Ciw-restr

Llywelyn, Ein Llyw Olaf

Llinellau gan Llewelyn (Cyfanswm: 142)

 
(1, 1) 4 Wel, dyma obaith im' o'r diwedd gael
(1, 1) 5 Llonyddwch. Gwalia sydd, e'rs blwyddi maith
(1, 1) 6 Yn ysglyf wael i'r cledd, a gwaeth na'r cledd,
(1, 1) 7 I frad ei phlant. Ei meibion dewrion hi
(1, 1) 8 Na throent ar faes y gwaed eu cefn ar neb
(1, 1) 9 A chwifio gledd neu anelwaewffon,
(1, 1) 10 Wneir gan eiddigedd yn dylodion llwfr;
(1, 1) 11 Er boddio dig, hwy werthent, ie'r wlad
(1, 1) 12 Ar fronau'r hon eu magwyd; ie'r wlad
(1, 1) 13 I'r hon y rhoisent gynt eu gwaed yn llon,
(1, 1) 14 O! gwae i Gymru, a gwae mwy imi!
(1, 1) 15 Y bradwyr hyn, plant Cymru oeddent hwy.
(1, 1) 16 Ond mwy na hyn,—Plant ty fy nhad o'ent hwy!
(1, 1) 17 Oh! Owen! nesaf frawd imi! Tydi
(1, 1) 18 I'r hwn y rhoddwyd cydgyfartal ran
(1, 1) 19 A mi o'r etifeddiaeth, fynet gael
(1, 1) 20 Yr oll, neu fod heb ddim. Llychwinaist glod
(1, 1) 21 Ac enw ty dy dad trwy droi yn fradwr,
(1, 1) 22 Bradychaist fi, dy frawd; bradychaist wlad
(1, 1) 23 Dy enedigaeth; a bradychu wnest
(1, 1) 24 Ymddiried tad ar wely angeu it.
(1, 1) 25 Do, tynaist i dy lwybrau gwirgam ffol,
(1, 1) 26 Yr hwn fu'n falchder tad a llonder man:
(1, 1) 27 I'm herbyn codaist gleddyf Dafydd lanc,
(1, 1) 28 Yr hwn pan gynt yn blentyn gariais, do,
(1, 1) 29 Ganwaith a mwy mewn mynwes cynes brawd
(1, 1) 30 Fuasai'n falch i farw er ei fwyn!
(1, 1) 31 Oh! Dafydd! Dafydd! tost fu'th anlwc di,
(1, 1) 32 A thostach fyth fy anlwc inau it
(1, 1) 33 Gymeryd felly'th arwain i wneyd cam
(1, 1) 34 A'th wlad, a'th dy, a'th frawd, a thi dy hun!
(1, 1) 35 Gwae, gwae i'r dydd y gorfu i Llewelyn
(1, 1) 36 Ddadweinio cledd i daro brawd mor gu
(1, 1) 37 A Dafydd! Llawer gwell, ie, canmil gwell
(1, 1) 38 Fuasai genyf golli'm gwaed, a'm stad,
(1, 1) 39 A'm bywyd, na'th niweidio di, fy mrawd,
(1, 1) 40 Wrth geisio'u cadw, oni bae er mwyn
(1, 1) 41 Buddianau Cymru;—ond nis gallwn byth
(1, 1) 42 Wel'd Cymru'n cael ei gwerthu i law'r Sais.
(1, 1) 43 Pe costiai cadw Cymru'n rhydd i mi
(1, 1) 44 A'm llaw fy hun d'aberthu di fy mrawd,
(1, 1) 45 Gwnawn hyny hefyd, er y gwybydd Duw
(1, 1) 46 Nod oes ond un anwylach genyf na
(1, 1) 47 Thydi. Ah! Elen hoff, i seren glaer,
(1, 1) 48 Fy ngobaith, cysur, cariad, bywyd, oll,
(1, 1) 49 Yn fuan caf fwynhau dy gwmni hoff!
(1, 1) 50 Ond 'nawr am Dafydd. Yn y carchar mae,
(1, 1) 51 Rwyf finau'n rhydd, yn gryf yn serch fy ngwlad,
(1, 1) 52 A'm holl elynion wedi cilio'n ol.
(1, 1) 53 A gresyn fyddai gadael Dafydd mwy
(1, 1) 54 Un fynyd yn y carchar. Ei ryddhau
(1, 1) 55 A wnaf y fynyd hon!
 
