Ciw-restr

Rhys Lewis

Llinellau gan Bob (Cyfanswm: 18)

 
(1, 1) 41 Wel, mam, mae yn debyg eich bod wedi cael hanes yr helynt?
 
(1, 1) 47 Mam! nid fel yna ddaru chi nysgu i.
(1, 1) 48 Gwna dy ddyledswydd, a gad rhwng y Brenin Mawr a'r canlyniadau, oedd un o'r gwersi cyntaf ddysgasoch i mi.
(1, 1) 49 Nid yw hyn ond y peth oeddwn yn ei ddisgwyl.
(1, 1) 50 Mae yn rhaid i rywun ddiodde cyn y daw daioni i'r lliaws; ac os ydw i ac ychydig ereill yn cael ein gwneyd yn fwch dihangol i'r tri chant sydd yn gweithio yn y Caeau Cochion, ac os bydd i ni fod yn foddlon i ddwyn eu rhyddid oddi amgylch, a'u llesad, popeth yn dda.
(1, 1) 51 Nid ydwyf wedi dweyd un gair ond y gwir, a'r hyn y mae pawb sydd yn y gwaith yn ei gredu a'i deimlo, ond eu bod yn rhy lwfr i'w adrodd yn gyhoeddus.
(1, 1) 52 Fel y dywedais, rhaid i rywun ddioddef er mwyn y lliaws.
(1, 1) 53 Mae y'ch Llyfr chi,—y Beibl,—yn son llawer am aberthu er mwyn ereill—
 
(1, 1) 56 Cymerwch bwyll, mam; os nad oes cymhariaeth, y mae yna gyfatebiaeth, ac am gyfatebiaeth yr ydw i yn son.
 
(1, 1) 58 Mi wn, mam, nad ydych wedi darllen 'Butler' ar Gyfatebiaeth.
 
(1, 1) 66 Roedd o yn ofnì y cai rhai o honom ein cospi.
 
(1, 1) 68 Beth bynnag fyddant, dydi ddim yn 'difar gen i mod i wedi gwneyd yr hyn nes i, a dase y dynion wedi cadw at fy nghyngor i, fuase'r ynfydwaith hwn ddim wedi ei wneyd.
 
(1, 1) 71 'Na i ddim, a 'na i mo'ch gadel chi chwaith, tra y caf aros.
 
(1, 1) 74 Yr wyf yn meddwl fy mod yn deall eich neges.
 
(1, 1) 81 Mam, mi wyddoch b'le i droì.
(1, 1) 82 Mae fy nghydwybod i yn dawel.
 
(1, 2) 262 Holo! Gamekeeper, beth ydach chi eisio yma?
 
(1, 2) 264 Wel, mam, sut yr ydach chi?