Ciw-restr

Yr Oruchwyliaeth Newydd

Llinellau gan Morfudd (Cyfanswm: 14)

 
(1, 0) 217 A oes rhywun yma?
(1, 0) 218 Hylo!
(1, 0) 219 'Dyw Gwilym ddim wedi dod adre eto, ydy e?
 
(1, 0) 222 Mae e adre'n gynnar heddiw.
 
(1, 0) 225 I Lanmorfa?
 
(1, 0) 227 Ond 'roedd e wedi addo dod i chwarae tennis gen i heno.
(1, 0) 228 Dyna i beth yr oeddwn i'n galw nawr─i ddweud bod Jim a Nansi yn dod i gwrdd â ni am chwech.
 
(1, 0) 230 Ond 'roeddem ni wedi trefnu tennis gogyfer â heno ers diwrnodau!
 
(1, 0) 235 Yr hen Agnes Hopkins yna sy'n mynnu cael cwmni Gwilym─mae'n rhaid iddi gael hongian wrth rywbeth mewn trowser o fore tan nos.
 
(1, 0) 238 Nid am fod yn gi bach iddi hi mae e'n cael ei dalu; er mae'n ddigon posib bod Hopkins yn falch ei chadw hi'n gontented tra bo yntau'n chwilio mêl ffordd arall.
 
(1, 0) 243 Er mwyn i Agnes Hopkins gael dy arwain di rownd ar y |lead|!
 
(1, 0) 250 Rhaid i ti fynd!
 
(1, 0) 253 Mrs. Hopkins, ai e?
(1, 0) 254 'Dwyt ti ddim yn ei galw'n Agnes eto.