Ciw-restr

Yr Orffiws

Llinellau gan Catrin (Cyfanswm: 122)

 
(1, 1) 18 O wel, dyna hwnna drosodd.
(1, 1) 19 Rhaglen reit dda y pnawn yma, Huw.
 
(1, 1) 22 Pwy oedd y dyn yna, tybed?
 
(1, 1) 24 Wel hwnna oedd yn chware'r biano rwan.
 
(1, 1) 29 Hwyrach y gwelwn ni Gymro ar y blaen iddyn nhw rhyw ddiwrnod, Huw.
 
(1, 1) 36 Mi gei di weld peth arall rhyw ddiwrnod.
(1, 1) 37 Os buasa Wili John ni'n cael tipyn o chware teg, mi fuasa'n gwneud ei enw ar y biano i ti!
 
(1, 1) 40 O mae'n rhaid i ti gael taflu dŵr oer am ben bob dim.
(1, 1) 41 Mi ydw i'n dweud wrtha ti—mae Wili John yn gerddor o'i grud.
 
(1, 1) 43 Dyna chdi eto—mae'r peth bach yn cael ei anwybyddu.
(1, 1) 44 Oes gen ti ddim cywilydd dwad?
(1, 1) 45 Dy blentyn dy hun, yn byrlymu efo talent, a chditha'n chwerthin am ei ben a...
 
(1, 1) 47 Ia, ia, mae'n hen bryd i ti gael y gwir.
(1, 1) 48 Does yna ddim symud arnat ti erioed.
(1, 1) 49 Mi fuaset ar dy ben yn y wal ers talwm ond fy mod i y tu ôl i ti.
 
(1, 1) 51 O, fedri di ddim gwadu.
(1, 1) 52 Does gen ti ddim mymryn o ysfa i wella dy hun na dy deulu, dim ond mynd dow dow o ddiwrnod i ddiwrnod, run fath â hen geffyl gwedd.
(1, 1) 53 Mi fydda i'n mynd yn gynddeiriog weithia.
(1, 1) 54 Ond, yli, dydw i ddim yn mynd i adael i Wili John bach golli ei gyfle yn y byd yma...
 
(1, 1) 56 Mi ofala i na fydd o ddim yn mynd ar ôl ei dad.
 
(1, 1) 58 Mae o'n wir bob gair.
 
(1, 1) 60 Ydy.
 
(1, 1) 62 Ydy medda finna.
 
(1, 1) 66 Mi fynna i gael chware teg i Wili John yn saff iti!
 
(1, 1) 68 Dwyt ti ddim yn edrach yn debyg.
 
(1, 1) 72 Mae'n hen bryd i ti ddangos rywfaint o siâp, yn lle gwneud sbort am bob dim.
 
(1, 1) 76 Amyneddgar wir.
(1, 1) 77 Wyt ti'n meddwl y cei di biano wrth chwibanu?
 
(1, 1) 81 Pam na fuaset ti'n prynu un ers talwm pan oeddan nhw'n rhad?
 
(1, 1) 84 Twt, paid â hel esgus.
(1, 1) 85 Pen yn y gwynt, dyna dy hanes di erioed.
 
(1, 1) 89 Wel?
 
(1, 1) 91 Uncle Enoc?
(1, 1) 92 Beth amdano fo?
 
(1, 1) 95 O chdi a dy Uncle Enoc!
(1, 1) 96 Os mai dyna ydy dy gynllun di...
 
(1, 1) 100 Twt, 'run peth roeddet ti'n ddweud ddeng mlynedd yn ôl.
(1, 1) 101 Hen longwr ydy o cofia.
(1, 1) 102 Mi fydd yn fyw i fynd yn gant oed mi gei di weld.
 
(1, 1) 106 Clyw!
(1, 1) 107 Dyna fel mae Wili John drwy'r dydd—yn llond ei groen o fiwsig.
(1, 1) 108 Mae'n bechod na fuasa fo'n cael piano.
 
(1, 1) 110 Weli di byth mo'i arian o Huw, tra bydd dy gefndar Dic Betsi o gwmpas, yr hen gyb dau-wynebog.
 
(1, 1) 112 O mae o'n ddigon gwir.
(1, 1) 113 Pam mae o'n hen lanc medda chdi?
(1, 1) 114 Am ei fod o'n ormod o gyb i gadw gwraig, dyna i ti pam.
(1, 1) 115 Mi ydw i'n nabod dy gefndar Dic Betsi'n reit dda erbyn hyn, o ydw!
 
(1, 1) 117 Nag ydan, diolch i'r tad.
(1, 1) 118 Ond os oes yna ddima i'w chael yn rhywle, mae'r llwynog yna'n saff ohoni.
 
(1, 1) 120 Wel?
 
(1, 1) 122 Be ydy dy gynllun di felly?
 
(1, 1) 124 Dwad yma?
(1, 1) 125 Na ddaw byth.
(1, 1) 126 Wyt ti'n drysu?
 
(1, 1) 129 Beth wyt ti'n feddwl ydy'r lle yma—hospital?
(1, 1) 130 Mae gen i ddigon i wneud fel mae hi heb gael yr hen gono blin yna ar draws y tŷ.
(1, 1) 131 Sôn am slafio wir...
 
(1, 1) 133 Pa ochor arall sydd yna?
 
(1, 1) 135 Waeth i ti roi'r ffidil yn y to ddim Huw.
(1, 1) 136 Weli di 'r un ddima, mae hynny'n saff.
(1, 1) 137 A pheth arall, rwan mae Wili John eisio piano, nid ymhen blynyddoedd.
 
