Ciw-restr

Rhys Lewis

Llinellau gan Mari (Cyfanswm: 107)

 
(1, 1) 16 Dyma Bob wedi colli eì waith, a Rhys yn cael dim ond digon i'w gadw mewn 'sgidiau.
(1, 1) 17 Mae'r streics 'ma yn bethe creulon.
(1, 1) 18 Dyden nhw ddim yn perthyn i ni,—y Cymry.
(1, 1) 19 Pethe wedi dwad oddiwrth y Saeson yde nhw.
(1, 1) 20 Fu 'rioed son am streics yma cyn i Abram Jones gael ei droi i ffwrdd.
(1, 1) 21 Wn i ddim be oedd yn corddi Bob ni i fynd i'r row heddyw o gwbl.
(1, 1) 22 Mae Bob yn rhy ddiniwed o lawer.
(1, 1) 23 Mae y lleill yn 'i stwffio fo ymlaen, ond Bob sydd yn colli ei waith, nid y nhw; a dyma ninne yn gorfod diodde.
(1, 1) 24 Oni bai mod i'n gwybod b'le i droi, wn i ddim be wnawn i, na wn i yn wir.
 
(1, 1) 27 Yr ydw i yn reit fflat, Marged Pitars, ydw'n wir.
(1, 1) 28 Steddwch i lawr.
 
(1, 1) 31 Be ydi'ch meddwl chi, Marged Pitars?
 
(1, 1) 33 Felly, Marged Pitars, yr ydach chi yn awyddus i Bob ni ac ereill ymladd y frwydr, ac i |Wmphre|, eich gwr, a phawb arall sydd yn perthyn i chwi, fod fel y Dan hwnnw gynt, yn aros mewn llongau, a dyfod i mewn am ran o'r anrhaith wedi i'r rhyfel fynd drosodd.
(1, 1) 34 Mae yna lawer Dan yn ein dyddiau ninnau, fel yr oedd Mr. Davies, Nerquis, yn deyd.
 
(1, 1) 38 Nos da, a diolch i chi am alw.
 
(1, 1) 42 Do, machgen i; ond wyt tì yn meddwl dy fod wedi gwneyd dy ddyledswydd?
(1, 1) 43 Mi ddaru mi dy siarsio di lawer gwaith i adael i'r lleill godlo hefo'r helynt, onid o?
(1, 1) 44 Mi wn o'r gore fod genoch chi, fel gweithwyr, le i gwyno, ac fod yn gywilydd fod rhyw Sais yn dwad ar draws gwlad i gym'ryd lle dyn duwiol fel Abram Jones, na fu 'rioed helynt efo fo; ond 'dwyt ti ddim ond ifanc, a pham na faset ti yn gadael i rywun fel Edward Morgan siarad a chodlo,—dyn sydd ganddo dy iddo fo'i hun, a buwch, a mochyn?
(1, 1) 45 Ond waeth tewi.
(1, 1) 46 Beth ddaw o honom ni ydi'r pwnc 'rwan?
 
(1, 1) 54 Taw a dy lol; fedra i ddim diodde dy glywed di yn siarad.
(1, 1) 55 'Does ene ddim son am streics coliars yn y Beibl; ac os wyt ti yn mynd i gymharu y row ene â dim sydd yn y Beibl, mae'n bryd i ti fynd i'r Seilam pan y mynnost.
 
(1, 1) 57 Hwde di, paid di hel dy eirie mawr efo fi; dydi y gair cyfatebiaeth ddim yn y Beibl nac yn |'Fforddwr| Mr. Charles.
 
(1, 1) 59 'Bwtler!'
(1, 1) 60 Be wyt ti yn son am dy fwtler wrthai?
(1, 1) 61 Rhyw bagan fel ene, nad ydi o byth yn mynd i le o addoliad, ond i'r Eglwys, ac na ŵyr o ddim ond am gario gwin i'w feistar.
 
(1, 1) 63 Wel, sut bynnag, yr wyt ti wedi ei gwneyd hi heddyw.
(1, 1) 64 Welest ti mo John Powell?
(1, 1) 65 Be oedd o yn feddwl o'r helynt?
 
(1, 1) 67 Wel, mae arna i ofn y canlyniadau.
 
(1, 1) 70 Mi ges brofedigaeth fawr hefo dy dad, ond yr oedd yn dda gen i 'i weld o'n ffoi o'r ardal, er mai 'y ngwr i oedd o; ond wn i ddim be wnawn i daset ti yn gorfod ffoi rhag dwad i helynt.
 
(1, 2) 110 Be wyt ti'n ddeyd ddeydodd Abel Hughes wrthat ti neithiwr, Rhys?
 
(1, 2) 112 Mae'n dda gen i fod Abel Hughes yn dal i gredu mai ar gam yr anfonwyd Bob i'r jail.
 
