Ciw-restr

Y Llyffantod

Llinellau gan Desc (Cyfanswm: 227)

 
(0, 1) 2 Golygfa 1
(0, 1) 3 Mae Nicias yn eistedd yn fyfyrgar ar y llwyfan-ffedog.
(0, 1) 4 Dealler mai ar lan afonig y mae, ac o bryd i'w gilydd clywir crawcian y llyffantod yn y brwyn cyfagos.
(0, 1) 5 Cymer ambell ddracht o botel win sydd ganddo, a thoc, dengys ei werthfawrogiad ohono drwy fytheirio'n hyglyw a chyda boddhad amlwg.
(0, 1) 6 ~
(0, 1) 7 Yna, heb yn wybod iddo, daw Iris, ei wraig, a Harmonia, ei fam-yng-nghyfraith, i'r golwg o'r ochr arall.
(0, 1) 8 Safant mewn syndod.
 
(0, 1) 21 Daw'r ddwy ymlaen at Nicias.
 
(0, 1) 95 Exit lris a Harmonia.
 
(0, 1) 103 Daw merch ifanc ymlaen gyda phecyn o bamffledi.
 
(0, 1) 144 O dan ddylanwad y gwin mae'n syrthio i gysgu.
(0, 1) 145 Miwsig addas.
(0, 1) 146 Ymddengys Dionysos wedi'i wisgo fel twristiad nodweddiadol, gyda'i gamera a'i recordydd-tâp.
(0, 1) 147 Mae'n cario cas mawr trwm.
(0, 1) 148 Daw at Nicias ac edrych arno, ac ar ôl ennyd neu ddau mae hwnnw'n agor ei lygaid.
(0, 1) 149 Y miwsig yn distewi.
 
(0, 1) 184 Nid yw Dionysos yn ateb.
(0, 1) 185 Saif ac edrych o'i amgylch.
 
(0, 1) 197 Saib, Dionysos yn meddwl.
 
(0, 1) 204 Mae Dionysos yn arogli'r botel win.
 
(0, 1) 241 Cymer y cas mawr
 
(0, 1) 244 Mae Nicias yn arwain y ffordd oddi ar y llwyfan.
(0, 1) 245 Ar ôl ennyd neu ddau, agorir y llenni a gwelir nifer o rostra yn cynrychioli sgwâr yn Athen.
(0, 1) 246 Mae nifer o bobl yma ac acw, rhai'n eistedd; rhai'n sgwrsio, eraill yn darllen papur-newydd neu chwarae cardiau ac yn y blaen.
(0, 1) 247 Mae'r Côr — a fydd ar brydiau'n ymrannu'n ddau grŵp — yn sefyll gyda'i gilydd yn weddol agos i ffrynt y llwyfan.
(0, 1) 248 Daw Dionysos a Nicias at y gris sy'n codi o'r gynulleidfa i'r llwyfan, a phetruso yno am ychydig.
(0, 1) 249 Mae un o'r Côr yn eu gweld a thynnu sylw'r lleill atynt.
 
(0, 1) 267 Gwelir rhywun yn mynd at y ddau ymwelydd
 
(0, 1) 271 Mae Dionysos yn dringo'r gris o'r llawr i'r llwyfan a Nicias yn honcian yn llafurus ar ei ôl.
(0, 1) 272 Rhydd y cas yn ofalus i lawr ac eistedd ar un o'r rostra i gael ei wynt ato.
 
(0, 1) 280 Mae Dionysos yn cerdded hwnt ac yma i edrych ar y bobl gyda'u gwahanol ddiddordebau, ond does neb yn cymryd y sylw lleiaf ohono.
(0, 1) 281 Yn sydyn, clywir cyffro, a daw dau ddyn i'r golwg yn hebrwng dyn arall rhyngddynt â'i arddyrnau mewn cyffion.
(0, 1) 282 Gwelir nifer o bobl ifainc yn ceisio'u rhwystro.
 
(0, 1) 289 Teflir y gwrthwynebwyr o'r fordd gan y ddau dditectif ac ânt â'r carcharor ar draws y sgwâr ac o'r golwg, heb i neb gymryd fawr sylw ohonynt.
(0, 1) 290 Daw Dionysos yn ôl at Nicias.
 
