Ciw-restr

Yr Oruchwyliaeth Newydd

Llinellau gan Wat (Cyfanswm: 48)

 
(1, 0) 87 'Dydw i ddim ond am dy weld di am ddwy funud; rhaid i fi ddal y bus tri i Dreharri.
(1, 0) 88 Ble mae Gwilym?
 
(1, 0) 90 'Wyt ti'n meddwl y gallwn i ei weld am bum munud cyn amser y bus?
 
(1, 0) 94 'Elli di gadw |secret|?
(1, 0) 95 Fe'th dalaf yn dda ond i ti sgwaro Gwilym drosof.
 
(1, 0) 97 Fe wyddost fy mod i wedi entro'r milgi am y |Silver Cup| yn Nhreharri nos yfory?
 
(1, 0) 101 Swllt!
(1, 0) 102 Os galla i gael pethau fel rwy' am, fe elli fentro rhoi dy grys arno.
(1, 0) 103 Dyna paham yr wyf am dy help di.
 
(1, 0) 105 Mae'r ci yna sydd gan Harri Tycrwn wedi mynd yn gloff.
(1, 0) 106 Nawr, dim ond y ci cythrel yna sydd gan Hopkins sydd arna i ofn.
(1, 0) 107 Rhaid i Gwilym wneud yn siŵr na fydd hwnnw ar ei orau.
(1, 0) 108 Fe ŵyr sut.
(1, 0) 109 Ac yna fe elli di a minnau, a Gwilym o ran hynny, wneud ffortiwn yn olreit.
 
(1, 0) 112 Pam lai?
(1, 0) 113 Mae Hopkins yn gwneud hynny'n aml, a Gwilym sy'n edrych ar ôl y cŵn iddo.
 
(1, 0) 118 Torri'r gyfraith i gythrel!
(1, 0) 119 Nid dyma'r tro cynta i ti na minnau wneud arian wrth wneud hyn.
(1, 0) 120 Faint o arian sy' gen ti wrth law?
 
(1, 0) 126 Hanner coron!
(1, 0) 127 Dyma dy gyfle di, fachgen─cyfle na weli di mo'i debyg eto─fe gei |6 to 1| yn erbyn fy nghi i hyd nes y daw'r hanes allan nad yw ci Harri yn treio.
(1, 0) 128 A mae Harri wedi addo cadw'r peth yn ddistaw.
(1, 0) 129 Mae yntau hefyd am wneud ceiniog.
(1, 0) 130 Fe ddylit roi pum punt o leiaf.
 
(1, 0) 133 Dy fusnes di yw hynny.
(1, 0) 134 Os na fydd gen ti swm go lew ar fy nghi i cyn hanner dydd fory, 'rwyt ti'n fwy o blydi ffŵl nag a feddyliais ì erioed.
 
(1, 0) 138 'Rwy'n mynd.
(1, 0) 139 Cofia, 'rwy'n dibynnu arnat ti i setlo Gwilym.
(1, 0) 140 Dyna dy siâr di o'r fargen.
 
(1, 0) 142 Wrth gwrs y gwnaiff e os gwêl e siawns i wneud arian.
(1, 0) 143 Paid â bod mor ddwl─mae e wedi bod yn glerc i Hopkins am ddigon o amser i ddysgu'r gêm i gyd.
 
(1, 0) 145 Mae e'n wahanol i ti.
(1, 0) 146 Y peth sy'n rhyfedd amdanat ti yw bod dy wreiddiau di yn y capel o hyd─yn methu anghofio dy fod wedi dy fagu yn y Band of Hope a'r seiat─a ffat lot o les mae nhw wedi bod i ti.
(1, 0) 147 'Roedden nhw'n ddigon da tra oedd digon o waith yn y lle yma, ond faint o fara a chaws a chwrw gest ti allan ohonyn nhw wedi i ti fynd ar y dôl?
 
(1, 0) 150 Nagwyt, mi wn.
(1, 0) 151 Wel, os yw'n well gen ti, gwaria dy arian ar gadw pregethwyr a ffeiradon neu'r bobl yna sydd ar hyd y lle yma yn ceisio gwneud beth mae nhw'n alw'n |Social Service|.
(1, 0) 152 |Social Service|, myn uffern i!
(1, 0) 153 'Dyw'r bobl yna ddim yn gwybod beth yw bod yn |social|.
(1, 0) 154 Mae'n well gen i gadw milgi.
 
(1, 0) 158 Dim ond taro i mewn i ddal pen rheswm â Ianto, Mrs. Hughes, a'r ddadl yn mynd dipyn yn boeth─dim byd o'i le, dim byd o'i le, Mrs. Hughes.
 
(1, 0) 161 Os dilynith e fy nghyngor i...
 
(1, 0) 177 Y clerc yn actio fel |chauffeur|, ai e?
(1, 0) 178 Ond cyn i ti fynd i newid, Gwilym, dere lawr yr hewl gen ì am funud.
(1, 0) 179 'Rwy'n gorfod dal y bus tri, a rwy' am dy weld di.
 
(1, 0) 186 Mae'n rhaid i mi dy weld nawr, Gwilym.
(1, 0) 187 'Wnaiff hi ddim o'r tro bore 'fory.
(1, 0) 188 'Fyddi di ddim munud, a 'fyddi di ddim ar dy golled.
(1, 0) 189 Fe all dy feistres aros munud i ti.