Ciw-restr

Yr Orffiws

Llinellau gan Huw (Cyfanswm: 188)

 
(1, 1) 20 Ia, Catrin, ardderchog.
(1, 1) 21 Mwy o stwff fel yna sydd arna ni eisio, yn lle'r sothach mae nhw'n roi am oria bob nos.
 
(1, 1) 23 Pa ddyn?
 
(1, 1) 25 O wn i ddim.
(1, 1) 26 Fforinar reit siwr.
(1, 1) 27 Enw llathan o hyd—Fritz von Powlan ne rwbath.
(1, 1) 28 Fforinars ydy rhain i gyd.
 
(1, 1) 30 Y?
(1, 1) 31 Dim peryg.
(1, 1) 32 Mae eisio chwysu am flynyddoedd cyn meistroli offeryn.
(1, 1) 33 Dydy o ddim yno' ni'r Cymry.
(1, 1) 34 Mi ydan ni'n ganwrs heb eu hail—ond mae hynny'n ran o'n natur ni.
(1, 1) 35 Dyfal-barhad, Catrin, hwnnw sydd ar ôl.
 
(1, 1) 38 Y?
(1, 1) 39 Buasa—efo cyllell boced!
 
(1, 1) 42 Mi gadwodd ddigon o swn pan gafodd ei eni, beth bynnag.
 
(1, 1) 46 Ond Catrin...
 
(1, 1) 50 Dim o gwbwl...
 
(1, 1) 55 Ond dydw inna ddim yn...
 
(1, 1) 57 Does dim eisio taflu weips.
 
(1, 1) 59 Nac ydy.
 
(1, 1) 61 Nac ydy medda finna.
 
(1, 1) 63 O be ydy'r iws dadla!
(1, 1) 64 Mi fynni di gael y gair dwytha bob amser.
 
(1, 1) 67 Wyt ti'n meddwl nad ydw i'n poeni dim am ei ddyfodol o?
 
(1, 1) 69 Wel mi wyt ti'n gwneud camgymeriad.
(1, 1) 70 Mae'r peth wedi bod ar fy mrêns i ers wythnosa.
(1, 1) 71 Ond wrth gwrs fydda i ddim yn dangos y cwbwl.
 
(1, 1) 73 Twt lol, tynnu dy goes di roeddwn i.
(1, 1) 74 Dim eisio gwneud y peth yn destun ffrae.
(1, 1) 75 Rhaid iti fod yn amyneddgar yn y busnas yma, Catrin.
 
(1, 1) 78 Dim o gwbwl.
(1, 1) 79 Ond cofia hyn, chei di ddim offeryn heddiw o dan gan punt—hyd yn oed un ail-law.
(1, 1) 80 Fedri di ddim mynd i'r siop a phrynu un ar lab run fath ag owns o faco.
 
(1, 1) 82 I be?
(1, 1) 83 Doedd yna ddim sôn am Wili John 'r adeg honno.
 
(1, 1) 86 Aros am funud, da chdi.
(1, 1) 87 Paid â dechra arni eto.
(1, 1) 88 Mi ddweda i wrtha ti be ydy fy nghynllun i.
 
(1, 1) 90 Uncle Enoc.
 
(1, 1) 93 Mi wyddost fel y mae o, yn ddigon simsan ers misoedd.
(1, 1) 94 'Rhen greadur, ar ei ben ei hun yn y tŷ yna.
 
(1, 1) 97 Aros am funud, paid â bod mor wyllt.
(1, 1) 98 Mae gan yr hen ŵr hosan reit dda yn rhywle.
(1, 1) 99 Tri chant o bunna medda nhw.
 
(1, 1) 103 Dim peryg i ti.
(1, 1) 104 Mae o wedi bod yn reit gwla y tro yma.
 
(1, 1) 109 Mi fydd o'n siwr o biano i ti, ond i ni wneud yn saff o arian yr hen Enoc.
 
(1, 1) 111 Rwan, rwan, Catrin, yn ara deg!
 
(1, 1) 116 Dydan ni i gyd ddim run fath wyddost ti.
 
(1, 1) 119 Paid â bod mor siwr, dydw i ddim wedi gorffen eto.
 
(1, 1) 121 Mae yna fwy nag un ffordd o fynd â Wil i'w wely.
 
(1, 1) 123 Gofyn i'r hen Enoc ddwad i fyw yma.
 
(1, 1) 127 Gwranda am funud
 
(1, 1) 132 Dyna chdi eto, yn edrach ar yr ochor ddu.
 
(1, 1) 134 Wel mi ddaw â'i hosan efo fo Catrin.
 
(1, 1) 138 Pwy sy'n dweud y bydd rhaid disgwyl mor hir?
 
(1, 1) 142 Na, dydy o ddim mor iach a'i olwg, Catrin.
 
(1, 1) 144 Gwranda, mi ges i sgwrs y bore yma efo'r doctor bach newydd yna.
(1, 1) 145 Be ydy ei enw fo hefyd?
 
