
 
(1, 1) 285 O!
 
(1, 1) 293 Wel sôn amdanaf fi'n tafodi!
 
(1, 1) 307 Beth wyt ti wedi bod yn 'i wneud felly?
 
(1, 1) 313 Jonah, mi fynna i gael gwybod be'r wyt ti wedi bod yn ei wneud.
 
(1, 1) 318 John Defi!
(1, 1) 319 'Roeddwn i wedi anghofio.
(1, 1) 320 A does gen y peth bach ddim llais i weiddi.
 
(1, 1) 322 Mi ydw i'n poeni nes 'rydw i bron â drysu yn ei gownt o.
 
(1, 1) 325 Mi wna i'n hollol fel 'rydw i'n leicio, Lusa Defis.