(1, 1) 58 Cymer y fodrwy yma, dos at geidwad y carchar; par iddo ollwng Dafydd fy mrawd allan, a dwg ef yma.
 
(1, 1) 60 Mae'n ddoeth i mi wrandaw ar alwadau uchel natur yn fy mynwes. Mae Cymru 'nawr yn rhydd; caiff Dafydd hefyd fod yn rhydd.
(1, 1) 61 Dos, brysia.
 
(1, 1) 63 Rhaid i mi wneyd cam â mi fy hun, trwy guddio oddiwrth Dafydd y cariad brwd sy'n llenwi'm calon ato.
 
(1, 1) 65 Wel!
 
(1, 1) 68 Os daw Griffith fewn, nis gallaf weled Dafydd.
(1, 1) 69 Ac, O, mae'm calon yn hiraethu am y llanc.
(1, 1) 70 Rhaid i Griffith aros.
 
(1, 1) 72 Hysbysu'r penaeth Ap Gwenwynwyn nas gallaf ei weled heddyw.
 
(1, 1) 74 Ie, rhaid imi guddio fy nghalon oddiwrth Dafydd.
(1, 1) 75 Rhaid gwisgo gwg lle mynwn wisgo gwên.
(1, 1) 76 Rhaid bod yn swrth lle'r hoffwn fod yn llon.
(1, 1) 77 Ust!
(1, 1) 78 Dyma fe yn d'od.
 
(1, 1) 83 Dy frawd? Dy D'wysog hytrach d'wed!
(1, 1) 84 Ti gollaist bob rhyw hawl i'm galw'n frawd.
(1, 1) 85 Y dydd dadweiniaist gledd i'm herbyn i.
 
(1, 1) 87 Er oered oedd y carchar, nid mor oer a'th galon di o bob rhyw deimlad brawdol.
 
(1, 1) 93 'Rwy'n rhoddi mantais iti wella'th ffyrdd,
(1, 1) 94 Ceir gwel'd os yw gwenwynig wreiddyn brad,
(1, 1) 95 Fynwesaist yn dy galon, eto'n fyw,
(1, 1) 96 Neu os yw'r carchar wedi ei ladd yn llwyr,
(1, 1) 97 Ac os tyf pren gwladgarwch yn ei le,
(1, 1) 98 Gad im' wel'd ffrwythau |gwladgar| genyt cyn
(1, 1) 99 Y soni am |frawdgarwch| yn fy ngwydd.
(1, 1) 100 Nid brawd imi y neb gasâ ei wlad,
(1, 1) 101 Nid o'r un gwaed a mi y neb wna frad,
(1, 1) 102 A Chymru hoff! Dos bellach i dy dŷ.
 
(1, 1) 104 O Dafydd! Dafydd! O fy mrawd! fy mrawd!
(1, 1) 105 Gwae fi na feiddiwn roddi ffordd im' serch,
(1, 1) 106 Trwy syrthio ar ây wddf, a golchi ffwrdd
(1, 1) 107 A'm dagrau dy ofidiau un ac oll,
(1, 1) 108 A'th gadw'n ganwyll llygad im' fel cynt!
(1, 1) 109 Ond gwell iti gael profi chwerwedd oer
(1, 1) 110 Dygasedd, enyd fer, yr hwn, fel gwna
(1, 1) 111 Cyffeiriau chwerwon meddyg yru ffwrdd
(1, 1) 112 O'r gwaed y gwenwyn a berygla oes,
(1, 1) 113 A bura'th galon dithau, ac a'th wna
(1, 1) 114 Yn holliach Gymro gwladgar unwaith eto.
 
(1, 3) 168 Dacw'r castell yn y golwg.
(1, 3) 169 Dacw ffenestr ystafell #Elen
(1, 3) 170 Braidd na thybiwn y gallwn oddiyma ganfod fy angyles ei hun.
 
(1, 3) 175 Y dyn!
(1, 3) 176 Ystyria beth wyt yn ddweyd!
(1, 3) 177 Oni bae dy fod yn hen gyfaill profedig, torwn dy dafod di allan am y fath sarhad ar Elen.
 