(0, 1) 320 Daw llais drwy'r corn-siarad.
 
(0, 1) 343 Erbyn hyn mae'r rhan fwyaf o'r bobl wedi ymgynnull ger un o'r rostra, a gwelir Cleon yn dringo arno.
(0, 1) 344 Adwaith cymysglyd gan ei gynulleidfa.
 
(0, 1) 386 Mae rhai yn y dyrfa yn bygwth troi'n erbyn y protestwyr, ond atelir hwy gan Cleon.
 
(0, 1) 403 Rhai o'r dyrfa'n chwerthin
 
(0, 1) 413 Mae Cleon fel petai'n brwydro i reoli ei deimladau.
 
(0, 1) 451 Adwaith cymysglyd o'r gynulleidfa
 
(0, 1) 455 Adwaith cymysglyd eto a gwelir Cadmos yn dringo ar rostrwm arall.
 
(0, 1) 458 Mae'r dyrfa'n troi oddi wrth Cleon i wrando ar Cadmos.
 
(0, 1) 473 Adwaith cymysglyd y dyrfa.
 
(0, 1) 490 Adwaith y dyrfa eto.
 
(0, 1) 497 Adwaith cymysglyd.
 
(0, 1) 503 Yn ystod y cynnwrf daw Cadmos a Cleon i lawr oddi ar eu rostra a mynd ymaith i annerch cynulleidfa mewn rhan arall o'r Ddinas.
 
(0, 1) 525 Daw llais drwy'r corn-siarad.
 
(0, 1) 532 Erbyn hyn mae'r bobl wedi mynd yn ôl at eu gweithgareddau a'u diddordebau blaenorol.
(0, 1) 533 Nid oes neb yn cymryd nemor ddim sylw o'r datganiad ar wahân i'r grŵp ifanc a fu'n protestio eisoes.
(0, 1) 534 Mae'n nhw'n sefyll fel petaent wedi'u syfrdanu.
 
(0, 1) 559 Mae Dionysos yn mynd at y grŵp sy'n chwarae cardiau, gyda'i recordydd-tâp, a'r meicroffon yn ei law.
 
(0, 1) 571 Mae un o'r chwaraewyr yn amlwg wedi twyllo
 
(0, 1) 581 Mae'r ddau yn mynd i yddfau'i gilydd.
(0, 1) 582 Daw'r lleill rhyngddynt, ac o'r diwedd mae'r cyffro'n tawelu.
 
(0, 1) 589 A'r chwarae ymlaen, try Dionysos at hen wraig sy'n croesi'r sgwâr.
 
(0, 1) 627 Exit yr hen wraig dan fwmial.
(0, 1) 628 Try Dionysos at ddyn busnes llewyrchus yr olwg a ddaw heibio
 
(0, 1) 647 Pwyntio at ddau ddyn mewn dillad peirianwyr yn dod heibio
 
(0, 1) 664 Exit y gweithwyr.
(0, 1) 665 Daw merch ifanc heibio.
 
(0, 1) 690 Exit y ferch, edrych Dionysos ar y weddw am ennyd, yna try at y grŵp ifanc.
 
(0, 1) 696 Maent yn troi eu cefnau arno ac o'r diwedd try yntau at 'y côr.
 
(0, 1) 725 Mae'r côr yn mynd allan, a thywyllir y llwyfan i gyd ac eithrio pelydryn ar Dionysos a Nicias.
 
(0, 1) 787 Mae Nicias yn sefyll yn syfrdan, fel tae'n ansicr beth i'w wneud.
(0, 1) 788 Tyn ei gap a disgyn yn drwsgl ar un ben-lin.
(0, 1) 789 Rhydd Dionysos arwydd iddo godi ar ei draed.
 
(0, 1) 863 Exit Dionysos.
(0, 1) 864 Saib ennyd
 
(0, 1) 868 Llen neu dywyllwch.
(0, 2) 869 Golygfa 2
(0, 2) 870 Gwelir Nicias yn dal i eistedd yn fyfyrgar fel o'r blaen.
(0, 2) 871 Daw un o'r dynion a oedd yn chwarae cardiau ato.
 