(1, 1) 139 Y fi.
(1, 1) 140 Mae'r hen ddyn yn iach fel cneuan.
(1, 1) 141 Mi fydd yn rhaid ei saethu o.
 
(1, 1) 146 Doctor James?
 
(1, 1) 150 Mi fyddi di a finna wedi cyrraedd y gwaelod o'i flaen o.
 
(1, 1) 169 Ei farn o ar be?
 
(1, 1) 176 Ple mae o?
 
(1, 1) 184 Dim byd Blodwen, ond ei fod o wedi colli lojiwr.
(1, 1) 185 Roedd dy dad yn meddwl gofyn i'r hen Enoc ddwad i fyw yma.
 
(1, 1) 191 Wel pwy ddynas fuasa'n lecio cael hen ddyn fel yna ar draws y tŷ?
(1, 1) 192 Am beth wyt ti'n chwilio Blodwen?
 
(1, 1) 203 Mi ydw i wedi dweud wrtha ti'n barod.
(1, 1) 204 Fedrwn i byth wneud efo fo.
 
(1, 1) 208 Hy, dwyt ti ddim yn nabod dynion eto, ngeneth i.
 
(1, 1) 220 Chware teg iddi.
(1, 1) 221 Mae Doctor James yn ddyn ifanc neis iawn.
 
(1, 1) 225 Wel be sy'n fwy naturiol a hithau'n gweithio efo Huws y Chemist?
 
(1, 1) 227 O gad lonydd i'r hogan!
(1, 1) 228 Rwan mae ei chyfle hi.
(1, 1) 229 Wyt ti ddim yn falch o weld dy deulu'n gwneud mor dda dwad?
 
(1, 1) 231 Twt, mae Blodwen yn ddigon call i ti.
 
(1, 1) 234 Roeddat ti wedi priodi yn ei hoed hi.
 
(1, 1) 238 Fedri di ddim nadu pobol ifanc syrthio mewn cariad, Huw.
 
(1, 1) 243 Wel ia, mae'n biti ei weld o'n mynd i ffwrdd i'r hen le yna.
 
(1, 1) 245 O na.
(1, 1) 246 Ond mae arna i ofn y bydd o'n fwy unig nag erioed yn y fan honno.
 
(1, 1) 251 Wn i ddim am hynny.
 
(1, 1) 253 Wel efalla nad ydy hi ddim yn rhy hwyr i ti ei berswadio fo i beidio mynd i ffwrdd.
 
(1, 1) 255 Mi gawn weld ymhellach ymlaen.
 
(1, 1) 257 Ydw, ond cofia di hyn Huw—meddwl am biano i Wili John rydw i.
(1, 1) 258 Mae hynny'n werth unrhyw aberth.
(1, 1) 259 A mi fydd hi'n aberth hefyd cael yr hen Enoc yma.
 
(1, 1) 261 Mi gei di weld peth arall.
 
(1, 1) 263 Mae o'n hen greadur croes, pigog hefyd, a'i lach ar bob dim yn ei dro, ac yn ddigon ffwndrus yn amal.
 
(1, 1) 268 Aros am funud, mae Wili John yn dwad.
(1, 1) 269 Gofyn iddo fo be fuasa fo'n lecio gael ar ei ben-blwydd.
 
(1, 1) 271 Gofyn di iddo fo.
(1, 1) 272 Mi ddalia i am swllt mai piano fydd ei ateb o.
 
(1, 1) 281 Dyna ddigon, Wili John.
(1, 1) 282 Allan mae eisio chware.
(1, 1) 283 Mae dy Dad eisio siarad efo ti.
 
(1, 1) 286 O bobol annwl, sôn am Blodwen mewn breuddwyd!
(1, 1) 287 Wyt ti wedi anghofio'n barod?
 
(1, 1) 293 Twt lol, Wili John, paid â siarad yn wirion.
(1, 1) 294 Miwsig, Wili John, miwsig—rwan be fuasat ti'n lecio?
 
(1, 1) 296 Mouth Organ, wir.
(1, 1) 297 Be sy ar yr hogyn!
(1, 1) 298 Fuaset ti'n lecio cael piano?
 
(1, 1) 306 Mae gen i eisio picio i'r pentre am funud i wneud tipyn o negas.
(1, 1) 307 Fydda i ddim yn hir gobeithio.
 
(1, 1) 309 Cei am wn i.
(1, 1) 310 Aros, rhaid i mi roi cadach ar dy wyneb di.
 
(1, 1) 312 Saf yn llonydd da chdi, rwyt ti run fath â chynonyn!
(1, 1) 313 Rwan y tu ôl i'r clustia yma...
(1, 1) 314 Ple rwyt ti'n hel y fath faw dwad?
(1, 1) 315 Reit, estyn ei gap o Huw—dyna fo ar y soffa.
 
(1, 1) 318 Wel fydda i byth yn hir iawn, rwyt ti'n gwybod hynny.
(1, 1) 319 Ag yli, mae yna deisen yn y popty yn y cefn—mi fydd yn barod ymhen rhyw chwarter awr.
(1, 1) 320 Gofala ei thynnu hi allan os na fydda i wedi dwad yn ôl.
 
(1, 1) 322 Cofia di rwan—chwarter awr—ne mi fydd yma andros o row.
 
(1, 1) 325 Tyrd Wili John.