Ciw-restr

Y Pwyllgor

Llinellau gan Jacob (Cyfanswm: 86)

 
(1, 0) 38 Malachi, machgan annwl-i, 'dych-chi ddim yn meddwl dod i'r pwyllgor heno?
(1, 0) 39 Dewch, ma-hi'n mhell wedi'r amsar yn barod.
 
(1, 0) 51 Oti, fe 'llwch fentro; fe gelswn-i fynd heb scitsha cyn y plygsa Sarah o mlan i felna.
 
(1, 0) 53 Pitwch a wilia yn fach am y twbin, Mari; llestar o barch yw hwnna cofiwch.
(1, 0) 54 Ma 'na lawar i hen goliar yn wara'r delyn yn fendigetic yng ngogoniant heno, olchws 'i grôn du filodd o witha miwn twbin fel hwnna.
 
(1, 0) 71 Ma'n well i ni fynd.
 
(1, 0) 76 Clwad beth?
 
(1, 0) 84 Pwy isha bwtwn arall sy?
(1, 0) 85 Dewch fel 'r ych-chi nawr.
(1, 0) 86 Fe naiff un bwtwn y tro am heno.
 
(1, 0) 93 Wel, dotwch y ddwy ddolan ar yr un bwtwn, dyna beth nelswn i.
 
(1, 0) 96 Gwetwch chi beth fynnwch-chi, par o galasis pert yn-nhw.
 
(1, 0) 100 Falla nag ych-chi ddim wedi dod i ddeall y wheels bach 'na eto.
(1, 0) 101 Synnwn i damad nawr nad rai felna ma proffeswrs y coleg yn wishgo.
 
(1, 0) 116 Pitwch chi gofitio dim am y twbin, Mari, fe ddota-i bobpath yn daclus i chi.
(1, 0) 117 Obadiah, cymerwch afal yn hwn gita fi.
 
(1, 0) 119 Matthew, dewch chitha a'r ffetan a'r box sepon 'na mas.
(1, 0) 120 (MATTHEW yn ufuddhau ac yn canlyn.)
 
(1, 0) 129 Wel byddwn, yn enw pob synnwyr.
 
(1, 0) 131 A pheth arall, 'dyw dyn ddim yn licio poeri yn y rwm genol.
 
(1, 0) 134 'D ôs dim isha i chi fynd i unman.
(1, 0) 135 'Rwy-i yn dymuno cynnyg yn ffurfiol fod Mrs. Williams yn aelod o'r pwyllgor yma i bartoi program ar gyfar eisteddfod fawreddog capal Pisgah.
 
(1, 0) 140 Wedi gynnyg a'i eilio, pob un sy dros y cynyciad?
 
(1, 0) 144 Ma gen-i welliant: 'r wy-i yn cynnyg fod gwr-y-ty, Malachi Williams, yn cymeryd y gatar.
 
(1, 0) 146 Pob un o'r un farn?—
 
(1, 0) 148 Nawr dyma'r man gora i chi ishta.
 
(1, 0) 150 Fe af finna man hyn.
 
(1, 0) 159 Wel, os, gair bach yn fyr fel rhagarweiniad i'r gwaith.
 
(1, 0) 169 Ordor Mari!
 
(1, 0) 197 Ordor, Mari.
 
(1, 0) 205 Gyfeillion, ar ol sylwata tarawiadol y cadeirydd 'dos gen i fawr i wêd.
(1, 0) 206 Fel ych chi gyd yn gwpod, fe benderfynws eclws Pisgah, fishodd ynol, i gynnal 'steddfod dydd Calan nesa.
 
(1, 0) 212 Ta pun, wedi i gapal Salam, perthynol i enwad parchus arall—
 
(1, 0) 216 Wedi i gapal Salam glwad beth ôn-ni'n feddwl nithir, am ryw reswm ne gilydd, fe benderfynson fynd yn grôs i ni.
 
(1, 0) 221 Malachi...
(1, 0) 222 Mr. Cadeirydd, glwsoch-chi?
(1, 0) 223 Os nag yw Mari yn tynnu 'i gira nol ar unwaith dyma fi yn ymddiswyddo o'r pwyllgor, a mwy na hynny, fe af fi a'i hachos hi o flaen y seiat,—ma gen i ddicon o witneson.
 
(1, 0) 234 Do, fe benderfynson fynd yn grôs i ni, fe benderfynson gynnal 'steddfod yn Salam ar yr un dwarnod a ninna.
 
(1, 0) 237 Nawr, 'dwy-i ddim am wêd dim byd yn gas, "Parhaed brawdgarwch" weta i.
 
(1, 0) 239 Ond 'r'yn-ni gyd yn gwpod shwt dacla sy yn eclws Salam.
 
(1, 0) 242 'D yn-ni ddim yn mynd i ffraeo â aelota Salam.
 
