Ciw-restr

Pobun

Llinellau gan Cydymaith (Cyfanswm: 80)

 
(0, 2) 66 Y mae aur y Tylwyth Teg yn dy law di, felly bydd popeth yn iawn, fe gei'r peth a fynni—fydd dyn ddim yn hir cyn cwpla'r peth fo wrth ei fodd.
(0, 2) 67 Y mae'r moddion gennyt, felly dyna ben.
 
(0, 2) 71 le, fel y dywedwyd, rhaid i ni frysio, nid gwiw i ni oedi'n hwy.
 
(0, 2) 75 A adwaenost ti'r creadur yna?
 
(0, 2) 95 Mae'r gŵr drwg yn ei groen!
(0, 2) 96 Byddai miloedd o fegeriaid ar dy warthaf di—beth, miloedd?
(0, 2) 97 Cannoedd o filoedd!
 
(0, 2) 102 O'm rhan fy hun, byddai'n gywilydd gennyf ofyn y fath beth!
 
(0, 2) 122 Diau, fe roddaist iddo synnwyr noeth.
(0, 2) 123 Wir Dduw! a fo goludog a fydd doeth!
 
(0, 2) 126 Beth yw'r creadur hwn o ddyn sy ganddynt, a'i ddwylo wedi eu rhwymo'n groes?
(0, 2) 127 Mynd ag ef i garchar am ei ddyled, ond odid.
(0, 2) 128 Buasai well iddo edrych ati'n amgenach.
(0, 2) 129 Rhaid iddo bellach feddwl am fara a dŵr, neu ymgrogi wrth ryw hoel neu gilydd.
(0, 2) 130 Ie, was, 'r wyt ti'n rhigymu enwau fel y bydd plant—Sioni poni, Siani pani, a rhyw chwarae felly—mae echwyn ac achwyn yn clymu'n burion!
 
(0, 2) 139 Beth?
 
(0, 2) 141 Beth!
 
(0, 2) 148 Beth!
 
(0, 2) 167 Byddai'n warth o beth pe bai'n amgen.
 
(0, 2) 176 [Gwahanwyd rhwng arian â thithau ers tro—am hynny y mae dy le yng ngharchar.]
 
(0, 2) 206 Honno y caf i dy weled gyda hi heno?
(0, 2) 207 Mi ddof â'r dangosiad am y tâl iti yno, wedi ei gwpla yn ôl d'ewyllys.
 
(0, 2) 210 Pa fodd y gwnei di hyn, ym mha ryw ddull?
 
(0, 2) 214 Gardd fach odidog yn sicr, ac nid hawdd taro ar ei thebyg.
 
(0, 2) 216 Mi welaf dy fam yn dyfod draw.
(0, 2) 217 Afynni di gyfarfod â hi yma?
 
(0, 4) 498 Pobun, [fy nghar,] yr wyf i ger llaw,
 
(0, 4) 517 Dy dwyllo y mae dy glust.
(0, 4) 518 Y mae golwg drwg arnat.
(0, 4) 519 A gaf i d'arwain di i'r tŷ.
 
(0, 6) 591 Gwn.
(0, 6) 592 [Nid oeddwn bum cam oddi wrthyt, pan ddaeth Angau tuag atat, Pobun, ac fe glywais yr ymddiddan oll.
(0, 6) 593 Yr oedd fy nghalon yn neidio i'm gwddf!
(0, 6) 594 Dyn llawen, cyn iached â'r gneuen, oeddit ti hyd yr awr hon.]
(0, 6) 595 Bellach, daw'r dagrau i'm llygaid wrth edrych arnat, Pobun, fy nghydymaith.
 
(0, 6) 597 Beth sy'n dy flino eto, dywed rhag blaen.
 
(0, 6) 599 [Ac felly y'm cei bob amser hefyd.
(0, 6) 600 A choelia fi, pe bai dy daith yn union ar ei phen i uffern, fe'm ceit i'n gydymaith hyd y fan.]
 
(0, 6) 602 [Nid teilyngdod yw'r peth, buasai'n gywilydd o'r mwyaf gennyf pe na bawn i onid yn bostio ar air a'm bod wedyn yn amharod yn fy ngweithred.]
 
(0, 6) 604 Siarad â mi yn rhydd, rhaid ì mi gael popeth yn glir o'th enau di dy hun; mi safaf gyda thi hyd yr awr olaf, yn gymwys fel y dylai Cydymaith Da.
 