(1, 2) 114 Yr ydw i yn synnu fod Mr. Brown, y Person, yn gallu pregethu am gyfiawnder a thrugaredd, ac ynta'i hun wedi bod ar y fainc yn cytuno efo gwr y Plas i weinyddu anghyfiawnder.
 
(1, 2) 119 Mae hynny yr un peth yn union, Marged Pitars, a bydae chi'n deyd fod James Pwlffordd yn deiliwr da, ond na feder o ddim pwytho.
(1, 2) 120 Mi fydda i yn diolch llawer mai efo crefydd yr ydw i, ac nid yn Eglwys Loegr.
 
(1, 2) 124 Wel, William, rhaid i ti gael cellwair efo popeth.
(1, 2) 125 Mi wnei di lawer o dda neu ddrwg yn y byd yma.
(1, 2) 126 Gobeithio'r 'ranwyl y cei di dipyn o ras.
 
(1, 2) 129 Paid a siarad yn ysgafn, William.
(1, 2) 130 Fedri di byth gael gormod o ras.
 
(1, 2) 132 Pwy ydi dy gaffer di, dywed?
 
(1, 2) 134 Wil, yr ydw i yn dy siarsio i beidio galw dy dad yn "gaffer" ac yn "hen law."
(1, 2) 135 Weles i 'rioed ddaioni o blant fydde'n galw eu tad a'u mam yn "hwn acw,' ac yn "hon acw," neu y "gaffer," "y gyfnor," ac enwau cyffelyb.
(1, 2) 136 Paid di a gadael i mi dy glywed di yn galw dy dad ar yr enwau gwirion ene eto, cofia di.
 
(1, 2) 144 Naddo; ond mae eisio i ti ladd "yr hen ddyn."
 
(1, 2) 150 Nage, William, nid dy dad yr ydw i'n feddwl, ond yr "Hen Ddyn" sydd yn dy galon di."
 
(1, 2) 152 Oes, William bach, ac mi wyddost o'r gore mai yr "Hen Ddyn," —ydwpechod,—ydw i'n feddwl.
 
(1, 2) 156 Ydi, machgen i, ac mae o'n dwad allan yn dy ben di hefo'r "Q.P." gwirion yna.
(1, 2) 157 Yr ydw i'n synnu fod dy dad yn gadael i ti droi dy wallt oddiar dy dalcen fel ene, a synnwn i ddim nad wyt ti'n mynd i edrach arnat dy hunan yn y glass bob dydd i borthi dy falchder.
(1, 2) 158 Diolch na fu yr un looking glass 'rioed yn ein teulu ni nes i Bob ddod ag un yma; a mi fase'n dda gan y nghalon í bydase hwnnw 'rioed wedi dwad dros y rhiniog.
(1, 2) 159 Mi fydde mam yn deyd fod pobl, wrth edrach i'r glass, yn gweld y gwr drwg, ac mi greda i hynny yn hawdd.
(1, 2) 160 Wn i ddim be' ddaw o'r bobl ifinc yma sydd yn gwneyd cymaint o shapri o'u gwalltie a'u dillad. {Y cloc yn taro un-arddeg; yn edrych at y cloc.}
(1, 2) 161 Mae hi yn un-ar-ddeg o'r gloch, a rhaid i mi dendio, ne mi ddaw Bob adre' cyn y bydd genna i damad yn barod iddo fo.
(1, 2) 162 Mae yn rhaid iddo gael rhyw amheuthyn.
(1, 2) 163 Be' na i iddo fo, Rhys?
 
(1, 2) 165 Ie, dyna hi; wneiff honno ddim pwyso arno fo.
(1, 2) 166 Mae nhw yn deyd os caiff rhwfun fydd newydd ddwad o'r jail fwyd rhy drwm, yr aiff o'n sâl.
(1, 2) 167 Yr ydw i'n meddwl na cheiff o ddim byd gwell na phaned o de a chacen.
(1, 2) 168 Os rhedi di i Siop {gellir enwi siop rhywun yn yr ardal lle y perfformir "Rhys Lewis"} i nol gwerth tair ceiniog o'r peilliad gore, dimeiwerth o gapten soda, a chwarter o gyrans, fydda i dro yn 'i gneyd hi.
 
(1, 2) 170 Wyt ti'n meddwl, William, y bydd Bob yn edrach yn go dda?
 
(1, 2) 172 Be' ydi hwnnw, William?
 
(1, 2) 175 Well i chi'ch dau fynd i'r relwe 'rwan i gyfarfod Bob.
 
(1, 2) 179 Wedi i mi ddeall fod pawb yn credu fod Bob yn ddi-euog, yr wyf yn berffaith dawel.
 