(0, 2) 942 Mae'r gweddill o'r grŵp yn gadael eu chwarae cardiau, a dod atynt.
 
(0, 2) 959 Daw y ferch ifanc heibio.
 
(0, 2) 969 Pawb yn chwerthin.
(0, 2) 970 Daw'r hen wraig fyddar heibio.
 
(0, 2) 987 Wrth weld y lleill yn dechrau symud tuag ato yn fygythiol, saif Nicias ar ei draed i'w amddiffyn ei hun, a'r cas.
(0, 2) 988 Mae'n sgarmes mewn dim, a phery hyn am ennyd, nes yr ymddengys Dionysos.
(0, 2) 989 Y foment honno, mae ei ymosodwyr yn cilio'n ôl oddi wrth Nicias.
(0, 2) 990 Erbyn hyn, gwelir bod Dionysos wedi newid i ddillad ffurfiol, fel dyn busnes llewyrchus ar ei ffordd i'r swyddfa — siaced ddu, trowsus streip, het-galed ac ymbarel.
 
(0, 2) 993 Try'r bechgyn yn llechwraidd a mynd ymaith.
 
(0, 2) 1021 Daw Iris i'r golwg
 
(0, 2) 1053 Exit Iris
 
(0, 2) 1060 Exit Dionysos.
(0, 2) 1061 Cwyd Nicias ei ysgwyddau wrth dderbyn yr anochel.
(0, 2) 1062 Yna cymer y cas a dilyn Dionysos oddi ar y llwyfan.
(0, 2) 1063 Gostynger y goleuadau.
(0, 2) 1064 Pan ddônt i fyny drachefn nid oes neb ar y llwyfan ond ar ôl ennyd neu ddau, daw Dionysos a Nicias i'r golwg, yn edrych braidd yn flinedig, fel petaent wedi bod yn teithio am hir.
(0, 2) 1065 Dealler eu bod wedi cyrraedd glan yr afon Stycs.
 
(0, 2) 1114 Mae Nicias yn ufuddhau.
 
(0, 2) 1118 Mae Nicias yn ymdrechu'n lew, yna clywir llais Charon o'r pellter.}
 
(0, 2) 1123 Daw Charon i'r golwg yn ei gwch — hwnnw'n symud, mae'n debyg, ar olwynion anweledig — a gwthir ef ymlaen drwy gymorth polyn.
(0, 2) 1124 Mae gan Charon gap pig-gloyw, siersi-longwr las ac esgidiau bysgota.
 
(0, 2) 1225 Mae Nicias yn cymryd y polyn a sefyll yn simsan yn y cwch.
(0, 2) 1226 Eistedd Charon o flaen Dionysos.
 
(0, 2) 1233 Mae Nicias yn meimio pwnio'r cwch ymlaen.
(0, 2) 1234 Gostynger y goleuadau yn araf.
 
(0, 2) 1242 Tywyller y llwyfan yn llwyr.
(0, 2) 1243 Clywir eu lleisiau ohono.
 
(0, 2) 1252 Clywir sŵn Nicias yn tuchan wrth ymdrechu'n galed
 
(0, 2) 1257 Daw goleuadau i fyny ychydig gyda llewyrch gwyrdd a gwelir cysgodion y llyffantod ar y rostra sydd y tro hwn yn cynrychioli creigiau a cherrig yng nghanol yr Afon Stycs.
(0, 2) 1258 Clywir miwsig "Llyffantaidd" yn y cefndir, ynghŷd â chrawcian.
 
(0, 2) 1266 Cryfhaer y goleuadau a'r miwsig.
(0, 2) 1267 A gwelir y llyffantod yn dawnsio.
(0, 2) 1268 Ar ddiwedd y ddawns, mae Nicias ar fin ail-ddechrau pwnio'r cwch ymlaen
 
(0, 2) 1354 Ar ôl y corawd hwn, gostynger y goleuadau ychydig, tra bo'r llyffantod yn dawnsio o'r golwg
 
(0, 2) 1358 Mae Nicias yn meimio pwnio gyda'r polyn.
(0, 2) 1359 Miwsig i fyny ychydig, yna cryfhaer y goleuadau unwaith eto, y tro hwn gyda llewyrch melyn
 
