Ciw-restr

Yr Oruchwyliaeth Newydd

Llinellau gan Ifan (Cyfanswm: 53)

 
(1, 0) 16 Dim ond lawr i'r sgwâr
 
(1, 0) 22 Ble arall y gallaf i fynd?
(1, 0) 23 Wyt ti'n meddwl yr awn i yno petai gen i rywle arall i fynd iddo?
 
(1, 0) 27 O gad hi, Mari!
(1, 0) 28 Gad hi nawr!
 
(1, 0) 30 'Chei di ddim gwaith i fi wrth ddefnyddio dy dafod ac edliw hen bethau fel hyn drosodd a throsodd; nid arna i mae'r bai fy mod i allan o waith.
 
(1, 0) 36 Ond mae e'n hoffi'r gwaith; petawn i'n mynd allan i'w helpu, fe orffennem cyn te, a wedyn fe fyddai mor ddiflas â chi â chlefyd arno yn eistedd o flaen y tân fan hyn, yn ei disgwyl yn bryd mynd i'r gwely.
 
(1, 0) 42 Ond, Mari, 'rwyf eisiau gweld Wat y p'nawn yma.
 
(1, 0) 46 A wnei di ddal dy dafod os af fi ynghyd â'r sgidiau yna?
 
(1, 0) 50 Fe wyddost cystal â minnau nad oes dim gwaith i'w gael yn y lle yma.
(1, 0) 51 Mae yma gannoedd yr un peth â mi─'rydw i'n cael y dôl, ond ydw i?
 
(1, 0) 54 Nawr, Mari.
(1, 0) 55 'Dwyt ti ddim i fod i ddechrau ar fusnes y cŵn yna eto.
(1, 0) 56 Mae hawl gan ddyn i gael tipyn o bleser yn ei fywyd, ac os ydw i'n ei gael wrth roi ambell swllt ar y cŵn...
(1, 0) 57 Oni enillais i goron yr wythnos cyn y diwetha?
 
(1, 0) 59 Fe gaf rheini'n ôl i gyd nos yfory.
(1, 0) 60 Dyna pam yr wyf am weld Wat.
 
(1, 0) 64 O, 'rydw i'n mynd 'nôl i'r sgwâr, allan o'r cintach tragwyddol yma...
 
(1, 0) 70 Beth gwell wyt ti o daflu hynny i'm hwyneb i o hyd?
(1, 0) 71 Petai gwaith yn dod i'r Cwm yma eto, fe wellai pethau ar unwaith...
 
(1, 0) 84 Paid â siarad yn uchel.
(1, 0) 85 Mae Mari ar y llofft─yn un o'i hwyliau.
(1, 0) 86 Efallai y byddai'n well i ti fynd; fe ddof i lawr i'r sgwâr cyn gynted ag y gallaf heb i Mari fy ngweld.
 
(1, 0) 89 'Wn i ddim; mae e'n arfer dod i mewn tua phedwar i gael ei de.
 
(1, 0) 91 Mae'n bosib ei fod yn yr offis fach yna sy' gan Hopkins yn y Billiard Hall, ond 'elli di byth a bod yn siŵr ble bydd e.
(1, 0) 92 I beth wyt ti am ei weld e?
 
(1, 0) 96 Beth sy'n bod?
 
(1, 0) 99 Gwyddwn.
(1, 0) 100 'Rown i'n meddwl gofyn i ti a allwn i fentro rhoi swllt arno.
 
(1, 0) 104 Beth alla i wneud?
 
(1, 0) 111 Ond 'wnaiff Gwilym ddim o hynny.
 
(1, 0) 114 Rhaid i ti ei weld dy hunan.
(1, 0) 115 Efallai y gwnaiff e hyn os gofynni di iddo; {yn cerdded i'r chwith} fentra i ddim...
 
(1, 0) 117 Ti wyddost dy fod yn torri'r gyfraith?
 
(1, 0) 121 Does gen i 'run geiniog nawr─'does gen i ddim digon i gael dybaco heddiw.
(1, 0) 122 Dere â blewyn os oes peth gen ti?
(1, 0) 123 Fentra i ddim gofyn i Mari pan fydd yn ei hwyliau.
 
(1, 0) 125 Efallai y gallaf gael gafael ar hanner coron erbyn fory.
 
(1, 0) 131 Pum punt!
(1, 0) 132 Ble ar y ddaear hon wyt ti'n feddwl y gallaf ì gael gafael ar bunt, heb sôn am bum punt?
 
(1, 0) 135 Ust!
(1, 0) 136 Paid â chodi dy lais!
(1, 0) 137 Fe glyw Mari.
 
(1, 0) 141 Ond beth os na wnaiff e?
 
(1, 0) 148 'Dydw i ddim yn hoffi dy glywed di'n siarad fel yna, Wat.
(1, 0) 149 Wedi'r cwbl...
 
(1, 0) 193 'Wn i ddim.
 
(1, 0) 196 Dim ond dychmygu pethau wyt ti, Mari...
 
(1, 0) 198 'Dydy e'n gwneud dim...
 
(1, 0) 202 Paid â dweud dim am Hopkins...
 
(1, 0) 205 Beth am fy nôl i?
 
(1, 0) 211 'Rwyt ti'n mynd ormod i'r pictiwrs, Mari─dyna beth sy'n bod arnat ti.
(1, 0) 212 Maen' nhw'n cynhyrfu dy ddychymyg di.