Ciw-restr

Y Pwyllgor

Llinellau gan Mari (Cyfanswm: 132)

 
(1, 0) 9 Chi a'ch hen gefan!
(1, 0) 10 Dewch, mwstrwch-hi, ne ewch chi ddim i'r pwyllgor heno.
 
(1, 0) 13 Nawr, Malachi, beth wetsoch-chi!
 
(1, 0) 16 Fe ddylsa fod cwiddyl arno-chi, dyn o'ch oetran chi, i reci felna.
 
(1, 0) 20 Otych, otych, 'r'ych-chi mor wyllt.
(1, 0) 21 Torri lassis a cholli bwtwna wy-i yn ych cofio chi.
(1, 0) 22 Wn-i ar y ddaear ble ma'ch |front| chi.
 
(1, 0) 26 Na chewch—crafat goch yn wir—a phob dyn decha arall yn gwishgo colar gwyn.
(1, 0) 27 Ble dotsoch-chi'r |front| 'na nos Sul?
 
(1, 0) 34 Lassan letar yn ych sgitsha dwetydd, ys clwas-i shwt gownt!
(1, 0) 35 Tasa |chi|'n cal ych ffordd, fe wishgsach fel |navvy|.
(1, 0) 36 Ma 'na ddwsan o lassis duon yn nror y ford.
 
(1, 0) 40 Dewch miwn, Jacob, dewch miwn, fe fydd Malachi yn barod nawr miwn hannar munad,
 
(1, 0) 46 D'ôs gen-i ddim lassan letar yn y ty nawr.
(1, 0) 47 Cerwch o'r ffordd.
 
(1, 0) 49 Jacob, oti'ch gwraig chi yn gorffod lasso'ch scitsha chi fel hyn?
 
(1, 0) 52 Ma Malachi wastod ar ol, cwympo i gysgu lwchi ar ol cal bwyd, yn lle mynd i wmolch ar unwaith, a dyma fi a'r hen gecin yn sang-di-fang, hen dwbin brwnt ar yr aelwyd.
 
(1, 0) 56 Dyna.
 
(1, 0) 58 Nawr, y |front|, nesa.
 
(1, 0) 62 Ma brest Jacob yn wan.
 
(1, 0) 64 Sefwch yn llonydd, y dyn; beth sy arno-chi!
 
(1, 0) 66 Rhy fach, dyma'r |front| fwya ôdd yn y shop—17½.
(1, 0) 67 Well i chi gal colar ceffyl.
(1, 0) 68 Dyna {wedi llwyddo ar ol tipyn o drafferth i osod y |front|}, 'r ych chi'n dishgwl rwpath yn depyg i Gristion nawr.
 
(1, 0) 72 Dewch nawr, Malachi, {yn dal i fyny ei got a'i wasgod iddo gyda'i gilydd} mwstrwch, 'r ych-chi'n symud fel anglodd.
 
(1, 0) 77 Beth sy'n bod nawr?
(1, 0) 78 Y nefoedd annwl, bwtwn arall eto!
 
(1, 0) 81 O'r mowradd, ôn-i 'n son am golar ceffyl, fe ddylsach wishgo arnas cyfan, a nid shwt o ddillad.
 
(1, 0) 83 Na chewch; fydda-i ddim wincad yn gwinio bwtwn arall.
 
(1, 0) 98 Presant pen-blwydd helws Lisa Jane iddo-fa o Aberystwyth.
 
(1, 0) 106 Dewch miwn, Matthew, fydd Malachi ddim hannar munad cyn dod.
 
(1, 0) 109 O, 'r ych-chi Obadiah 'na hefyd.
(1, 0) 110 Dewch miwn, dewch miwn.
 
(1, 0) 115 O ble galla-nhw ddod ymlan, a'r hen dwbin brwnt ar yr aelwyd.
 
(1, 0) 122 Llaw futur yw Jacob, ontefa?
(1, 0) 123 Dyna, os collwch chi'r bwtwn yna eto, fe'i gwinia fa â chordyn y tro nesa.
 
(1, 0) 125 Ishteddwch lawr am funad, fe gynna-i dân yn y rwm genol nawr.
 
(1, 0) 132 Allwch-chi ddim bod yn y gecin, ne fydd gen i ddim un lle i fynd.
(1, 0) 133 Ble 'r af fi?
 
(1, 0) 164 Ma Malachi yn mynd i gynnal gwasanath.
 
(1, 0) 173 Gadewch ych hen foddar, da chi, a cherwch mlaen â'r gwaith.
 
(1, 0) 175 Otyn, otyn.
 
(1, 0) 178 Malachi, ngariad annwl-i, ôn-i'n meddwl dim drwg, trio'ch helpu chi ôn i.
 
(1, 0) 185 O, 'r wy'n gweld.
 