(0, 2) 1364 Rhydd Nicias y polyn i Charon, a gesyd hwnnw ef yn ofalus yn y cwch.
(0, 2) 1365 Yna mae'n neidio i'r lan, a meimio rhwymo'r cwch yn ddiogel
 
(0, 2) 1375 Gwelir Dionysos yn sibrwd yng nghlust Charon.
(0, 2) 1376 Ar y cyntaf, mae hwnnw'n ysgwyd ei ben yn bendant fel petai'n anghytuno'n llwyr â chais Dionysos.
(0, 2) 1377 Yna, dan berswâd, ymddengys, toc, ychydig yn fwy bodlon.
 
(0, 2) 1417 Mae Dionysos yn eistedd ar rostrwm isel ond saif Nicias yn ofnus ar ei draed.
 
(0, 2) 1424 Rhydd Nicias y cas iddo, ac ar ôl ei agor mae Dionysos yn tynnu dwy botel allan.
(0, 2) 1425 Rhydd un i Nicias.
 
(0, 2) 1431 Eistedd Nicias.
(0, 2) 1432 Mae Dionysos yn agor ei botel a chymryd dracht ohoni, ond saif Nicias fel petai'n ansicr beth i'w wneud.
 
(0, 2) 1500 Clywir sŵn fel drwm draw.
 
(0, 2) 1504 Mae'r sŵn yn cynyddu a daw Cerberws i'r golwg.
(0, 2) 1505 Plisman yw ar gefn beic.
(0, 2) 1506 Ar ôl rhoi'r beic o'r neilltu a thynnu'r clipiau oddi ar odrau ei drowsus, daw atynt yn awdurdodol.
(0, 2) 1507 Try Nicias ei ben y ffordd arall.
 
(0, 2) 1687 Mae pen Cerberws yn disgyn ac yntau'n cysgu â'i geg yn llydan agored.
 
(0, 2) 1700 Maent yn mynd heibio i Cerberws ar flaenau eu traed.
 
(0, 2) 1705 Exit Dionysos a Nicias.
(0, 2) 1706 Mae Cerberws yn dal i chwyrnu cysgu.
(0, 2) 1707 Tywyller y llwyfan neu cauer y llenni
(0, 3) 1708 Golygfa 3
(0, 3) 1709 Llwyfan gwag, a llewych coch ar y goleuadau, yna daw Dionysos a NIciAs i'r golwg, ac y mae'n amlwg iddyn nhw deithio'n hir
 
(0, 3) 1751 Daw nifer o bobl ar draws y llwyfan yn dioddef pangau eithaf cyffuriau.
(0, 3) 1752 Ânt o'r golwg yr ochr arall.
 
(0, 3) 1756 Clywir sŵn rhyfel — er enghraifft ffrwydradau, ergydion magnelau ac yn y blaen.
(0, 3) 1757 Ar yr un pryd, gwelir fflachiadau ar y seiclorama i awgrymu tân, ac amrywiol oleuadau ynglŷn â brwydr.
(0, 3) 1758 Yna tawelwch.
(0, 3) 1759 ~
(0, 3) 1760 Lliw coch ar y seiclorama, miwsig yn y cefndir — awgrymaf Adagio yn G {Trefniant Giazotto} gan Tomas Albinoni
(0, 3) 1761 ~
(0, 3) 1762 Yna daw côr o ferched ymlaen yn araf, gydag ystum trallod Groegaidd.
(0, 3) 1763 Safant yn grŵp fel silŵet yn erbyn cochni'r cefndir.
(0, 3) 1764 Ennyd o ddistawrwydd ac eithrio'r miwsig isel yn y cefndir.
(0, 3) 1765 Mae Dionysos yn tynnu ei het, a Nicias ei gap.
 
(0, 3) 1811 Cryfhaer y miwsig ychydig tra bo'r merched yn mynd oddi ar y llwyfan.
(0, 3) 1812 Daw'r goleuadau i fyny.
 
(0, 3) 1817 Tywyller y tu ôl i'r llwyfan, neu tynner y llenni-canol yn araf er mwyn darparu ar gyfer yr olygfa nesaf ym mhencadlys Plwton.
 
