Ciw-restr

Yr Oruchwyliaeth Newydd

Llinellau gan Desc (Cyfanswm: 30)

(1, 0) 1 Prynhawn tua dechrau'r haf yw hi.
(1, 0) 2 Y mae MARI wrthi yn glanhau esgidiau.
(1, 0) 3 Benyw ganol oed yw, wedi gweld llawer tro ar fyd a'i gwallt wedi gwynnu.
(1, 0) 4 Er hynny, y mae'n eithaf heini, ac nid yw wedi rhoi i fyny'r ysbryd.
(1, 0) 5 Eistedd ar stôl isel rhwng y bwrdd a'r lle tân.
(1, 0) 6 O'i hamgylch y mae dau neu dri phâr o esgidiau.
(1, 0) 7 Ar ôl ennyd, egyr y drws, a gesyd IFAN er ben i mewn.
(1, 0) 8 Dyn canol oed yw yntau hefyd, ond nid yw'r byd a'i ofidiau wedi menu cymaint arno ef ag ar MARI.
(1, 0) 9 Dyn o gymeriad gwan yw ef.
(1, 0) 10 Gwêl MARI, ac y mae yn diflannu pan gyfyd hi ei phen i'w weld ef.
(1, 0) 11 Sieryd MARI ar unwaith.
 
(1, 0) 75 Allan i'r dde.
(1, 0) 76 Daw IFAN ymlaen yn araf at y bwrdd; gwisg y ffedog; eistedd a dechrau i lanhau'r esgidiau.
(1, 0) 77 Erys.
(1, 0) 78 Tynn ei bib o'i logell, gwthia'r tipyn lludw sydd ynddi i mewn â'i fawd, a cheisia ei chynnau.
(1, 0) 79 Cnoc ar y ffenestr; pen WAT i'w weled yno.
(1, 0) 80 Amneidia IFAN arno i ddod i mewn trwy'r cefn.
(1, 0) 81 Â ymlaen â'r glanhau sgidiau wedi i WAT ddod i mewn.
(1, 0) 82 Dyn canol oed yw WAT; bu unwaith yn weithiwr caled, ond ar filgwn a betio y mae ei fryd yn awr.
(1, 0) 83 Arbenigion ei wisg yw cap ar ochr ei ben, a mwffler gwyn, mwy neu lai.
 
(1, 0) 155 Daw MARI i mewn, ac y mae IFAN yn ailgydio yn yr esgidiau.
 
(1, 0) 167 Daw GWILYM i mewn yn frysiog o'r dde.
(1, 0) 168 Tua dwy neu dair-ar-hugain yw ei oed, ac y mae yn fachgen digon lluniaidd ei olwg a'i osgo; eithr arwynebol yw ei wybodaeth am bopeth ar wahân i bleser a gamblo.
(1, 0) 169 Gesyd bapurau o'i law ar y dreser.)
 
(1, 0) 190 Cydia yn ei ysgwydd, a thywys ef at y drws de.
(1, 0) 191 Ânt allan, a MARI yn edrych ar eu hôl.
 
(1, 0) 215 Cnoc ar y drws, a daw MORFUDD i mewn.
(1, 0) 216 Merch ifanc brydferth wedi gwisgo'n ddeniadol.
 
(1, 0) 234 Exit IFAN.
 
(1, 0) 239 Daw Gwilym i mewn yn frysiog.