Ciw-restr

Pobun

Llinellau gan Dyledwr (Cyfanswm: 21)

 
(0, 2) 131 Pe bai llyfr echwyn ambell un yn agored, fe welid bod ynddo lawer peth drwg.
 
(0, 2) 133 I'r sawl sy'n holi.
 
(0, 2) 136 Byddai'n gywilydd gennyf fod yn dy groen.
 
(0, 2) 140 Gair digon ysgafn am ergyd drom.
 
(0, 2) 143 Ti dy hun, ac un drom.
 
(0, 2) 145 [Eto dy droed ti sy'n pwyso arnaf.]
 
(0, 2) 149 Mae d'enw di wrth amod sy'n fy mwrw i i garchar.
 
(0, 2) 151 [Tydi, Pobun wrth d'enw, yw'r gŵr y doed â'r gŵyn yn f'erbyn i yn ei enw ac ar ei gais! Drwy d'orchymyn di yn unig y'm dygir i i'r carchar.]
 
(0, 2) 153 [Gweision dy weision, efallai, sy'n rhoi trais arnaf, gorff a meddwl.
(0, 2) 154 Ond ti dy hun yw'r gŵr sy tu cefn i'r peth, a bydd yn warth arnat yn awr ac am byth.]
 
(0, 2) 159 [Dyma fo'n dirmygu ac yn gwawdio f'angenoctyd i.
(0, 2) 160 Dyna ŵr cyfoethog i chwi.
(0, 2) 161 Ni ŵyr ei galon ddim am orchymyn Duw.
(0, 2) 162 Mil o lythyrau coel yn ei goffrau, ac yntau'n ein gado ni dlodion mewn angen a phoen.]
 
(0, 2) 169 Arian?
(0, 2) 170 Nid yw arian fel pob masnach arall; peth melltigedig a llawn hudoliaeth yw; y neb a estynno'i law tuag ato, i'w enaid ei hun y bydd niwed a gwarth nad arbedir ef byth rhagddynt, canys nid oes ar rwyd Satan yn y byd amgen enw nag arian.
 
(0, 2) 175 [O'm helbul mi enillais rywbeth, sef bod wedi dysgu adnabod magl y diawl, a rhyddhau f'enaid rhag melltith arian.]
 
(0, 2) 185 Pa beth a dâl dy ddagrau, fy ngwraig druan?
(0, 2) 186 Dyma fi yng nghrafanc Mamon.
(0, 2) 187 Paham yr ymroddais innau iddo erioed?
(0, 2) 188 Bellach, dyma ben ar y bywyd hwnnw.