(0, 3) 1854 Mae Nicias yn gafael yn y cas a dilyn Dionysos oddiar y llwyfan.
(0, 3) 1855 Miwsig addas am ennyd, yna goleuer cefn y llwyfan — neu agorer y llenni canol — a gwelir Plwton fel dyn-busnes yn eistedd tu ôl i'w ddesg yn sgrifennu.
(0, 3) 1856 Mae cloch y teliffôn yn canu.
 
(0, 3) 1868 Rhydd Plwton y ffôn i lawr a sgrifennu nodyn ar ei lyfr nodiadau.
(0, 3) 1869 Daw ei ysgrifenyddes i mewn.
 
(0, 3) 1892 Exit yr ysgrifenyddes a dod yn ôl yn syth gyda Dionysos a Nicias.
(0, 3) 1893 Rhydd Dionysos amnaid i Nicias aros efo'r cas ar drothwy'r "swyddfa" fel tae, a mynd ei hun i fyny at Plwton.
(0, 3) 1894 Mae hwnnw'n codi i'w gyfarch.
 
(0, 3) 1913 Cân Plwton gloch, a daw ei gynghorwyr i mewn a sefyll yn drefnus gerllaw.
(0, 3) 1914 Hwy fydd y côr.
 
(0, 3) 1920 Mae'r côr yn troi fel un i edrych yn syn ar Nicias, sy'n sefyll yn unig, gyda'r cas bondigrybwyll, ar un ochr i'r llwyfan.
(0, 3) 1921 Mae'n symud yn swil o un droed i'r llall wrth iddyn nhw syllu arno.
(0, 3) 1922 Try'r côr yn ôl i wrando ar Plwton.
 
(0, 3) 1940 Saif Dionysos ar un o'r rostra
 
(0, 3) 1984 Mae Nicias yn adweithio'n swil wrth i'r côr gyfeirio a phwyntio ato.
 
(0, 3) 2019 Exit Côr A.
 
(0, 3) 2021 Mae pawb ond Nicias yn fferu'n hollol ddisymud mewn dwysfyfyrdod.
(0, 3) 2022 Gwelir Nicias yn crafu ei ben mewn penbleth.
(0, 3) 2023 Distawrwydd llethol am ennyd.
 
(0, 3) 2025 Gostynger y goleuadau i dywyllwch llwyr.
(0, 3) 2026 Clywir llais Nicias o'r tywyllwch.
 
(0, 3) 2048 Daw'r goleuadau i fyny'n raddol.
 
(0, 3) 2050 Daw Plwton a'r lleill allan o'r myfyrdod a gwelir Côr A yn dychwelyd.
 
(0, 3) 2083 Saif Dionysos am ennyd fel petai'n ystyried y geriau a glywodd, yna daw yn araf i ffrynt y llwyfan.
(0, 3) 2084 Daw Plwton ato.
(0, 3) 2085 Tywyller y cefndir — neu tynner y llenni-traws gan adael pelydryn ar y ddau.
(0, 3) 2086 Gwelir Nicias hefyd yn y cysgod.
 
(0, 3) 2127 Mae Plwton yn mynd â Dionysos o'r neilltu.
(0, 3) 2128 Cryfhaer y pelydryn ar Nicias.
 
(0, 3) 2144 Daw Dionysos ato.
 
(0, 3) 2184 Mae Nicias yn teimlo yn ei boced a thynnu'r botel allan, edrych arni a'i rhoi yn ôl.
 
(0, 3) 2193 Exit Dionysos a Nicias.
(0, 3) 2194 Pelydryn ar y cas am ennyd, yna tywyllwch.
(0, 3) 2195 ~
(0, 3) 2196 Miwsig.
(0, 4) 2197 Golygfa 4
(0, 4) 2198 Daw Dionysos a Nicias i'r golwg ar eu ffordd i'r afon Stycs.
 
(0, 4) 2201 Eisteddant ar rostrwm isel yn weddol agos i ffrynt y llwyfan.
 
(0, 4) 2258 Clywir dwndwr draw.
 