(1, 0) 189 Clywch, clywch!
 
(1, 0) 194 Pwyllgor 'steddfod ne seiat-brofiad sy 'ma, gwetwch?
 
(1, 0) 207 Naddo, phenderfynws yr eclws ddim shwt beth.
 
(1, 0) 209 Do, dair wthnos i bora Sul dwetha yn y cwrdd brotyr buws son gynta am 'steddfod, ontefa Malachi?
 
(1, 0) 214 Ma nhw lawn mor barchus a ni.
 
(1, 0) 217 Dyna gelwdd.
 
(1, 0) 226 O'n wir, a phwy ych-chi'n wilia, Malachi?
(1, 0) 227 Pology a finna'n gwpod gwell!
 
(1, 0) 229 O─h wel, dyna waniath nawr.
(1, 0) 230 Wyddwn i ddim o hynny.
(1, 0) 231 O'r gora, er mwyn mynd ymlan, 'r wy'n folon tynnu'r gair 'celwdd' yn ol, ond... ôdd Jacob ddim yn gwêd y gwir.
 
(1, 0) 241 'D yn-nhw damad gwath na thacla eclws Pisgah, ond falla 'u bod nhw dicyn yn fwy |cute|.
 
(1, 0) 264 O—h!
 
(1, 0) 282 Mr. Cadeirydd, |point of ordor|.
 
(1, 0) 284 Ma gen-i gystal hawl a neb arall i wêd gair, nagos-a?
 
(1, 0) 286 Wel, ma Jacob Evans wedi gwêd fod aelota Salam wedi mynd yn grôs i ni yn Pisgah.
 
(1, 0) 289 Ia, ia, "Parhaed brawdgarwch," dim ond i chi gal ych ffordd.
 
(1, 0) 291 Nace, dyma beth sy gen i: os ôs un wedi croesi'r nall, ni yn Pisgah sy wedi mynd yn grôs i aelota Salam.
 
(1, 0) 295 'Dos dim isha i chi waeddi, 'dos dim tamad o'ch hofan chi arno-i, dim un o chi.
(1, 0) 296 Y gwir yn erbyn y byd, myn brain-i, Jacob.
 
(1, 0) 301 Otw; 'r wy-i'n mynd i nithir cawl, a ma raid i chi ifad-a, bob un o chi.
(1, 0) 302 Fe naiff les i chi lyncu tipyn o wirionadd.
 
(1, 0) 304 Fuws dim son am 'steddfod yng nghapal Pisgah cyn tair wthnos i bora dydd Sul dwetha—all un o chi watu hynna?
 
(1, 0) 306 Wel, ôdd capal Salam wedi penderfynu dros bump wthnos yn ol.
 
(1, 0) 308 'D yw-a ddim ond peth glwas-i â'm clusta 'm hunan, Matthew.
(1, 0) 309 On-i yn shop y Coparetif, fish i nos Satwn dwetha, a fe glwas Ifan Twm Shon yn gwêd wrth Shân Ty-Cornal fod y brotyr yn eclws Salam yn meddwl cal 'steddfod dydd Calan nesa, a wetyn, o ble gallwch chi wêd 'u bod nhw wedi mynd yn grôs i chi?
 
(1, 0) 312 'D wy-i ddim am wed shwt beth.
(1, 0) 313 Falla ma wedi dicwdd yn lletwith ma petha, falla nace-fa hefyd.
 
(1, 0) 315 Ta pun, dyna'r gwirionadd.
 
(1, 0) 319 O'r gora, a dyma finna yn roi rypudd i chi.
(1, 0) 320 Cerwch chi mlan â'r program, ond os gnewch chi ffwliad o chi 'ch hunen, arno-chi bydd y bai.
 
(1, 0) 325 Nagos, 'r wy-i'n itha cysurus man hyn.
(1, 0) 326 A fel gwetws Matthew, falla galla-i fod o help mawr i chi.
 
(1, 0) 341 'R wy inna yn eilio'r cynyciad.
 
(1, 0) 347 Chi ithoch â'r gair oddiar flan y nhafod-i Jacob.
(1, 0) 348 'R wy-i'n dwli 'n lân ar y pishin bach yna.
(1, 0) 349 Chi'n cofio côr Panteg yn cystadlu?
 
(1, 0) 351 Fe geson-ni lawar i rali fach prynny, ondofa Jacob?
(1, 0) 352 Deryn doniol och-chi'n arfadd bod yn grotyn.
 
(1, 0) 355 Der, der, fel ma'r hen fyd 'ma; ôn-i'n meddwl dim am gysgod Malachi prynny.
(1, 0) 356 Chi'n cofio'r noswaith 'ny ithoch chi a fi—
 
(1, 0) 360 Plant ia, beth ôn-ni?
(1, 0) 361 Rhyw un ar bymtheg ôn-i, a 'd och-chitha, Jacob, ddim yn ddeunaw.
(1, 0) 362 A chi'n cofio'r tro arall 'ny, y noswaith lyb 'ny ar y ffordd 'n ol o 'steddfod Merthyr ôch chi a fi yn cysgoti o dan y dderwen?
 