(1, 1) 147 Ia, dyna fo.
(1, 1) 148 Wel, mae calon rhen Enoc wedi gwanio'n arw.
(1, 1) 149 Mae o'n mynd i lawr yr allt yn gyflym, medda'r Doctor.
 
(1, 1) 151 Paid â siarad yn wirion Catrin.
(1, 1) 152 Wyt ti'n meddwl dy fod ti'n gwybod yn well na Doctor James?
 
(1, 1) 155 Oeddwn Blodwen, pam?
 
(1, 1) 157 O?
 
(1, 1) 164 Wel, beth oedd y mater felly?
 
(1, 1) 167 Lle mae dy feddwl di dwad?
 
(1, 1) 171 "Sailor's Rest"?
(1, 1) 172 Be aflwydd ydy hwnnw?
 
(1, 1) 179 Dydy'r hen ddyn rioed yn meddwl mynd yno debyg?
 
(1, 1) 182 Wel myn brain i, dyna hi'n ffliwt!
 
(1, 1) 189 Ydy debyg iawn.
(1, 1) 190 Ond mae dy fam yn benderfynol na ddaw o ddim yma.
 
(1, 1) 196 O, hidia befo fo am funud.
 
(1, 1) 198 Wel yli, pa bryd mae'r hen ddyn yn meddwl mynd i'r lle yna, ddwedodd o?
 
(1, 1) 202 Wn i ddim be sy gen ti yn erbyn iddo fo ddwad yma Catrin.
 
(1, 1) 210 Beth wyt ti'n feddwl?
 
(1, 1) 212 Y?
(1, 1) 213 Pwy ydy o felly?
 
(1, 1) 216 Wel myn brain i!
(1, 1) 217 Glywaist ti hynna Catrin?
(1, 1) 218 Y ledi fach!
 
(1, 1) 222 Dyna be ydy'r cerdded o gwmpas yma mewn hanner breuddwyd felly!
(1, 1) 223 Roeddwn i'n meddwl bod yna rywbeth ar dro.
(1, 1) 224 Ple aflwydd welodd hi'r doctor yna tybed?
 
(1, 1) 226 Doctor James wir!
 
(1, 1) 230 Does arna i ddim eisio ei gweld hi'n gwneud ffŵl ohoni ei hun, Catrin.
 
(1, 1) 232 Sgwn i!
(1, 1) 233 Does yna ddim llawer er pan mae hi wedi dechra gweithio.
 
(1, 1) 235 Ia, ond mae petha'n wahanol heddiw.
(1, 1) 236 Dydy hi ddim wedi cael mantais o'i haddysg eto.
(1, 1) 237 Mae ganddi swydd reit dda—be arall sy arni eisio?
 
(1, 1) 240 Y?
(1, 1) 241 Ia, ond mae eisio dipyn bach o synnwyr cyffredin, myn brain i.
(1, 1) 242 O wel... wyddost ti be, fedra i ddim peidio meddwl am yr hen Enoc.
 
(1, 1) 244 Paid â dweud dy fod ti wedi newid dy feddwl Catrin!
 
(1, 1) 247 Ia, ymhell o bob man, yng nghanol Saeson reit siwr.
(1, 1) 248 A dyna dri chant o bunna wedi mynd i ebargofiant.
(1, 1) 249 O wel, waeth i ni roi'r ffidil yn y to ddim.
(1, 1) 250 Mae hi'n rhy hwyr rwan.
 
(1, 1) 252 Beth wyt ti'n feddwl?
 
(1, 1) 254 Be—wyt ti am adael iddo fo ddwad yma?
 
(1, 1) 256 Wyt ti o ddifri?
 
(1, 1) 260 Na, fydd hi ddim mor ddrwg â hynny Catrin.
 
(1, 1) 262 Mae o'n hen stamp go lew yn y bôn.
 
(1, 1) 264 Ddaw henaint ddim ei hunan, Catrin.
(1, 1) 265 Mae yna ryw fai arno ni i gyd.
(1, 1) 266 O wel, rhaid i mi fynd am y gweithdy yna─
 
(1, 1) 270 I be?
 
(1, 1) 275 Hei, llai o dwrw, boi bach.
(1, 1) 276 Beth wyt ti'n feddwl wyt ti—dyrnwr?
 
(1, 1) 278 Y?
 
(1, 1) 285 Be sy be?
 
(1, 1) 288 O ia.
(1, 1) 289 Yli, Wili John, pa bryd wyt ti'n cael dy ben blwydd?
 
(1, 1) 291 Be fuasa ti'n lecio gael yn bresant?
 
(1, 1) 301 Wel efalla y cei di un os byddi di'n hogyn da.
 
(1, 1) 303 Wn i ddim eto nes y ca'i weld dyn y banc.
(1, 1) 304 Ble rwyt ti'n mynd, Catrin?
 
(1, 1) 317 Pa bryd fyddi di'n ôl tybed?
 
