Ciw-restr

Pobun

Llinellau gan Ffydd (Cyfanswm: 39)

 
(0, 11) 952 Chwerddaist am fy mhen ar hyd dy oes, a bernaist air Duw yn oferedd; bellach, yn dy awr olaf, a ddaw amgen lleferydd o'th enau di?
 
(0, 11) 954 Truan o leferydd!
 
(0, 11) 959 Darn go druan o Ffydd yw hynny.
(0, 11) 960 Ni chyfyd hynny iti bont i groesi drosodd.
(0, 11) 961 Oni wyddost ti am beth gwell?
 
(0, 11) 963 [{Gan gymryd cam yn nes ato.}
(0, 11) 964 A drochwyd di mor llwyr mewn chwant, a'th suddo cyn ddyfned mewn nwyd, fel na ddaw dros dy wefus mo'r peth a ryddhai d'enaid yn dragywydd?]
 
(0, 11) 966 A gredi di yn Iesu Grist, a ddaeth oddi wrth y Tad, yn ddyn cyffelyb i ninnau, a aned o wraig farwol, a thrwy loes merthyrdod a roes ei fywyd trosot ti, ac a gyfododd o farw fel y'th gymodid ti â Duw?
 
(0, 11) 971 Ai Cristion amheus felly ydwyt ti, ac onid adwaenost Drugaredd Dduw?
 
(0, 11) 973 Fe faddau Duw'n ddifesur!
 
(0, 11) 975 Na, aberthodd Ei unig fab i boen y byd o orsedd y goleuni, megis y genid Ef fel dyn, ac nad ai neb mwy'n golledig, dim un, nid y gwaethaf, na, [ond cael ohono fywyd tragwyddol.
(0, 11) 976 "Er mwyn Pechadur y deuthum i, nid rhaid i'r iach wrth feddyg"; daeth y geiriau o'r genau na allai ddywedyd celwydd.]
(0, 11) 977 Os credi di ynteu yn y bywyd hwn, yna maddeuir i ti dy bechodau, a dofir llid Duw.
 
(0, 11) 980 Daeth yr awr.
(0, 11) 981 Bellach, dos i'th olchi'n lân oddi wrth dy bechodau.
 
(0, 11) 984 [Mae cymorth da yn disgwyl amdanat.
(0, 11) 985 Drwy ei wasanaeth ef bydd d'enaid yn lân.
(0, 11) 986 Dyred yn ôl mewn gwisg wen, yna ti ei draw yn fy llaw i, ac i'th ganlyn di, bydd hefyd i'th weithredoedd rym a nerth.]
 
(0, 13) 1014 Pobun, Duw gyda thi!
(0, 13) 1015 A phan orchmynnaf di, yn awr ac yma, i ddwylaw dy Waredwr, felly boed dy gyfrif heb wall.
 
(0, 13) 1017 Weithian, bydd di lawen dy fryd; bellach cryfhaodd dy weithredoedd, rhydd ydynt o'u holl gŵyn, a cherddant rhagddynt â chamau sicr.
 
(0, 13) 1020 [Ni wyli ac ni ofidi fyth mwy; na, bydd ddedwydd a llawen dy fryd, canys y mae Duw o'i orsedd yn edrych yn fodlon arnat.]
 
(0, 13) 1036 [Saf yna!]
 
(0, 13) 1039 [Nid yma!]
 
(0, 13) 1041 ['Does yma ddim lle i'th debyg di.]
 
(0, 13) 1046 Nid oes yma ffordd!
 
(0, 13) 1048 Nid ymddiddanaf â thi.
 
(0, 13) 1062 A fynni di setlo'r peth â'th ddyrnau a thorri ar draws ein gweddi?
(0, 13) 1063 Gwêl pwy sydd yn dyfod yn gyfnerth inni!
 
(0, 13) 1078 Nid oes lawer o'th blaid di, ac yr wyt eisoes wedi colli 'r chwarae.
(0, 13) 1079 Bwriodd Duw i'r glorian ei aberth ei hun a'i angau loes, a thrwy hynny dilewyd dyledion Pobun dros byth.
 
(0, 13) 1085 [Try, drwy ddwfn edifeirwch, sydd fel tân yn puro'r enaid oll.]
 
(0, 13) 1093 Gerbron y farn y mae ef yn ei wynebu, ni saif dy hawliau di ddim—[gorffwysant ar ymddangosiad a thwyll, ar y fan yma a'r awr hon a'r byd hwn, y maent oll yn rhwym mewn amser, wedi eu cau oddi mewn i'w derfynau..]
 
(0, 13) 1096 Pan glywer y clychau hyn yn canu, bydd tragwyddoldeb wedi dechrau.
 
(0, 14) 1127 Mi safaf gyda thi megis y sefais gynt gyda Iwdas Maccabaeus.
 
(0, 14) 1134 Safaf yn d'ymyl a gwyliaf di.
 
(0, 14) 1142 Weithion, fe orffennodd ei ddynol daith.
(0, 14) 1143 Saif yntau gerbron ei Farnwr yn llwm a noeth a'i weithredoedd yn unig gydag ef, a hwythau'n gyfnerth iddo ac yn eiriol drosto.
(0, 14) 1144 Bendithiant ef; tybiaf mai lleisiau'r angylion a ddaw i'm clyw, a hwy yn galw ar yr enaid tlawd i blith eu nefol raddau.