(1, 3) 179 I mi?
 
(1, 3) 182 Mae digon o delynorion yn Nghymru.
 
(1, 3) 190 Boddlon wyf i hyny, a gwystlaf fy mywyd ar ffyddlondeb Elen.
 
(1, 4) 205 Nid yw yn gwybod dim am y newyddion diweddaf, fy mod wedi arwyddo cytundeb heddwch a Harri brenin Lloegr, trwy yr hwn y mae ef yn ymrwymo fy nghydnabod dros ei oes yn Dywysog Cymru; ac am ymyriad caredig Obollonus a rwymodd y Saeson i heddwch hollol a'r Cymry dros deyrnasiad Harri.
 
(1, 4) 213 Dyna i ti, Meredith!
 
(1, 4) 246 O fy Elen anwylaf!
(1, 4) 247 Adwaenwn ei llais yn mhlith mil!
(1, 4) 248 Yr oedd pob nodyn ganai yn taro tant atebol yn fy nghalon.
 
(1, 4) 250 Ni fu melusach tonc erioed gan eos.
(1, 4) 251 Ac a sylwaist ti, Meredith ar ei chyfeiriadau ataf fi, a'r ffydd oedd ganddi ynof?
 
(1, 4) 254 Yr wyf yn rhwym o fyn'd ati.
(1, 4) 255 Ac eto mae arnaf ofn ei dychrynu wrth ymddangos yn rhy sydyn.
(1, 4) 256 Ni fynwn chwaeth iddi gredu fy mod wedi clywed ei chân.
(1, 4) 257 Gwn beth a wnaf.
(1, 4) 258 Cymeraf eto ffug-farf y crythwr, a chanaf dôn dan y ffenestr.
(1, 4) 259 Cawn weled sut y try pethau allan.
 
(1, 4) 271 Mae'n dda gan rai am wychder byd,
(1, 4) 272 Anedd-dai clyd, a chysur:
(1, 4) 273 Y marchog fyn rhyfelfarch chwim,
(1, 4) 274 Ond rhoddwch i'm fy meinir.
(1, 4) 275 Fe gara'r gwenyn flodau hardd,
(1, 4) 276 Fe gara'r morwr tonog li',
(1, 4) 277 Mi garaf finau—rhywun.
(1, 4) 278 ~
(1, 4) 279 I glustiau'r bardd peroriaeth yw
(1, 4) 280 Y miwsig gana Anian,
(1, 4) 281 Telynau'r wig, yr awel gref,
(1, 4) 282 Ac uchel lef y daran,
(1, 4) 283 A churiad ysgain tòn ar dòn,
(1, 4) 284 A chaniad llon aderyn;
(1, 4) 285 Melusach, mwynach imi'n wir
(1, 4) 286 Llais clir soniarus—rhywun.
 
(1, 4) 296 Os cryf yw'r castell, cryfach yw
(1, 4) 297 Y cariad byw'n fy nghalon;
(1, 4) 298 Os eiddo'r Iarll yw'r castell hwn
(1, 4) 299 Mi wn pwy bia'r Fanon.
 
(1, 4) 301 O tyred mwy yn eiddo i mi
(1, 4) 302 Tydi yn wir rwy'n garu;
(1, 4) 303 Cei goron Cymru ar dy ben
(1, 4) 304 A Gwalia Wen i'th foli.
 
(1, 4) 313 Oh f'anwylyd, mor hyfryd yw cael bod gyda thi drachefn!
(1, 4) 314 Bum yn mron digaloni wrth weled y rhwystrau oedd ar fy ffordd, ond diolch fo i Dduw, y maent wedi diflanu.
 
(1, 4) 317 Ond yn awr gallwn ganu ar ol cael heulwen glir uwchben.
 
(1, 4) 345 Ië, diolch i Dduw, gallwn obeithio bellach am flynyddau o heddwch; yna caf gyfle i ddwyn pethau i drefn yn Nghymru, a gall y wlad edrych am fwy o ddedwyddwch ynddynt nag a gawsom er's hir amser.
 
(1, 4) 347 Cawn ddechreu yma ynte.