(1, 0) 367 Ond plant ôn-ni, Malachi bach, plant ôn-ni.
(1, 0) 368 O gadewch i ni gal "Blodeuyn bach wyf fi mewn gardd."
(1, 0) 369 'R wy-i'n dymuno cynnyg y dernyn yna.
 
(1, 0) 397 Ma na lawar ffordd o ladd ci heblaw i groci-fa, ond ôs a, Matthew.
 
(1, 0) 409 Wel, 'dwy inna ddim yn gyfarwydd iawn â cherddoriath {gan droi at MATTHEW}, yn enwetig 'r hen nodiant, ond ma 'na ddernyn ar ym meddwl i, wn-i ddim os yw-a'n |glassical| ne bito, "Y don o flan y gwyntodd."
 
(1, 0) 412 Cofio, ddala-i mod-i!
 
(1, 0) 417 Chi'n cofio'r dwarnod, Jacob?
(1, 0) 418 Gita chi yr itho-i i'r 'steddfod.
 
(1, 0) 423 Licswn inna hefyd, fe ddaw'r hen amsar 'nol mor felys.
 
(1, 0) 431 |Classical| ne bito, 'r wy-i am gal y dernyn yna.
 
(1, 0) 445 Os; 'r wy-i yn 'i eilio-fa.
 
(1, 0) 458 Mr. Cadeirydd, 'r wy-i'n dymuno cynnyg "Y don o flan y gwyntodd."
 
(1, 0) 460 Eiliwch-a, Malachi, eiliwch-a.
 
(1, 0) 466 Lan âg ê, lan âg ê.
 
(1, 0) 481 'R wy-i'n eilio'r cynyciad.
 
(1, 0) 494 Otych-chi'n cofio'r llythyron caru o'ch chi'n arfadd hela ato-i, Malachi?
 
(1, 0) 496 Der, der, dyna garwr ôdd Malachi, a'r llythyron ta, 'rwy-i'n cretu y gallaswn-i atrodd rai o honyn nhw nawr air am air.
 
(1, 0) 499 Os falla'n wir, nawr wy-i yn 'i gal-a, lwchi, fe'i cesoch chitha fa yn ifanc iawn.
 
(1, 0) 506 Beth gynllwn yw orgraff?
 
(1, 0) 508 Wel, ma'n raid gen-i ta orgraff ôdd gita Malachi yn 'i lythyron caru.
 
(1, 0) 529 Ma gen-i welliant at y testun yna.
 
(1, 0) 531 "Noah yn dod mas o'r arch."
 
(1, 0) 555 Wel, wel, a dyma shwt beth yw pwyllgor o ddynon.
(1, 0) 556 Druan a chi!
 
(1, 0) 559 'R un hen gân o hyd: y wraig hon a roddaist i mi.
 
(1, 0) 575 Pwyllgor o ddynon, wel, wel!
(1, 0) 576 A dyma beth sy'n dod o gal 'steddfod miwn |spite| yn erbyn capal arall.
 
(1, 0) 579 Fuoch chi'n gofyn i aelota Salam i gynnal 'u 'steddfod ar ryw ddwarnod arall?
 
(1, 0) 583 Beth wetsa-chi nawr, tsa aelota Salam yn dod â'u program mas cyn dydd Sul?
 
(1, 0) 586 Malachi, fe ddath papur yma i chi cyn i chi ddod nol o'r gwaith, ond fe anghofias 'i ddangos-a i chi.
(1, 0) 587 Ma 'r un man i chi gal i weld-a nawr.
(1, 0) 588 Desc
(1, 0) 589 (Y gwyr yn edrych ar ei gilydd yn anesmwyth.
(1, 0) 590 Mari yn tynnu allan raglen fawr o ddror y ford ac yn ei dadlennu o flaen eu llygaid.
(1, 0) 591 Gwelir yn eglur mai poster capel Salem ydyw yn cyhoeddi eisteddfod ar ddydd Calan.
(1, 0) 592 ~
(1, 0) 593 CAPEL SALEM
(1, 0) 594 ~
(1, 0) 595 EISTEDDFOD FAWREDDOG
(1, 0) 596 ~
(1, 0) 597 DYDD CALAN
(1, 0) 598 ~
(1, 0) 599 Saif y gwyr yn syfrdan am ychydig gan syllu ar y rhaglen.
(1, 0) 600 Dyma fe, lwchi: ac os bydd aelota Pisgah yn ddicon digwyddil i gynnal 'steddfod nawr, wel,—