(1, 1) 321 Reit.
 
(1, 1) 323 O paid â phoeni.
(1, 1) 324 Mi arhosa i yma yn lle mynd i'r gweithdy.
 
(1, 1) 333 O chdi sydd yna Dic Betsi?
 
(1, 1) 336 Newydd fynd allan.
(1, 1) 337 Be sydd arnat ti eisio?
 
(1, 1) 341 Rhy brysur o lawer i ddal pen rheswm efo chdi a dy siort.
 
(1, 1) 344 Nag oes, tra byddi di o gwmpas.
 
(1, 1) 347 Hy!
 
(1, 1) 349 Hy! medda fi.
 
(1, 1) 352 Naddo.
(1, 1) 353 Pam?
 
(1, 1) 358 Bydd, debyg iawn.
(1, 1) 359 Mae o'n gwybod ple i gael croeso.
(1, 1) 360 Mi fydd yma'n amlach cyn bo hir hefyd.
 
(1, 1) 362 Hidia di befo.
(1, 1) 363 Mi gei di weld yn ddigon buan co!
 
(1, 1) 365 Sydyn by-be?
(1, 1) 366 Mae o wedi cael drws agored yma bob amser.
(1, 1) 367 Diddordeb, ddwedaist ti?
(1, 1) 368 Na, cariad brawdol, Dic Betsi.
(1, 1) 369 Ond wrth gwrs wyddost ti ddim be ydy hwnnw.
(1, 1) 370 "Nymbar wan" ydy hi efo chdi bob amser.
 
(1, 1) 373 Wnest ti rioed gymwynas os yr oedd hynny'n golygu gwario dima.
(1, 1) 374 Mi ydw i'n dy nabod ti'n reit dda, co!
 
(1, 1) 378 Dydy o ddim o bwys gen i... wel, pam?
 
(1, 1) 382 Be!
(1, 1) 383 Wel, myn brain i!
(1, 1) 384 Sut y medri di edrach ar ei ôl os gwni?
 
(1, 1) 387 Ha!
 
(1, 1) 389 Digon o fwyd wir!
(1, 1) 390 Rwyt ti'n byw ar wellt dy wely fel y mae hi.
 
(1, 1) 394 Pwy sy'n colli ei limpyn?
 
(1, 1) 396 Ond yr hen ŵr yn mynd atat ti—!
 
(1, 1) 400 Dyna ydy dy obaith di beth bynnag, y llabwst calon-galed.
 
(1, 1) 402 O fedri di ddim fy nhwyllo i, Dic Betsi.
(1, 1) 403 Ar ôl arian rhen Enoc rwyt ti.
(1, 1) 404 Ond waeth i ti fynd i chwibanu ddim─yma mae o'n dwad.
 
(1, 1) 406 Ia, yma.
(1, 1) 407 Mae Catrin wedi bod yn pwyso arna i ei gymryd o i mewn ers misoedd.
(1, 1) 408 Yn tosturio ei weld o'n byw yn yr hen dŷ yna ar ei ben ei hun.
 
(1, 1) 410 Ydy, debyg iawn.
(1, 1) 411 Does yna ddim tosturi yn dy natur di.
 
(1, 1) 413 Naddo eto.
(1, 1) 414 Ond mi fydda i'n mynd ato fo heno am dro—
(1, 1) 415 Aros!
 
(1, 1) 423 Uncle Enoc, chi sydd yna?
 
(1, 1) 427 Dowch i mewn, rhen ddyn.
 
(1, 1) 432 Ia, go dda myn brain i!
 
(1, 1) 435 Rwan, rwan, rhen ŵr, peidiwch â chynhyrfu.
(1, 1) 436 Rhoswch, mi helpa i chi efo'r gôt yna.
 
(1, 1) 440 Dim eisio i ti fusnesu, Dic Betsi.
 
(1, 1) 444 Rwan dewyrth, ydach chi am eistedd i lawr?
 
(1, 1) 449 Catrin?
(1, 1) 450 Allan yn y siop...
 
(1, 1) 459 Wel sut mae'r iechyd erbyn hyn, rhen ŵr?
 
(1, 1) 461 Tewch â dweud!
(1, 1) 462 Mae'n ddrwg gen i glywed.
 
(1, 1) 471 'Rydach chi'n iawn, dewyrth, myn brain i.
 
(1, 1) 477 Siwr o fod...
 
(1, 1) 481 Ydach chi'n cael dipyn o gig, rhen ddyn?
 
(1, 1) 488 Dydy o ddim yn lles i chi aros yn yr hen dŷ yna chwaith, dewyrth.
 
(1, 1) 496 Dim o gwbwl, dewyrth, cyn belled ag yr ydw i yn y cwestiwn beth bynnag.
(1, 1) 497 Does gen i ddim ond eich lles chi mewn golwg.
 
(1, 1) 499 Choelia i fawr.
(1, 1) 500 A finna'n mynd i ofyn i chi ddwad i fyw yma efo ni!