Ciw-restr

Pobun

Llinellau gan Angau (Cyfanswm: 27)

 
(0, 1) 26 Hollalluog Arglwydd, wele fi yma, wrth dy ewyllys yr af fel dy gennad.
 
(0, 1) 29 Arglwydd, af drwy'r holl fyd ac ymwelaf â hwy, fawr a mân, y sawl nid adwaeno gyfraith Dduw ac a syrthiodd yn is na'r bwystfilod.
(0, 1) 30 Y sawl a droes ei galon at bethau daearol, mi a roddaf iddo ergyd fel y pylo ei lygaid ac na chaffo hyd i borth y Nef, oni bo elusen a thosturi o'i du ac yn barod i'w gymorth.
 
(0, 5) 533 Pobun, a wyt ti mor llawen dy fryd?
(0, 5) 534 A lwyr anghofiaist ti dy grewr?
 
(0, 5) 539 Oddi wrth Fawrhydi dy luniwr y'm danfonwyd atat ti, a hynny ar frys; o'r herwydd, yma y safaf.
 
(0, 5) 547 Er na roi di iddo Ef ond ychydig barch, yn ei nefoedd fry fe'th gofia Ef, ym mha wedd, gwneir hynny'n hysbys iti yn y man.
 
(0, 5) 550 Mi ddywedaf iti.
(0, 5) 551 Cyfrif, dyna a fynn gennyt, heb oedi!
 
(0, 5) 555 Dyma fì, Angau!
(0, 5) 556 Nid ofnaf undyn.
(0, 5) 557 Dof at bawb.
(0, 5) 558 Nid arbedaf neb.
 
(0, 5) 566 [Ni thâl na dagrau na gweddi yma, rhaid cychwyn ar y daith rhag blaen.]
 
(0, 5) 570 Dyma ben ar bob cymdeithas, ni waeth i ti heb wasgu dwylaw'n ofer.
(0, 5) 571 Brysia, rhaid i ti'n awr fynd o flaen gorsedd Dduw, yno, fe gei dy gyflog.
(0, 5) 572 [Ai tybio'r oeddit yn d'ynfydrwydd mai at dy wasanaeth di dy hun y rhoed iti dda'r byd hwn, yn gystal a'th einioes dy hun?]
 
(0, 5) 574 [Nid felly; nid oedd y cwbl ond echwyn i ti; wedi dy fynd ti ymaith, eiddo arall fydd y cwbl, ac wedi ennyd, tery ei awr yntau yn ei dro, a rhaid iddo adael y cwbl a mynd.]
(0, 5) 575 Chwyrn y byddaf i'n dyfod.
 
(0, 5) 577 [Ni allaf i ganiatáu mo hynny.
(0, 5) 578 Pan fyddaf i'n dyfod wyneb yn wyneb â dyn, rhof ergyd chwyrn i'w galon, ac ni bydd rybudd ymlaen llaw.]
 
(0, 5) 580 Ni bydd wylo ond gwastraffu amser.
 
(0, 5) 583 Ai tybio'r wyt ti y gellit ddyfod o hyd i rywun o'r fath?
(0, 5) 584 O'm rhan fy hun, rhof iti fy ngair mai gwrthod y gymwynas a wnai pawb.
 
(0, 5) 587 O'r gorau, mi af o'r golwg; eto, cymer ofal rhag ofera'r oediad hwn, ond ei ddefnyddio'n gall fel Cristion.
 
(0, 8) 785 Ti ynfyd, buan yr aeth dy awr drosodd, ac ni ddysgaist tithau eto ddim doethineb.
(0, 8) 786 Ni wyddost sut i geisio cydymaith cymwys, a buan y byddi heb un gobaith ac yn dy felltithio dy hun.