(1, 2) 181 O, mae'n debyg fod Bob yn gorfod siarad gydag amryw ar ei ffordd o'r relwe, ond dyma nhw'n dwad——
 
(1, 2) 185 Mi wyddwn na ddoi o ddim.
(1, 2) 186 'Roedd rhwbath yn deyd wrtha i.
(1, 2) 187 Mi wn fod rhwbeth wedi hapio iddo fo.
 
(1, 2) 191 Wel, do's mo'r help; fel hyn mae pethe i fod, a rhaid i ni ymostwng.
 
(1, 2) 193 Marged Pitars, peidiwch a son am y'ch Mr. Brown wrtha i.
(1, 2) 194 Dydw i yn gwybod am yr un dyn feder roi briw a'i wella fo, feder daflu i lawr a chodi i fyny,—cic a chusan ydw i'n galw peth fel ene.
(1, 2) 195 Fase Bob 'rioed wedi ei anfon i'r jail tase Mr. Brown wedi gwneyd ei ddyledswydd."
 
(1, 2) 198 Mi welaf mai newydd drwg sy gennoch chi eto, ond dydi o ddim ond y peth oeddwn i yn ei ddisgwyl.
(1, 2) 199 Mae rhwbeth wedi hapio iddo fo, ne mi fase adref cyn hyn.
 
(1, 2) 202 Do's gennat ti ddim sail i obeithio am hynny, William.
(1, 2) 203 Y mae hi yr un fath arna i ag oedd hi ar Job.
 
(1, 2) 205 Oedd, William.
(1, 2) 206 A daswn inne cystal a Job, mi ddeuthai yn ol reit arna inne hefyd, wel di.
 
(1, 2) 208 Paid a rhyfygu a chablu, William.
 
(1, 2) 211 Yr ydw i yn begio arnat ti i dewi.
(1, 2) 212 Mi ddylet wybod nad ydw i ddim mewn tymer heno i wrando ar dy lol di.
 
(1, 2) 215 William, oedd ene lawer o'r coliars yn y relwe?
 
(1, 2) 217 Dene ti eto; 'does dim ond tri chant yn gweithio yn y Caeau Cochion.
 
(1, 2) 220 Ddaru un o honoch chi ddim digwydd siarad efo John Powell?
(1, 2) 221 Beth oedd o yn 'i feddwl am fod Bob heb ddwad?
 
(1, 2) 223 Ddim yno!
(1, 2) 224 John Powell ddim yno!
 
(1, 2) 226 Pwy oedd yn deyd hynny wrthat ti, William?
 
(1, 2) 228 William, fyddet ti fawr o dro yn rhedeg can belled a thy John Powell, a deyd wrtho, os ydi o i mewn, y baswn i'n leicio 'i weld o.
 
(1, 2) 230 Mae hi yn dywyll iawn, William, ac mae o braidd yn ormod i mi ofyn i ti ddwad yn ol.
(1, 2) 231 Mi ddaw Rhys efo ti i gael gwybod rhywbeth gan John Powell, ac er mwyn i tithe gael mynd adre.
 
(1, 2) 234 Mae ene rwbeth yn garedig iawn ac yn glen yn y bachgen ene, a fedra i yn y myw beidio'i hoffi o; ond mi hoffwn o yn fwy pydae o dipyn yn fwy difrifol ac yn siarad llai o Saesneg.
(1, 2) 235 Mi fydda i'n ofni llawer iddo fo dy neyd di, Rhys, yr un fath a fo'i hun; ac eto, dydw i ddim yn meddwl fod dichell yn 'i galon o.
 
(1, 2) 239 Be' ddeydodd John Powell, William?
 
(1, 2) 243 William, mae'n amser i ti fynd adre, machgen i.
 
(1, 2) 247 James, yr ydw i wedi deyd wrtho chi laweroedd o weithiau nad oedd gen i byth eisie gweld y'ch gwyneb chi, ac nad ydach chi ddim i ddwad i'r ty yma.
 
(1, 2) 249 Ie.
 
(1, 2) 254 William, taw y munud yma, gore i ti.
 
(1, 2) 257 Cerwch i ffwrdd, James, fel 'rydw i yn gofyn i chi.
 
(1, 2) 259 O, meder, ond gore po leiaf weliff o arnoch chi.
(1, 2) 260 Well i chi fynd, mae rhywun arall yn siwr o ddwad——
 
(2, 1) 294 Am wn i, hwyrach i fod o, Tomos.
 
(2, 1) 298 Mae nhw yn edrach yn farus iawn, Tomos.
 
(2, 1) 320 Mae'ch ffowls chi yn edrach yn dda, beth bynnag.
 
(2, 1) 324 Mae'r ham yma yn dda iawn, Tomos.
 
(2, 1) 328 Na wn i.
 
(2, 1) 333 Bobol bach! mae hi yn amser y capel!