(0, 4) 2270 Rhed Nicias ac ymguddio y tu ôl i'r rostrwm.
(0, 4) 2271 Daw Cerberws i'r golwg.
(0, 4) 2272 Mae Dionysos yn mynd i'w gyfarfod.
 
(0, 4) 2308 Try Cerberws ei gefn a rhydd Dionysos yr arwydd i Nicias ddianc, a gwelir hwnnw'n mynd ar flaenau ei draed.
(0, 4) 2309 Yn anffodus mae'n baglu a syrthio ar ei hyd ar lawr.
(0, 4) 2310 Try Cerberws a'i weld.
 
(0, 4) 2313 Neidia Nicias ar ei draed a dechrau rhedeg.
 
(0, 4) 2317 Rhed Cerberws ar ei ôl dan chwythu ei bib.
(0, 4) 2318 Wrth iddynt groesi'n ôl a blaen ar draws y llwyfan, fflachier y goleuadau.
(0, 4) 2319 ~
(0, 4) 2320 Miwsig cyflym.
(0, 4) 2321 ~
(0, 4) 2322 Wedi iddynt redeg droeon ar draws y llwyfan fel hyn, a neidio ambell waith i fyny ac i lawr y rostra, gostynger y goleuadau i dywyllwch.
(0, 4) 2323 Mae sŵn llais a phib Cerberws yn pellhau; felly hefyd y miwsig, ond pery o hyd yn y cefndir.
(0, 4) 2324 ~
(0, 4) 2325 Ar ôl ychydig eiliadau, cryfhaer y goleuadau, gyda llewych gwyrdd, a dealler mai'r afon Stycs yw'r llwyfan yn awr.
(0, 4) 2326 Clywir eco pell o bib Cerberws, drwy'r miwsig; yna daw Nicias i'r golwg gan bwnio'r cwch yn ffyrnig ymlaen.
(0, 4) 2327 O'r diwedd mae'n cyrraedd y lan — a'r byd hwn!
(0, 4) 2328 Neidia allan a disgyn yn flinedig a swrth ar yr union rostrwm lle y cysgai ar ddechrau'r ddrama.
(0, 4) 2329 Mewn dim mae mewn trwmgwsg.
(0, 4) 2330 ~
(0, 4) 2331 Gwelir y cwch yn mynd yn ôl ac o'r golwg ohono'i hun.
(0, 4) 2332 ~
(0, 4) 2333 Mae'r goleuadau'n melynu, a chlywir yr un miwsig ag a gafwyd ar y dechrau yn ogystal â chrawcian y Llyffantod.
(0, 4) 2334 ~
(0, 4) 2335 Ar ôl ennyd neu ddau, daw Iris a Harmonia i'r golwg.
(0, 4) 2336 Maer miwsig yn distewi.
 
(0, 4) 2345 Mae Iris yn mynd at Nicias a rhoi ei llaw ar ei ysgwydd.
 
(0, 4) 2402 Clywir crawcian y Llyffantod a sibrwd fel lleisiau ar yr awel yn dweud geiriau olaf y gwrol-rai yn Hades.
 
(0, 4) 2405 Clywir y geiriau hyn deirgwaith.
 
(0, 4) 2457 Mae Harmonia yn chwerthin a throi i fynd oddi ar y llwyfan.
 
(0, 4) 2466 Exit Iris ar ôl et mam.
(0, 4) 2467 ~
(0, 4) 2468 Unwaith eto clywir crawcian y Llyffantod ac ar eu traws y sibrwd fel o'r blaen.
 
(0, 4) 2471 Gwrendy Nicias am ennyd neu ddau fel petai'n ceisio penderfynu pa sŵn i'w ddewis a'i dderbyn.
(0, 4) 2472 Yna cymer ddracht o'r botel a'i thaflu ymaith.
 
(0, 4) 2474 Try ar ei sawdl a mynd oddi ar y llwyfan.
(0, 4) 2475 Mae'r crawcian a'r sibrwd yn toddi i'w gilydd fel y gostyngir y goleuadau'n raddol.
(0, 4) 2476 Daw miwsig i fyny.
(0, 4) 2477 ~
(0, 4) 2478 Tywyllwch