(0, 6) 606 Y mae dy drueni yn gwasgu'n drwm arnaf.
(0, 6) 607 Pa beth bynnag o faterion y byd hwn sy'n poeni dy galon di, mi edrychaf atynt ar dy ran yn ffyddlon.
(0, 6) 608 [Dywed, a wnaeth rhywun gam dro â thi?
(0, 6) 609 Cânt eu cosb o'm llaw i fy hun â'r dur miniog, pe bai raid i mi lyfu'r llwch am hynny.]
 
(0, 6) 611 'Rwyt ti'n poeni llawer efallai ynghylch dy arian a'th eiddo, am nad oes iti'r un etifedd.
 
(0, 6) 613 [Nid rhaid wrth lawer o eiriau—fe saif d'ymddiried ynof fi.
(0, 6) 614 Mae'r weithred brynu'r tir hwnnw'n ddigon diogel; tebyg mai d'ewyllys fyddai fynd dy gyfoeth i'th feistres serchog, gymaint ag a fo teg, dros byth.]
 
(0, 6) 616 [Arbed i ti dy hun y drafferth, Pobun, deallaf di heb lawer iawn o eiriau.]
 
(0, 6) 618 [Allan ag ef, gad ei glywed rhag blaen—o enau cyfaill cysur fydd.]
 
(0, 6) 620 [Onid egluri di i mi?
(0, 6) 621 Efallai nad erys i ti lawer o amser.]
 
(0, 6) 623 [Dywed imi'r peth! ar unwaith, Pobun.
(0, 6) 624 Pa beth a dâl cyfeillgarwch onid hynny?]
 
(0, 6) 626 [Syr, fel y dywedais wrthych eisoes, felly y gwnaf.]
 
(0, 6) 632 Ie, ie.
(0, 6) 633 [Dyna'r peth.
(0, 6) 634 Addo, a gwrthod wedyn, cywilydd i mi fyddai hynny—mae meddwl am hynny'n fy ngyrru'n boeth.
 
(0, 6) 636 Eto, cyn cychwyn ar y daith, fe ddylid cymryd cyngor da.
 
(0, 6) 639 Do, dyna oedd fy ngeiriau, yn gywir!
(0, 6) 640 Ond, a dywedyd y gwir, nid dyma'r amser i ysmalio felly.
(0, 6) 641 Pe cychwynnem ar y daith, pa bryd y deuem drachefn yma?
(0, 6) 642 Ha, dyro ateb?
 
(0, 6) 645 Yna, myn crog Crist, mi arosaf yma.
(0, 6) 646 Os dyna ystyr yr alwad, yna, dyma fel y saif pethau—nid af i ddim i'r daith.
 
(0, 6) 648 Nid af.
(0, 6) 649 Os felly y saif, arosaf yma.
(0, 6) 650 [Dywedaf wrthyt beth sydd yn fy meddwl.
(0, 6) 651 Gwyddost fy mod i yn agored bob pryd, bid fel y bo, dyma fonid af i ddim i'r daith, er mwyn un enaid byw, yn wir; ie, nid awn er mwyn fy nhad fy hun,—rhoed Duw iddo heddwch tragywydd er hynny.]
 
(0, 6) 654 Da gwn.
(0, 6) 655 Ac addewais yn eithaf cywir.
(0, 6) 656 A phe byddit ti'n dymuno rhywbeth arall, bod gyda'r merched yn gwmpeini da, neu beth a fynni, yna, ceit fy ngweled wrth dy ystlys cyhyd ag y rhoddai Duw ddiwrnod teg, neu gyda'r ffaglau tân ar ôl iddi nosi—yr wyf yn dywedyd hyn oll o ddifrif.
 
(0, 6) 659 Pa un bynnag ai cyfeillion fuom ai peidio, o hyn allan ni cherddaf i gam gyda thi.
 
(0, 6) 662 Ni ddof ddim, [ni rof droed o flaen y llall am bris yn y byd.
(0, 6) 663 Pe bai gennyf ychydig amser, ni adawn iti fod ar dy ben dy hun, ond yn awr ni allaf aros gyda thi.
 
(0, 6) 665 Rhoed Duw iti daith ysgafn a hwylus hyd yno, rhaid i mi brysuro ar fy ffordd.
 
(0, 6) 669 [Yn llwyr, lwyr.
(0, 6) 670 Cymered Duw drugaredd ar d'enaid.]
 
(0, 6) 673 Da boch dithau, Pobun, da boch.
(0, 6) 674 Dyro i mi dy law.
(0, 6) 675 Ie, trist iawn yw gwahanu, 'rwy'n deall hynny'n awr.