(1, 0) 244 Ma'n well i ni gymryd popath yn dawal, miwn ysbryd cariad.
 
(1, 0) 246 Ond 'r un pryd, 'dos dim isha i ni ildo iddyn nhw!
 
(1, 0) 248 'Dos dim isha i ni fynd o dan 'u trad nhw!
 
(1, 0) 250 C'uwch cwd a ffetan, myn brain-i!
 
(1, 0) 252 'Ryn-ni wedi cwrdd ma heno i nithir program.
(1, 0) 253 Fe gaiff y program fynd at y printar fory, fe fydd yn barod idd 'i ddosbarthu dydd Sul, ac os bydd aelota Salam o'r wynab i gynnal 'steddfod 'r un dwarnod a ni, ar ol i ni ddod a'n program mas o'u blan nhw, wel—'dwy-i ddim am weld un o honyn nhw byth, yn y byd yma na'r byd a ddaw.
 
(1, 0) 261 Nagyw, nagyw, |point of ordor| bachan, |point of ordo|r—wastod miwn pwyllgor,
 
(1, 0) 268 'Steddfod fach!
 
(1, 0) 276 Consart! talu arian mawr i ferched hannar nôth i ganu yn nhy Dduw!
 
(1, 0) 287 Pwy isha i chi 'mhela â'r hen grachan yna nawr sy?
(1, 0) 288 Fel gwetas-i, "Parhaed brawdgarwch."
 
(1, 0) 310 Falla 'u bod nhw wedi meddwl, ond ôn-nhw ddim wedi penderfynu dim.
(1, 0) 311 Os gita chi ddim hawl i wêd yn bod ni wei mynd yn grôs iddyn nhw.
 
(1, 0) 318 Nagw inna chwaith.
 
(1, 0) 322 Mlan â'r program, mlan â'r program.
 
(1, 0) 344 'D wy-i ddim llawar o gerddor, ond ma na ddernyn bach pert iawn a geira bendigetic iddo-fa y licswn i weld ar y program.
 
(1, 0) 346 "Blodeuyn bach wyf fi mewn gardd."
 
(1, 0) 350 Cofio, wel am otw.
 
(1, 0) 353 A thwisan ofnatw och chitha, Mari.
 
(1, 0) 358 Malachi bach, plant ôn-ni.
 
(1, 0) 364 A finna'n sychu'ch gwynab chi â nishad bocad!
 
(1, 0) 370 'R wy inna yn 'i eilio fa.
(1, 0) 371 Fe ddaw'r hen amsar'n ol mor felys.
 
(1, 0) 387 Shwt ddernyn yw dernyn—beth och-chi yn 'i alw fa, Matthew?
 
(1, 0) 389 Ia, dyna fe, shwt beth yw-a?
 
(1, 0) 398 Allwch chi ddim roi engraifft i ni, pwy ddernyn ôdd ar ych meddwl chi?
 
(1, 0) 407 Ia,ia,—ia.
 
(1, 0) 421 Mr. Cadeirydd, otyn-ni wedi dod yma heno i glwad hanas caru Malachi Williams?
 
(1, 0) 425 |Classical|, nag yw!
 
(1, 0) 442 Ishteddwch i lawr, Matthew, a pitwch a bod shwt fabi.
(1, 0) 443 'R wy'-i'n cynnyg "Blodeuyn bach wyf fi mewn gardd."
 
(1, 0) 447 'Nawr, Mr. Cadeirydd, whara teg, lan âg ê, lan âg ê.
 
(1, 0) 490 Ryddiath, bachan, ryddiath—traethawd ne lythyr caru.
 
(1, 0) 500 Dewch mlan, Malachi, ne man hyn y byddwn-ni.
(1, 0) 501 Barddoniath a ryddiath.
 
(1, 0) 510 Ordor, ordor.
 
(1, 0) 516 Dyna fe, lwchi, 'dos dim daioni yn dod o ddarllan y |New Theology| 'na.
 
(1, 0) 523 Er mwyn mynd mlan, 'r wy i'n dymuno cynnyg gwobor o gini am y Bryddest ora.
 
(1, 0) 527 "Noah yn mynd miwn i'r Arch."
 
(1, 0) 533 Gobitho, Mari, nag ych-chi ddim yn wherthin ar ym mhen i.
 
(1, 0) 537 O, felna iefa?
 
(1, 0) 554 Ia, ia, "Parhaed brawdgarwch."
 
(1, 0) 570 Ma reswm yn 'yna hefyd.
 
(1, 0) 582 Mlan â'r program, mlan â'r program, er mwyn i ni gal 'i ddosparthu fa dydd Sul nesa; a fel gwetas-i, os bydd aelota Salam yn ddicon digwiddyl i gynnal 'steddfod wetyn, wel, wfft idd 'u crefydd nhw, weta-i.
 
(1, 0) 604 Matthew!